Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853. OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netberfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Hive Cottages to LET in various parts of the own, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of a .es. Also larger houses at higher rents. (F H. E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT, HAS large and imall [Ious To Let in various parts of the -1 city and suburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, <fcc. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and ec- nomically manage 1. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insuances effected, (i HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 777, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arraqged. TELEPHONE No. 1779. The Liverpool Land Company, Limited. TO BUILDERS, &c.-To be Sold, Freehold and 999 years' Leasehold LAND, in lots to suit purchasers,in Garston, Klrkdale, Walton, Bootie, and Seaforth. Liberal advances will be made to Builders. Property letting well in all the I)cslities.-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0. & D. WILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works-TAYLOR STREET, ih°„"cE"»—402 ft404,Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, and Railings; Hot Water, Green Houses, and Sanitary Engineers; Williams' Patent Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c.; Bakers Oven Stocks, Confectioners' Ovens, Chaffers, Boxes, Fire Bars, &c,; al sizes of Gate^tunners, &c. DAVID WILLIAIVIS, COA.L MERCHANT, Best house and other Coals always on hand. office and Yard- 199, CROWN STREET, LIVERPOOL. e8idence-37, Kingsley Road. Telepnone No. 8535 TRADE MARK. -T'PES 2/ "}-d: "A.p- REGISTERED 167.58 Y Feddygiqiaet4 Fawr Gynpig TUAG AT BESWCH, ASTHMA, BRONCHITIS A holl Anhwylderau y Frest, y Gwddf, a'r Ysgyfaint. PESWCH Ysgrifena y Parch. E. W. DAVIES, Ton tre, yn ddiweddar Gallaf ddwyn tystiolaeth BFSWGH GLIR i boblogrwydd raawi HUGH DAVIES'S COUGH MIXTURE, ae i dderbyniad lies neill- PFF^WCTT duol fel siaradwr cyhoeddus oddiwrth ddefn- r HiO VV y^diad ohono, ac hefyd 'w werth yr adeg hon PESWCH gyda'r haint Influenza-' Llanberis, Jan. 27,1886. PESWCH Dywerl y Parch. J. E. OWEN:- Y mae hen wraig yn Pentraeth, Sir Fon, yn PESWCH dueddol iawn i beswch caled yn enwedig ar amserau rhew 11yd. Nid oes dim yn y ffordd o PESWCH feddygi'iiaeth yn ei Uesliau gystal a'eh 'COUGH MIXTURE.' Ei hunig gysur ar y ddaear, ebe PESWCH hi. yw y Beibl a DAVIES'S COUGH MIXTURE.' Dywed y Parch LL. B. ROBERTS, Caernarfon PESWCH Dan ochain anwyd yn nychu -a'r lungs Yn rhyw lssg weithredu; PESWCH Mwy cais trwy y Cough Mixture cu, Oes o iechyd ddi-besychu PESWCH Dywed D. JONES, Bethesda, Bangor:- PTFSWPH Anwyl Syr,—Cefais ddwy botel o DAVIES'S r HIO VV L/ii COUGH MIXTURE gan