Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Rouw yn y Senedd.
Rouw yn y Senedd. LLAWER row fu yno erioed, ond yr oedd y Rouw a ddygodd Mr. Herbert Roberts yno nos Fercber dipyn yn wahano!. Gofynai Mr. Roberts i'r Ysgnfenydd Cartrefol, os oedd ei sylw wedi ei alw at waith ynad o'r enw Mr. W. T. Rouw, Rhnthin, yn gwrthod arwyddo gwys yn erbyn un o'i aymydogion am feddwi. Ateb- odd Syr M. White Ridley ei fod wedi clywed ac 1 wedi ymholi i'r mater, a chael na ddarfu Mr. Rouw wrthod yti bendant, ond dweyd wrth yr heddgeidwad y baasai'n vell ganddo i rhyw ynad arall gyflawni'r gorchwyl. Nid oedd awydd beio'r ynad tosturiol yn nhon lla's y Gwe;nidog newydd, gan iddo ddefnyddio ymadroddion tebyg i na pharodd y gwrthodiad ddim an- hwylusdod," ac na lnddiwyd gweinyddiad cy- fiawDder yn y gradd lleiaf gan ymddygiad an- lighyffredin. Felly, terfynodd y row yma fel lawer o'i blaen mewn tawelwch Bardd mwvaf y Cymry- Pwy ydyw ? Ebai rhai D. ab Gwilym, eraill Tudur Aled, a'r trydydd Goronwy, Pantycelyn, Dewi Wyn, Hiraethog, Emrys, Ceiriog, Islwyn, -pawb a i farn ond yn ol un gohebydd yn Y Drych, EBEN FARDD, heb os nac onibai. Yn ol gohebydd Y brych prif ragoriaetbal1 Eben ar feirdd eraill Cymru ydoedd (1), ei fod "yn fardd gwreiddiol iawn;" (2), "yn ddyn gwy- bodus iawn j" ac yn (3), nodweddid ei awen gan arucbeledd neillduol. Rboddir engreipht- ian i brofi'r honiadau tichod, yn benaf allan o'r Bryddest ar yr (, A'lgyfGdiad." Y mae'n bwnc nodedig o ddyddorol, a phriu y credwn fod y Uithiau hyn yn penderfynu'r mater. Yr Eisteddfod mewn Cadwynau BYCHAN ydyw fysyniadamy drychfeddwl newydd u gael Siarter Frenhinol i'r Eisteddfod Geued)- aethol. Drychfeddwl newydd, tforsytb Yr oedd o'n poeni meddwl yr hen frawd gwyneb- drist hwnw Ab Ithel ddengain mlynedd yn ol; ac y mae rhyw gocosyn neu gilydd yn caal twtsh o'r clefyd ('' newydd yn ei dyb ef) bob dwy flynedd neu dair. Gofynir barn gwyr cwbl aumhrofiadol ar y ddoetbineb o wneud cais am y fraint anmheus hon yn mysg eraill, gofynwyd i Mr Gladstone, ac yn rhesymol efe a atebodd nad oedd efe yn gymhwys i roi barn arno. Sefydliad gwerinol ydyw'r Eisteddfod, gwerin Cymru a'i cododd ac a'i piau ac mewn hualau brenhinol hi a gollai ei nodweddion cenedlaethol a gwerinol. Y Cvnhauaf. Y MAE'R bladur a'r cryman (nage, y peiria/iau lladd a medi) ar en llawn waith y dyddiau hyn. Am y bladur a'r cryman a'r ffust, y maent bron wedi eu diofrydn i'r un galanasdra a'r ckr llusg y soniai'r Hen Deiliwr mor dosturiol am dano rai wythnosau yn ol. Cynhauaf gryn lawer yn ysgafnach na'r cyffredin ydyw'r un presenol, yn enwedig y gweoith, yr