Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Manion oddeutu'r Menai.I
Manion oddeutu'r Menai. I Ar Daith.-Boreu ddydd Mawrth, yr 20fed cyfisol, yr oeddym yn gadael Caernarfon am Llanwnda yno yr oedd cerbyd yn disgwyl am danom. Cawsom gwrnni athraw Ysgol Ramad- egol Clynnog yn mlaen hyd yno. Dychwelai gartref o'i wyliau. Dywedai wrthym fod y lie yn IJawn o ymwelwyr, ac fod cwyn nad oedd digon o le iddynt. Hawdd genym ei gredu gan fod yma le hynod o ddymunol a neillduedig. Wedi aros yno ychydig cychwynasom yn mlaen 3Jm Llanaelhaiarn a thros yr Eifl, a tbrwy Llithfaen i Nefyn. Yr oedd yn dda genym weled arwyddion fod gwaith setts y Gwylwyr yn debyg o roddi cyfieustra eto i luaws i enill eu bara beunyddiol. Y mae yma barotoadau helaeth at ail gychwyn y gwaitb. Bydd yn bendith i Nefyn a'r cylchoedd. Yr oedd amryw faneri yn chwyfio yn yr awelon yn Nefyn, yr n modd yn y Morfa ac Edeyrn, ac wrth ddyfod i.gyfeiriad Pwllheli, gwelem fod y baneri yn amlhau, a phontydd prydferth i'w gweled mewn amryw fanau. Cawsom allan yn Pwllheli mai y pheswm am hyn oil ydoedd priodas merch Nan- horon. Yr oedd y cerbydydd a ninau hyd hyn wedi bod yn cysuro ein hunain mai y ffaith ein fod ni yn myned trwy yr ardaloedd oedd yn cyfrif am yr arwyddion o lawenydd a cbroesaw Wedi cyrhaedd gorsaf Pwllheli pwy welem ond y cyfaill R. o Fadog yn y tywyllwch yn ceisio ysgrifenu ei adroddiad oddigwyddiadau y dydd. Nid heb achos y cwynem ein dau yn erbyn y Cwmni na fuasent yn darparu gwell goleu yn yr orsaf. Doniol iawn y desgrifiai Wirfoddolwyr Porthmadog yn teithio o Pwllbeli i Na> horon mewn glo-gerbydau, &c. Dywedir na fu erioed gynifer o yrnwelwyr yn y rhanau hyn ag sydd eleni. Ond y mae pobl Pwllheli yn hyderus iawn ac yn canu mewn hwyl-"Daw eto fwy yn amser yr Eisteddfod. Darperir yn helaeth yma ar eu cyfer. Pencerdd America.-Ar orsaf Caernarfon, ddydd Iau diweddaf, gwelsom y boneddwr hwn yn nghwmni y Barnwr Edwards o'r America. Deil y Dr. i edrych yn dda. Dywedai "Wrthym fod ei gyfaill yn mwynhau ei hun yn rhagorol yn Hen Wlad ei Dadau," a'i fod yn dychwelyd yn mhen tair wythnos. Alafon.-Heddyw (ddydd Iau) bydd y bardd bregethwr Alafon yn cychwyn dros y don 1 America. Derllwn iddo fethu trefnu i fyned yr un ade a'r Parch D. O'Brien Owen-gwell I ganddo efallai ydyw myn'd ei hunan.; Ei hunan y mae wedi arfer byw a bod, ac y mae yn debyg mai ei hunan y daw yn ol. Ychydig fwriada aros yn yr ochr draw. Hyderwn y bydd iddo gael mordaith lwyddianus a chysurus. Disgwylia gyrhaedd gartref yn ol at ddiwedd Hydref. Dam wain Ddifrifol.—Nos Iau ddiweddaf, collodd Mr Henry Thomas, Dinorwig Street, Caernarfon, ei fywyd trwy iddo gael ei dynu i fewn rhwng yr olwynion yn y Victoria Corn Mills. Yr oedd yn ddyn hynod o gymeradwy. pydymdeimlir yn fawr a'i fam, ac A'r boneddwr teuanc Mr Pritchard, perchenog y feJin. MARCUS.
-:0:-Nodion o'r Rhos.
