Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
rATHROFA PRIFYSGOL CYMRU ABERYSTWYTH. PRIF ATBRAW T. F. ROBERTS, M.A. CYNWYSA y cwrs o Addysg y p Irotoad angen- rheidiol am Raddau yn Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain, am Ysgoloriaethau yn Rhyd- ychen a Chaergrawnt, ac am astudiaeth feddygol yn y Prifysgolion hyn ac yn yr Ysgotland. Gall meibion a merched a dder ynir i'r ADRAN NORMALAIPD fyned trwy y cwrs gofynol at fod yn Athrawon ac Athrawesau Trwyddedig, ac ar yr un pryd barocoi am y gradd o B.A. neu B.Sc. Y mae y swm a dderbyniant fel Ysgolorion y Frenhines yn ddigon i'w cynal yn Aberystwyth am dymhor eu hefrydiaeth. Yn yr ADRAN AMAETHYDDOL cyfrenir yr addysg mewn Amaethyddiaeth a phynciau perthynasol sydd yn gymhwys i Amaethwyr, Goruchwylwyr Tir, Athrawon mewn Amaethyddiaeth, &c., a rhoddir parotoad ar gyfer Arholiad Cymdeithas Amaethyddiaeth Frenhinol Lloegr. Lletya y myfyrwyr mewn tai yn y dref, a'r merched dan arolygiaeth Miss E. A. CARPENTER, mewn neuadd eang wedi ei darparu ar eu cyfer. Cynelir Arholiad yn mis MEDI, pryd y cynygir nifer helaeth o Ysg loriaethau, rhai yn agored ac eraill yn gyfyngedig i Gymry. Am bob manylion ymofyner a T. MORTIMER GREEN, Cofrestrydd. Elteililau Athroipaeili Foesol," (Yr unig lyfr yn ein hiaith ar y gangen hon o wybodaeth). Pris is. Trwy y Post, is ic mewn llian, 1/6. Mas pawb sydd i ryw fesur yn hoff o olrhain Gwirioneddau. Ysgrythyrol yn rhwym o deimlo dyddordeb mewn A throniaeth Foesol. Danfoner at yr Awdwr, Rev. JOHN JONES, Tuebrook, LIVERPOOL AT Gymdeitqasau Darllen dartre f A Chyiijdeithasau Llenyddol. There are no more vigorous compositions in the whole field of Welsh Literature than Goronwy's Letters. The epistles con- tain a faithful transcript of Goronwy's life, his difficulties, his feelings, his passionate love of country, his enthusiasm for the Welsh language and literature. The Letters are couched in perfect idiomatic Welsh. JIail, Mehefin 21, 1895. Pris Swllt. Trwy y Post, Is. Ic. Llytqyrau Goropy Owen"; Tan olygiaeth Proff. J. MORRIS JONES, M.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. LERPWL Cyhoeddir gan I. FOULICES, 18, Brunswick Street Dim ond ychydig gopiau yn weddill. Gwaith Barddonol Eben Fardd, Am 7s. 6ch. Trwy y Pest, as. YR ydym wedi prvnu yr holl Stoc o Waith y Prif-fardd Enwog o Glynog, ac er mwyn clitio, gwerthir hwy wedi eu rhwymo yn hardd mewn llian am 7S. 6ch. yr un—tua haner eu pris ar y cyntaf. ISAAC FOULKES, 18, Brunswick Street, Lerpwl- PRIS SWLLT, Trwy Post ar dderbyniad Is. It c. 2 c T "CAN1ADAD ELFED." Ail Argraphiad yn awr yn barod. ALLAN O'R WASG, PRIS SWLLT, Trwy y Post, Is. ljc. 2 H TRI CHRYFION BYD," "PLESER A GOFID," OYBYDD-DOD ac OFEREDD Tair Antarliwt o waith T WM 0 41 N ANT. I FOULKES, 18, Brunswick St,, LIVERPOOL. Important Announcement. Q-WALIA SIOUSE. 8 & 9, Upper Wo,urn Place London, W C. u CHANGE oi PROPRIETORSHIP The above well-known Private Hotel is now under the immediate Superintendence of the new Pro- prietress, Mas. JONES, who hopes by persona attention to the Comforts of Visitors, again to make GWALIA HOUSE "A HOME FROM HOME.' Telegraphic Address—" ftwynva, London."
