Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
Cymdeithasfa Bangor.
Cymdeithasfa Bangor. DECHREUWYD gwaith dydd Mercher, trwy i'r gweinidogion gyfarfod yn nghapel y Tabernacl- Y mater dan ymdriniaeth ydoedd "Y math o bregethu sy'n angenrheidiol i gyfarfod angenion presenol Cymru," yr hwn agorwyd gan y Parch D. Roberts, Rhiw, Ffestiniog, a chymerodd amryw weinidogion ran yn y drafodaeth arno. Yr un adeg, cynaliodd y diaconiaid gyfarfod yn nghapel Penuel, pan yr agorwyd y mater, Yr angenrheidrwydd am i'r swyddogion fod yn hyddysg yn egwyddorion y Cyfundeb," gan Mr Rowlands, Tremadog, yr hwn ddilynwyd gan amryw leygwyr. Yn y prydnawn, cynaliwyd cyfarfod cyffredinol yn Nghapel Penuel, pan y daeth torf luosog yn nghyd. Cymerwyd y gadair gan y llywydd, Dr Griffith Parry, Oarno. Wedi croesawu y Parchn J. Mostyn Jones, Ohio, a John Owen Jones, America, gynt o Llanengan, darllenodd y Parch Griffith Roberts, Carneddi, adroddiad o sefyllfa'r achos yn y sir. Er nad oeddynt wedi gwneud cynydd mawr, eto yr oeddynt wedi dal eu tir. Yn 1894, rhifai'r gweinidogiou 56, cynydd o bedwar er 1892; pregethwyr 36, cynydd o bump diaconiaid, 444, cynydd o 27 eymunwyr, 16,035, cynydd o 897; derbyniwyd o'r newydd, 241, cynydd o 15; plant dderbyniwyd, 585; nifer plant yr eglwysi, 7,000, llai o 62; cvfanrif y cynulliadau, 27,942, cynydd o 637 aelodau'r Ysgol Sul, 20,423, cynydd o 534. Casglwyd at y weinidogaeth, 8,178p 7" 53c. cynydd o 865p 12s 2-tc er 1892 at y 2 genhadaeth, 625p 15s 2c, cynydd o 18p lis Ofc 4 cronfa dylediovi capelau, 34,872p, lleihad o 4,010p. Talwyd o 4,000p i 5,000p yn flynyddol at gapeli newydd ac adgyweiriadau. Cyfanswm yr holl gasgliadau am y flwyddyn ydoedd 23,031p 15s 4c. Ceid 47 o eglwysi dan ofal bugeiliol, a 36 heb fugail. Amrywiai rhif yr aelodau o 23 yn Biondon, Llanfairfechan, i 699 yn Moriah, Caernarfon. Gwnaeth yr Ysgol Sul gynydd boddhaol, gan fod yr aeiodau yn rhifo dros 20,000, gyda. 3,000 o athrawon. Y Parch Hugh Roberts, Llanerchymor, a gyflwynodd adroddiad Ysgolion Protestanaidd sir Fflint. Ymddengys fod yr ysgolion hyn yn gwneud gwaith rhagorol, a'r ddysgyblaeth ynddynt yn eSeithiol. Yr oedd y costa.u i eangu yr ysgolion wedi bod yn drwm iawn y llynedd, ac yr oedd yr angen am gynal yr ysgolion yn dod yn fwy pwysig yn barhaus. Hysbysid eu bod mewn dyled i'r trysorydd, a gwnaed