Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Cymdeithasfa Bangor.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymdeithasfa Bangor. DECHREUWYD gwaith dydd Mercher, trwy i'r gweinidogion gyfarfod yn nghapel y Tabernacl- Y mater dan ymdriniaeth ydoedd "Y math o bregethu sy'n angenrheidiol i gyfarfod angenion presenol Cymru," yr hwn agorwyd gan y Parch D. Roberts, Rhiw, Ffestiniog, a chymerodd amryw weinidogion ran yn y drafodaeth arno. Yr un adeg, cynaliodd y diaconiaid gyfarfod yn nghapel Penuel, pan yr agorwyd y mater, Yr angenrheidrwydd am i'r swyddogion fod yn hyddysg yn egwyddorion y Cyfundeb," gan Mr Rowlands, Tremadog, yr hwn ddilynwyd gan amryw leygwyr. Yn y prydnawn, cynaliwyd cyfarfod cyffredinol yn Nghapel Penuel, pan y daeth torf luosog yn nghyd. Cymerwyd y gadair gan y llywydd, Dr Griffith Parry, Oarno. Wedi croesawu y Parchn J. Mostyn Jones, Ohio, a John Owen Jones, America, gynt o Llanengan, darllenodd y Parch Griffith Roberts, Carneddi, adroddiad o sefyllfa'r achos yn y sir. Er nad oeddynt wedi gwneud cynydd mawr, eto yr oeddynt wedi dal eu tir. Yn 1894, rhifai'r gweinidogiou 56, cynydd o bedwar er 1892; pregethwyr 36, cynydd o bump diaconiaid, 444, cynydd o 27 eymunwyr, 16,035, cynydd o 897; derbyniwyd o'r newydd, 241, cynydd o 15; plant dderbyniwyd, 585; nifer plant yr eglwysi, 7,000, llai o 62; cvfanrif y cynulliadau, 27,942, cynydd o 637 aelodau'r Ysgol Sul, 20,423, cynydd o 534. Casglwyd at y weinidogaeth, 8,178p 7" 53c. cynydd o 865p 12s 2-tc er 1892 at y 2 genhadaeth, 625p 15s 2c, cynydd o 18p lis Ofc 4 cronfa dylediovi capelau, 34,872p, lleihad o 4,010p. Talwyd o 4,000p i 5,000p yn flynyddol at gapeli newydd ac adgyweiriadau. Cyfanswm yr holl gasgliadau am y flwyddyn ydoedd 23,031p 15s 4c. Ceid 47 o eglwysi dan ofal bugeiliol, a 36 heb fugail. Amrywiai rhif yr aelodau o 23 yn Biondon, Llanfairfechan, i 699 yn Moriah, Caernarfon. Gwnaeth yr Ysgol Sul gynydd boddhaol, gan fod yr aeiodau yn rhifo dros 20,000, gyda. 3,000 o athrawon. Y Parch Hugh Roberts, Llanerchymor, a gyflwynodd adroddiad Ysgolion Protestanaidd sir Fflint. Ymddengys fod yr ysgolion hyn yn gwneud gwaith rhagorol, a'r ddysgyblaeth ynddynt yn eSeithiol. Yr oedd y costa.u i eangu yr ysgolion wedi bod yn drwm iawn y llynedd, ac yr oedd yr angen am gynal yr ysgolion yn dod yn fwy pwysig yn barhaus. Hysbysid eu bod mewn dyled i'r trysorydd, a gwnaed apel am gynorthwy arianol. -Mabwysiadwyd yr adroddiad. Parch R. H. Morgan, Porthaethwy, gyflwynodd adroddiad Coleg Duwinyddol y Bala. Allan o'r swm o 20,000p angenrheidiol i waddoli'r coleg, yr oedd 16,000p wedi eu casglu yn barod, fel nad oedd angen ond 4,000p ychwaneg. Prophwydai Mr Morgan y byddai i'r Coleg yn fuan anfon dynion allan cyffelyb i'r pregethwyr mwyaf ddylanwadodd erioed ar y Dywysogaeth.—Mabwysiadwyd yr adroddiad. Darllenodd y Parch Lewis Ellis adroddiad pwyll- gorau y Genhadaeth Dramor, y Jronfa Gynorthwyol a'r Achosion Seisnig, a mabwysiadwyd hwy. Parch T. J. Wheldon, B.A., gyflwynodd adroddiad Cronfa'r Achosion Gweiniaid, ac enwau'r eglwysi apeliant am gynorthwy.—Mr Peter Roberts Llanelwy, ddarllenodd yr adroddiad arianol, yn dangos fod 1,990p 3s Ie wedi eu cyfranu i'r gronfa. sef cynydd y 35p 18s 5c. Cyflwynid 19p i bob eglwys wan y flwyddyn ddyfodol allan o'r gronfa.— Mabwysiadwyd yr adroddiad, Yn y prydnawn, pregethwyd ar y inaes, ac yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel y Tabernacl, i gefnogi'r Genhadaeth Dramor. Ddydd Iau, dygwyd y Gymdeithasfa i derfyn drwy gynal cyfarfodydd pregethu ar y maes yn ystod y dydd, ac yn y gwahanol gapelau yn yr hwyr. Yn mysg eraill, cymerwyd rhan gan y Parchn Evan Phillips, Castell Newydd Emlyn; John Hughes, M.A., a John Williams, Princes Road, Lerpwl; a William Thomas, Maesteg. Yr oedd torf fawr wedi dyfod yn nghyd, a chaed hin ddymvmol a phregethau grymus.

Creulondeb Arswydus at Forwyn.

Cymru yn y Senedd.

Advertising

TIROEDD Y GORON YN NGHYMRU.

Corau Mawr y De a'u Costau.

Y Ficer Apostolaidd Cymreig.

[No title]

Advertising

Nodion or Rhos.

Advertising

[No title]

iHelyijtion Bywyd Hen Deiliwr