Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
YR AMSERAU."
YR AMSERAU." RHIF I. DA chwi, gadewch i ni gael tipyn o lenyddiaeth iach, bur, i dynu ymaith fl,s y lecsiwn ddiffaetb, ac yn mha le y ceir iachach a phurach llenydd- iaeth nag yn llenyddiaeth gyfnodol Cymru yn ystod y pedwar degau. Cyfnod adfywiad nod- edig arm ydoedd rhwng 1840 a 1850. Dyna pryd y cychwynwyd Yr Amserau, Y Traethod- ydd, a'r Archceologia Ca,mbi-ensis-tri chyhoedd- iad a fuont o fawr wasanaeth i'r genedl ac yn foddion neillduol i ddyrchafu ei chwaeth ac eangu ei gwybodaeth a'r blynyddau a nodwyd oedd cyfnod eu nerth a'u defuyddioldeb. Golygid y blaenaf gan Gwilym Hiraethog, yn cael ei gynor- thwyo gan ei gyfaill medrus yr Argraphydd John Jones, 21, Castle Street yr ail gan y Parchn Roger a Lewis Edwards a'r trydydd gan y Parch Basil Jones, Esgob Tyddewi, gyda cbymhorth Mri Longtieville Jones ac Edward Barnwell. Rhywdro eto cawn hamdden i son ychydig am y ddan gyboeddiad olaf, a'u golygwyr a'u gohebwyr trylen. Y tro hwn gair am y blaenaf. Daeth y rhifyn cyntaf o'r gyfrol gyntaf o'r Amserau, yr hon sydd yn awr o'm blaen, allan "Ddydd Mercher, Awst 23, 1843." Yr oedd ei bris yn Dair Oeiniog, a'i faint yn ycbydig drus haner maint y Cymro. Bob pythefuos y cyhoeddid ef y flwyddyn gyntaf o'i fodolaeth, os nid yn mhellach ac yr oedd stamp ceiniog y Llywodrxeth ar bob copi,a th, eth drom i'w thalu ar bob Hysbysiad. Y mae wedi ei argraphu yn llawer gwell na'r un papyr newydd Cymraeg a gyhoeddir y dyddiau hyn. CYFAJBCHIAD Y GOL. YN nghyntaf petb, ceir "Anercbiad y Golyg- ydd." Y mae rbwng gobaith ac of a yn anturio rhedeg yr yrfa y cwympodd amryw ynddi o'i flaen penderfyna gymeryd gymaint o ofal ag a allo ar fod ei wefusaii yn adrodd gwybodaeth bur, a bod cyfraith gwirionedd, cyfiawnder a heddwch yn wastad ar ei dafod. Y mae'n llaw- drwm iawn ar ei gyfenw mewn iaith arall, sef y Times. Feddyliwn mai yr un un oedd o y pryd hwnw ag ydyw'n bresenol. Dyna'r desgrifiad a rydd Dr Reeso Dimes 1843 Cablu a dirmygu yr egwyddorion o ryddid a chyfiawnder y buasai unwaith yn en proffesu a'u hamddiffyn, a gwertbu ei huuan i bob isel fudr wasanaeth, hyd nes aeth ei ddryg-nodwedd yn ddiarebol trwy boll Ewrop fel un nad yw yn parchu nac yn caru y gwir mwy na'r celwydd, na'r celwydd mwy na'r gwir." Nid yw Brougham ychwaith ond Ilathen o'r un brethyn a'r Times ac er na nodir pechod yr Ysgotyn amleiriog hwnw, dywed y Gol. hyawdl tod y ddau yn yr un ffos, yn wrth- rychau truenus, beb gan nebymddiriedynddynt. Gobeithia. Yr Aniscratt Cymreig hethau gwell am dano ei bun." Er hyn oil, dal i "balu o hy a dal i fyw rywsut drwy'r holl stormyud fu arno y niHfi'r Times, er y dywedir yn mhellach yn y Rhagymadrodd hwn, "Gellir cymhwyso ymadroddion y prophwyd, Y genedl a'r deyrnas ni'th wasanaetho di a lwyr ddifethir' at bob newyddiadur a chylch-gyhoeddiad yn ogystal &g at wlad a chenedl." r_ Sylwadau cymhwys iawn sydd yn y paragraph nesa i'r -lpf, lie y traethir ar bwys'grwydd y fyddin yr oedd efe fel golygydd ar ymuno a hi. Ebai Y mae i'w wir alarn fod y dosbarth hwn yn cael mawr