Cymru yn y SeneddI
Cymru yn y Senedd YN Nhy'r Cyffredin, ddydd Mercher, cyflwynodd I Mr Kimber gyfrifon Seneddol y gwahanol siroedd, a chododd Mr Lloyd George i wrthdystio yn erbyn gadael sir Fynwy allan o'r cyfrifon Cymreig. Y n ddilynol, hysbysodd Mr Kimber ei fod yn I hollol foddlawn i adael MLynwy yn Nghymru. TIROEDD Y GORON YN ARFON. Mr Bryn Roberts a ofynodd i Ysgrifenydd y Trysorlys a oedd Dirprwywyr Coed a Fforestydd wedi derbyn ceisiadau yn ddiweddar oddiwrth nifer o denantiaid y Goron yn Arfon gyda golwg ar brynu eu tyddynod a oedd y cyfryw dyddynod wedi eu hamgau a'u hawlio allan o gyttiroedd eyhoeddus, a'r adeiladau arnynt wedi eu gwneud tan y tenantiaid neu eu hynafiaid yn y lleoedd yny a oedd y Goron wedi gwario swm o arian, a pha faint, am wella'r tyddynod ac a oeddynb yn foddlawn i werthu y cyfryw eiddo ar yr amod eu bod i gael eu hadbrynu am yr un bris os byth y deuai galwad am hyny at amcanion chwarelyddol neu'r cyffelyb ? Mr Hanbury: Yn nghwrs y trefniadau i ad- newyddu tenantiaeth tir yn Arfon, yr hwn ar y cyntaf berthynai i argiwyddiaeth y Goron, ond na fa erioed yn gyttir cyffredin, gofynodd rhai o'r tenantiaid am ganiatad i brynu eu tyddynod, ond hysbyswyd na ellid caniatau y cais. Amgauwyd y tiroedd hyn, ac yn y rhan fwyaf o achosion mae'n debyg fod y tenantiaid wedi eu gwella; ond ni fu y tir erioed yn dir cyhoeddus, a rhoddid yr hawl i bori arno i'denautiaid yr arglwyddiaeth. Mae y tir a'r rhydd-ddaliadaeth yn awr, ac wedi bod bob amser, yn meddiant y Goron. Nid yw'r Goron yn oniongyrchol wedi gwario arian ar wella'r tyddynod, ond caniatawyd i'r tenantiaid ddal y tir am flyn- yddau lawer am rent bychan, yr hwn yn ddiwedd arach a godwyd, ond ystyrir y rhent yn deg yn awr ar derfyn 60 miynedd o amser y perchenogaeth cyntaf. Bu Dirprwywyr y Coed a'r Fforestydd mor annoeth 50 neu 60 mlynedd yn ol a gwerthu peth o'r tir yn yr un ardal. Bu raid iddynt ei brynu yn ol am bris llawer uwch. Gan fod yr ardal yn ganolfan y chwarelau, y mae prif fudd- iant y Goron yn y chwarelau. Yn marn y Dir- prwywyr, a chyda golwg ar ddadblygiad dyfodol y chwarelau, ni ddylai y Goron greu unrhyw fuddiant pellach yn y tir arall na phrydlssoedd, i derfynu pa bryd bynag y bydd cwrs dadblygiad y chwarelau yn galw am hyny. 0 dan yr amod hwn, cynygiwyd, &c mewn amryw achosion, derbyniwyd prydlesoedd o 21 mlynedd gan y tenantiaid. Nis gellir darparu teleran ad-bryniad, am yr arweiniai hyn i lawer o ddyryswch. Mr Bryn Roberts A wyf yn deall fod yr holl dir a werthwyd wedi ei ail brynu ac os na phrynwyd yr oil, pa faint? Mr Flanbtiry Ni ddywedais fod yr oil, ond cyf- artaledd neillduol ohono ond os bydd angen am "Wybodaeth bellach, hwyrach y rhydd y cwestiwn ar 1-iwr. Mr Bryn Roberts: Bydd i mi alw sylw at y cwestiwn yn yr Amcangyfrifon. CWYN YN ERBYN YNAD CYMREIG. Mr Herbert Roberts a ofynodd i'r Ysgrifenydd