-:0:- Nodion o'r Rhos. WYTHNOS i ddydd Llun, cynaliwyd sports gan glwb y bfil dreed yn Johnstown. Un o'r prif ddynion ynddynt oedd y siomedig Mr Henry St. John Raikes. Wedi cael gwneud cymaint o sport ohono ef yn yr etholiad. ceisiai yntau ddydd Llun wneud sport o eraill. Da genym fod llanciau y Rhos mor gall, teneu ydoedd y cynulliad, a cholled fydd yr ymgyrch i hobl y traed. Yr oedd yno seindorf ddyeithr o Caer. Cafodd Mr Clark, High Street, y wobr gyntaf gyda'r bicycle, a Mr E. T. Williams" The ftaikes' Championship Medal am y filldir. Mwy priodol fuasai i'r boneddwr hael roddi gwobr am rywbeth uwch a buddiolach na rhedeg. 0, ie, yr odd Mrs Raikes yno yn cyflwyno'r gwobrwyon- nId yn canu y tro hwn. Peth neillduol arall yma yr wythnos hon gymer- odd le yn nglyn a'r coliars. Nos Fercher, cafwyd cyfarfod i chwilio i mewn i achos Mr Jones. Llyw- yddwyd gan Mr Ben Davies, checkweigher Bersham, chafwyd cyfarfod cyffrous iawn o'i ddechreu i'w "divvedcl, Eglurodd Mr Thomas Hughes, yr ysgrifenydd, yr holl amgylchiadau mor oleu a chanol dydd i bawb ewyllysiai weled. Cynygiodd John Benett focl yr arian i'w talu yn un lwmp, pan yr oedd y try.stees wedi methu yn lan a'u cael felly, nid oher- Jydd anmharodrwydd J ones i'w talu ond ei anallu. «-iliwyd gan Wm. Jenkins. Cynygiwyd dau ben- ~erfyniad arall; ni chododd ond dau neu dri dros y cyntaf, a'r penderfyniad a orfu ydoedd ymddiried y mater i ofal y trustees. Prydnawn Gwener, ceisiodd Mr Isaac Smith gael PWyllgor o weithwyr pwll No. 1 yr Hafod i ail ystyried mater y checkweigher. Cynygiwyd fod y niater i gael ei drosglwyddo i ballot, ond wyth god- Qd eu dwylaw o blaid hyny. Felly saif pethau el o'r blaen—Thomas Davies i ymadael ddydd adwrn nesaf. y noswaith hono drachefn cyfarfyddodd pwyllgor gweithiol v gwaith uchod. Derbyniwyd naw o f ^geiswyr am fod yn checJciveighman, a rhai rhyfedd ohonynt. Yn wir, Mr Gol., pan welwch fi Cl. r?a ryfedawch os byddaf yn checJciveighman. J'Wais mai nid doeth oedd rhoi un o'r ymgeiswyr de1.^n- y pwyllgor hwn modd bynag, j^^J^iwyd y naw, a rhoir y ballot arnynt ddydd er^r ydym wedi tynu Gol. yr Herald yn ein pen Qa ddywedasom dd:m erioed am dano ef na'i j> lNawr, Mills, rhowch heibio y termau yddol yna, neu yn sicr rhaid i ni eich hurddo. ameenais ddweyd dim ond fy marn syml, ac oni Coia roddi Hafarihono? Mae y rhan fwyaf o'ch o 0,n Amrywi°n yr wythnos hon air am air allan g°lofn Newyddion Cymreig Y Gymro. Nos Sadwrn. GOMER JONES.
[No title]
-0- 8Oostiodd yr anrhydedd o gynrychioli Arfon y iad r? 3° i Mr William Jones yn yr ethol- v,lweddaf, ond dywedir fod costau ei wrth- ei -7 Hughes yn agos i 800p— a chael guro a i siomi yn y fargen.