gam drwy agos ei lwllol esgeuluso tra mae gweinidogion y gair yn cae lie yn ngweddiau dirgelaidd, teuluol a chym- deithasol y sanct, ni chlywir byth, yn mron, na gwaedd na gweddi yn cael ei dyrchafu dros olygwyr y wasg gyhoeddus. Ni ddylai y pethau hyn fod felly. Sicr yw na fydd i'r byd byth gael ei buro a'i ddiwygio nes puro a diwygio y was yn gyntaf." Geiriau gwirionedd a sobr wydd, mae'n ddiau ae mae eisian pnro a diwygio pob crefft cystal a hithan. Adar Bi-otifraith oedd "scribes" neu scriblwyr y 40au fel y 90.11.1, a llawer cymeriad rhyfedd a fu yn eu mysg o dro i dro—dyhirod digrif o ys^'olfeistriaid wedi eu llygad-dynu, fFermwyr wedi ffaela, a pregeth- wyr wedi eu witsio ac ni welais i erioed brintar na fyddai yn ystyried ei hun yn gwbl addas i olygu y papyr y byddo'n gweithio arno, ac os ca'r siawns yn barod i neidio i'r swydd. Fel y dywed y Rbagymadrodd, os gellir spario ambell weddi, yn awr ac eilwaitb, mae digon o'i -heisiau ar y dosbarth mawr a phwysig [yn enwedig yn ei dyb ei hnn] bwn ac annhraethol bwysicach na'r "holl Frenhinol Deulu" y coffeir eu cyflwr mor ddefosiynol yn y Llan o Sul i Sul. TEùLU REBECCA. WEDI gorphen y Rhagymadrodd, penawd yr erthygl gyntaf ydyw lieheudir Cymru." Yr oedd boll siarad y Deheudir y pryd hwnw am wrhydri ac ystranciau Teulu Becca,' cyngbrair oedd wedi ei ffurfio yn benaf i symud y tollbyrth neu'r Turnpike Gates aneirif oedd yn britho pob ffordd, yn y Debeudir yn arbenig, ac yn orth- rwm trwm ar amaethwyr ac eraill. Maes penaf gweithrediadau Teulu Becca ydoedd sir Gaer- fyrddin, er nad oeddynt yn fanwl yn nghylch terfynau os byddai gorthrwm gerllaw. Cyswynair yr urdd gyfrin ydoedd yr adnod hono, Genesis xxiv. 60 Ac a fendithiasant Rebeccab, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn ac etifedded dy had byrth ei gaseion." Yn ngwisgoedd menywod a'u gwynebau wedi eu duo neu eu mygydu, teithient i'w negesau nosawl ar geffylau cyflym yn finteioedd bychain. Deuent at glwyd, neu lidiart, codent y ceidwad o'i wely, barient ef a'i deulu allan, yna rhoent y ty ar dan, a gwnaent y gate yn chwilfriw, y ewbl mewn ychydig funydau a ffwrdd a hwy at y glwyd nesaf. Mewn ychydig fisoedd yr oeddynt wedi clirio ffyrdd yrr holl wlad o'r beicbiau annghyfiawn hyn. Llawed. cais wnaed gan yr awdurdodau i'w dal, on. gydag ychydig eithriadau yn aflwyddianus Cafwyd allan wedi hyny mai meibion ffermwyr oeddynt gan mwyaf. Dyma yehydig engreifftiau o'u campau wedi eu cymeryd o'r ysgrif tan sylw Sadwrn, y 5ed, ymosododd yr hen fam a'i 1 merched ar dollborth Porth-y-rhyd, yr hwn a ddystrywiodd yn nghyda'r toll-dy. Cyrhaeddodd Becca yno yn mhen ychydig wedi haner nos, a daeth y merched yno bron ar unwaitb, yn bum dosparth gwahanol. Yr oedd y llidiart yn gref, a'r pyst yn 27 modfedd o dryfesur, ac yn dderw Cymreig. Yr oedd ceisbyliaid (special constables) yn gwylio y lie, y rhai, yn mhresenoldeb Syr John Heidden, a fostient lawer ar eu dewrder, a hysbys- asant eu penderfyniad i ddal yn erbyn Becca hyd yr eithaf. Ond yn ddioed ar ymddangosiad ei niawrhydi, ymaith a Junto'r gwehydd, Jacob Thomas, a dau