Mr. Hughes, Druggist, t>T?owncr yn ddiweddar, a dymunaf ddiolch i chwi am PESWCH. dano. Yr oeddwn yn dioddef er's misoedd oddiwrth Besweh a Diffyg Gwynt, ac weditreio PESwca pob moddion, ond yn aflwyddianus; ond yr wyf drwy eich meddyginiaeth anffaeledig wedi PESWCH cael adferiad trwyadl, a gwnaf fy ngoreu i gymhell eich darpariaeth ar bawb sydd yn ddi- PESWCH oddef oddiwrth anhwylderau yr Ysgyfaint.' p-ri impn Dywed Mr. J. E. EDWARDS, Groes, Rhiwabon: r jiiWUn Anfonwch botelaido'ch COUGH MIXTURE ar "D17Q WTH a unwaith. Da genyf eich hysbysu fod y botel- r Eo W Cx± aid flaeoorol wedi gwneud lies mawr, PAROTOEMG GAN HUGH DAVIES, Chemist, IflACHYNlLETfl. Liverpool Agents-Williams, Chemist, Heyworth Street; Williams, Chemist, Granby Street; Wynne Thomas, Chem- st, Kensiifgtaa vfrexhaua-Hri lug],, lzgwlands, Bridge Street. Messrs GRIFFITHS & DAVIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. Mantles Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. Furs. —AND— Millineiy. In all these Departments will b >nd the Newest and most Stylish Goods of the b n at moderate prices. GRIFFITHS <«: DAVIE-S 398, Scotland Road. XTEILWNG 0 SYLW PAWB. OWYNION/Y CLAF. Y\ PA Beth yw ASTHMA Anadliad byr, brysiog a llafurus. A oes rhagor nag un math o Asthma? Oes, dau—un c'U barhaol, a'r Uall yn dyfod yn mlaen ar adegau. Gelwir y eyntaf ya continual, a'r olaf yn periodical. Pa beth sydd yn achosi Asthma? Culhad, crebychiad a Airwasgiad y pibau meinion sydd yn arwain o'r corn gwynt 11 yszvfaint. I'M feddygiuiaeth sydd wfdi rhoddi esmwythad buan 1 uieirif 0 be'sonau a ddyoddefent oddiwrth Asthma, Bron- chitis, l'eswch, Anwyd, f iffyg Anadl, a'r Crygni? JBALSAM OF HZONEY TUDOR WILLIAMS. HAN mai oerfel ac an wyd ydyw dechreuol achos pob clefytf lJ yn mron, a íiiddadl fod miloedd yn myned i'r bedd yn trJamserol o eisiau cael mediyginiaeth bwrpasol a phrydlawn. Ymaflodd yr anwyd ynwvf mot ddisymwth a lleidr yn y nos, nes yn rnron ymdori gan beswch yn ddibaid, heb ond ychydig 1rhpwysdra, nes yr oeddwn cradu fy mod wedi fy nal 4azi y darfodedigaeth ac yn nghanol y boen dirdynol oedd trwy fy nghyfansoddini anfo ais am botelaid o 'EAL3AH OF HONEY' TUDOR WILLIAMS- a, chymerais tua llonaid llwy gawl ar unwaith, sef chwaneg na'r cvfarwyddyd oed-, ar y botel a chyn tri munyd yr oedd y peswch wedi peidio i raddau annghyffredin. Cymerais yr oU j gynwv-siad y botel, ac erbvn heddyw, yr wyf yn gallu diolch i'r Drefn Fawr, yn nghyda'r wybodaeth am y feddyginiaeth ddaionns hon, am fy mod heddyw yn ddyn iach. Ydwyf, yr eiddoch, yn hollol iach, ISAAC THOMAS. Dadganiad dymunol arall. 