Newyddion Cymreig.I
Newyddion Cymreig. Costau etholiad Mr Owen Phillips yn Mwrdeis- drefi Maldwyn oedd 446p 19s 10s. Costau etholiadol Mr Lloyd George, A.S., yn y frwydr ddiweddaf oedd 372p 8s 7c. Cynaliwyd Arddangosfa F.odau lwyddianus yn Mharc Dolerw, Drenewydd, ddydd lau. Mae Mri Herbert Lewis a D. A. Thomas wedi eu penodi ar bwyllgorau yn Nhy'r Cyffredin. Bwriada Bedyddwyr Mon godi capel coffadwr- iaethol i'r hen gawr Christmas Evans yn L'angefni. Costau etholiadol Mr H. J. Ellis-Nanney, gwrth. ymgeisydd Mr Lloyd George yn yr etholiad diweddaf, oedd 518p 13s 3c. Nos Fercher, caed dyn ieuanc o'r enw Norman Edwards, mab Mr Joseph Edwards, ffermwr, y Waen, wedi cyflawni hunanladdiad trwy ymgrogi yn Acrfair. Mae swyddfa Cofrestrydd Prifysgol Cymru wedi ei symud o'r Brifddinas i'r Town Hall Chambers, Newport, Mynwy, ac yno y dylai pob gohebiaeth gael eu cyfeirio yn y dyfodol. Parhau i ddenu sylw'r Saeson y mae Cymru. Yn yr Athenotum am y mis diweddaf, ceir adolygiad ar bump o lyfrau wedi eu cyhoeddi yn Lloegr yn ymwneud a phethau Cymreig. Ddydd Sadwrn, caed corph Mrs Miriam Levy, Windermere Terrace, Lerpwl, wedi marw yn y George Hotel, Llandudno. Yn y trengboliad dychwelwyd rheithfarn iddi farw o glefyd y galon. Hysbysir fod yr hybarch Gwalchmai gryn lawer yn well, a gallodd adael ei wely am ychydig ddydd Sadwrn. Coleddir gobaith cryf am ei adferiad er ei fod 92 mlwydd wedi cyffwrdd ei ben a gwynu ei wallt. Yn y trengholiad ar gorph Edmund Williams, a laddwyd yn Chwarel Oakeley, yr wythnos ddi- weddaf, dychwelodd y rheithwyr ddyfarniad ddydd Iau iddo gyfarfod a'i ddiwedd trwy gael ei daro gan ddarn o graig. Penderfynodd Rhaith Dosbarth Llandudno ddydd Gwener ddeisebu Bwrdd Masnach i geisio ganddynt adeiladu porthladd yn y dref hono, er mwyn i longau gael lloches rhag y dymhestl rhwng Caer- gybi a Llynlleifiad. Ceir delw o Llewelyn Fawr wedi ei chodi yn mhetryal y Castell, Conwy. Rhodd Mr Albert Wood, diweddar Faer y dref, ydyw, er dathlu cwblhad gwaith dwfr Cowlyd, ac y mae pistyll o'r dwfr hwnw gerllaw i'r ddelw. Yr wythnos ddiweddaf, yn Plymouth, bu farw bwch gafr y gatrawd gyntaf Gymreig, a theimlir galar mawr ar ei ol yn mysg y milwyr. Dywed Morien y buasai'n well ganddynt golli tri dyn na'r bwch hwn. P'run dri, tybed ? Bwriada Mr Ellis Jones-Griffith, A.S., ddwyn i sylw Bwrdd Masnach y priodoldeb o chwythu i fynu greigiau y Platters sydd yn y fynedfa i borth- ladd Caergybi, ac mor beryglus i drafnidiaeth llongau. Gwnaed ami gais o'r blaen ond yn ofer. Hysbysir fod John Jones, George and Dragon Inn, Abergele, wedi myn'd yn fethdalwr. Amcai gyfrifir ei ddyledion yn 347p Os 4c; ac nid oedd ganddo ond 30p 9s 9c i'w cyfarfod. Achos ei feth. iant, medd efe, yw dyledion drwg ac afiechyd yn y teulu." Pregethid ar ran Ysgolion Cenedlaethol mewn amryw eglwysi y Sabboth diweddaf. Yn Pen- maenmawr, testyn y Parch D. Jones, y ficer, oedd "Yr Eglwys Gymreig, ac addysg y bobl;" ae yn Eglwys Colwyn Bay, traddododd y Canon Roberts bregeth ar Addysg Grefyddol." Dyma driawdau newydd eu darganfod:—Tri pheth na rydant byth—aur