eraill, a thybiodd Die Morganwg, y tollwr, mai y peth callaf iddo yntau oedd gwneud y defnydd goreu o'i sodlau. Erbyn un o'r gloch y boreu, yr oedd y llidiart, y bar, a'r tolldy wedi eu dinystrio. Yna ymosodasant ar efail gof, yr hwn oedd wedi brolio y gwynebai ef bymtheg o deulu Beeca ymaith yr aeth vulcan ar eu dynes- iad, ond ni chafodd ond prin hamdden i gychwyn nes oedd ei ddrws a'i ffenestri wedi eu tori, a hacner ddystrywiwyd ei efail hefyd." Wedi cyflawni ei gweinidogaeth, darfu am Deulu 'Brtcca ni ail godwyd y clwydi a ddi- nystriodd hi byth mwyacb ac er iddi gyflawni rhai creulonderau, gwnaeth hefyd lawer byd o ddaioni. "RtPALE OF THE UNION." TRA mai Teulu 'Becca oedd yn cynhyrfu Dehen- dir Cymru, diddymiad yr Undeb oedd yn poeni Iwerddon y pryd hwnw fel y mae i raddau mwy neu lai o hyny hyd y dydd bwn ac adroddiad o'r symndiad ydyw'r trydydd mater a ddygir gerbron yn y tudal. cyntaf, Mr Daniel O'Coii- nell ydyw prif arweiaydd y symudiad; ac y mae un nodwedd ryfedd yn perthyn i'r sefydl- iad, yr hyn a'i hynoda ar bob ysgogiad gwlad- wriaethol arall; sef ei heddychlonrwydd a'i reoleidd-dra. Ei egwyddor wreiddiol ydyw ymgadw o fewn terfynau y gyfraith—pender- fyniad ymroddgar i gyrhaedd yr amcan trwy foddion heddychol a chyfreithlawn, hebryfel na thywallt gwaed. Yr hyn a olygid wrth ''Di- ddymu yr Uudeb" ydoedd dwyn yr Iwerdclon yn ol i'r eyflwr yr oedd ynddo cyn dechreu y ganrif pan oedd ganddi ddau Dy'r Senedd, y rhai a lunient ei holl gyfreithiau, yn cael eu cadnrnhau gan set frenhinol Lloegr. Gwneir ymchwiliad athronyddol i achosion y cynliwrf. I hyn," ebe'r ysgrifenydd, "fel y mae'n dra gofidus, rbaid ateb mai camlywodr- aeth, annghyfiawnder a gormes yw yr achosion obono." Un o'r annghyfiawnderau hyn ydoedd cynrychiol \eth ddiffygiol yr Iwerddon yn y Ty Cyffredin. Tra yr oedd gan Loegr a Chyinru, gyda pboblogaeth o 15 miliwn, 500 o gynrych- iolwyr, sef un dros bob 30,000, nid oedd gan Iwerddon, gyda phoblogaeth o dros wyth mil- iwn, ond 105, nen un dros 77,800. Haner can mlynedd yn ol, Iwerddon oedd yn grwgnach fod gan Loegr ormod o aelodau seneddol heddyw, Lloegr sy'n cwyno fod gan Iwerddon ormod, ac yn son am gymeryd rhai oddiarni ond yn y cyfamser, bu newyn y pytatws, a phob math "o adfydau o'r nef a'r ddaear yn teneuo'r boblog- aeth, ac nid yw pobl y wlad hono yn rhifo ond tua haner ei phoblogaeth gynt. Yna a'r ysgrifenydd llithrig yn mlaen i sylwi ar annghyfiawnder mawr Iwerddon, ac medd- ai :—"Ond archoichrwm Iwerddon yw ei Heglwys Sefydledig. Trethu a degymu naw rhan o ddeg o boblogaeth y wlad at gynal eglwys a dysgawdwyr yr un ran arall yn unig, sydd yn wrthuni gwaradwyddus i lywodraeth gwlad oleuedig." Cwbl wir. Ond y mae Mr Gladstone wedi symud y baich oedd yn llethu Iwerddon i'r llawr ac wedi gadael baich eyffelyb ar gefn ei gyniydO4ion y Cymry ar hyd y blynyddau. Fe- ailai y daw ei hamser hitbau yn nghynt nag y disgwylia hwyrach yn awr. Buasai yn dda genyf ddilyn yr Amserau yn mhellach. Mae yn y gyfrol lawer o fanion dy- ddorol tuhwnt, a cheir cyfleusdra, hwyrach yn fuan i son yn helaethach am danynt.