hwn, medd ystadegaeth, sydd 37 ysgafnach na'r cyfartaledd, ac y mae'r haidd a'r ceirch hefyd lawer ar ol. Ychydig o wenith a hauir y blynyddau byn, a'r ychydig x hwnw yn beoaf er mwyn y gwellt; canys prin y mae'r gronyn yn werth ei dyfu pe ceid y tir am ddim. Haidd bragu, gyda bendith, sy'n talu oreu o ddim grawn er's blynyddau bellach. Clywsom rai yn ddigon beiddgar i feio'r ffarmwr am godi baiddgan wybodmaii wneud diod feddwol y defn- yddid y grawn. Ond a welsoch chwi erioed grydd digon dirwestol i wrthodgwneud esgidian idafarn- Wr, nen deiliwr rby lwyrymwrthodol i ddilladu neu brintar rhy gydwybodol i argraphu hysbysiad y bydd y dafarn a'r dafarn yn cael ei hail agqr "for the sale," &c. ? Mae eisiau cyson- deb befo peth fel hyn, ac y mae'r crefftyddion yn llawer rhy barod i neidio i ben y ffarmwr, a'i feio am yr hyn nid ydynt hwy ddieuo, oliono eu hunain. Gofynais y diwrnod o'r blaen i hen wr pa fodd yr oedd ef yn cyfrif am y fath doraeth aruthrol o bob math o ffrwythau oedd ar goed eleni Dyma ei atebiad yr ydym i ddiolch i'r gauaf Oer a gawsom. Yr oedd yr hefch hir a cbaled hwnw yn lonawr a Chwefror yn gwasgu ar fywyd y coed ffrwythau ac yn ei gadw i mewn, fel pan ddaeth y gwanwyn a'r baf, yr oedd yn gallu ffrydio allan gyda nerth oedd yn troi yn y pen draw yn ffrwyth anarferol ar eu cangau. Kid wyfjyn meddwl imi glywedy rheswm o'r blaen ond dywedai'r hen wr ei fod yn ddigon gwic, ond ini gael oerni mawr a maith yn ei amser cyn i'r coed flaguro, fod cynhauaf anarferol 0 ffrwythlawn ar y coed bob amser yn canlyn. Dyna oedd ei brofiad ef, a dyna glywoid gan ei dad o'i flaen. Y Cae Gwenith Y MA.E'R ddau Hir a Thoddaid canlynol yn am- serol, a cbyda'r pethau tebycaf i farddoniaeth a welais fawr erioed mewn cynghanedd. Yn ol yr j-jyn a ddywed y cyfaill a'm cynysgaeddodd a hwy, yr oedd yr olaf ohonynt yn fuddugol mewn Eisteddfod yn Adwy'r Clawdd yn dyn at ddeu- gain mlynedd yn ol: — A'i theg Faes Gwenith, gwefus gu anian, I dreiddiawg eisiau y byd rydd gusan Arlwya oriel ar wiail arian A manna nefol o'i mewn yn hofiao Awel o'i fysg rydd lef fan-" gwel law I@r Yn helaeth gofio'r ddynoliaeth gyfan. Gwitym Gowlyd. Llyna gae gwenith yn llawn gogoniant, Awel Awst hynaws ei frig lwys donant, Yn wyn a gwridog ei wenyg redant, Yn ail i foroedd o aur lifeiriant Tyr'd, y dyn, t raw dy dant,-gan ryfeddu Wel d iJuw'xi ei abervnu i'r wlad yn borthiant. --l'alie,sin o Eifion.
[No title]
:0: —; Stanley Weyman.—Y mae'r nofelydd hwn, wr Th°. 1led Gockade," ac amryw nofelau FoWogaidd eraill, wedi cymeryd Plas Llanrhudd, ger Rhuthin, ar brydles am dair blynedd.
O'r De.