yr elusengar pedolau ceffyl y cigydd a thafod gwraig. Tri pheth na wneir yn hawdd—tori syched gyda than; sychu gwlybaniaeth gyda dwfr; a boddio pawb. Tri pheth na ddylent fod oddicartref-y gath, y simneu, a gwraig y ty. Y TYWYDD AM MEDI. -Am y rhan gyntaf o'r mis hwn bydd tueddiad cryf at wlybaniaeth, ond peidied y ffermwyr a digaloni er hyny. Mae arwyddion am sychder yn ei ganol ac at ei ddiwedd. Ar y 22ain, bydd y blaned Sadwrn mewn eysylltiad (conjunction) a'r lleuad, yr hyn a arwydda wynt uchel ac ysgythrog. -Astrologer. Cynaliwyd Arddangosfa Amaethyddol Flynyddol Dyffryn Conwy yn Mharc Gwydir, Llanrwst, ddydd Iau. Y llywydd am y tlwyddyn oedd Arglwydd Mostyn, gyda Mr E. Roberts, Llan- gernyw, yn is-lywydd. Dywedir fod mwy o geffyl- au a gwartheg yn yr arddangosfa eleni nag a ddan- goswyd erioed o'r blaen, er mai dyma'r 25ain tro iddi gael ei chynal. Yn Ynadlys Aberystwyth, ddydd Sadwrn, cyhuddwyd D. W. E. Rowlands, Y.H., o ymosod ar James Dawson. Cymerid dyddordeb mawr yn yr achos. Ymddengys I'od y ffrwgwd wedi cymeryd lie mewn tafarndy, a honid fod Rowlands wedi taraw Dawson gyd chwip gan dori twll yn ei wefus a malu tri o'i ddanedd. Dygwyd tystion i wrthbrofi hyn, ac wedi ystyriaeth penderfynodd yr ynadon daflu yr achos allan. Ddydd Iau, cyfarfu Llywodraethwyr Addysg Ganolradd Llanrwst, dan lywyddiaeth Mr O. Isgoed Jones, i ddewis athrawon i'r ysgol sirol. Allan o 42, etholwyd Mr B. A. Carter yn athraw clasuron allan o 22, Mr Samuel Jones, Blaenau Ffestiniog, etholwyd yn athraw gwyddoniaeth. Hefyd, penodwyd Miss Paterson yn brif-athrawes Ysgol y Merched Miss P. E. Winter, Llandudno, yn ail athrawes a Miss Davies, Bangor, yn dry- dedd athrawes. Penderfynwyd cynyg dwy ysgol- oriaeth, gwerth 5p, i enethod ysgolion elfenol sir Ddinbych, a dwy ysgoloriaeth, gwerth lOp, i enetnod ysgolion sir Gaernarfon sydd o fewn y dosbarth ac hefyd SOp o bursaries. Mae Mr A. 0. Humphreys-Owen wedi cyhoeddi adroddiad llawn o'r ffeithiau yn nglyn ag ymddyg- iad y Llywodraeth bresenol yn ceisio darnio cynllun Ysgol Waddol Berriew, Maldwyn, wedi iddo dderbyn y cydsyniad brenhinol, a phan oedd ar fin cael ei gario i weithrediad. Er mwyn i'r ysgol gael ei "liywodraethu gan y clerigwyr er budd yr Egiwys Sefydledig," medd Mr Owen, "y mae'r blaid glerigol wedi dangos eu bod yn barod i aberthu buddianau arianol y plwyfolion a buddian- addysgol y plant."
[No title]
Gymry, cefnogwch Gydwladwyr, Bwytewch "FOOTBALL OATS." Yr ansawdd goreu ar wyneb y ddaear. 0 dyfiant Prydeinig-. Na chymerwch eicli perswadio i brynu ansawdd gwael, diflas fel yr Americanaidd,
Marwolaeth Arswydus ger Abergele.
Marwolaeth Arswydus ger Abergele. DDYDD Llun, cyfarfyddodd Edward Jones, 74 oed, yn byw yn Towyn, ger Abergele, a'i ddiwefld mewn modd arswydus. Ymddengys iddo wrth fyned ar draws y meusydd gyfarfod a tharw, yr hwn a'i tarawodd i lawr ac a'i corniodd i farwol- aeth. Cafwyd hyd i'r truan mewn ffos gyda'i ddillad wedi eu darnio, a'i gorph wedi ei orchuddio a briwiau. Cludwyd ef i fferm gyfagos i aros trengholiad.
--0-Esgob Cymreig yn Ymneillduo.
