Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

25 erthygl ar y dudalen hon

Seneddol

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Seneddol DYDD IAU. HEDDYW y dechreuodd y Seneddwyr ar waith gwirioneddol y tymhor. Cyfarfyddwyd yn Nhy'r Arglwyddi i wrando Araith y Frenhines, yr hon a ddarllenwyd gan yr Arglwydd Ganghellydd. Wele grynodeb ohoni:—Wedi sylwi fod ewyllys dda yn bodoli rhwng y wlad hon a'r Galluoedd Tramor, ac nad oedd unrhyw gwestiwn wedi codi a beryglai heddwch Kwrop, cyfeiriwyd at y rhyfel rhwng Japan a China, gan ddatgan gobaith y byddai heddwch parhaol yn bodoli rhwng y ddwy wlad yn awr wedi i'r rhyfel derfynu Gofidiai am y creu- londeb at genadon veisnig yn China, a dywedai y byddai i fesurau effeithiol gael eu cymeryd i gosbi y rhai oedd yn gyfrifol am yr erchyllderau. Hys- bysid fod llysgenadon y wlad hon, yr Almaen, ac Arlywydd Ffrainc mewn ymgynghoriad a'r Sultn, er ceisio dwyn diwygi&dau oddiamgylch i roddi terfyn ar yr erchyllderau at Cristionogion yn Ar- menia. Hysbysid y dygid mesur yn mlaen i am- ddiffyn buddinau y wlad hon a bywydau Prydein- wyr mewn gwledydd tramor, ac i weinyddu eyfiawnder mewn perthynas S'r t'r a'r fasnach feddwol yn unol a chyfundrefn y gwledydd hyny. Gosodid yr Amcan gyfrifon ger eu bron ac yn y tymhor hwn o'r flwyddyr, ceid y byddai yn fwy cyfleus i ohirio unrhyw fesurau deddfwriaethol pwysig hyd dymhor arall, gyda'r eithriad o'r cyf- ryw sy'n darparu at gostau deddfwriaethol y tiwyddyn. Cynygiwyd mabwysiadu yr Araith yn Nhy'r Arglwyddi gan Ddug Marlborough. Yn nghwrs ei sylwadau dywedodd fod gan y genedl bob ymddir- iedaeth y byddai i'r Swyddfa Dramor weinyddu'r amgylchiadau yn foddhaol yn Armenia. Da oedd ganddo fod y Llywodraeth wedi penderfynu dal eu rheolafth a'r Chitral. Ni ddylid cymeryd absen- oldeb aaigylchiadau'r NVerddon o'r Araith fel prawf o ddiffyg cydymdeimlad gweinidogion ei Mawr- hydi a'r wlad hono. Dangosodd yr etholiad cyff- redinol fod gan y wlad ymddiriedaeth hollol yn Nhy'r Arglwyddi, ac mai. ofer oedd y cri i ddi- ddymu'r Ty hwnw. Gellid dibynu ar yr Arglwyddi i gario allan bob deddfwriaeth angenrheidioi. Eiliwyd gan ArgL Ampthill. ArgL Rosebery a feirniadodd yr Araith. Sylw- odd ar y pwysigrwydd i amddiffyn y Cristionogion yn Armenia, gan ddweyd y cai'r P. if Weinidog nid yn unig gefnogaeth plaid ond yr boll genedi o'i du. Hyderai nad oedd y Llywodraeth wedi gwneud ei meddwl i f nu yn derfynol parth Chitral, gan fod y Llywodraeth ddiweddaf yn un- frydol wedi barnu yn hollol groes iddynt. Wedi cyfeirio at yr amgylchiadau ymherodrol mewn gwledydd tramor, sylwodd ar ganlyniad yr ethol- iadau gan ddweyd fod y wlad wedi bod yn rhy barod i basio dedfryd yn erbyn y Llywodraeth ddi- weddaf, ac y byddai i'r ddedfryd hono gael ei chwyldroi. Dichon y bydd i wladweiniaeth y Rhyddfrydwyr amrywio yn y dyfodol, ond ni fyddai i'r egwyddorion Rhyddfrydol byth amryw- io. Ni byddai i'r blaid Ryddfrydol