— o Y Personiaid a'u Segwm
— o Y Personiaid a'u Segwm Y N Llys Sirol Rliutbyn, ddydd Mercher, gerbron y Barnwr Syr Horatio Lloyd, cwynai y Parch. Evan Evans, ficer Llanarmon yn-Ial, nad oedd dyfarniad y llys parth degymau wedi ei roi mewn gweitbrediad, gan fod y fFermwyr yn gwrtbod talu.—Y Barnwr Ofnaf nad ydynt yn hoffi dod i'ch ardal.-Y Person Nid wyf yn meddwl eu bod wedi ceisio dod.—Y Barnwr Nis gallwn ganiatau hyn. Rhaid i archeb y Ilys gael ei bufuddbau.-Y Person Ofnaf fod es- geulusdra mawr ar ran y derbynydd.—Mr. T. P. Roberts, y derbynydd, a ddywedodd mai 10s He yn unig oedd yn ddyledus i Mr. Evans.—Y Barnwr Nid wyf yn bidio pe bae ond -tic.- Mr. Roberts: Wrth gwrs, pan geir nifer o achosion fe awn yno. Ar yr un pryd gall aros am ychydig wythnosau.—Y Barnwr Os oes unrhyw reswm am yr oediad, ysgrifenwch ef i lawr.—Gwnaeth y Parcb. Morgan Hughes, person Derwen, gwyn gyffelyb, a dywedodd y Barnwr y byddai iddo edrych beth ellid wneud erbyn y llys nesaf.
" Cwreichion
Cwreichion IT HEN sir ffyddion i Ryddfrydiaeth ydyw sir Fflint, a dyna hi eto wedi bod yn ffyddion yn nychweliad Smith gyda 72 mwy o fwyafrif nag a gafodd Arglwydd Mostyn yn 1852 ar Peel, Bryny- pys, ei wrthymgeisydd. Ar yr achlysur hwnw anadlodd Taliesin o Eifion yr englyn pert :— Meistr ai Peel yw Mostyn,-pa Sais, Pwy sydd ddaw i'w erbyn ? Daw'r Famma fawr i'r llawr yn llyn Wedi i Fflint wadu'i phlentyn. If Y mae yn goron yn nghap sir Fflint na fu yr un Tori yn ei chynrychioli ond am ychydig a.mser. Pan y byddai y Toriaid ynbuddugoliaethu bob am- ser yn sir Ddinbych, byddai sir Fflint yn dychwel- yd Rhyddfrydwyr. Ar rhyw lab siawns, modd bynag, yn 1836, fe enillodd Glynne y sedd am dymhor byr ond meddianodd Mostyn hi yn ol, ac fe'i eadwodd hyd 1861; ac o hyny yn mlaen hyd yn awr y mae y sedd yn meddiant y bobl sy'n deilwng o enw y sir. IT Yr oedd pob math o driciau yn cael eu chwar- eu er s talm i dynu arian oddiar yr ymgeiswyr seneddol. Pan oedd Syr Watcyn, Bagot, a Bid- dulph ar y maes yn 1847, yr oedd yn Llanrhaiadr dodger o'r enw Tomos y Llwyn, yr hwn oedd gan- ddo lygad cheni, a phan ddaeth Syr Watcyn i'r pentref aeth Tomos ato, wedi rhoi ei lygad yn ei boced, gan ddweyd, Drychwch be mae'r diawled wedi wneud hefo mi, Syr Watcyn, wrth i mi ym- ladd drosoch chi I' gan ddangos y twll yn ei wyneb 'O! 'r cowards,'ebe Syr Watcyn, ac a roddodd? swp o aur yn ei gilddwrn. Wedi troi ei gefn, slip- iodd Tomos y llygad yn ei ol i'w soced, a sociodd ei hunan yn hufen y cwrw am wythnosau lawer ar bwys cydymdeimlad Barwnig y Wynnstay. IT Y mae'r tugel wedi gwneud i ffwrdd a'r holl fwystfileiddiwch oedd yn nglyn ag etholiad-y ffraeo, y paffio, a'r tywallt gwaed. I'r hen bobl, gogoniant lecsiwn oedd hyny. Yr oedd Evan Owen yn Wig mor boeth yn mrwydr 1847 fel y gwaeddodd yn ngwyneb Argl. Bagot:- I lywio gwlad Biddulph o lot, Bwgan o ddyn yw Bagot! IT Sylwa Dafydd Bryn'rodyn fod y Cymry wedi