O'r De. MAE cor LlanelIi-côr yr Eisteddfod ddiweddar. wedi penderfynl1 parotoi gogyfer a. chystadlu yn Llandudno; nid yw yn wybyddus hyd yn hyn beth wna Rhymni a Dowlais os da.w y ddau yov hyny i'r maes, wel, bydd yno le poetb, a iweyd y lleiaf. Os y deil cor Rhymui gyda'i ilydd a pharbau i lafurio—efe yn fuan fydd y :or gore yn Ngbymru. —o— Parheir i feio'r pwll lie y rhoed y beirn- iaid yn Llanelli. Gwelais ysgrif yr wythnos ddiweddaf gan Maelgwyn yn ei gondemnio yn ddiarbed. Dichon y bunsai bod yn nes i'r corau lie y gallesid clywed pob saiti yn well a gwylio pob symudiad beri i'r dyfarniad fod yn wahanol i'r hyn ydoedd. Cofia llawer oedd yn bresenol mai arwydd o anfoddlonrwydd ddaeth oddiwrth y dorf fawr pan ddywedoddf Syr Joseph fod y wobr i'w rhanu. Go ddoniol hefyd oedd sylw un o'r beirdd pan y cenid y "Danchwa." Bachan," meudai un wrth wrando'r canu, "dyma explosion." "Ie," meddai'r llall, "a'r beirmaid yn y pwll —0— Yraddengys, yn ol llytbyr o'i eiddo, nad yw Syr Lewis Morris, y bardd o Benybryn, yn ffafr cynal yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol. Dadleua fod yr excitement y fath fel nad yw yn iach i'r genedl i gael ei chadw yn ei ganol yn barhaus. Fel y mae pethau yn bresenol cedwir y wlad yn ferw o hyd, ac y mae hyn yn debyg o öffeithio yn niweidiol yn y dyfodol yo ol ei farn ef. Wn i ddim wir, mae natur Cymro rwsut yn gofyn am frwdfrydedd parhaus. -0- Yn ngornel j sgoldy, un noson yr wythnos o'r blaen, clywais Dr. Pan Jones yn areithio ar Landlordiaeth,—i gynulleidfa gref. ddeallgar, frwdfrydig. Araeth ragorol yn shwr—mewn hwyl. Mae'r cwestiwn yn un dyryslyd yn sicr ac anodd i'w weled yn glir, a'i weitbio allan. Ond mor sicr a hyn mae'r egwvddor reit gan y Doctor. Yr oedd ganddo gyfaill o Sais hefyd, amlwg fod hwnw'n deall ei bwnc, ond nid yn deall y Cymry. I gynnlleidfa yn ein cymoedd ni yma, os am rywfaint o fynd-wel, Cymro am dani. -0- Mae'r fyddin fu'n cerdded drwy'r De yma, bellacb yn ei galar. Billy wedi marw." Dyna hysbysid mewn llythyrenau breision yn ypapyre yr wythnos ddiweddaf. Nid oedd Billy yn ddim mwy na llai na'r afr berthynai i'r fyddin. Bu llawer o sylwi ar y creadur. Nid Cymro ydoedd, fel y ce;sid dweyd. Bu farw yn Plymouth, o'r rhiwmatis—wedi gorphen ei thaith. Tueddir fi i aralleirio pedair llinell o gan Ceiriog i Geffyl yr Hen Bregethwr er cof am dani :— 'Rol gorphen teithio, gorphwys wnaeth Heb dd'wedyd gair, na bw na ba Cyrhaeddodd ben ei thaith, ac aeth Lle'r aiff y geifr da. —o— Mae'r gweithwyr tyn yn Llanelli wedi enill y frwydr Dechreuant weithio yr wythnos hon ar hen bris '74. Dyna'r pris yn nawr yn y rban fwyaf o'r gweithfeydd, ond ofnir na& gall br;r- ban. Bydd y farcbnad yn llanw'n union, ac o hyny aiff y gweithiau i fethu talu i'r meistri yna daw cais am ostyngiad eto. Daw cyn bo hir -yna streic. Yna colli'r fasoach o'r wlad. -0- Clywais i ryw frawd pan yn siarad mesvn cyn- hadledd yn Nghyrdde Undeb Pwllheli, alw y Parch R. Thomas, Tabernacl, Lerpwi, yn Mr. Thomas, Glandwr, ar ddamwain. Ymddengys y bydd yr enw roddwyd arno fel "slip of the pen" yn ffaith cyn bo hir. Ma gwyr y De yn gobeithio hyny yn fawr beth bynag. —o— Mae'n debyg fod rbywrai wedi ceisio ameu mai nid y Parch J. T. Job oedd yr ail ar y gadair yn Llanelli. Ac i gyfarfod a'r amheuaeth hono cyhoeddodd Job yn y Darian fod ganddo lythyrau o dan law y beirniaid yn mynegu yn glir mai efe oedd yr ail. Nid oes doubt i fod mwy. Ran hyny nid oedd neb yn doubto ond Wmffra Huws. Ond dichon wedi'r cwbl y cedwir gormod o dwrw yn nglyn a'r ail a'r trydydd, &c., gan nad oes gan yr Eisteddfod yr un gydnabyddiaeth i'w roi i'r naill na'r llall ohonynt. SOUTHMAJS.