apel am gynorthwy arianol. -Mabwysiadwyd yr adroddiad. Parch R. H. Morgan, Porthaethwy, gyflwynodd adroddiad Coleg Duwinyddol y Bala. Allan o'r swm o 20,000p angenrheidiol i waddoli'r coleg, yr oedd 16,000p wedi eu casglu yn barod, fel nad oedd angen ond 4,000p ychwaneg. Prophwydai Mr Morgan y byddai i'r Coleg yn fuan anfon dynion allan cyffelyb i'r pregethwyr mwyaf ddylanwadodd erioed ar y Dywysogaeth.—Mabwysiadwyd yr adroddiad. Darllenodd y Parch Lewis Ellis adroddiad pwyll- gorau y Genhadaeth Dramor, y Jronfa Gynorthwyol a'r Achosion Seisnig, a mabwysiadwyd hwy. Parch T. J. Wheldon, B.A., gyflwynodd adroddiad Cronfa'r Achosion Gweiniaid, ac enwau'r eglwysi apeliant am gynorthwy.—Mr Peter Roberts Llanelwy, ddarllenodd yr adroddiad arianol, yn dangos fod 1,990p 3s Ie wedi eu cyfranu i'r gronfa. sef cynydd y 35p 18s 5c. Cyflwynid 19p i bob eglwys wan y flwyddyn ddyfodol allan o'r gronfa.— Mabwysiadwyd yr adroddiad, Yn y prydnawn, pregethwyd ar y inaes, ac yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel y Tabernacl, i gefnogi'r Genhadaeth Dramor. Ddydd Iau, dygwyd y Gymdeithasfa i derfyn drwy gynal cyfarfodydd pregethu ar y maes yn ystod y dydd, ac yn y gwahanol gapelau yn yr hwyr. Yn mysg eraill, cymerwyd rhan gan y Parchn Evan Phillips, Castell Newydd Emlyn; John Hughes, M.A., a John Williams, Princes Road, Lerpwl; a William Thomas, Maesteg. Yr oedd torf fawr wedi dyfod yn nghyd, a chaed hin ddymvmol a phregethau grymus.
Creulondeb Arswydus at Forwyn.
Creulondeb Arswydus at Forwyn. Yx ynadlys Casnewydd, Mynwy, ddydd Gwener, CYhuddwyd Kathleen Young, gwraig i beirianydd, o greulondeb at Catherine Mahony, 14 mlwydd morwyn yn ei gwasaneth. Oddiwrth y tyst lolaethau, ymddengys fod yr eneth wedi cael ei churo a. ffon, procar, &c., a bod y gyhuddedig wedi gafael ynddi a tharo ei phen yn erbyn y wal droion. Aed a'r eneth i'r yspytty, a chaed fod ei chorph Wedi ei orchuddio a briwiau, a phump o doriadau £ 6*- P^en. Bu yn yr yspytty am bythefnos, a •hystiai y meddyg mai dyma yr achos gwaethaf a aeth i'w sylw yn ystod ei holl brofiad. Yr unig esgusawd a roddai y wraig am y fath greulondeb °edd ei bod yn rhoddi ffordd i'w thymher ac yn pob rheolaeth arni ei hun. Penderfynodd yr 1 25^°n ^an^on garchar am chwe' mis a'i dirwyo 0 Methodd y datgeiniad poblogaidd Mr Sims Reeves
Cymru yn y Senedd.
