Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Gohebiaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohebiaethau. AT DR JOHN RHYS. SYR,—Diolch i chwi am eich araith odidog yn Eisteddfod Corwen yr oedd hi yn anog Gwyr Edeyrnion i chwilio i darddiad eu henwau lleol. Yr oeddwn, fel canoedd eraill, wrth fy modd yn gwrando arnoch yn egluro ystyr y gair Corwen a geiriau eraill. Y plwyf nesaf i Gorwen tua'r gogledd ydyw Gwyddelwern pa'm y galwyd ef ar yr enw Gwyddelig hwn, tybed? Os nad wyf yn myn'd yn rhy hyf arnach, Dr Rhys, a fyddwch chwi fwyned a'm hysbysu trwy'r Cymro beth ydyw gwreiddyn Gwyddelwern?—Yr eiddoch yn ostyng- edig, RICHARD DERNIOX. RHUDDLAN, RHYDDLAN, YNrE RHYDLA.N? SYR,—A gaf FI ganiatad i ofyn i'r Prifathraw Rhys beth ydyw tarddiad enw y He hwn ag y mae cymaint o son trwy Gymru benbaladr am ei Gastell, ei Senedd, a'i Forfa ? Yr oeddwn hyd yn ddiwedd- ar yn credu mai Rhuddlan ydoedd oddiwrth liw y gweryd coch sy o'i ddeutu, a'i fod yn dyfod fel Rhuthin a Llanrhudd o'r gair rhudd (ruddy) ond dywedai boneddwr clerigawl sy'n enedigol o'r ardal rnai Llan rhydd, ac nid rhudd-lie yr oedd rhydd- ddeiliaid yn byw tra y daliai clerigwr arall mai Llan y Rhyd, ac nid rhudd na lhydd y dylem ei ysgrifenu. Y mae'r For-ryd gyferbyn a Rhyl yn Aber Clwyd, a Rhyd-y ddeuddwr yn uwch i fynu ar yr afon, a pheth mwy naturiol na bod yma hefyd rya yn cael ei alw Rhyd y Llan ? Ei eiriau caredig yn Eisteddfod Corwen yn gwahodd ymholiadau fel hyn a barodd i mi gymeryd fy hyfdra ar Dr Rhys. CLYWEDOG. YSTYR ENWAU CYMREIG. SYR,—Rhyw 35 mlynedd yn ol bum yn darllen llythyr yn y Brython wedi ei ysgrifenu adeg marw- olaeth Sior II., gan Richard Morris o Lundain at ei dad oedranus yn Mon. Yn mhlith pethau eraill dywedodd fod y brenin we ii marw o'r "cl wyf digwydd," sef yw hyny clefyd y galon. Bum yn tneddwl lawer gwaith ar ol gweled yr enw yna, ae yn ngwyneb fod cynifer o enwau annghyfiaith yn cael eu harfer y dyddiau hyn ar glefydon ac anhwyl- derau, ai ni fyddai yn well i ni eu galw ar enwau Cymraeg fel yr uchod, yn lie arfer enwau estronol ? Darllenais gyda. dyddordeb eich cyfeiriad yn Y Oymro diweddaf at deulu Porth yr awel. Ond o bi le y cawsoch chwi awdurdod i alw yr hen bres- "wylfod uchod ar yr euw yna ? Porthamel y gelwid ef gynt, ac eto ran hyny gan frodor.on yr ardal, er y dywedir gan ambell un mai ystyr yr enw ydyw Porth lama, neu Porth y llamau, gan y gallesid croesi yr afon Menai gynt ar y distyll ar hyd y llamau ceryg oedd yn arwain ar draws yr af an islaw yr anedd-dy uchod. Pa fodd bynag am hyny y mae tai a lleoedd yn Nghymru yn ateb i'r enwau a roddir arnynt yn lied gyffredin. Os Cwm garw y gelwir y cwm, ond odid nad un garw fydd o. Y mae yr ecw i raddau yn ddangosiad o natur y lie. Pe dilynid y rheol yna wrth roddi enw ar Porth yr awel, diau mai'r Porth Tawel y galwesid ef, gan ei fod yn sefyll ar un o'r llanerchau mwyaf hyfryd a chysgodol ar lan y Fenai, heb fod yn nihelt o'r hen borthfa enwog Moelyd n Ar bin ystormus, pan y methu croesi droaodd yn y porthfaoedct eraill, fyddai raid i'r teithiwr ond myned i Moelydon chai ei gludo drosodd. Coffa da am" hen borthwyr y dyddiau gynt; clywais hwy yn dweyd lawer tro mai tair ton beryglus oedd ar yr afon lie ^rjesent hwy, ac ond cael myned heibio iddynt na fyddai dim perygl wed'yn. Ond dyna ddigon y tro hwn.—Yr eiddoch, T.T. [Gwall argraphyddol oedd rhoddi Porthawel yn n rhifyn diweddafPorthamel ddylasai fod.