--0- Esgob Cymreig yn Ymneillduo. YSGRIFENA gohebydd i newyddiadur Seisnig cyfrifol fel y canlyn Gall y bydd gan Arglwydd Salisbury Esgobaeth Jymreig i'w llanw yn fuan. Sibrydir fod Eisgob T) ddewi yn bwriadu ymneillduo. Nid yw'r Esgob Basil Jones yn hen ddyn, gan iddo gael ei eni yn 1822; a phan yn 73 oed, edrychir ar esgob yn ei fan goreu. Diau fod clerigwyr hynaf sir Gaerefrog yn ei gofio yn ficer H»xby neu Bishopthorpe, neu'n ganon ac archddiacon Caerefrog Yr oedd yn hen gyfaill i'r diweddar Archesgob Thomson, a gweithredodd fel caplan arholiadol iddo am beth amser. Os ymddiswydda'r Esgob caiff Arglwydd Salisbury y cyfle i benodi yr Arch- ddiacon Howell, un o'r bregethwr mwyaf galluog yn Nghymru. Mae yn bosibl hefyd y bydd Esgob Llan- daf yn ymddiswyddo, gan ei fod ychydig hynach nag Esgob Tvddewi, ac wedi ei eni yn 1821."
Rhyddfrydiaeth yn Nyffryn…
Rhyddfrydiaeth yn Nyffryn Maelor. Nos Iau, cynaliwyd cyfarfod agofiadol Cymdeithas Ryddfrydol Rhiwabon. Y llywydd yw Mr. W. Pen Dennis; is-lywyddion, Parchn. J. Jones, E. M. Edmunds, W. Jones, J. Roberts, a Mr. H. f Jenks cadeirydd y pwyllgor, Mr. H. G. Halsey is-gadeirydd, Mr. G. Roberts trysorydd, Mr. F. Williams; ysgrifenydd, Mr. W. Williams. Cy- merwyd y gadair yn y "nfarfod cyntaf gan Mr. W. Pen Dennis, a thraddodwyd anerchiadau gan Mri S. Moss, J. Garside, T. Dicken, H. G. Halsey, ac eraill. Pasiwyd amryw benderfyniadau, un ohon- ynt fel y canlyn Fod diolchiadau gwresocaf y cyfarfod hwn yn cael ei roddi i'r holl weithwyr Rhyddfrydol yn Rhiwabon, trwy ymdrechion egniol y rhai y dychwelwyd Syr G. O. Morgan, gyda'r mwyafrif godidog o 1,784 yn A.S. dros Ddwyreinbarth sir Ddinbych." Yn yttod y cy- farfod cy^wynwyd ffon a phen aur i Mr. Pen Dennis, y Ilywydd, ar yr achlysur o'i briodas agoshaol.
I-;0;| Dau yn Boddi yn Llandudno.
;0; Dau yn Boddi yn Llandudno. DDYDD Iau, aeth pump o fechgyn yn ngwasanaeth y Llythyrdy, Llandudno, i ymdrochi ger Conwy. Mentrodd dau ohonynt-Joseph Hobson ac Arthur Allmann--yn mhellach na'r lleill, a chan fod y llanw yn dyfod i mewn ar y pryd gwelwyd eu bod mewn perygl. Nofiodd bachgen o'r enw John Owen atynt, a bu agos iddo lwyddo i achub Hobson ar draul colli ei fywyd ei hun yn yr ymgais. Gorfu iddo ei ollwng, a chyn i gynorthwy pellach gyr- haedd boddodd Allmann a Hobson. Cafwyd hyd i'w cyrph yn y prydnawn. Yn y trengholiad dran- oeth dychwelodd y rheithwyr ddyfarniad iddynt foddi'n ddamweiniol, a phasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'u teuluoedd. Hysbyswyd fod y traeth lie boddodd y bechgyn yn beryglus. fod byrddau yn hysbysu hyny wedi eu gosod i fynu, ond fod y Dirprwywyr Eglwysig wedi bygwth cwrs cyfreithiol os na symudid hwy. Hyny a wnaed gyda'r canlyniad difrifol a nodwyd. Pasiwyd pen- perfyniad yn galw ar y Rhaith Plwyfol a'r Dir- drwywyr i ail osod y byrddau.
Y Dirwasgiad Amaethyddol.