Cymru yn y Senedd. BWRDD ADDYSG I GYMRU. YN Nhy'r Cyffredin, nos Fercher, gofynodd Mr Ellis Jones-Griffith i Is-Lywydd Bwrdd Addysg pa gwrs gymerwyd i sefydlu Bwrdd Canolog Addysg Ganolradd yn Nghymru. Y Cadeirydd a sylwodd fod y cwestiwn yn gyn- amserol, ac y ceid trafodaeth arno pan ddeuid at y bleidlais ar addysg ganolradd. AMGUEDDFA I GYMRU. Mr Herbert Lewis a gwynai nad oedd cyfran o gwbl yn cael ei gyflwyno at amgueddfa Gymreig, tra y darperid am Ysgotland a'r Iwerddon yn y cyfeiriad hwn. Dylid rhoddi chwareu teg i Gymru gyda hyn. Cwynai hefyd nad oedd gan Gymru sefydliad canolog i gasglu creiriau a phethau o ddyddordeb hanesyddol, ac yr oedd absenoldeb y cyfryw sefydliad yn ddianmheu wedi rhwystro casglwyr i gymanroddi creiriau a phethau gwerth- fawr eraill i'r Dywysogaeth. Nid oedd gan Gymru ychwaith unman i roddi llawysgrifau henafol nag oriel celf, tra yn Ysgotland a'r Iwerddon y ceid y sefydliadau hyn yn cael eu cynal gan y Wladwr- iaeth. Hyderai y byddai i gyfundrefn addysg Cymru gael ei choroni a'r manteision y cyfeiriodd atynt. Syr John Gorst a ddywedodd mai ei ddymuniad ef oedd gweled amgueddfa yn cael ei sefydlu, ond yu anffodus nid oedd gan Gymru brifddinas i roddi'r amgueddfa ynddi, a rhaid oedd gwneud y diffyg hwn i fynu cyn y gallai'r Llywodraeth symud gyda'r mater. Gyda'r eithriad o brifddinasoedd y Deyrnas Gyfunol, nid oedd un amgueddfa yn cael ei chynal yn uniongyrchol gan Swyddfa Celf a Gwyddor ond rhoddid benthycion i'r holl ddinas- oedd mawr, dan amodau neillduol, a derbyniai Cymru yr un gyfran o'r cyfryw fenthycion ag un ran arall o'r Deyrnas Gyfunol. Byddai iddo sicr- hau Mr Lewis y gwneir pob ymdrech i roddi i bobl Cymru gyfran mor fawr ag oedd bosibl o'r buddianau gyflwynai'r Llywodraeth ar gelf a gwyddor. Mr Lloyd Ceorge a alwodd sylw at Ddeddf Llywodraeth Leol, 1887, o dan yr hon y gallai cynghorau siroedd Cymru a sir Fynwy benodi pwyllgor unedig, ac awgrymai ef fod y cwestiwn o gael prifddinas i Gymru yn cael ei gyflwyno i'r cyfryw bwyllgor. Y RHODD I BRIFYSGOL CYMRU. Yn y bleidlais ar gostau colegau prifysgolion Prydain Fawr, Mr Ellis J. Griffith a argymhellai'r Llywodraeth i ffurfio Bwrdd Addysg Ganolradd yn Nghymru. Er fod chwe' blynedd wedi myned heibio er pan basiwyd Deddf Addysg Ganolradd, ychydig iawn wnaed tuag at ffurfio bwrdd i reoli'r cyfryw. Mr D. Brynmor Jones a ofynai am fynegiad mwy pendant gan y Llywodraeth parth y rhodd at Brifysgol Cymru. Yr oedd ef wedi deall y bwr- iedid cyflwyno rhodd flynyddol i Gymru fel y gwneid i'r Iwerddon ac Ysgotland. Cymerid y dyddordeb mwyaf yn y Brifysgol Gymreig gan bob plaid ac enwad, a hyderent y gallent wneud mewn amser heb gynorthwy'r Llywodraeth, ond yn bres- enol yr oedd hyny'n anmhosibl heb godi tal gor- modol ar yr ymgeiswyr am raddau. Ceid