Cartrefol a alwyd ei sylw at achos yn ynadlys Rhuthyn, pan y rhoddwyd gwys am feddwdod yn erbyn un o drigolion y fwrdeisdref i gael ei har- wydd-nodi gan ddau ynad, sef Warden Rhuthyn a Mr T. W. Rouw, ac iddynt wrthod gwneud ar y tir eu bod yn gyfeillgar â theulu y cyhuddedig a oedd yn gyfreithlawn i ynad wrthod llawnodi gwfs ar y tir hwnw, ac a fyddai iddo wneud ym- chwiliad i'r achos ? Syr M W. Ridley Gwna.ethum ymchwiliad i'r amgylchiadau, ac fe'm hysbyswyd na ddarfu ond '11n o'r ynadon a enwyd wrtbod llawnodi'r wys, ac na ddarfu iddo ef wrthod yn bendant, ond yn unig ddatgan ei farn y buasai yn well i rywun arall Wneud. Ymddengys y teimlad hwn yn naturiol. Y DDIRPRWYAETH DiR GYMREIG. Mewn atebiad i Mr Herbert Roberts, dywedodd Mr Balfour ei fod yn ofni na chyhoeddid adroddiad y Ddirprwyaeth Dir Gymreig cyn diwedd y flwydd- yn hon neu ddeehreu'r nesaf. CYELOGAU'R SWYDDOGION. Yn y ddadl ar y Cyflenwad, cynygiodd Mr. Herbert Lewis fod cyflog y swyddog hwcw a elwir y Black Rod yn cael ei ddileu am nad oedd yn gwneud dim am dano. Gwrthodwyd y cynygiad trwy fwyafrif o 77. Cynygiodd Mr. Lloyd George fod cyflog yr Argl- Iwydd-Ystafellydd i gael ei ostwng lOOp., ond gwrthodwyd hyn eto trwy 172 yn erbyn 82. Mr. David A. Thomas a argymhellai fod mwy o argolygwyr glofeydd yn cael eu penodi. Addawyd hyn gan yr Ysgrifenydd Cartrefol diweddaf, a hyd- erai y byddai i'r presenol gario yr addewid allan. Cwynai yn erbyn yr arferiad o anfon bargyfreithiwr nil, feddai wybodaeth ymarferol am lofeydd i chwilio i mewn i achos ffrwydriadau. Yn Neddf Mwngloddiiu, 1887, dywedid y byddai i bersonau yn medru Cymraeg gael y flaenoriaeth felarolygwyr glofeydd yn Nghymru. Nid oedd am fabwysiadu yn holiol yr egwyddor o Gymru i'r Cymry," ond tnewn achos o ffrwydiad mewn glofa dylid cael Cymro i wneud ymchwiliad, labon hefyd a argymhellai y pwysigrwvdd o ychwanegu nifer yr arolygwyr. Nid oedd ond pedwar ar gyfer yr oil o Ddehpudir Cymru, ac nis gallai y nifer hwn wneud eu dyledswyddau yn etfelthiol. Gwyddai fod yr arolygwyr yn gwneud eu gwaith yn deilwng, ond ni byddai ymchwiliad yn deilwng o'r enw os na fyddai yn drwyadl. Cyn- "Un da fyddai penodi nifer o ddynion i waeud gwaith garwaf yr ymchwiliad. Gellid cael glowyr ymarferol at y gwaith hwn. Credai y byddai'r «anlyniad yn fuddiol, ac na fyddai'r wlad yn an- '°ddlawn i wario arian ar amcan felly. Mr. Lloyd Morgan a ddymunai wybod ar ba eg- wyddor y gweithredwyd wrth benodi. dim ond naw o arolygwyr. Achos wyd cryn lawer o siomiant pan wnaed y penodiadau'n hysbys. Syr M. W. Ridley a atebodd fod yr aroiygwyr ynorthwyol,25 mewn nifer, wedi eu penodi yn ystod y tair blynedd diweddaf. Byddai iddo wneud ymchwiliad i'r holl fater yn ystod yr hydref, ac yr eda yn ddiolchgar a.m y sylwadau wnaed yn ystod y ddadl er ei gynorthwyo gyda'r ymchwiliad. NWYDDAU TRAMOR. a.r Yn Nhy'r Cyffredin, nos Wener, bu dadl fywiog Werthiant nwyddau wedi eu gwneud mewn car- arau tramor yh y wlad hon. Mr Bryn Roberts wrthwynebai fod y cyfryw nwyddau yn cael eu