: o: IHawl y Bob! i Cyttiroedd.
o: Hawl y Bob! i Cyttiroedd. YN Nhy'r Cytfredin, nos Fawrtb, cynygiodd Mr T. E. Ellis fod cyfrif yn cael ei roddi o dreth yr incwm dan adranau A, B, a D, yn nghyda chyf- answm yr eiddo a'r elw drethwyd yn mbob sir yn Mhrydain Fawr am bob un o'r pum' mlynedd diweddaf, y gydmariaeth rhyngddynt a'r blyn- yddau blaenorol, a gwybodaeth gyffelyb hefyd am y Werddon. Yn y ddadl ar y bleidlais i roddi 11,472p. i Swyddfa Coed a Fforestydd, dygodd Mr Bryn Roberts ymddygiad awdurdodau y swyddfa at rai yn dal tir mynyddig yn Nghymru i sylw. Yr oedd y bobl hyn wedi dod yn berchenogion y cyttiroedd hyn trwy iddynt en diwyllio 11 am flynyddau maith, end yn awr ceid y Goron yn hawlio llawn werth y cyfryw gyttiroedd. Mr Hanbury a atebodd mai yr unig gwyn oedd gan Mr Bryn Roberts oedd fod y Goron yn gwrthod gwerthu tir ar ffiniau y chwareli. Os can- fyddai fod y rhenti yn rhy uchel, byddai iddo ohebu a'r Dirprwywyr.
--0-Marwolaeth Ddisyfyd Cymro…
--0- Marwolaeth Ddisyfyd Cymro yn Lerpwl. Nos Fawrth, hysbyswyd heddgeidwaid Lerpwl o farwolaeth ddisyfyd Mr R. W. Roberts, yr hwn a gariai fasnach yn mlaen fel pawnbroker yn 287 a 289, Crown Street. Ymddengys fod y trancedig gyda dyn arall mewn tafarn ar y noson a nodwyd., pryd yr aeth yn ymrafael rhyngddynt. Honir fod Roberts wedi taraw y dyn, ac iddo yntau roddi dyrnod yn ol. Wedi dyfod o'r dafarn, disgynodd Roberts yn farw ar yr heol. Credir ei fod yn dyoddef clefyd y galon, a bod y cyffro wedi dwyn hwnw arno gan achosi ei farwolaeth. Mae'r dyn roddodd ergyd iddo yn y ddalfa. Brodor o gymydogaeth Rhyl oedd y trancedig, ac oddeutu 40 oed.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.i
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. ÐVlIfA dawelwch eto ar ol i-iiiri a swn Eisteddfodau Awst. Bu corau a datgeiniaid y dyffryn yn ffodus iawn, a daethant a 11a o wobrwyon adref. Dyna got W. M. yn myu'd a'r maen i'r wal yn Steddfod Corweu, ond doedd dim llawer o ddiolch iddynt chwaith am nad oedd neb yn tyr.u'r dorch yn eu herbyn, ac mae'r ae'odau yn cerdded mor dorsyth ac yn edrych gan falched ag oedd Samson es talwm pan laddodd y Philistiaid hyny a gea asyn. Goheithio na wnant foddloni ar y fnddugoliaeth gawsant, oblegyd mae W. M. yn disgwyl gwneud gwrhydri gyda nhw eto. Dyna Miss Wright o'r