annghyf- artaledd mawr rhwng y rhoddion i Gymru a'r Alban. Derbyniai yr Alban 55,000p, a rhoddid swm mawr i'r Iwerddon, tra na dderbyniai Cymru ond 15,000p, a chyfrif y 3,00Up at y Brifysgol ar wahan oddiwrth y rhoddion at addysg elfenol a chanolradd. Mr Hanbury a atebodd fod Canghellydd y Try- sorlys ddwy flynedd yn ol wedi caniatau 3,000p i gyehwyn y Brifysgol Gymreig, ond iddo wrthod rhoddi addewid bendant at y dyfodol. Ond y flwyddyn hon rhoddwyd 3,000p arall at y Brifysgol. Gan fod y Llywodraeth ddiweddaf wedi bod yn ystyried y cwestiwn am ddwy neu dair blynedd ac heb ddyfod i'r un farn derfynol, gellid ei esgusodi ef am beidio rhoddi atebiad pendant yn awr. LLYTHYRDY CAERGYBI. Nos Lun, gofynodd Mr Ellis J. Griffith i Ysgrif- enydd y Trysorlys a oedd yn ymwybodol fod Llythyrdy Caergybi yn annigonol at angenion y dref; a oedd y swyddog meddygol wedi hysbysu fod adeilad y llythyrdy yn annghymwys at y pwrpas yr arferid ef; a oedd yn gwybod am adeilad cyfleus a chymhwys yn nghanol y dref fuasai'n ateb y pwrpas a pha gwrs fwriadai'r Llywodraeth gymeryd i ddarparu llythyrdy priodol i dref Caer- gybi- Mr Hanbury: Cydnabyddir fod angen gwell llythyrdy yn Nghaergybi, ac y mae'r bost-feistres, yr hon sydd i ofalu am adeilad eymhwys, yn ceisio er's peth amser gael adeilad priodol. Ni alwyd sylw at yr adeilad priodol y cyfeiriwyd ato, ond os cynygia y perchenog hwy i'r amcan, caiff y mater ystyriaeth. YSGOL BERRIEW. Mr Herbert Lewis a ofynodd a fwriadai'r Llyw- odraeth fyned yn mlaen gyda mesur Ysgol Berriew, gan fod tri aelod wedi rhoddi rhybudd y bydd iddynt ei wrthwynabu. Mr Balfour a ddymunai ar Mr Lewis i ail-ofyn y cwestiwn nos Fawrth. Mr Lewis A fydd i'r mesur fod dan sylw heno? Mr Balfour: Ni allaf addaw na fydd i mi gymeryd yr ail-ddarlleniad heno. Yn hwyrach ar y noson, gwrthwynebwyd y mesur gan Mr Humphreys-Owen, a chynygiodd Mr Brynmor Jones fod y mesur yn cael ei wrthod. Eiliwyd hyn gan Mr Herbert Lewis, ond yn yr ymraniad caed 134 dros yr ail ddarlleniad, a 22 yn erbyn—mwyafrif 112. Y PELLSEINYDD YN NGOGLEDD CYMRU. Mewn atebiad i Mr Herbert Lewis, dywedodd Mr Hanbury fod pellseinyr wedi ei osod o Gaer trwy sir Fflint i Llandudno, a hyderai y bydd at wasanaeth treS eraill mor fuan ag y gwneid trefn- iadau gyda'r National Telephone Company. Ond ar y cwmni y dibynai hyny, gan eu bod o dan gytundeb.
Advertising
Gymry, cefnogwch Gydwladwyr. Bwytewch "FOOTBALL OATS," Yr ansawdd goreu ar wyneb y ddaear. 0 dyfiant Prydeinig. Na chymerwch eich perswadio i brynu ansawdd gwael, diflas fel yr Americanaidd.
TIROEDD Y GORON YN NGHYMRU.