gvvahardd, ar y tir fod gan y bob!, hawl i brynu eu ^yddau yn y farchnad rataf. Tueddai'r blaid ldwadol i ddyrchafu lief dros Fasnach Rydd, ac yr un pryd wneud i ffwrdd a'i hegwyddor. YSGRIFENYDD LLAFUR I GYMRU. Mr Lloyd George a ofynodd a oedd Bwrdd Mas- q I yn b&rod i benodi Gohebydd Llafur dros s ead Cymru, ac hefyd a oeddynt yn barod i gario allan eu haddewid wnaed y tymhor diweddaf, sef peidio caniatau i draethellau gael eu gwerthu na'u gosod heb roddi rhybudd yn gyntaf i'r awdur- dodau Ileol. Credai y dylai y Bwrdd brydlesu y traethellau i'r awdurdodau lleol. Cwynai hefyd fod arolygiaeth y pysgodfeydd yn cael ei esgeuluso. Mr Herbert Roberts a gwynai na wneid cyfeiriad o gwbl at sefyllfa amaethyddiaeth Cymru yn y Labour Gazette. Mr Ritchie a atebodd ei fod yn ceisio cael Ys- grifenydd Llafur dros Ogledd Cymru. Yn nwylaw yr awdurdodau lleol yr oedd gweinyddiad deddf y pysgodfeydd. Parth y traethellau, arfer Bwrdd Masnach oedd hysbysu yr awdurdodau lleol cyn eu gwerthu na'u gosod. Byddai iddo ystyriedy priod- oldeb o ganiatau prydlesoedd. Mr Lloyd George a ofynodd i'r Bwrdd gynor- thwyo i gael gwell porthladdoedd yn Nghymru. Mr Ritchie a ddywedodd nud oedd y Bwrdd yn arfer rhoi arian i wneud porthladdoedd, ond rhoddid benthycion i gwmniau lleol am swm bychan o log pan wncid cais am hyny. Pan geid achos gwirioneddol o angen am borthladdoedd, byddai iddo anfon arolygwr i lawr. Mr Herbert Lewis a ddiolchai am yr addewid. ADDYSG AMAETHYDDOL. Mr Herbert Lewis a gwynai na wariwyd digon o arian yn ystod y flwyddyn ddiwaddaf ar addysg amaethyddol yn Nghymru, ac na ddarperid digon ar gyfer y flwyddyn ddyfodol. Dangosai'r tystiol- aethau gerbron y Ddirprwyaeth Dir fod amaeth- yddiaeth Cymru yn dyoddef dirwasgiad difrifol a chredai fod hanes siroedd eraill yn dangos eu bod trwy addysg amaethyddol wedi cael cynorthwy sylweddol i liniaru y dirwasgiad. Yn Ngholeg Bangor gwnaed gwaith mawr, ac yn annunion- gyrchol yr oedd y cyfryw addysg wedi bod yn fuddiol i amaethyddiaeth. Cyfeiriodd at Finland, gyda phoblogaeth gyffelyb i Gymru, yr hwn le ychydig flynyddau yn ol oedd yn dyoddef dir- wasgiad adfydus, ond trwy ymdrechion y Llywod- raeth, ceid ffyniant yno yn bresenol. Dymunai wasgu ar y Llywodraeth bresenol i wneud cynydd sylweddol yn y rhodd i golegau amaethyddol Cymru. Mr Lloyd George hefyd a argymhellai fod y rhodd yn cael ei hychwanegu. Nid oedd y rhodd presenol, ond 800p. Mr, W. Long Dyna ein cyfartaledd. Mr George a dywedai na ddisgwyliai i'r Trysorlys wneud addewidion yn bresenol, ond ar yr un pryd yr oedd y rhodd yn hollol annghyfartai. Cwynai hefyd nad oedd arolygwr teithiol Bwsdd Amaeth- yddiaeth yn deall iaith y bob!. Canlyniad hyn oedd fod annghyfiawnder mawr yn cael ei wneud. Dywedwyd wrtho am lu o achosion y rhoddodd yr arolygwyr orchymyn i ladd gwartheg pan nad oedd angen am hyny, ac ni wyddai'r bobl beth oedd yr arolygwyr yn ddweyd wrthynt; ac yn mhellach, cwynid nad oedd yr arolygwyr yn deall angenion amaethyddiaeth. Mr. Herbert Roberts, Mr. Lloyd