Cefn wedi curo lluaws gyda'i chor merched yn Steddfod Aberystwyth, a chor meibion G. W. Hughes wedi cael rhan o'r ysbail, er i gor mawr y coliars 'ma gael curfa dost gan hogia chwarelau Ffestiniog. Yn wir, mae nhw'n haeddu cael eu llongyfarch i gyd, nid yn unig am enill ond hefyd am gystadlu. Lie 'roedd cor Giotb tybed tua mis Awst yma ? Yden nhw ar eu holidays neu wedi myn'd ar streic, neu be ? Gadewch i'r wlad glywed eich llais, gerdaorion Acrfair. Dydd Llun, cynaliodd y Saeson 'steddfod yma. Mi wyddoch o'r gore bedi 'steddfod nhw. Ceffylau a jocis "y'n cael yr holl wobrwyon, a thafarnwyr a hapchwareuwyr sy'n cael yr holl elw. le, siwr, yr oedd rasus Gwrecsam ddydd LIuo, a chanoedd o ynfydion wedi dyfod i'w gweled ac i wario eu harian a llygru eu cymeriadau. Ofnaf fod lUwer o G < mry yn eu plith. Gwelais ganoedd yn feddw, ac yr oedd eu rhegfeydd a'n llwon yn rhwygo'r awyr. Mae'n biti na ellid gwthio yr hen dref feddw yma gyda'i harferion a.'i moe3au Seisnig dros ffiniau Clawdd Offa i ochr Lloegr. Gwaradwydd ar Gymru yw fod tref mor isel ei chymeriad o'i mewn, ac os bydd Sais neu Wyddel yn euog o ryw drosedd yma, ar Gymru lan y rhoddir y blotyn du. Mae'r dref fel rhyw Sodom, yn nghanol y gwastad edd, ac elfenau dinystr yn ymgynhyrfu o'i mewn. Er hyny, ceir amryw o deulu Lot yma, a Chymry yu eu plith, yn ceisio a allant i buro yr awyrgylch, ac i lanbau yr heolydd o'r llygredd a'r pechodau anfad geir ynddi. Dydd Llun, bu ynadon y dref yn adnewyddu trwyddedau'r t-ifarnau yma. Dywedai y Dirprwy- Brif-gwnstabl Yaughan fod yma 60 o'r tai hyn yn y fwrdeisdref, a rhwug trwyddedau'r grocers, ceid 90 o bersonau yn gwerthu y diodydd sy'n achos cymaint o drueni. Yn ystod y flwyddyn, cyhudd- 240 o bersonau am feddwdod, a saith o dafarnwyr am werthu diodydd yn annghyfreithlawn. Pender- fynodd yr ynadon adnewyddu yr holl drwyddedau gyda'r eithriad o ddau y rhai ohiriwyd i gael ystyr- iaeth bellach, ac er fod amryw geisiadau wedi eu gwneud am drwyddedau newydd, darfu i'r ynadon wrthod eu caniatau. Ddyddiau Sul a LIuD, cynaliodd Wesleyaid Jerusalem, Gwrecsam, eu eyfarfocl pregethu blyn- yddol. GwasanAethwyd gan y Parchn William Roberts, Bangor, D. 0. Jones, Llanrhaiadr, a David Jones (Druisyn). Caed pregethau nerthol, cynull- iadau da, ac yr oedd y canu yn bur wych.
-0-O'r Twr.