prysuro i'r Eisteddfod yn Llanelli i gladdu'r cledd- yfau ar ol y leesiwn ac i ddawnsio cynghanedd ar eu bedd.' Pwy mor gymhwys a'r Archdderwydd llariaidd i ddarllen y gwasanaeth claddu *? IT Fe fuasai yn dda gen i pe buaswn i yn byw yn nyddiau Adda ac Efa,' ebe hen deiliwr lludd- edig oedd wedi bod yn chwipio'r gath mewn teulu ymffrostgar a baldorddus, pryd y gofynodd y wraig synedig, I be ydech chi'n deyd hyny, William Williams ?' Oherwydd faswn i ddim yn cael fy mhoeni'n dragywydd wrth glywed pobl yn bostio o'u hynafiaid,' atebai y nodwyddwr yn hynod o grabet. If 1 Y mae y merched wedi dyfod i lanw pob swydd bron yn y dyddie yma-tybed y don nhw i lanw y pwlpud, ddyliech chi ?' ebe hen weinidog pryderus y dydd o'r blaen, pryd ei hatebwyd yn gellweirus gan un o'i wrandawyr, Mae'n ddigon posibl; a barnu oddiwrth lewys eu gwisgoedd fe fyddai y pwlpud mwyaf yn rhy fach iddynt.' IT Y mae un peth yn sicr am etholiadau-y mae yr elfen ddigrifol oedd yn nglyn a. hwynt wedi marw bron yn llwyr Ni chafwyd dim yn yr ym- gyrch diweddaf ddeuai i fynu a'r penill hwnw o eiddo rhyw fardd pan ddeuwyd ag Ymreolaeth i'r bwrdd gyntaf Among the men what wide divisions rise- For Union this, No Union that one cries; Shame on the sex that such disputes began- Women are all for union—to a man 11 Y mae yn deilwng o sylw, yn ol y map ieith- yddol gyhoeddodd Mr Southall, lie mae y Gym- raeg yn cael ei siarad gan 85 y cant o'r trigolion, ac yn cael ei ddynodi gan liw gwyrdd, nad oes yr un Tori wedi ei ddychwelyd Yn y siroedd lie mae'r iaith Seisnig yn fwyaf arferedig y collwyd seddau. Mae cri y genedl yn para yr un, a'r un mor ddi ysgog. If Simon, be wnaech chi pe bawn i yn marw ?' ebe ei wraig serchus tra yr oedd ei dwy fraich wen am ei wddf yn ei gusanu Yn sier,' obe Simon, ddaru mi rioed feddwl am hyny, y nghariad i ac wedi enyd o fyfyrdod, fe ychwanegodd, Mae'n debyg y byddai raid i mi'ch claddu chi, Jane.' Fe drodd Jane ar wella ar unwaith. CYFARWYDD.
--:0:--Esgob Llanelwy a'r…
-0: Esgob Llanelwy a'r Etholiadau. DDYDD Mercher, cynaliwyd cyfarfod blynyddol Cymdeithasau Esgobaeth Llanelwy yn y ddinas hono. Llywyddwyd gan yr Esgob, ac yn ei an- erchiad agoriadol eyfeiriodd gyda boddhad at gan- lyniad yr etheliadau fel gwaith Oymdeithas Am- ddiffyn yr Eglwys. Gosododd y clerigwyr ar eu gwyhadwriaeth rhag syrthio i ddifaterwch. Ar fater nawddogaeth eglwysig, credai y dylai barn y lleygwyr gael ei wrando a'i deimlo, ac er ffurfio hyn y dylid cael bwrdd i ystyried y cyfryw faterion, neu roddi i bob plwyf y gallu o ddewisiad lleol gyda hyn. Yr oedd yr Eglwys wedi myned drwy'r ar- gyfwng pwysicaf yn ei hanes, ac nis gallai lai nag edrych ar ganlyniad yr etholiadau fel gwaith Rhag- luniaeth. Argymhellai fod hawliau ysgolion gwir- foddol yn cael sylw. Darllenwyd adroddiadau y gwahanol ganghenau, pasiwyd amryw benderfyn- iadau, a nodwyd swm y cyfroddion i'r amrywiol eglwysi yn yr esgobaeth.