9 B,im yn ddyoddefydd mawr am un mlynedd ar ddeg odd. wrth gaethdra, peswch, poeri jjwaed, a U.yndra y frest; bum hefyd am bum' mlynedd yn cael anhawsiier dirfawr i symllq o amgylch, ni allaswn gysgti na gprwedd i lawr y nos nar dydd, Bum o -'an driniaeth feddygol am un mlycedd ai ddeg: heful, bum o dan driniaeth yn Yspytb 1 Hereford, Buxton, a South port, ond y cyfan yn cfer. Dyvvedorid y meddygon wrthyf na. all*.swn ddisgwyl gwellhad, gan fy mod yn G4ain mlwydd oed. Ar ol clywed cymaint o siarad am B ;LSAI OF HO TE Y' T7DOR WILLIAMS rho,ldais brawf arno, ac er fy syndod darfn i'r dogn cyntaf roddi rhyddhad ebrwydd i mi anadlu. Yr oedd poeri J 0 o'r ysgyfaint yn lleihau. Diflanodd y caethdra, fel swj £ gyfaredd, i bedwar gwynt y nefoedd, ac yn mhen ychvdis wythnosau, drwy ddefnyddiad parhaus 'Ba)sam cf iloney' T-nior Williams, adfervvydfl i fy iuchyd daaife.el. Ystyriwy; hi yn d lvledswydd arnaf i anfon i y dystiolaeth h()ll. Yr'eiddoch yn ddiffuaut, Mrs EMBREV, 19 Coningsby Stieet, Hereford, Mai 25ain, 1890." Mae Miloedd o Blant wedi eu hachub o Farw laetl O'r Croup, Bronchitis, a'r Pas, wedi pobpeth arall fethu Y ffordd i brofi y pet,h ydyw profi drosoch eich hunain. Oi gwne"ih "y[]a ,.ydd yn fendigedig ni chewch eich sioflliu O. Gwerthic BALSAM OF HONEY' TUDOR\Viir ~M? g-,i bob Fferyllydd drwy yr holl fyd. Uewn costrelau. Is Ijfi 2s 9c, neu trwy y llythyrdy yn rhad am Is 3c a 3s. Perchenog-i D. TUDOR WILLIAMS, R.D.S.L., Medical Hall, Aberdare. mmm\ steamship mmmST LARGE AKO POWERFUL BRITISH STEAMER Sail regularly to he LEVAKT, BLACK SEA, IlGYPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterrai ean Ports, taking the following two routes alternately:— (1) MALTA, SYR A,SMYRNA, CONSTANTINOPLE, ami ODESSA. Calling ofte on the return journey at sawral Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Spain (-2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPR REYROUT. and ALKXANDRETTA. Calling ocoasioi ally on the homeward voyage at Spanish Ports. -crowc No over-crowding. Superior accommodation. Lofty wat ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carri* Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiate fares for single and return tickets, and no extra charge living on board during ships'sHy at Ports. Tourists and pleasure-seekers aWng a trip by this LIBJ. ill and it most eajoyable and interesting. For further part). 1 i,rs,.apply to PAI'AYANNl & CO., Fenwick Chambers, Lh erpoo .1'^ LLINELL Y WHITE STAJTFC. ROYAL MAIL STEAMERS, LF3RPWL I NKW YORK via QUEENSICWP, BC DYDD MERCHKR:— •MAJESTIC Medi 4 GERMANIC Medi 11 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithiryr A arwydda y cludir yn yr Ail Gaban ar y fordaith pv y cludiad ydyw -67 ac £ 8. Y mae y Llongau hagorrJ hyn i gyd o'r dosbarth llchaf, yn unffurf 0 ran cynllun a threfniadau, ac yn ddigvffelyb mewn mordeithiau. Ni cheh well <jya9<i<.ttA i ford»l"ivrr Am fanylion, yinofyner i R. Owen, Ship & II perance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farcbnad Caernarfon; neu a R. Roberta, Bethesda; Owen E Parry, masnachydd llechi, ( wyddelen; David Rowlands, Peuygraig W. D. Toiies, Old Caergybi; W. M. Jones, Church Street, Liangefv R. G. Roberts, Rock Cottage, Crjigiau Mawr, Te ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwc1 W. O. Williams. Shoe Warehouse, Llanr^" Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu ag ISMAY IMBIB & Co., 34, Leadenhall Street, Llundain, E.C., a Water ST/TW' I I a &I$ a 0 0 IIA 0%, w SERCE JACKETS m i I llli III in 65JYRQ1S!