Y Dirwasgiad Amaethyddol. BARN Y PRIF WEINIDOG SALISBURY. Anfonodd 105 o aelodau Ty'r Cyffredin ddeiseb at Arglwydd Salisbury yn galw ei sylw at y dir- wasgiad amaethyddol ac yn argymhell fod mesurau yn cael eu mabwysiadu i'w leddfu mor fuan ag y gellir, a dyma yr ateb a gafwyd oddiwrtho Cyfeiria y ddeiseb mewn iaith bendant, ond iaith yn anffodus nas gall fod yn ormod felly, at sefyllfa ddifrifol amaethyddiaeth. Diangenrhaid i mi ddweyd fod Llywodraeth ei Mawrhydi yn edrych gyda phryder dwfn a chydymdeimlad mawr ar y sefyllfa bresenol, ac yn gwbl ymwybodol o ganlyniad hyn ar ddiwydianau eraill y deyrnas hon. Cyn yr etholiad, dangosais i'r etholwyr, rhag ymddangos fel yn addaw mwy na allem gyflawni, mor gyfyng- edig oedd gallu y Llywodraeth i ymwneud a dir- wasgiad o'r fath ond cydnabydda', wedi gweled y llaw-nodau wrth y ddeiseb hon, mai eu dyledswydd yw gosod unrhyw gynygion sydd a'u hamcan i wella'r sefyllfa yn rheng flaenaf deddfwriaeth y Senedd er cael eu mabwysiadu mor fuan ag sydd bosibl." Ychwanega Arglwydd Salisbury v buasai yn gynamserol trafod manylion y It !nygion hyn yn awr.
-0-"Cymru i'r Cymry."
-0- "Cymru i'r Cymry." WRTH agor nodachfa yn Ffestiniog ddydd Iau, er p 9 budd Seindorf Arian Oakeley, gwnseth Mr W. Davies, Y.H., Caerblaidd, sylwadau ar y gri Cymru I'r Cymry." Sylwodd fod ychydig wall- gofiaid-yr oeddynt yn fychan eu rhif ac yn fychan eu dylanwad yn codi eu lief gan ddweyd Cymru ¡ i'r Cymry." Os dangosid person iddo ef oedd yn dyrchafu y waedd hon byddai iddo yntau ddangos iddynt berson a geisiai ddyrchafu ei hun. Po fwyaf anwybodus gallai gadw ei gydwladwyr, mwyaf yn y byd fyddai ei gyfleusderau i ymddyrchafu. Ond nid yn Ffestiniog y ceid y gri hon. Nid oeddynt yn cytuno a hi, ac ni fwriadent wneud dim a hi. Yr oeddynt, wrth gwrs, yn falch o'r Dywysogaeth, gyda'i mynyddau mawreddog, a'i dyffrynoedd prydferth, a Meiriony'dd oedd yn enwog am ei cherddoriaeth a glendid ei morwynion. Yr oedd- ynt yn falch neillduol hefyd o'u hardal eu hunain, am yr hon yr ysgrifenodd Lyttleton Gyda llyfr- gell dda o lyfrau a gwraig y gellid ei charu, gallai un fyw am oes yn Ffestiniog a thybio na fu yno ond diwrnod." Ystyrient John Jones yn aelod gonest, diwyd, duwiol, a thawel o gymdeithas ond yr oeddynt yn falch annghyffredin ei fod yn gyfranddaliwr o ffirm fawr John Bull a'i Gyf., yn I yr hon y ceid Saeson yn aelodau penaf. Cyfranogai'r Cymry gyda'r Saeson o ogoniant a thraddod- iadau yr Ymherodraeth Brydeinig, Yr* oedd ffyniant y Dywysogaeth a dedwyddwch ei phobl yn ddyledus yn gyntaf i'r (faith ei bod yn rhan o I Brydain Fawr, o'r boblogaeth lie y ceid Saeson yn y mwyafrif, ac at y rhai na wnaed apel erioed yn ofer. Ond cael achos teilwng, llifai rhyddfrydiaeth y bobl i-iiegys afon.
[No title]
o Canai Mr Ben Davies, y tenor Cymreig enwog, yn Llandudno nos Sadwrn ddiweddaf.
IByffryn Clwyd.