Morgan, a Mr. Bryn Roberts a siaradent i'r un perwyl, gan ddweyd fod y Llywodraeth ddiweddaf wedi cydnabod angenion Cymru trwy benodi dir- prwyaeth arbenig, a chan foi y rhenti yn Nghymru wedi cynyddu yn ystod yr 80 neu 90 mlyne i d diweddaf 61 y cant ar gyfer 30 y cant yn Lloegr dylid gwneud rhywbeth i gynorthwyo y ffermwyr. Mr. Long a gydnabyddai fod llu o annghyfleus derau yn nglyn a gweinyddiad Deddf Clefydon Heintus ar Anifeiliad, a byddai iddo wneud ei oreu i'w lleihau. Ar fater addysg amaethyddol yr oedd mewn llawn cydymdeimlad a'r rhai ddymunent. eangu y gyfundrefn. Credai fod sefydliad ysgolion llaeth wedi gwella llawer ar ansawdd a gwneuthur- iad caws ac ymenyn a da fyddai ganddo weled yr ysgolion yn cynyddu. Os gallai berswadio y Trysorlys i ychwanegu y rhodd, byddai iddo geisio cyfranu yr arian yu y fath fodd ag a gynorthwyai amaethyddiaeth. AEOLYGWSTR SEISNIG YN NGHYMRU. Nos Lun, galwodd Mr Lloyd George sylw TA, Cyffredin at y gwyn gyffredinol nad oedd arolygwr Deddf y Tlodion dros Dde a Gogledd Cymru yn deall yr iaith Gymraeg. Credai ei fod yn swyddog cymhwys, ond pan dalai ymweliad a'r gwahanol ardaloedd gan anerch y byrddau ar faterion o ddy- ddordeb, methai lluaws ei ddeall. Yr Is-filwriad Pryce-Jones a ddywedai fod tlottai yn sir Drefaldwyn bron yn wag, a chan fod eu cynaliaeth yn peri cost fawr ar y trethdal wyr, awgrymai y gellid lleihau eu nifer. Mewn atebiad, dywedodd Mr Chaplin y cawsai y cwestiwn o leihau y tlottai yn Maldwyn ei sylw. Gyda golwg ar benodi arolygwr i Dde a Gogledd Cymru fedrai siarad Cymraeg, yr oedd yn amlwg mai un o'r anhebgorion iddo wneud ei ddyled- swyddau yn effeithol oedd iddo fedru gwneud ei hun yn ddealladwy i'r bobl yn eu hiaith eu hunain. Felly, byddai iddo edrych beth ellid wneud gyda hyn. Mr. Bryn Roberts a ddywedodd iddo anerch 57 allan o 6 o gyfarfodydd yn Gymraeg yn ystod yr etholiad diweddaf, yr hyn ddangosai mor gyffred- inol y siaredid yr iaith ac tel prawf pellach o'r angen am benodi aroiygwyr fedrent Gymraeg. YR ARWYDDLUNIAU AR ARIAN. Yn yr ddadl ar y Mint, cwynai Mr. Herbert Lewis fod gormod o lewpardiaid ar y darian geid ar ddarnau arian. Ni cheid llai na chweeh ohonynt. Awgrymai fod y ddraig Gymreig yn cael ei rhoddi yn lie tri o'r llewpardiaid. Y COF-RESTRAU CYMREIG. Galwodd Mr. Herbert Lewis sylw at y ffaith fod yn riwyddfa Cofnodion Cyhoeddus luaws mawr o lawysgrifau hanesyddol a gwerthfawr yn dal cysylltiad a Chymru, y rhai yn ymarferol oedd heb eu rhestru a'u nodi. Methai haneswyr gael gafael ynddynt pan yn ymchwil am wybodaeth. Am flynyddau lawer yr oedd Cymry; wedi galw am gyfrol dda o hanes eu gwlad, a phan gwynid am hyn wrth ddysgedigion, atebent nad oedd y defn- yddiau at eu galwad. Credai fod Cymru yn waeth allan gyda hyn nag unrhyw genedl wareiddiedig arall ar wyneb y ddaear. Cymerid dyddordeb mawr yn y mater hwn yn Nghymru, a sefydlwyd cymdeithas breifat yn nglyn a Chymdeithas y Cymmrodorion, gyda'r amcan o gyhoeddi rhai o'r cofnodion dyddorol hyny. Ni wnaed dim o gwbl, fodd bynag, gan