Helyqtion Bywyd Hen Deuisr
Helyqtion Bywyd Hen Deuisr Gan GWILYM HIRAETHOG PENNOD XXIX.—MAB Y PLAS A MERCH YR HAFOD. DRANOETH y storm fawr yn y Plas, aeth Mr Edward i'r Ha'od i ymwel'd & Miss Evans; deallai hi ar ei wedd a'i ymddangosiad fod I ganddo rywbeth neillduol ar ei feddwl; ni cblywsai hi un gair eto am helynt y dydd o'r blaen yn y Plas ac yn wir, nid oedd yn gwybod dim fod siarad am dani mewn perthynas i'r boneddwr ieuanc ar dafodau'r wlad, canys ni ddywedasai neb air wrthi hi ar y mater. Yr oedd yn ofoi er's tro y gallasai ei waith yn galw yno mor ami roi sail i starad annymunol, ac yr! oedd ei fynych alwadau yn boenus iawn iddi ar y cyfrif hwnw. Yr oedd arni awydd er's tro roddi awgrym iddo gadw draw, ond ofnai ei dramgwyddo hefyd, gan yr hoffai gymdeithas gwr ieuanc o feddwl goleuedig fel efe, un y I gallai ddysgu llawer o wybodaeth oddiwrtho, ac yr oedd hi eisoes wedi cael ei gymdeithas yn fuddiol iddi mewn liawer ystyr. Ond beth a barai iddo ddyfod yno mor ami 1 Tybiai weith- lau mai amddifadrwydd o gyfeillion y gallai gymdeithasu a. hwynt ei fod yn yr ardal hono megys ar ei ben ei hun, heb neb y gallai efe gael dim hyfrydwch yn ei gymdeithas a'i bod hi, efallai, rywfaint ar y blaen i bawb arall yn y gym- ydogaeth; a chan ei fod yntau o duedd gymdeith- asgar, nad oedd ganddo ddim i'w wneud ond ei chymeryd hi fel yr oedd, i ddal pen rheswm iddo yn awr ac eilwaith. Ond a oedd ganddo rywbeth arall mewn golwg ? Nac oedd ni allasai hyny fod. Yr oedd ganddi well meddwl am dano nag y gall- asai oddef y dybiaetb yr ewyllysiai efe ei hudo oddiar lwybr rhinwedd ac yn sicr ddigon, nid oedd ganddo olwg ar y fath beth a thynu carwr- iaetb anrhydeddus a hi. Yr oedd, er hyny, wedi tanu awgrymiadau iddi droion tel pe buasai I am iddi ddeall rhywbeth felly ond wrth reswm, yr oedd hyn allan o'r cwestiwn—boneddwr balch o'i sefyllfa uchel ef, i edrych ar un o'i sefyllfa isel hi, gydag amcan felly Dim posibl perswadiai ei hun rnai rhyw chwareuaeth ddi- niwed oedd y ewbl eto, er hyny, nid mewn dull chwareuol y rhoddai efe ei awgrymiadau iddi. Gofalai hi bob amser na roddai un gefnogaeth iddo fyned yn mlaen yn y ffordd hono, ond yn hytrach annghymeradwyaeth amlwg. Wrth holiei hunan ar y mater, yr oedd yn cael bod ei chydwybod yn ei rhyddhau hi y j llwyr ac yn hollol yn y peth hwn ac yr oedd yn dda ganddi yr un pryd allu tystio ynddi ei hun na welsai ddim yn anweddus yn ymddygiad y