-0- O'r Twr. [Gan TREMIDYDD.] YR wythnos ddiweddaf, aeth 17,000 o wasanaeth- yddion melinau Dundee, Ysgotland, ar streic oherwydd na chodid 5 y cant yn eu cyflogau. Darfu i un o'r cwmniau mwyaf ganiatau hyn, a dechreuodd y dwylaw weithio ddydd Llun, ond y mae miloedd eto yn segur am na chant y cyflog a ddymunant. -0- Yr wythnos ddiweddaf tynid sylw'r wlad at redegfeydd ar y reilffyrdd rhwng Llundain a Ab--r- deen, pan gystadlai cwmniau y West a'r East Coist, am y clod o fyned gyflymaf o'r naill ddinas i'r llall. Gadawodd y ddau dren o Lundain am ddau or gloch nos Fawrth, a chyrhaeddodd tren y West Coast i Aberdeen erbyn 4.58 fore Mercher, tra na chyrhaeddodd tren yr East Coast hyd 5.11. Llwyddodd y tren cyntaf i fyned bellder o 540 milldir mewn wyth awr a 58 munyd. Er hyny, tren y North Western a'r Caledonian Co. yw'r cyflymaf, gan iddo fyned 540 milldir mewn 538 o fynudau. Oaid yw hyn yn gyflymder aruthrol- milldir bob munyd, ac ychydig dros ben. —o— Daeth newyddion pellich i'r wlad hon o China yr wythnos ddiweddaf, yn hysbysu fod ymosodiad arall wedi ei wneudyn agosi Fu-Chau. Ymosodwyd ar orsaf genhadol Americauaidd gan dorf fawr wedi eu harfogi. Drylliwyd y capel a'r ysgol, ac archoll- wyd pedwar o'r brodorion yn greulawn. Dywedir fod y teimlad yn erbyn tramorwyr yn cynyddu yn y rhan hono o'r wlad, a'r bobl pan gyfarfydoant ddyeithrddyn ar yr heol yn ei gyfarfod a bygythion Danfonwyd catrawd o filwyr yno, ac nid oes hys- bysrwydd fod uu Prydeiniwr wedi ei lofruddio yn y cyffro diweddaf. —0— Parhau yn gyndyn i blygu i'r Galluoedd y mae'r Sultan, ac nid yw yn debyg y gwna ddim nes y gorfodir ef i amddiffyn y Cristionogion yn Armenia. Y mae wedi anfon atebiad i ga s diweddaf Llysgen- hadon Prydain, Ffrainc, a Rwsia, ond dywedir nad yw yn foddlawn derbyn y cwrs a awgrymir gan yr awdurdodau hyn. Danfonodd y Llysgenhadon yr ateb i'r gwahanol Lywodraethau, a disgwylir yn aiddgar am benderfyniad y cyfryw. —o— Gwlad derfysglyd, gyffrous, yw'r Yspaen. Der- byniwyd pellebyr o Madrid yr wythnos ddiweddaf yn hysbysu fod nifer o wermwyr yno wedi tori allan mewn gwrthryfel. Ar y cyntaf, brltwvchwy yr awdurdodau, ond casglwyd digon o blwyr 1 ddarostwng y terfysgwvr. Mewn tref or enw Chovar, dodwyd y maer yn y ddalfa gin y gwenn- wyr, ac yna aethant oddiamgylch gan ysbeilio ar bob Haw, a chreu difrod mawr. Gallodd y milwyr, fodd bynag, roddi terfyn ar eu hymgyrch. -0- Ymgynullodd Cvmdeithas Hynafiaethol Prydain eleni yn Launceston, Cernyw, ynunol a gwahoddiad gawsant gan y « Royal Institute of Cornwall. Yn mhlith y doethion a aethant i'r encilion hyn y roedd amryw Gymry. Treuliasant amryw ddyddiau i a,wydro ar hyd manau o ddyddordeb, ac i ymchwil am henafion a chasglu lien gwerm yr ardal. Arwein- iwyd hwy gan y Parch S. Tiering Gould. -0- Ddydd Mercher, agorwyd Reilffordd Drydanol Snaefell, mynydd uchaf Ynys Manaw. Cychwyna yn mhentref Laxey, saith milldir o Douglas, therfyna ar gopa'r mynydd, 2 000 o droedfeddi uwchlaw'r mor. Ar yr un cynllun a'r reilffordd ho-i y gwneir reilffordd y Wyddfa yn ein gwlad ni. —o — Torodd tan allan nos Sadwrn ger Pont Black- friars, Llundain, mewn ystordai yd, alIwyr losgwyd yr oil. Cyfrifir y goiled yn 200,000p. -0- Ddydd Sadwrn, ffrwydrodd peiriant uffernol" a ddanfonwyd i'r B3.rwa Alphonse de Rothschild yn nwylaw ei ysgrifenydd cyfrinachol yn Paris, a derbyniodd niweidiau tost. Nid yw'r sawl ddan- fonodd y peiriant yn y ddalfa eto, ond tybir mai gwaith Anarchiaid ydyw, a chedwir gwyliadwriaeth fanwl ar eu symudiadau. —o— Mae'r haint marwol-y cholera-wedi tori allan yn Japan, a chyfrifir fod 15,000 wedi marw ohono. —o— Trefnir i gynal cynadledd genedlaethol o Rydd- frydwyr ar y 29ain a'r 30ain o Hydref er ystyried y sefyllfa wleidyddol, ac er darparu at gwrs gweith- rediad y dyfodol. -0- Bywyd n berygl yw eiddo'r cenhadwr ar y goreu, end ymddengys fod brodorion tywyll-leoedd y ddaear wedi ymgynhyrfu yn ei erbyn yn ystod yr wytbnosau diweddaf. Gwyddom am y driniaeth a gafodd y cenadon yn China, a'r wythnos ddiweddaf daeth y newydd fod un o genhadon y Congo wedi cael ei ro,,i am feiddio datgan ei faro yn erbyn y dull afreolus y cerid pethau yn mlaen ganyr awdur- dodau. Nid yw enw'r cenhadwr na'r inanylion wedi cyrhaedd, ond mae'r L'ywodraeth yn gwneud ymchwiliadau i hyn, a diau y cosbir y troseddwyr. -(0)-
Ymdaith y Catrawd Cymreig.