Advertising
Gymry. cefnogwch Gydwladwyr, Bwytewch "FOOTBALL OATS." Yr ansawdd goreu ar wyneb y ddaiar. O dyfiant Prydeinig. Na chymerwch eich perswadio i brynu ansawdd gwael, diflas fel yr Americanaidd.
..,----Cohebiaeth.
Cohebiaeth. CANIADAETH VERSUS DEFODAETH. SYR,—Yn nghanol y cyffrogwleidyddol.cymdeith- asol, a chenedlaethol, a'r cri parhaus am ddiwyg. iadau, synir 6m fuasai mwy o sylw yn cael ei dalu i'r angen am ddiwygio a gwella caniadaeth y cysegr. Yr ydym fel cenedl yn ymffrostio yn y deffroad, ac mewn rhai cyfeiriadau yn gwneud cynydd amlwg a sylweddol, ond hyn sy'n rhyfedd ein bod yn boddloni i adael un o'n nodweddion mwyaf cenedlaethol, sef ein caniadaeth, bron yn gwbl ddi- sylw. Gwir fod ychydig gyfnewidiad er gwell wedi cymeryd lie yn ddiweddar parth cael offeryn- au i'n haddoldai, ond nid i'r graddau ellid ddis- gwyl, ond er cael offerynau parheir i ganu yr un tonau ar hyd y blynyddau nes y mae y gwasanaeth crefyddol wedi myned yn unffurf a defodol. Ni chlywir anthem na salmdon na chorgan (chant) byth bron yn ein capeli. Rhaid priodoli hyn i ragfarn y 'Piwritaniaid yn erbyn mabwysiadu dim o nod- weddion y Pabyddion-rhagfarn a ddaeth wed'yn yn etifeddiaeth i'r hen ddiwygwyr Cymreig, ac y mae ysbryd ein cynulleidfaoedd hyd heddyw wedi ei drwytho a'r culni hRn. Onibai am dalent reddfol ein cenedl, ofnaf y buasai cerddoriaeth wedi ei all- tudio o'n gwlad er's llawer dydd. Yn awr, oni ellir gwneud rhywbeth i wella hyn ? Oni wna ein harweinwyr cerddorol ymdrechu gwneud y gwasan- aeth crefyddol yn fwy at-dyniadol, yn fwy ysbryd- ol, ie ac yn fwy dwyfol? Nid oes mo Id gwneud hyn yn fwy effeith ol nag wrth gael amrywiaeth yn ein ffurf-wasanaeth ar y Sul, ac y mae canu yn an. hebgorol angeurheirliol i gyrhaedd yr amcan hwn. Mewn gobaith y gwelir diwygiad buan, gorphwysaf -Yr eiddoch, CLOCR- o Yn Mountain Ash, ddydd Mercher, gwrthododd methdalwr o'r enw Morgan Charles roddi ei dyst- iolaeth gerbron y llya, a danfonodd y Barnwr Gwilym Williams ef i garchar am waradwyddo y llys.