boneddwr tuag ati. Fodd bynag, bnasai yn dda ganddi pe cadwasai draw, er yr un pryd y teimlai y buasai yn chwithdod a cholled iddi am ei gymdeithas. Yr oedd cwestiwn arall yn ymgynyg i'w meddwl weithiau ond ni oddefid iddo ddyfod i'r bwrdd, troid ef tros y drws yn ddiseremoni bob tro y cynygiai ddyfod yn mlaen ond ymwthio i mewn a fynai efe er hyny, a'r cwestiwn hwnw oedd, A ydyw cariad heb fod yn dechreu goglais y galon ? A ydyw y boneddwr ieuanc yma heb fod wedi dechreu gwneud rhyw argraff o'r natur hono ar y serchiadau ?' Dim o'r fath beth, ni allasai y fath beth fod, ac ni chai y fath beth fod byth chwaith er hyny, ambeuai ei hunan er ei gwaethaf. Ceisiai osod Bob yr Hafod Uchaf a'r boneddwr un yn mhob pen i glorian ei serch, ac yr oedd yn cael fod Bob yn drymach o ddigon yuo gan hyny nid oedd dim o natur y sercb a deimlai at Bob, yn yr hyn a deimlai at Mr Edward wedi'r cwbl, pe buasai y boneddwr yn sefyllfa Bob,—sefyllfa y buasai yn weddus a phriodol iddo ffurfio undeb priodasol ag ef, teimlai y cawsai Bob gryn waith i gario ei bwnc gyda hi,—a golygu fod Mr Edward, fel Bob, yn wr ieuanc crefyddol. Byddai megys yn dal ei hunan yn ami yn trafod ac yn troi y meddyliau a'r arbolion hyn, a cheryddai ei hun yn drwm o'u plegyd, a cheisiai en gyru ymaith oddiwrthi, gan eu tynghedu nad aflonyddent arni mwy ond dychwelyd yn ol, a 111thro n ddirgelaidd i'w meddwl wnai yr estron- iaid drachefn a thrachefn. Wedi i'r meddyliau hyn ddechreu ei haflonyddu, newidiodd yn ei hymddygiad tuag at Mr Edward pan ddeGai yno ar ei ymweliadau. Ac nid hir y bu yntau heb sylwi a gweled y cyfnewidiad. Yr oedd symledd a sirioldeb wedi troi yn rhyw ddwysder tawedog a ddywedai wrtho am gadw draw, ac yr oedd hyny yn ei dynu yntau i neshau ati yn fwy. Po bellaf y ciliai hi oddiwrtho, mwyaf oil oedd ei awydd yntau i wasgu yn mlaen. Yr oedd yn llawn o'r myfyrdodau a ddesgrif- iwyd yn ei gylch, pan welid ef yn dyfod tua'r ty y bore hwnw. Ciliodd i'w hystafell o'i ffordd ac, meddai ynddi ei bnn, Mae'n rhaid dwyn y mat ir i benderfyniad bellach ni ch (iff pethau barhan fel hyn yn hwy.' Daeth ei mam ati i ddweyd fod Mr Edward eisiau ei gweled. Dywedodd y deuai ato yn fuan ac wedi tywallt ei chalon mewn gweddi am arweiniad a chym- hortb Dwyfol i ddyfod drwy y prawf y teimlai ei fod ar ddyfod arni, daeth o'i hystafell wedi ymwroli yn ei meddwl, ac ymddangosai yn llawn feistres ar ei hysbryd a'i theimladau. TafloJd y boneddwr ieuanc olwg arni a barai i ryw ias o deimlad dyeithr gerdded trwyddi—ni welsai hi yr olwg hono ganddo erioed o'r blaen. Golwg ydoedd a symudodd ymaith bob petrusder • i meddwl ar unwaith yn nghylch natur ei deimladau tuag ati golwg o'r galon i'r galon ydoedd. Yr oedd rhywbeth dwfn, ymbilgar, li fyd yn y golwg hwnw, megys pe dywedasai A ellwch wrthod eich tosturi a'ch cydymdeim- iad a mi, o leiaf ? Os na chaf ddim arall, na wrthodwch i mi hyny o ffafr.' Ciliodd y fam, gan adael y ddau gyda'u ilydd. Wedi ychydig ddystawrwydd pryderus, .nturiodd ymaflyd yn ei Haw, gan ddywedyd, Na wrthodwch i mi hyn o ffafr am unwaith o leiaf. Y mae ar eich llaw chwi fy ngwneud i naill ai y dedwyddaf o bawb yn y byd, neu y truenusaf o feibion trueni.' 