Ymdaith y Catrawd Cymreig. ERBYN hyn, mae a ail oas Wt) li gwibio i'r gorpheaol er pan glywid swn udgorn rhyfel yn adsain rhwng clogwyni Cymru, ac y gwelid meib ein gwlad dan arweiniad Llewelyn, Glyndwr, a llu o'r hen dywys- ogion arwrol, yn gafael yn ngharn eu cledd i ymladd dros ryddid ac annibyniaeth. Llaw y gormeswr a fu galed arnom, ein gwlad a gymerth yn anrhaith, a meib y cedyrn a orchfygwyd. Nis gwyddom beth yw'r achos fod can lleied ar gyfartaledd o ,I -,iry yn ymrestru yn y fyddin Seisnig os nad y "y, ffaith fod casineb greddfol yu y Cymro at y genedl a ddygodd ein rhyddid oddiarnom, ac nad yw yn ngh^rs oesoedd wedi dysgu maddeu i'r Sais am yr hen elyniaeth fu'n achos iddo fyned dan iau estron. Fodd bynag a.m hyny, gwneir ceisiadau mynych yn ystod y blynyddau hyn i restra mwy o Gymry yn filwyr, a dyna'r rheswm fod amryw gatrodau wedi ymdeithio drwy ein gwlad, gan feddwi y gellir trwy v wisg goch a'r agwedd ddewr filwrol ddenu'r Cymro i gymeryd ei le gyda hwy. Yn ystod y mis diweddaf bu'r adran Gymreig (lst. Battalion Royal Welsh Fusiliers) ar ymdaith drwy Ddehendir Cymru. Tarias-mt yn y prif drefydd, a chafodd trigolion y rhanau gwledig fantais o'u gweled wrth fyned o'r naill fan i'r Hall. Cawsant clderbyniad brwdfrydig, a gwnaed gwledd groesaw- ol iddynt mewn llu o fanau. Yn mhlith y prif swyddogion ceid y Cadfridog Rowlands, sy'n byw yn nhawelwch godreu'r Eryri ger Caernarfon y Ca,dfridog Allan (y rhai fuont yn Rhyfel y Crimea), y Mil. Quirk, a'r Mil. Goldsmid. Efallai mai dau amgylchiad nodedig a gymerodd le yn h;iiies eu hymdaith, sef marwolaeth y bwch gafr a'u blaen- orai, henafiaid yr hwn fel y milwyr Cymreig fu yn preswylio yn nghilfachau mynyddau Cymru, ond erbyn hyn sydd wedi gadael y creigiau ac yn gwneud eu cartref mewn llenyrch eraill. Yr am- gylchiad arall oedd yr hwn gymerodd le yn Mhrifeglwys Llandaf brydnawn Gwener yr wyth- nos cyn y ddiweddaf. Ymgynullodd miloedd i'r Llan esgebed hwnw er gweled y baneri milwrol fu'u chwyfio ar feusydd gwaedlyd y Crimea yn cael eu rhoddi ar allor yr Eglwys Gadeiriol fel offrymau hedd. Llanwyd yr Eglwys gan y milwyr a'r dorf, ac mor fuan ag y dechreuwyd y gwasiinaeth wele'r ddau Gadfridog yn cludo'r banerau a chyda theim- ladau drylliog yn eu cyflwyno i'r Archddiaconiaid Griffiths a Bruce yn y gangbell, y rhai a'u cyflwyn- odd i'r Cmon Roberts,a gosododd yntau hwynt ar yr allor. Wed'yn cynaliwyd gwasanaeth byr, a thraddododd y Canon Roberts bregeth ar Luc vii. 5, "Oblegyd y mae Efe yn caru