geisio rhoddi credo bywyd mewn maniffesto munudyn. Am achosion gorchfygiad y Rhyddfrydwyr, nid oedd gan y fasnach feddwol fwy i wueud gyda hyn nag Ymreolaeth a Thy'r Arglwyddi. Yr oedd eto o'r farn mai'r Gwyddelod fedrent reoli eu hamgylch- iadau eu hunain oreu, ond cydnabyddai fod yn rhaid dwyn mwy o argyhoeddiad i galon a meddwl y prif bartner." Hyderai yn fawr na fyddai i'r Weinyddiaeth newydd fod ya ddifater yn nghylch amgylchiadau'r Iwerddon. Arglwydd Salisbury a sylwodd gyda golwg ar Chitral na fwriedid cynyddu y costau mil wrol yn India. Am China, credai fod Llywodraeth y wlad hono yn dymuno gwneud cyfiawnder am y camwri dychryullyd at y cenadon wnaed yno. Wrth gyf- eirio at Armenia, dywedodd fod yr erchyllderau yn g/fryw nas gallai tafod eu datgan, ac nad oedd eu bath wedi eu cyflawni erioed o'r blaen ac fod yn rhaid dwyn mesurau yn mlaen i orfodi'r Sultan i amddiffyn y Cristionogion yno Credai fod y wlad wedi rhoddi atebiad llawn i'r cri am ddiddymu Ty'r Arglwyddi, ac fod yr etholiadau wedi dangos i3- d oedd chwyldroad parhaus yn fwyd gwleidyddol priodol i'r wlad. Yn Nhy'r Cyffredin, bu achos John Daly, yr hwn sydd mewn penyd-wasanaeth ac a ddychwel- wyd yn.A.S. gan drigolion Limerick, dan sylw, a phenderfynwyd gohirio yr ymdriniaeth hyd ddydd Llun.—Hysbysodd Mr Balfour y byddai iddogynyg penderfyniad i'r perwyl nad oedd ond materion gweinyddiadol arbenig yn cael sylw'r tymhor pre- senol. Cynygiwyd rnabwysiadu Araith y Frenhiees gan Al r T. W, Legh, yr hwn a gydnabydda.i "nad oedd ond ychydig iawn ynddi. Eiliwyd gan Mr T. H. Robertson, ac atebwyd gan Syn W. Harcourt a hyderai na fyddai i'r Llyw- odraeth laesu dwylaw yn eu hymdrech i amddiffyn Cristionogion Armenia. Sylwodd ar absenoldeb cwestiwn Chitral o'r Araith, a gofynodd i'r Llyw- odraeth ddod a rhaglen eu deddfwriaetb yn mlaen. Rhaid oedd dwyn M eSllr Fir y Werddon yn mlaen y tymhor nesaf, am fod y wlad hono mewn llawn angen ac yn galvv yn barhaus am y cyfryw fesur. Mr J. Redmond a gynygiodd welliant ar yr Araith yn galw ar y Llywodraeth i ddatgan eu polisi ar Ymreolaeth a Mesur Tir y Werddon. Mr Dillon a sylwodd mai nid digon oedd i'r Llywodraeth wneud datganiad, rhaid oedd iddynt ddwyn mesur yn m'aen. Mr Balfour a sylwodd nad oedd y Llywodraeth wedi cyfnewid dim yn eu gwrthwynebiad i Ym- reolaeth. Byddai i Fesur Tir gael ei gyfiwyno yn ngwanwyn y flwyddyn nesaf, a byddai yn ddigon buau i rwystro i denantiaid ddyoddef unrhyw galedL GOLYGFA GYFFROUS. Yn ystod yr ymdriniaeth ar yr Araith, cododd Mr Harrington gan gyhuddo'r blaid Ryddfrydol o "redeg ymaith" oddiwrth Ymreolaeth, Ar hyn clywid Dr Tanner yn lie ain Mae nyny'n gel- wydd." Galwyd ef i dyuu ei eiriau yn ol ac i ym- ddiheuro gan y Llefarydd, ond gwrthododd. Tna enwyd ef fel yn euog o ymddygiad annhrefnus, ac ar gynygiad Mr Chamberlain penderfynwyd ei droi allan. Pan orchymynwyd ef i fyn'd, gwrthododd. aichyfarwyddwyd heddgeidwad y Ty i'w symud, Yna