4 Pa fodd felly gofynai hithau, nid wyf yn eich deall, syr.' 'Gadewch y syr yna heibio am y tro yma, fanw— ond ymataliodd cyn gorphen y gair, gan iddi dynu ei llaw ati yu y fan, pan ddeallodd ei fod yn myned i'w chyfarch felly. Eglurwch eich meddwl ar fyr eiriau, os gwelwch yn dda Mr Edward,' meddai. O, ai nid ydych yn deall fy meddwl a'm calon ?' eb efe. Wel fy meddwl yw hyn :-Y mae fy nghynged i yn y byd hwn yn dibynu yn hollol ar eich derbyniad nen'eh gwrthodiad ohonof. Dyma'r llaw hon a'm calon, fy holl galon ynddi. a'r oil a feddaf ac a allaf i chwi, ac at eich gwasanaeth—llaw a chalon na chynygiwyd i neb arall erioed, ac na chynygir i neb arall byth, os na dderbyniwch chwi hwy.' 'Yr oeddwn wedi riiyw dybio,' ebe hithau, fod rhywbeth o'r natnr yna genych mewn golwg, ond nid oeddwn erioed wedi credu y fath "¡ beth yn wir, yr oeddwn yn ystyried fy hun yn ynfyd i dybio y peth am foment, a phrin y gallaf gredu fy nghlustiau yn awr. Ond, i ddwyn y mater i ben am byth, ar fyr eiriau, goddefweh i mi ddweyd ar unwaith ac yn benderfynol, fod y cyfryw beth yn anmhosibl.' Paham yn anmhosibl l' gofynai ef. 4 Am fod gagendor mawr rhyngom,' atebai hi, 4 gagendor na all un sydd ar eich ochr chwi dramwyo ataf fi i'r ochr yma, na minau atoch chwi i'r ochr yna.' Betil yw hyuy ?' Y gwahaniaeth yn ein sefyllfa gymdeithasol ydyw, wrth reswm,' meddai. 4 0,' ebai yntau 'os nad oes rhywbeth mwy na hyny, ni a wnawn o'r goreu nid yw ond gwaith ysgafn, hawdd, ie, a hyfryd iawn i mi roi Ham atoch chwi dros hyny o gagendor.' 4 Ie, ond byddai yn angeorheidiol i chwi roddi Ilam yn ol,' ebe hithau, 4 ac nid mor hawdd fyddai i chwi wneud hyny, a fy nghymeryd i gyda chwi. Ystyriwch eich sefyllfa, a'm sefyllfa inau pa ganlyniadau o ofid a blinder a dynech arnoch ei hun ac arnaf finau hefyd. Gwn yn dda am ysbryd uchel eich mam a'ch pertbynasau pendefi,4aicid y byddecb chwi yn cael edrych arnoch fel gwarth y tesilu byth wedi hyny, ac yr edrychent arnaf finau fel esgymunbeth dirmyg- edig. Fe oerai eich teimladau presenol tuag ataf cyn hir a byddai fy mhresenoldeb yn faich arnoch, fel un a fuasiiyn achoso'ch darostyngiad yn ngolwg pawb yn y cylch cymdeithasol y perthynweh iddo. Gan hyny, yr wyf yn erfyn arnoch, er eich mwyn eich hun, er mwyn eich mam a'ch perthynasau, ac er fy mwyn inau, i roi pob meddwl am y fath beth i fynu ar unwaith ac am byth.' 4 Hyny ni allaf, y mae yn anmhosibl eb efe. yr ydwyf wedi bwrw y draul yn nghylch y pethau yna oll-ablrthau ydynt y byddai yn bleser mawr genyf eu gwneud, ie, a mil mwy, er mwyn eich sicrhau chwi yn eiddo priodasol i mi fy hun ni all dim fod yn aberth i mi, ond eich rhoddi chwi i fynu. Os nad oes dim arall ar y ffordd, mae pob peth yn dda.' Na, nid felly,' ebe hi, 4 er yr oil a ddywed- weh, y mae y rhwystr ar ff jrdd ein hundeb yn gymaint yn fy ngolwg i ag oedd o'r blaen,- ac ni ellir ei symud byth o'r ffordd ac beblaw hyny y mae un arall llawn cymaint ag yntau yn bod.' 