y Llywodraeth; a hyderai y bvddai i ysgrifenydd. y Trysorlys gydnabod fod hwn yn achos teilwng o ystyriaeth. Mr. Hanbury a atebodd fod yr ail ddirprwywr yn Nirprwyaeth Llawysgrifau Henafol yn Gymro, ac nad oedd un rheswm dros beidio ymwneud a chofnodion Cymreig fel eiddo unrhyw genedl arall. Wedi i Mri. Lloyd George, Herbert Lewis, a Herbert Roberts, siarad yn mhellach ar fwn; addawodd Mr Hanbury, os byddai i'r aelodau ddangos iddo ef yn gyfrinachol pa fodd yr oedd Cymru wedi ei hesgeuluso o'i chydmaru a rhanau eraill o'r Deyrnas Gyfunol y gwnai ei oreu i symud ymaith bob achos o'r gwyn.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. At Olygydd y Oymro. Awst 23, 1895. SYR,—Arofyn ysgrifennu atoch chwi a'ch gohebwyr yr oeddwn pan welais fod dau o honynt yn cyfeirio holiadau ataf i, un gyda golwg ar Wyddelv:ern a'r Hall ar Buddlan. Am yr enw Rhuddlan y mae llygriad Saesneg ohono a seinir Rudland, ond y mae 'r sillebiad Cym- raeg a'r hen sillebiad Saesneg Rothelan yn profi i mi nad oes dim rhyd i'w gael yma. Clywir rhai Saeson yn cam seinio Rothelan yn dri sill. Nid cywir hynny canys ni chynrychiola rothe ond un sill a hwnnw i'w seinio yn union fel rhydd yn Rhydd-lan fel y clywir y gair yn awr yn ami. Dyna ddull cyffredin y Saesneg gynt o ysgrifennu sain yr y Gymreig yn yr, dy, amynedd: cewch yr un peth yn Montgomery, Llandovery, Dovey, Prothero; ond camseinir hwy yn ami gan roddi iddynt o grove' yn lie o 'love' dyna'r Saeson yn camddehongli eu sillebiaeth eu hunain. Ond er y dywed rhai Rhyddlan ac er fod y sillebiaeth Rothelan yn debyg o fod yn ben, nis gallaf i lai na chredu mai llygriad yw Rhyddlan o'r fftirf Rhuddlan. Profir hyn i'm tyb i gan y sillebiaeth yn y Llyfr Coch, sef Rudlan; a hynach fyth yw y Rud glan a geir yr Anriales Cambrics mewn memrwn ysgrifenedig cyn y flwyddyn 956. Yr ystyr yn 01 hyn yw Glan rudd, glan goch os mynnwcb ac nid Rhuddlan Clwyd yw yr unig Ruddlan y gwyddys am dani—mae Rhuddlan hefyd ar Deifi, ac y mae gennyf ryw adgof i mi glywed mai rhudd neu goch yw glan yr afon honno hefyd yn y gymydogaeth y cynhaliai Pryderi ei lys ynddi. Os camsynio 'r wyf hwyrach y bydd rhywun mor fwyn a'm cywiro yn y Oymro. Gyda golwg ar Wyddelwern, wrth wern y deallaf i dir llaith a gwastad; ond y mae Gwyddel a gwyddel, a pha un o'r ddai sydd gennym yna nis gwn. Tardd y gair gwyddel o gwydd coed a golyga fan dyfiant anial o goed neu ddyrysni I bA glywaist ti chwedl yr enid Y n y gwyddel rhag ymlid ? Drwg pechawd o'i hir erlid. Iolo MSS., t.d. 260. Yn ol hyn gwern lie tyf gwyddel oedd Gwyddelwern ond ar y llaw arall gall mai gwern yr oedd a fynnai rhyw wr o Wyddel a hi" yw yr ystyr. Dyna oedd cred awdwr Buchedd Beuno Sant pan ysgrlfennai fel hyn:— Ac yna y roddes y brenhin le iddaw Gwydel- wernn, y lie a gafas y enw gan yr Yscotf, a gyvodes Beuno o varw yno, ai wreic a vuassei achosawl y angeu ef." Cymerwch eich dewia o'r > dau olygiad. Dyna fi wedi csio ateb eich gohebwyr a hwyrach y goddefwch i mi ddychwelyd at bWlJC y taf die;thoedd