Advertising
CWMNI YSWIRiOL Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSORFA DROS £ 20,000.000. AGENTS addas ychwanegol yn eisiau —Ymofyne A J. W. JONES, Prudential Office. Caernarfon. CYPRES Y CEINIOJf—Pris Is. yr un LLYFRAU CYHOEDDEDIG gan I. FOULKES, Brunswick Street, Liverpool I.-Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, gan y Parch W. REES, D.D. 2.-Llythurau yr Hen Ffarmwr, gan y Parch W. REES, D.D. 3.—Cyfrinach yr Aelwyd, gan y Parch W. REES, D.D. Y TB-I LLYFR UCHOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 4s. 4-Gardd Eifion: sef, Barddoniaeth ROBERT ttB GWILYM DDU.O EIFION. 5-Goronwy Owen. Holl Waith Barddonol y Prif-fardd enwog, Hanes ei Fywyd, a Facsimile o'i Lawysgrifen o Lyfr y Plwyf yn Eglwys Walton, 6.—Gwa.th Beirdd Mon: sef LEWIS MORYS. Y BARDD CiOCH Hugh Hughes), a ROBIN DDU o FON. 7-john Blackwell (Alun. Ei holl Wait Barddonol. 8.—Yr Hen Bererinion: sef, Hanes Bywyd RICHARD JONES, Llwyngwril; RHYS DAFIS (Y GLUN BREN ac EDMUND JONES o Bontypwl. io.-Diliau Barddas: sef, Cyfansoddiadau barddonol BARDD NANTGLYN (Robert Davies). 9 a ii.-Pigion Englynion Fy Ngwlad, yn cynwys 2,000 o Englynion goreu'r Iaiih. Wedi eu casglu o waith Beirdd Hen a Diweddar, gan EIFIONYDD. Y Gyfres laf a'r 2il. 12.—Rheinallt ab Gruffydd. Rhamant Hanes- yddol. 13.—Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Yn nghyda darlun o'r Lasynys, hen gartref yr Awdwr, a darluniau eraill. Gan ELlS WYN o LASYNYS. 14.—"Christmasia," gan DAVID OWEN (Brut us). "Bywgraffiad campus o'r enwog CHRISTMAS EVANS, an ysgrifenydd doniol a'i hadwaenai yc dda.' 15.—J. Ceiriog Hughes: Ei Fywyd ei Athry ith, a'i Waith. (Gyda Darlun cywir ohono, ae o Beny1->y, Dyffryn Ceiriog, lie ganwyd ef). Gan y x FRB*RYF. 16.—Yr Oriau Olaf: gan JOHN CEIRIOG HUGHES, sef Caneuon, Rhiangerddi, &c., na chy. hoeddwyd aT Kaen, ac wedi eu cymeryd o law- ysgrifau y Bardd- Y DDAU LYFR UCHOD. wedi eu rhwymo ynnghyd mewn Llian. Pris 2s 6cli. BARN MR. T. E. ELLIS, A.S. Y llyfr tra nodedig hwnw, LLYFR Y TRI ADERYN,' llyfr a ddarllenais ac a ail ddarllenais i, a chynghorwn bob Cymro i'w ddarllen.Araith Ion. 23ain, 1894. 17.—Llyfr y Tri Aderyn. Dirgelwch i rai i'w ddirnad ac i eraill i'w watwar. Can MORGAN LLWYD 0 WYNRDD. Un o'r llyfrau hynotaf yn yr iaith Gymraeg Gyda NODIADAU AR FYWYD YR AWDWR, gan y Parch OWEN JONES, B.A., Lerpwl. Argraphiad Newydd. 18.—Llythyrau Goronwy Owen. Wedi eu manwl gydmaru a chopïau mewn ysgrif, yn nghyda rhai llythyrau nad oeddynt mewn casgliadau blaen. orol, ac ychydig eraill wedi eu cymeryd o ysgrif vfrau. TREBOR MAI, Prif Englyniwr Cymru—Ei Waith Barddonol; yn cynwys ei Englynion, Caneuon Cywyddau, &c., hefyd Darlun cywir ohono,a'i Fyw. graphiad. Pris, 5" DAFYDD AB GWILYM,—Ei Waith Barddonol, yn cynwys rhai cywyddau na chyhoeddwyd o'r blaen, cyfieithiadau i'r Saesonaeg o rai o'r darnau goreu a bywgraphiad o'r Bardd yn Nghymrag ac yn Saesneg, Tan olygiad CYNDDELW. Pris, 10/6. YMABINGGION CYMREIG, sef Chwedlau Y Rhamantus yr Hen Gymry (fel yr ysgrifenwyd hwynt—yn yr Hen Gymraeg, ac mewn Cymraeg di. weddar). Wedi ei rwymo mewn Ilian hardd, 17s. ANEW (fac-simile) Edition of the Renowned Work IOLO MANUSCRIPTS, being a selection of Ancient Welsh Manuscripts, in prose and Verse, from the collection made by EDWARD WILLIAMS (lolo Morganwg) and intended by him as materials for a New History of Wales. With ENGLISH TRANSLA- TlONSand Notes by his son, TALIESIN WILLIAMS Ab lolo, o Merthyr Tydfil Price,2ls