'A pha beth yw hwiw ?' gofynai yntau gydag ochenaid. 4 Wei elyna ydyw,' atebai hi, 4 yr ydych chwi a minau yn hollol wahanol yn nhueddrwydd moesol ein meddyliau. Yr wyf fi wedi bwrw fy nghoelbren gyda phobl grefyddol a ystyrir 14 yn wehilion y byd a sorod pob dim," genych chwi a'ch teulu a'ch cyfeillion. Yr wyf yn teimlo fy hun mewn nndeo annatodol a hwy lie byddont hwy y byddaf finau, eu Duw hwy yw fy Nuw inau, nid oes dim ond angau, ac nis gall augau chwaith, ysgaru rhyngof fi a hwy. Mi a wn ryw gymaint drwy hanes, a thrwy brofiad hefyd, er pan oeddwn yn Nghaer, am natur y cyfarfod- ydd a'r pleserau a garweh chwi, a rhai yn yr un sefyllfa a chwi, fel na fynwn er y byd newid cyfeillion a phleserau, yr hyn a fyddai yn amod fy nghysylltiad a chwi.' I Na fyddai mewn un modd,' oedd yr ateb,' ni cheisiwn byth genych fyned i gyfarfod o'r fath, ac ymrwymaf nad awn fy hun chwaith yn groes i'ch ewyllys chwi.' 4 Nid yw o un dyben yn wir i ni dreulio amser a geiriau ar y mater,' ebe hi, 'gadewch iddo derfynu ar hyn.' 4 Meddyliwch,' ebai yntau, 'y gallech fod yn foddion i'm troi a'm henill i'ch ffordd chwi ai ni ewyllysiwch hyny ? Nid oes neb ar y ddaear a allai wneud hyny ond y chwi.' 4 Na, y mae hyny yn waith mwy nag a allaf fi na neb arall ar y ddaear ei wneud, 44 Gyda dynion anmhosibl yw hyn," ond nid gyda Duw.' 4 Yr ydych yn cofio y geiriau sydd o flaen yr ymadrodd yna, onid ydych ?' gofynai ef. Ydwyf,' oedd yr ateb, Mor anhawdd yr a y rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw," haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur nag i oludog fyaed i deyrnas Dduw." 'Ie, yr wyf fiuau'n cofiD y geiriau difrifol yna ai nid ydych yn tosturio wrthyf fi ac eraill sydd yn y aefyllfa yma ? A ellwch chwi atal eich cymhorth o gynyg tynu rhyw gamel o bechadur fel myfi trwy grai y nod wydd? Ymollyngodd i wylo ar hyny,-ac wylodd hithau ac yn eu dagrau yr ymadawsant, wedi iddi hi ddywedyd cymaint a hyn-I Ni byddai dim a ddymunwn yn fwy na bod yn rhyw offeryn er eich dyshweliad at y Gwaredwr, ac ni pheidaf a dymuno a gweddio am hyny.' Ond yr ydych yn gwrthod y fantais a gynygir i chwi er cyrhaedd y dymuniad hwnw,' eb efe, 4 a gaf fi erfyn arnoch gymeryd y mater dan eich ystyriaeth am ychydig o ddyddiau yn mhellach —hyny o ffafr,' 'Gwnaf, mi feddyliaf am dano ond ni fynwn i chwi ddisgwyl y nfewidiaf fy meddwl.' 4 Na ni allaf beidio a gobeithio y gwnewch, eb efe, ac ymadawodd. (I barhau).