Cymreig y cyfeiriata atynt y' Nghorwen y dydd o'r blaen. I ddechreu carwn wybod terfynau y Bowyseg a nodweddir gan feinder y llafa-iad a, a fain ardal Dolgellau a pharthau eraill o F,Ilriot- ac o Sir Drefaldwyn hefyd. Adnebydd pawb hi pan fydd ei sain yn hir, megys yn y geiriau tad, glan, man, ond digwydd hefyd yn fer megys yn y geiriau mam, cam, man. Dynodir hi weithiau gan ieithydd- wyr, fil hyn a, sef a a rhyw nopyn bach dani hi, a gallwn ei galw yo a faiu o leiaf nid oes gennyf un gwell euw i roddi ami. Ar y llaw arall geilw pobl Meirion sydd yn arfer yr a fain hon yr a letach a seinir y' Ngheredigion a Gwys-edd yn "a gegog" dyna'r gwawd a wnant o honom ni sydd mor falch o ragoroldeb ein seiniadaeth. Ond y pwnc yw, pwy sydd yn seinio r a fain. Gofynnais hyn dro yn ol mewn llythyrau at amryw o drigolion Meirionydd, ac etyb un fel hyn :— £ i A fain a seisiir yn y Dyffryn--Dyffryn Ar.Jndwy a feddvlir-ond nid a fain a geir yn Harlech. Clywais a fain yn Llanellyd ond ni chlywais hi y' Nhraws- fynydd a gegog sydd YLJO, ond a fain a glywir yn Llanfachreth." Dyna 'r ateb a gefais o Ddolgellau. A ganlyn yw yr ateb a serais gan un o'r Dyffryn :_H Credaf mai 'r a fain sydd yo teyrnasu cyn belled a Maen T.vrog a chynhwys- af yn ei thiriogaeth Harlech a Tltal y "Sarnau. Am Benrhyn Deudraeth a fain ac a gegog Sir Gaernarfon sydd yno yn gymysg, a'r un fath y mae hi yn Ffestiniog, a hwyrach fod a fain Maen Twrog yn tueddu i iyned yn gegog. Credaf fod. a Trawsfynydd fel yr eiddom ni °heb un amrywiaeth. [Nis gwn yn iawu pa fudd i ddehongli 'r frawdeg hon.] Dyna 'r cylch yn gyflawn o Ddolgellau i lawr hyd Aberrno ac oddi yno drwy Harlech a Thalsarnau i Draws fynydd a thrwy 'r Ganllwyd yn ul i Ddolgellau." Nid yw'r manylion byn oil yn cytuno a'i gilyddV carwn wybcd pwy sydd yn gywir, yn en wedig os cymerir yr a fain mewn silliau byrioii megys mam, cam, lldn, dal, i ystyiiaeth yn g-staler a hirsain. Nid yw hyn ond rhau o'r ymchwiliad, eanys hoffwn wybod pa ffordd y rhed y terfyn o Ddolgellau hyd gyffioiau Lloeur. Hwyrach y gellid gwneyd y llinell allan pe ceid ateb i'r gofyniadau canlynol Pa fath a sydd i'w clilywed yn y lleoedd liyn, Mawddwy, Llan- wddyn, Llanrhaiadr, Llanfyilin, Llansantffraid, Llan y Myneich, a Glyn Ceiriog. Rhag eich blino ni otynaaf chwaneg ar hyn o bryd.- Y r eiddoch yn ddiffuant. JOHN RHYS DARLlTHYDD YN EISIAU. SYR,—Maddeuwch i mi am eich trafferthu. Dyma fy esgusawd dros wneud Yr ydym yn arfaethu cael eyfres o ddHrlithian yn ystod misoedd y gauaf tua chymdogaeth 'Rhenwalia yma, ac mae'r pwyll- gor yn cymeryd i ystyriaeth wyr ag sydd wedi enwogi eu hunain fel darlithwyr er ceisio sicrhau eu gwasanaeth ar adegau cyfleus iddynt hwy a ninau. Dichon y medr rhai o'ch gohebwyr roddi rhyw oleuni i ni parthed un, yr hwn sydd ganddo ddarlith ar "Bregethwyr enwog Arfon," tua'r ddinas yna. I-Iwyrach y bydd rhai o'ch darlien- wyr mor garedig a'n hysbysu pwy yw'r gwr enwog a galluog hwn yn nghyda'i gyfeiriad.— Ydwyf, &c., ZECHARIAH Huws. Rhenwalia, Awst 24, 1895.