TIROEDD Y GORON YN NGHYMRU. Nos Iau, gofynai Mr Bryn Roberts am gyfanrif ac arwynebedd tiroedd y Goron yn Llandwrog, Arfon, a werthwyd i'r tenantiaid; cyfanrif ac arwynebedd y tir-ddaliadau ad-brynwyd er dad- blygu'r chwarelau, a'r cyfanswm da! wyd am danynt; yn nghyda chyfanswm y rhenti a delid yn awr am diroedd y Goron. Mr Hanbury Cyfanrif y cyttiroedd werthwyd gan y Goron yn Arfon yw 300, yn cynwys arwyn- ebedd o 932a 2r 18p. Adbrynwyd 8 gan y Goron, sef 10 acr. Gwerthwyd yr wyth hyn am 31p, 2 ac ad-brynwyd hwy am 622p. Nifer y cyttiroedd a gauwyd i mewn gan y perchenogion presenol neu eu henafiaid yw 308, yn cynwys 260a lr 28p. Y rhent ar y 31ain o Fawrth, 1895, oedd 217p lis Ic, ond y mae rhai o'r tir-ddeiliaid heb ddechreu talu rhent eto. Nid yw ad-bryniad gan y Goron yn bosibl ond mewn achosion arbenig. REILFFYRDD YSGEIFN. Yn Nhy'r Cyffredin nos Wener gofynodd Mr Herbert Lewis i Lywydd Bwrdd Masnach a fyddai i angenion ardaloedd gweithfaol sir Fflint gael sylw pan ddeuid a. deddfwriaeth yn mlaen gyda golwg ai gael reiffyrdd ysgeifn i Gymru. Mr Ritchie Bydd yr ardaloedd a nodwyd yn sicr o gael sylw pan ddeuir a mesur yn mlaen yn ymwneud a reilffyrdd ysgeifn. COEDIO TIROEDD Y GORON. Mr Herbert Roberts a ofynodd pa gwrs gymerwyd gan Swyddfa Ceed a Fforestydd i goedio tiroedd y Goron yn Nghymru. Mr Hanbury a ddarllenodd a ganlyn o adroddiad Dirprwywr y Coed :—Gan fod ceisiadau wedi eu gwneud ataf yn ffafr planu coed ar diroedd y Goron yn Nghymru, cymerais gyfleusdra yn ystod Hydref, 1894, i fyned dros y tiroedd hyny yn ardal Dinbych, a chefais gyfarfod o ffermwyr lieol oedd yn meddu cynefin defaid neu gyttiroedd arnynt. Tra yr oedd yn bosibl i ddethol lleoedd y gellid planu coed, ac iddynt dyfu yn dda, y mae amryw ystyriaethau eraill y rhaid eu pwyso cyn symud yn mlaen. Rhaid fyddai gwneud i ffwrdd a hawl y cyttiroedd lie plenid y coed, a byddai cryn anhawsder i drefnu pa foddy gellid ad-dalu i'r perchenogion am eu hamddifadu o'u cynefin defaid. Byddai amddifadu y ffermydd mynyddig hyn o'u cynefin yn debyg o dynu llawer oddiwrth eu gwerth. Gan hyny, yr wyf yn cymeryd pob eyfle i ymweled a thiroedd y Goron mewn ardaloedd eraill yn Ngogledd Cymru cyn ceisio gwneud unrhyw drefniadau terfynol o berthynas iddynt. Gwnaed planhigfa fechan, yn benaf gyda'r amcan o gysgodi, ar dir y Goron yn Meirion, ger mynydd Maentwrog. Bu'r tywydd caled y gauaf diweddaf yn anfanteisiol iawn i'r gwaith, ac ychwanegwyd at y costau, ac nid oedd y gwanwyn sych yn fanteisiol i'r coed ieuainc. Fodd bynag, pan ymwelais a. hwy yn Mehefin, 1895, yr oeddynt yn tyfu yn dda. -0--
Corau Mawr y De a'u Costau.
