Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Cymdeithasfa Bangor.

Creulondeb Arswydus at Forwyn.

Cymru yn y Senedd.

Advertising

TIROEDD Y GORON YN NGHYMRU.

Corau Mawr y De a'u Costau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Corau Mawr y De a'u Costau. YSGRIFENA Maelgwyn i'r South Wales Weekly News ar gostau tri o brif gorau y Deheudir, sef Rhymney Llanelli, a Dowlais, a diau mai dyddorol i luaws fydd gwybod pa fodd y mae amgylchiadau arianol y corau hyn yn cael eu cario yn mlaen. Y cor cyntaf a noda yw Rhymney. Dywed fod tanysgrifiadau y trefwyr at y cor hwn yn ddis:onol i gyfarfod eu costau pe na buasent yn llwyddianus yn Eisteddfod ddiweddar Llanelli. Gyda'r tanys- grifiadau hyn, a'r elw oddiwrth gyngherddau, galluogwyd y swyddogion i dalu'r holl dreuliau, ac yr oedd ganddynt weddill o 50p at waith y flwyddyn nesaf. Rhanwyd y wobr enillasant yn Eisteddfod Llanelli, cafodd yr arweinydd, Mr John Price, 15p. yr ys»rifenydd, 2p 2s., a phob un o aelodau y c6r 8s 9cf Costiodd y gerddorfa iddynt oddeutu 20p. Am gor Llanelli dan arweiniad Mr Dan Davies, yr oeddynt wedi enill 200p mewn gwobrwyon cyn myned i Lanelli, a rhwng y lOOp gawsant yno a'r elw oddiwrth gyngherddau, yr oedd ganddynt y swm o 525p 2s 9c mewn Haw. Costiodd y gerddorfa, a 2 rifai 31, y swm o 83p cafodd y cyfeilydd Mr D. C. Williams, 12p 12s a Mr David Williams, cyfeilydd arall, 8p 8s. Costiodd Ilwyfanau at wasanaeth y cor, 40p 16s 2c; costau teithio i Lanelli, 48p mynediad i mewn i'r Eisteddfod, lOp a'r ymborth oddeutu'r un cyfanswm. Cafodd ysgrifenydd y c6r, Mr Sandford Jones, 7p 7s a'r arweinydd, Mr Dan Davies, 50p. Rhwng pobpeth allan o 525p 2s 91 c nid oes yn weddill ganddynt 2 ond 39p 4s 8Jc. 2 Talodd aelodau cor Dowlais yr holl gostau eu hunain, ac er fod y gerddorfa wedi cael oddeutu 20p y mae ganddynt weddill mewn llaw o 32p. Ni chafodd swyddogion y c6r yr un geiniog am eu llafur, ac er iddynt fod yn aflwyddianus yn yr Eisteddfod ddiweddaf, y mae eu sefyllfa yn fodd- haol iawn. --0-

Y Ficer Apostolaidd Cymreig.

[No title]

Advertising

Nodion or Rhos.

Advertising

[No title]

iHelyijtion Bywyd Hen Deiliwr