Byffryn Clwyd. SYLWAIS yr wythnos ddiweddaf mai tawel a di- gynhwrf oedd y Dyffryn, hedd swynol o fewn i'r holl fagwyrydd, y doethion yn ddigon doeth i beidio ymdderu a u gilydd, a phawb a phobpeth yn gytun heb neb yn tynu'n groes. Nid wyf yn ddigon o athronydd i esbonio pa fodd y gellir dofi elfenau cynhyrfus natur dyn hyd yn nod am wythnos, ond credaf fod a wnelo y tywydd, y tymhorau, a'r golygfeydd gryn la^er a hyn. Ceir rhyw ddylan- wad dytaw, ryfrin, yr adeg hon o'r flwyddyn yn iJ gyda Phl>"gain y dydd a chvsgodion y nos syrid yn gorphwys yn ysgafn "ar ysbrydoedd dyn, ac y mae'r cyffyrddiad yn tyneru ei holl natur. lawela r teimladau mwyaf cyffrous yn yr olwg ar yr haf yn taflu ei wen olaf, a'r haul yn ym- ddyeithrio wedi cael ei gwmni siriol a gwresog am wythnosau, ac wrth weled yr hydref llwyd a'i hwyrnos ddu yn ymrithio rhwng cangau y coed di- ddail, a'r awel yn siio galarnad leddf yn y llenyrch y bu'r blodau'n gwenu a'r llwyni'n glasu. Prudd- glwyfus yw'r olygfa, ond diolch am y pruddglwyf ambell waith i synfyfyrio am a fu ac i ystyr am a ddaw. Ond dyma oeddwn am ddweyd, fod y tawelwch dwfn wedi ei dori ddydd Gwener di- weddaf gan swn ergydion, a bron na thybiwn fod meibion dewr glanau'r Glwyd yn ymfyddino yn erbyn rhyw elyn a ddaeth arnynt yn an- nisgwyliadwy. Ond diflanodd fy ofn pan ddeallais mai Gwirfoddolwyr y sir oedd yn ymgais am wobr- wyon yn Mharc Castell Rhuthin. Yr oedd ugeiniau ohonynt yn oeisio rhoi the ball's all in the bull's eye," fely dywedai Rhuddfryn, un o fechgyn mawr y Dyffryn, er's talwm. Yr oedd y gwobrwyon yn werthfawr, a dywedir fod y saethu yn rhagorol hefyd, er fod ambell un yn ymddangos fel pe yn cau ei ddau lygad yn lie un neu yn feddianol ar lygad croes gan mor bell o lygad y tarw yr anelai. .j Hit a miss oedd hi i gyd ond pe deuai gelyn i r wlad hon gellid cael catrawd gref vn medru trin art yn y sir hon. Ruth a Naomi.-Cymerodd digwyddiad hynod le yn mhlwyf Llanfwrog, Rhuthin, yr wythnos ddi- weddaf yn cyfateb i'r gwirionedd, Lie y byddych di farw y byddaf finau farw, ac yno y'm cleddir," yn hanes Ruth a Naomi o wlad Moab canys cladd- wyd dwy wraig o'r enwau uchod yn yr un fynwent —Ruth Hughes o'r Elusendy a Naomi Jones, Erwaspwrn. Gais at Hunanladdiad.-Nos Fercher, ceisiodd hen wr dros 80 oed, o'r enw William Durkin, Denbigh Road, Llilnelwy, gyflawni hunanla idiad trwy dori ei wddf ag ellyn. Gwelwyd ef mewn pryd, a llwyddwyd i dynu yr offeryn peryglus o'i law, ond nid cyn iddo wneud archoll ddofn ar ei wddf. Aed ag ef i Wallgofdy Diabych. Yfed ar y Sid.—Yn Ynadlys Rhuthyn ddvdd Llun, cyhuddwyd Peter Evans, Glvndwr Inn Mwrog Street, Rhuthyn, o werthu diod ar y Sul, Gorph. 28ain. Mewn amddiffyniad dywedai fod cyfaill wedi galw yn y ty i fyned am dro gydag ef ac er mwyn iddo gael cyfle i ffarwelio a bach- j°f^j -^n §adael y dref dranoeth. Rhodd- odd ddiod iddynt i'w yfed tra yn aros iddo ef fod yn barod, a daeth yr beddgeidwaid i mewn ar v pryd. Dirwywyd ef i 20s a J5s o gostau, a rhodd- wyd caniatad iddo apelio yn erbyn y dyfarniad. Y Llys Trwyddedol.-Cynaliwyd y llys blynyddol hwn ddydd ddydd Llun. Hysbysodd yr Arolygydd Jones fod 68 o dai trwyddedol yn yr ardal, a chan nad oedd y boblogaeth ond 10,199, yr oedd un dafarn ar gyfer pob 156 o bersonau. Er y llys trwydded >1 diweddaf, gwysiwyd 45 am feddwi, cynydd o bump cyhuddwyd 22 o fod mewn tai trwyddedol ar oriau gwaharddedig, ac euogbrofwyd 21. Catodd 5 o drwyddedwyr eu cyhuddo, a 4 eu dirwyo. Yr oedd am wrthwynebu adnewydrlu. trwyddedau'r Boot Inn, Clwyd Street; White Bear, Well Street, a'r Cross Foxes, Llanarmon Wedi ystyriaeth gwrthodwyd adnewyddu trwydded y Boot lnn; gohiriwyd achos y White Bear; a phenderfynwyd adnewyddu trwydded y Cross Foxes, gan rybuddio'r tenant i fod yn fwy gwyliad- wrus yn y dyfodol. Adnewyddwyd yr holl drwydcedau eraill.