Corau Mawr y De a'u Costau. YSGRIFENA Maelgwyn i'r South Wales Weekly News ar gostau tri o brif gorau y Deheudir, sef Rhymney Llanelli, a Dowlais, a diau mai dyddorol i luaws fydd gwybod pa fodd y mae amgylchiadau arianol y corau hyn yn cael eu cario yn mlaen. Y cor cyntaf a noda yw Rhymney. Dywed fod tanysgrifiadau y trefwyr at y cor hwn yn ddis:onol i gyfarfod eu costau pe na buasent yn llwyddianus yn Eisteddfod ddiweddar Llanelli. Gyda'r tanys- grifiadau hyn, a'r elw oddiwrth gyngherddau, galluogwyd y swyddogion i dalu'r holl dreuliau, ac yr oedd ganddynt weddill o 50p at waith y flwyddyn nesaf. Rhanwyd y wobr enillasant yn Eisteddfod Llanelli, cafodd yr arweinydd, Mr John Price, 15p. yr ys»rifenydd, 2p 2s., a phob un o aelodau y c6r 8s 9cf Costiodd y gerddorfa iddynt oddeutu 20p. Am gor Llanelli dan arweiniad Mr Dan Davies, yr oeddynt wedi enill 200p mewn gwobrwyon cyn myned i Lanelli, a rhwng y lOOp gawsant yno a'r elw oddiwrth gyngherddau, yr oedd ganddynt y swm o 525p 2s 9c mewn Haw. Costiodd y gerddorfa, a 2 rifai 31, y swm o 83p cafodd y cyfeilydd Mr D. C. Williams, 12p 12s a Mr David Williams, cyfeilydd arall, 8p 8s. Costiodd Ilwyfanau at wasanaeth y cor, 40p 16s 2c; costau teithio i Lanelli, 48p mynediad i mewn i'r Eisteddfod, lOp a'r ymborth oddeutu'r un cyfanswm. Cafodd ysgrifenydd y c6r, Mr Sandford Jones, 7p 7s a'r arweinydd, Mr Dan Davies, 50p. Rhwng pobpeth allan o 525p 2s 91 c nid oes yn weddill ganddynt 2 ond 39p 4s 8Jc. 2 Talodd aelodau cor Dowlais yr holl gostau eu hunain, ac er fod y gerddorfa wedi cael oddeutu 20p y mae ganddynt weddill mewn llaw o 32p. Ni chafodd swyddogion y c6r yr un geiniog am eu llafur, ac er iddynt fod yn aflwyddianus yn yr Eisteddfod ddiweddaf, y mae eu sefyllfa yn fodd- haol iawn. --0-
Y Ficer Apostolaidd Cymreig.
Y Ficer Apostolaidd Cymreig. YN y Catholic Times, cyhoeddir y manylion can- lynol am y Tad Mostyn, Ficer Apostolaidd newydd Cymru :—" Bu un o'i henafiaid yn Esgob Llanelwy yn y 14 ganrif. Bu cefnder iddo, y Gwir Barch Francis George Mostyn, D.D., yn Ficer Apostol- aidd y rhanbarth ogleddol, a bu farw Awst 11, 1847, yn 47 oed. Trwy ei nain, yr Anrhyd. Char- lotte Georgina Jerningham, yr hon a. briododd Thomas Alexander, y 14eg Farwn Lovat, y mae yn ddisgynydd o dri merthyr Seisnig, sef (1) Philip Howard, larll Arundel, fu farw yn ferthyr yn y Twr Hydref 19, 1595 (2) William Howard, Is- iarll Stafford, ferthyrwyd yn Mryn y Twr Rhagfyr 29, 1680 (3) Margaret Pole, Countess Salisbury, ferthyrwyd yn y Twr Mai 27, 1541." Bydd i'r Tad Mostyn gael ei gysegru yn Eglwys Babyddol Price Street, Birkenhead, Medi 14, a thranoeth eir drwy seremoni gyffelyb yn Eglwys St. Mair, Gwrecsam, lie y bydd iddo drigianu. Y mae wedi penodi ei gefnder, Mgr. Slaughter, yn ysgrifenydd iddo, a'r Parch D. Cummins yn offeiriad cynorth- wyol. --0-- Sonir llawer yn Nghymru y dyddiau hyn am y
[No title]
dirwasgiad masnachol a'r modd i'w leddfu. Beth fyddai i'r tirfeddianwyr cyfoethog gymeryd esiampl y Mil. Davies, yr hwn a ostyngodd 50 y cant yn rheiati ei denantiaid yn sir Hertford yr wythnos ddiweddaf.
Advertising
8AVE8 HAND-LABOUR. A YEWPS SOAP
Nodion or Rhos.