ein cenedl ni." Dadorchuddiwyd maen offadwriaethol hefyd am y dewrion gollasant ei bywydau yn y rhyfel hwnw gan y Cadfridog Rowlands, a hufiwyd yr all or a'r maen gyda blodau. Cynaliwyd gwledd gyhoeddus ar ol hyn yn Llandaf a Chaerdydd, ac yr oedd amryw wahoddedigion urddasol yn bresenol. An- rhydeddwyd amryw lwncdestynau, a thraddodwyd amryw anercbiadau. Ddydd Llun cychwynodd y gatrawd yn ol Plymouth lie maent yn gwersyllu, a dywedir fod llu o Gymry wedi ymuno a hi yn ystod yr ymdaith. o —
Cymdeithasfa'r Methodistiaid…
Cymdeithasfa'r Methodistiaid yn Mangor, DECHRFUWYD gwaith y Gymdeithasfa hon nos Fawrth, pan y pregethwyd yn y Tabernacl, Twr- gwyn, Glanadda, a Princes Road. Yn mhlith y gweinidogion oedd yn bresenol, ceir y Parchn. Dr. Hugh Jones, Lerpwl Evan Phillips, Castell Newydd Emlyn William Thomas, Maesteg R. E. Morris, M.A., Gwrecsam; John Williams, Princes Road, Lerpwl; 0. J. Owen, M.A., Rock Ferry; J. Evans, B.A., Llanerch; H. Barrow Williams, Llandudno Robert Jones, Rhos D. Roberts, Rhiw, Ffostiniog W. S. Jones, M.A., Machynlleth; Griffith Ellis, M.A., Bootle; J. Pritchard, Birmingham; D. Jones, Lerpwl, See. Fore Mercher, cynaliwyd y gynadledd gyntaf, dan lywyddia.eth y Parch G. Parry, D. O., Carno. Daeth nifer lluosog o gynrychiolwyr yn nghyd.- Penderfynwyd cyfranu lOOp. at gynal yr ysgolion Protestanaidd yn sir Ffiint.—Ar gynygiad Mr. Robert Rowlands, Tremadog, penderfvnwyd cynal y Gymdeithasfa nesaf yn Beaumaris, Tachwedd 26, 27, a 28.-Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Syr Watcyn W. Wynn am ei haelioni yn rhoddi llain o dir i adeiladu capel arno yn Poatllogell, sir Dre- fald wyn.—Pasiwyd penderfyniad yn nglyn a. rheoleicldiad arian y cyfundeb yn rhoddi hawl i'r yinddirie 'olwyr fuddsoddi arian os bydd y person- au apwyntiedig gm y Cyfaifodydd Misol yn cytuno a hyny, Am 2 a 4 30 o'r gloch pregethwyd ar y maes, ac yn yr hwyr cynaliwyd cyiarfod cenhadol yn y Tabernacl. Bwriedir treulio dydd Iau fel y can- lyn-Am 8 y boreu, Seiat Gyffredinol yn y Taber- nacl. Mater yr ymdriniaeth fydd Y modd goreu i gynyrchu gweithgarweh cenha,dol yn luhobl leuainc ein heglwysi," y Parch. 0. J, Owen, M.A., Rock Ferry, i'w agor. Am 10, 2, a 5.30, pregethir ar y maes os bydd yr hin yn ffafriol, ac yu yr holl gap dau wedi'r oedfa olaf ar y maes.
[No title]
--0-- Bwiiedir cadi capql cotTadwmetbol i'r rMweddar Dr. Pritchard gan Fedvddwvr L'angolleo. v mae'r cyreillion hyn sr fedr cynal cynghordd mawreddog er casglu arian at yr amcan teilwng.