cododd Dr Tanner, a chan gerdded at y drws dywedodd yLi gynhyrfns ei fo-i yn gadael y "Ty budr" gych. llawer mwy o bleser nag yr aeth i 'mewn iddo, a elliii b vyntio at Mr Chamberlain llefai "Judas, Judas." Wedi i'r cyffro dawelu, gohiriwyd y Ty hyd dranoeth. DYDD GWENER. Yn Nhy'r Cyffredin heddyw rhoddodd amryw aelodau r.vi)-,irld y bydd iddynt ddwyn cynygion yn mlaen, a gofynodd Mr Herbert Lewis i Lywydd Bwrdd Masnach a oedd yn bwriadu penodi Gohebydd L'afur Ileol, dyledswydd yr hwn fyddai cyflenwi gwybodaeth i Fwrdd Masnach parth sefyllfa gwaith yn Ngogledd Cymru. Mewn atebiad, dywedodd Mr Ritchie fod y cwestiwn wedi derbyn ystyriaeth fanwl y Bwrdd. Ceid amryw anhawsderau ar y ffordd, megys y pellder rhwng y gwahanol leoedd, it diffvg moddion cymundeb, ond gobeithiai y gellid symud yr an hawssderau hyn. Ni fyddai i'r Bwrdd, fodd bynag, ymgymeryd a phenodi gohebwyr Ileol yn mhob rhan o'r Dywysogaeth. Gofynodd Mr Lewis hefyd a fyddai i r Llywodr- aeth ail benodi y pwyllgor swyddogol i edrych i mewn i sefyllfa y gweithwyr segur. Atebwyd gan Mr Balfour y byddai iddo ymgyng- hori a Chadeirydd y Pwyllgor er gweled a ddeilliai unrhyw les o ail benodi y cyfryw. iny ddadl ar yr Araith cymerodd yr Aelodau Gwyddelig ran amlwg. Cynygiodd Mr Dillon welliant yn galw ar y Senedd i ddeddfwriaethu er rhoddi'r tenantitid drowyd allan yn ol yn eu ffermydd.—Mr T. M. Healy a gyhuddodd y L'yw odraeth o fwnglervvaith wrth ymwneud a chwes- tiynau Gwyddelig. -Pan vmranwyd, gwrthoawyd gwelliant Mr Dillon trwy 257 yn erbyn 123. Mr Price gynygiodd welliant yn galw sylw at y dirwasgiad amaethyddol a'r priodoldeb o gynal tymhor hydrefol er dwyn mesurau yn mlaen i wella sefyllfa'r ffermwyr. -Eiliwyd gan Mr Broadhurst. -),Ir Long a ddywedodd fod y Llywodraeth yn barod i dd wyu mesurau yn mlaen er cyfarfod y dirwasgiad, ond nid y tymhor hwn ac nid mewn trmhor hydrefol."—Gohiriwyd y ddadl am haner nos. DYDD LLUN. Yn Nhy'r Cyffredin heddyw, dygodd Mr A. J. Balfour ei gynygiad ya mlaen fod y tymhor pres- enol yn cael ei gyfyngu i waith arbenig ac union- gyrchol y Llywodraeth, ac nad oedd un mesur deddfwriaethol pwysig i ddod gerbron. Cymerwyd rhan yn v ddadl ar hyn gan Mr Logan, Mr Isaac- son, Mr Keerley, Mr T. M. Healey, Mr Dalziel, a Mr Herbert Lewis, yr hwn a argymhellai fod y rheol i ohirio'r Ty am ddeuddeg o'r gloch yn cael ei diddymu. Pan ymranwyd, caed 271 dros gynyg- el iad Mr Balfour a 87 yn erbyn. Yn y ddadl ar yr Araith, trafodwyd gwelliant Mr Price fod y dirvtas-iad amaethyddol yn cael sylw a mesurau effeithiol yn cael eu dwyn yn mlaen i geisio gv/ella sefyllfa'r ffermwyr. Cefnogwyd hyn gan Mr Channing a Mr Brynmor Jones, yr hwn a sylwodd nad oedd y Llywodraeth wedi dangos eu bod yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa. Nid oedd addewidion Llywydd Bwrdd Masnach yn ddigonol i gyfarfod angen y wlad. Fel aelod o'r Ddirprwyaeth Dir Gymreig, cafodd ef (Mr Jones) ddigon o gyfle i weled