Nodion or Rhos. DDYDD Mercher, cymerodd Etholiad checkweighman No. 1. yr Hafod le. Defnyddiwyd y balot, ac allan o wyth yr oedd tri yn agos i'w gilydd. I gynulliad Iluosog y nos hoco hysbyswyd y canlyn- iad, a chafwyd Isaac Smith 15 o flaen pawb arall. Dechreua ar ei waith yr wythnos hon. Nid doeth ydoedd sylwadau Thomas Thomas, yn y cyfarfod uchod, cyn rhoddi y canlyniad. Pa hawl oedd ganddo ef i ddweyd dim? A pha les ddeillia o'r hyn ddywedod 1 ? Dywedodd un o'r ymgeiswyr am Smith, mai M- fyddai raidgwneud y gwaith i gyd. Atolwg, pe etholesid ef, pwy fuasai ganddo ef i wneud y gwaith? Amser a ddengys weithrediadau yr ysgub newydd. I'n tyb ni efe ydoedd y goreu o'r wyth ar amryw ystyron. Nos Fercher hefyd bu y Seindorf yma allan eto yn cynal cyngherdd yn Church Street, yn yr awyr- agored. Chwareuwyd ganddynt amryw ddarnau chwaethus yn dda iawn, a chawsant gynulliad da. i'w gwrando. Haeddant gefnogaeth gyffredinol yr ardal am eu hymdrechion. Nos Iau ddiweddaf, am y nawfed tro, bu y Cyngor Plwyfol yn eistedd, ac allan o'r 15 aelod yr oedd chwech yn absenol, beth feddylir o beth fel hyn ? Ond gwnaeth y naw hyn lawer o waith. Derbyniwyd adroddiad y pwyllgor goleuo, a ffurfiwyd pwyllgor "leehyd a'r Ffyrdd," "Y Rhandiroedd," ac archwilwyr. Rhoddwyd sylw i amryw geisiadau am lampau newydd, a phender- fynwyd cael tair meitr lamps yn mhob ward. A galwyd sylw hefyd at sefyllfa y dwfr. Yn wir, cawniechydaphobpeth gan y cynghor yn fuan iawn. Mae y Cymdeithasau Llenyddol yma yn brysur wrthi yn trefnu ar gyfer y tymhor nesaf. Os na frysir, rhaglen Johnstown fydd y gyntaf allan, a chawn sylwi arnynt fel y deuant. Mae yma un gymdeithas heb fod yn ymddibynu ar dymhor, sef, Peniel, Penrhos, ac yn ystod yr haf parhaodd yn llewyrchus iawn. Math o gymdeithas Cyd- ymdrech Grefyddol ydoedd ar y dechreu, ond y mae yn awr yn debyg iawn i'r cymdeithasau eraill sydd yma. Testyn y ddadl heno ydyw Dull Bedydd." Bydd yma dyrchu ati, oberwydd eu bod gyda'u hoff bwnc. Nos Sadwrn. GOMER JONES.
Advertising
CYFRES Y CEINION—Pris Is. yr un LLYFRAU CYHOEDDEDIG gan I. FOULKES, Brunswick Street, Liverpool i.-Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, gan y Parch W. REES, D.D. 2.-Llythurau yr Hen Ffarmwr, gan y Parch W. REES, D. D. 3.-Cyfrinach yr Aelwyd, gan y Parch W. REES, D.D. Y T <1 LLYFR UUHOn wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. i'ris 4s. 4-Gardd Eifion: sef, llarddoniaeth ROBERT AB GWILYM DDU 0 EIFION. 5-GorOlnYY Owen. Holl Waith Barddonol y Prif-fardd enwog, Hanes ei Fywyd, a o'i Lawysgrifen o Lyfr y Plwyf yn Eglwys Walton, 6.-Gwaith Beirdd Mon: sef LEWIS MORYS. Y BARDD COOII Hugh Hughes), a ROBIN DDu o FON. 7.- John Blackwell (Alun. Ei holl Weii h Barddonol. 8.—Yr Hen Bererinion: sef, Hanes Bywyd RICHARD JONES, Llwyngwril; RHYS DAFIS (Y GLUN BREN ac EDMUND JONES 0 Bontypwl. 10.—Diliau Barddas: sef, Cyfansoddiada-a barddonol BARDD NANTGLYN (Robert Davies). 