- OL.] HEN BWLPUD DYDDOROL. SYR,—Ai tybed ein bod fel Methodistiaid yn rhoddi y gwerth dyladwy ar hen relics perthynol i'r eQWad ? Y mae yn ddiamheu fod wmbredd ohon- ynt yn bod ar hyd a lied y wlad, ac y mae eu S^erth a'u dyddordeb yn cynyddu bob dydd. resyn os nad oes rhywun yn meddu ar deyrngar- ^ch ac yni digonol, os nad i gasglu, i dynu rhestr "°nynt, fydd ar gael a ch-idw, fel y gellir ychwan- ato pan ddeuir ar ddamwain ar draws eraill ar tiyd^y wlad. Wyliau Awst yr wythnos ddiweddaf csfais fy hQ!) yn ardal Penrhosfeilw, yn agos i Gaergybi, a eallais fore Sabboth fod y capel wedi ei dynu i i adeiiadu un newydd, a'u bad yn addoli yn ^Subor y Ddraenen. Felly aethum yno i'r ysgol y °re ac i'r oedfa am ddau, pryd y pregethwyd gan r Williams, Llanercbymedd, yn efifeithiol dros xrft*' Prawf eglur nad oes eisiau nac eghvys nac eiriad esgobyddol i draethu y gwirionedd fel y ae yn yr lesu," er adeiladaeth y rhai a fo yn fandaw. Wrth ei glywed, a chael y fath flas L y genadwri mewn ysgubor, daeth yr hen benill ia 11 i'm meddwl a gyfansoddwyd dan amgylch- au cyffelyb, pan y pregethai gwr parchedig sefyll ynnghafny felin:- Cawd, cawd, Fendithion fyrdd o enau'n brawd A safai yn y cafan blawd Nid Duw tylawd yw Brenin ne'; Rhown bawb o'r galon iddo'r clod, Mae'n medru dod i bob rhyw le. caiee>8Wah°ddwyd ni fel dyeithrddyn i fwynhau aigrwydd teulu crefyddol a hynaws y Ddraen- f0^a Pkan ar ganol yfed te hysbysodd Mr Morris Od an yr hen bwlpud vn yr ysgubor ei hanes- ol (\. r11 bwlpud i John Wesley ydoedd. Felly ar drachf aetll0m yno yn llu o'r ty i graffu arno yn ac yn wir cawsom ei fod tuhwnt i ddadl Rail nyQ 0 henafiaeth gyda'r mwyaf dyddorol y nel3 ddod ar ei draws yn nglyn a'r ddau y Wesley aid a'r Methodistiaid. Y mae'r d(jjw y duwiol a'r mwyaf ymroddgar o holl gvvyr crefyddol yr oesau-y dyn da hwnw Vd<la • fs'ey—wedi bod yn ei ddefnyddio am flyn- yn „ 1 "regethu ar yr heol yn Bristol yn ei wneud •e^.re<§- 0'r tufewn iddo cawsom astell Yt-ed, 61 Slcrhau yn ei ffrynt, ac yn gerfiedig arni, ttiae veU yn ddwfn a'u paentio yn wyn (pryd y ^el yn ddii) y geiriau canlynol yn hollol J>1 isod OOffth Yn Y Pwlpnd hwn y byddai Mr. John Ran jfi'Tyn pregethu allan yn Bristol, a ddygwyd yma Yr g ^lwyd yn y flwyddyn 1829. 3 vn uchod oedd Capten Lloyd, Caergybi, Sj'daV Jen^dwr y morwyr yno, ac yn pregethu y 110 r ethodistiaid ae yr oedd yn 1829 yn llywio tio dra.w.g rmce of Orange. Yn Bristol daeth ar Werl" wedi ei droi heibio, gan eu 1 adeiiadu capel. Gwnaeth gais am dano yn rhodd i gapel bach Penrhosfeilw, yr hwu a adeiladwyd yn 1829-30, er fod yr achos wedi ei sefydlu er's 25 mlynedd cyn hyny, ac yn bresenol wedi ei symud i'r ysgubor y mae'r pwlpud yn sefyll ar y Uanerch lie y pregethwyd yr efengyl gyntaf yn y lie. Y mae llawer stori ddoniol yn cael ei dweyd am yr hen brtdpud. Gan ei fod wedi ei adeiladu ar y cyntaf i bregethu Arminiaeth obono, yr oedd ambell i hen Galfin, yn ei sel dros ei gredo, bron awydd bwrw ei lid ar y pwipud, gan faint ei deyrngarwch i'r athrawiaeth Galfinaidd. Dywedir fod Mr Gwalchmai, debygaf, yn pregethu ynddo un tro, ac yn ngwres ei draddodiad yn taro ei droed yn y pwlpud gan ddweyd, Dyna i chwi athrawiaeth na ddoth yrioed mo'i gwe)l hi o'r pwlpud yma beth bynag." Yr oedd Mr Richard Lloyd, Beaumaris, yno un tro, a methai gael o hyd i'w destyn, ac er ymboeni yn hir bu raid iddo roddi y goreu iddi ac adrodd ei destyn. Ar ol iddo ddod lawr o'r pwlpud gofyn- odd rhai o'r brodyr iddo a wyddai ef mai hen bwlpud John Wesley oedd yr un y buasai yn pre- gethu ynddo ? Na wyddwn i wir," meddai, ond yr on i'n meddwl fod rhyw ddrwg arno fo- dyna'r cebystr fy mod i yn methu cael hyd i nhestyn." Pan y mae cymaint o bobl dda Liverpool, yn Galfiniaid ac Arminiaid, yn myned i Fon yn bre- senol, byddai yn gyfleustra iddynt weled yr hen bwlpud a bydd Mr Morris, y Ddraenen, yn falch o'i ddangos iddynt a'u difyru a hanesion dyddorol yn ei gylch. D. R.

--0-Cwreichion.

Dyffryn Clwyd.

-:0:-Manion oddeutu'r Menai.

Aelodau Undebol Cymru.

Advertising