gymaint oedd y siroedd Cymreig yn dyoddef oddiwrth y dirwasgiad a rhaid oedd iddo ddweyd os na phesid mesurau effeithiol gan y Llywodraeth y b/ddai y dosbarthiadau diwydianol yn y siroedd Cymreig wyneb-yn-wyneb a methdaliad ymarferol. Gan ei fod yn aelod o'r Ddirprwyaeth ni byddai iddo fanylu ar sefyllfa'r tenantiaid, ond dymunai alw sylw y Llywodraeth at un cwestiwn, sef sefyllfa y rhydd-ddeiliaid bychain. Cyfeiriodd at dystiol- aeth y Mil. Hughes, goruchwyliwr Syr Watkin, ac yr oedd am adgofio'r Ty o ymlyniad tenantiaid Cymreigjat y Ueoedd y ganwyd ac y magwyd hwy. Pan ddigwyddai i ystad fyned ar weith, ceid y dynion hyn yn cynyg prisiau gormodol am y medd- ianau oedd mor hoff ganddynt. Digwyddodd hyn yn neillduol yn siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaer- fyrddin yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Nid oedd y bobl hyn yn abl i dalu yn llawn am y medd- ianau a gorfodid hwy i'w tirwystlo, a hyny ar adeg pan oedd mwy o ffyniant yn y wl-td nag yn awr. Vr oedd sefyllfa y dynion brynasant eu meddianau felly erbyn hyn yn ddifrifol, ac mewn llu o achosion rhaid oedd iddynt wynebu methdaliad. Yr oedd siurad am i ffermwyr Cymreig uniaith, wedi pasio canol oed, ymfudo i Loegr neu i wledydd tramor yn siarad ofer. Dywedodd Syr J. Llewelyn fod yn bosibl i'r Wladwriaeth, trwy gyfundrefn arianol syml, ac heb unrhyw golled, ysgafnhau beichiau y dynion hyn. Yr oedd y cwestiwn yn bwysig. Rhaid oedd i'r dynion hyn ymwneud a. thir-wystl- wyr-dynion I!awer mwy anhawdd i ymwneud a hwy na thirfeddianwyr. Dygai y mater hwn i sylw er rnwyn i'r Llywodraeth wrth wneud eu trefniadau arianol ystyried ai nid oedd modd gwneud rhywbeth i'r dosbarth hwn. Dymunai ddweyd fod Mr Morgan Richards yn ei dystiol- aeth gerbron y Ddirprwyaeth wedi amlinellu cyn- llun i gynorthwyo y personau hyn oedd yn dyoddef dan y dirwasgiad. Dymunai glywed rhywbeth gan y Llywodraeth am y prisiau eithafol am gludo nwyddau ar reilffyrdd Cymru, a'r ffafraeth I' a roddid i'r Werddon o'i chydmaru a'r Dywys- ogaeth gyda hyn. Dymunai hefyd wybod a fwriedid gwneud rhywbeth, drwy yr awdurdod- au Ileol, i gefnogi gwneud ymenyn a chaws. Os oedd y Llywodraeth am weithredu rhaid iddynt wneud ya fuan. Addawodd yr ymgeiswyr Undebol lu o fendithion i'r ffermwyr. Boed iddynt roddi'r cyfryw yn awr. Ar gwestiwn a'r fath, ni ddylai'r Llywodraeth geisio eu troi o'r neilld u gydagareith- iau fel a draddodwyd gan Lywydd Bwrdd Amaeth- yddiaetb. Wedi i eraill siarad, ymranwyd, a chaed Dros welliant Mr Price 105 Yn erbyn 236 Mwyafrif 131 Dygodd Mr Pickersgill welliant yn mlaen yn g.lw ar y Llywodraeth i gymeryd mesurau i wella sefyllfa gweithwyr diwaith, ond gwrthodwyd y gwellian,t trwy 211 yn erbyn 79. -0-

Gastell Cwydir.

[No title]

IY Cenadon yn China.

:0; Nodion o'r Ddinas.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

--0-Barddoniaeth.

O'r Twr.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]