--:0:--Dr. Clifford yn Ffestiniog.
-0: Dr. Clifford yn Ffestiniog. YR wythnos ddiweddaf, bu'r Parch Dr. Clifford, gweinidog enwog eglwys Westbourne Park, Llundain, yn aros am rai dyddiau gyda Dr, Evans, Llysmeddyg, Ffestiniog. Ymwelodd gohebydd ag ef yno er cael eu farn ar sefyllfa wleidyddol y dydd. Priodolai orchfygiad y Rhyddfrydwyr i'r achosion canlynol:- 1. Absenoldeb Mr. Gladstone o'r rhengau Rhyddfrydol. Dyna'r rheswm am y ditfyg brwd- frydedd, a phe buasai ef yn flaenor y blaid, nid oedd amheuaeth na cheid undeb nerth, ymroddiad a buddugoliaeth. 2. Marwolaeth y Cardinal Manning, yr hwn bob amser oedd yn gefnogydd cadarn i ddiwygiadau dirwestol a chymdeithasol. Cymerodd y Cardinal Vaughan, ei olynydd, gwrs hollol wahanol, ac felly collwyd y bleidlais Babydd- 01. 3. Y ffaith fod yr arweinwyr Rhyddfrydol wedi rhoddi pwys ar adranau neillduol o'r rhaglen yn lie ei chymeryd yn ei chyfangorph. Nid oedd- ynt yn unedig ar un mesur a gal wad ymarferol ac uniongyichol am dano. Pleidiai Argl. Rosebery ddiwygiad Ty'r Arglwyddi; daliai Syr Wm. Har- court yn dyn at Ddewisiad Lleol ac ni ollyngai Mr John Morley ei afael ar Vmreolceth. 4. Y ffaith tod holl glerigwyr y wlad wedi ymgyngreirio- yn ein herbyn oherwydd fod Didgysylltiad a Uadwaddoliad ar y rhaglen. 5. Ymgyrch y tafarn- wyr, y rhai gan dybied fod gobaith eu helw yn y glorian, a wuaethant eu goreu yn erbyn y blaid oedd ar ddwyn Mesur Dewisiad Lleol yn mlaen. Wrth gyfeirio at y dyfodol, sylwodd y rhaid mabwysiadu yr awgrymiadau a ganlyn er cael llwydd :-1. Cadw at yr arwyddair—Un mesur ar unwaith, a rhoddi holl nerbh y blaid yn ffafr y cyfryw fesur, pa beth bynag fyddo. 2. Mynu undeb a chydweithrediad perffaith yn holl rengau y blaid. 3. Perffeithio y trefniadau droa yr holl wlad, fel pan ddel etholiad y bydd y wlad yn barod i'w wynebu. Talodd deyrnged uchel i Mr Tom Ellis, A S gan ddweyd fod clod mawr yn ddyledus iddo fel Chwip am y modd egniol, gwladgarol, medrus a gwyliadwrus y rheolodd y mwyafrif bychan oedd at ei alwad. Gwaith anhawdd neillduol oedd hyn a gwnaed ef yn ysplenydd ganddo, a Ilawenhui y gwr parchedig fod Meirionydd wedi gwerthfawro/i ei wasanaeth i'w wlad ac wedi ei an, 'on i'r ^eQ->dd f892 °nd dWy bl6idlais llai na§ ya etholiad
[No title]
-0- Mae Mr Frank Edwards wedi dat**n ■••«d- rwydd i ymgeisio eto dros sir Faesyfed am fod Gym- deitnas Ryddfrydol y sir wedi gofyn iddo.