9 a ii.-Pigion Englynion Fy Ngwlad, yn cynwys 2,000 o Euglynion goreu'r Iaith. Wedi eu casglu o waith Beirdd Hen a Diweddar, g.ta EIFIONYDI). Y Gyfres laf a'r 2il. 12.—Rheinallt ab Gruffydd. Rhamant Hanes- yddol. 13.-Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Yn nghyda darlun o'r Lasynys, hen gartref yr Awdwr, a darluniau eraill. Gan ELIS WYN o LASYNYS. 14.—"Christmasia," ganDAvID OWEN (Brutu ). "Bywgraffiad campus o'r enwog CHRISTMAS EVANS, an ysgrifenydd doniol a'i hadwaenai yn dda.' 15.- J. Ceiriog Hughes: Ei Fywyd ei Athry ith, a'i Waith. (Gyda Darlun cywir ohono, ac o Benyhtyn Dyffryn Ceiriog, lie ganwyd ef). Gan y 'urFRBRYF. 16.—Yr Oriau Olaf: gan JOHN CEIRIOG HUGHES, sef Caneuon, Rhiangerddi, &c., na chy- hoeddwyd or baen, ac wedi eu cymeryd o law- ysgrifau y Bardd. Y DDAU LYFR UCHOD. wedi eu rhwymo ynnghyd mewn Llian. Pris 2s 6ch. BARN MR. T. E. ELLIS, A.S. Y llyfr tra nodedig hwnw, LLYFR Y TRI ADERYN,' llyfr a ddarllenais ac a ail ddarllenais i, a chynghorwn bob Cymro i'w ddarllei-t.Araith Ion. 23ain, 1894. 17.—Llyfr y Tri Aderyn. Dirgelwch i rai i'w ddirnad ac i eraill i'w watwar. Gan MORGAN LLWYD 0 WYNEDD. Un o'r llyfrau hynotaf yn yr iaith. Gymraeg. Gyda NODIADAU AR FYWYD YR AWD WR, gan y Parch OWEN JONES, B.A., Lerpwl. Argr aphiad Newydd. 18—Llythyrau Goronwy Owen. Wedi eu manwl gydmaru a chopiau mewn ysgrif, yn nghyda rhai llythyrau nad oeddynt mewn casgliadau blaen- orol, ac ychydig eraill wedi eu cymeryd o ysgrif yfrau. TREBOR MAI, Prif Englyniwr Cymru—Ei Waith Barddonol; yn cynwys ei Englynion, Caneuon Cywyddau, &c., hefyd Darlun cywir ohono, a'i Fyw. graphiad. Pris, 5 DAFYDD AB GWILYM,—Ei Waith Barddonol, yn cynwys rhai cywyddau na chyhoeddwyd o'r blaen, cyfieithiadau i'r Saesonaeg o rai o'r darnau goreu; a bywgraphiad o'r Bardd yn Nghymrag ac yn Saesneg. Tan olygiad CYNDDELW. Pris, 10/6. YMABINOGION CYMREIG, sef Chwedlau Y Rhamantus yr Hen Gymry (fel yr ysgrifenwyd hwynt-yn yr Hen Gymraeg, ac mewn Cymraeg di. weddar). Wedi ei rwymomewn llian hardd, 17- ANEW (fac-simile) Edition of the Renowned Work IOLO MANUSCRIPTS, being a selection of Ancient Welsh Manuscripts, in prose and Verse, from the collection made by^DWARD WILLIAMS (lolo Morganwg) and intended by him as materials for a New History of Wales. With ENGLISH TRANSLA- TiONsand Notes by his son, TALIESIN WILLIAMS Ab lolo, o Merthyr Tydfii Price,2ls
[No title]
gymeryd rhan mewn cyngherdd yn Llandudno ■awn dydd Mercher oherwydd afiechyd.
iHelyijtion Bywyd Hen Deiliwr
diwrnod at hyny chwaith. Ond os myni gadw I Boni o sir Fon ymarfoga ati hi o ddifrif. Cymer I y tape coch yn wregys am dy ganol, dod nydwydd ddur yn mhen y llathen fesur i wneud gwaew- ffon, a'r siswrn yn gleddyf, cymer y llabwd yn darian, a chroga'r wydd wrth reffyn am dy wddf, a dos i ben y clogwyn yna ar lan y m6r i wylio dyfodiad Boni, ac i'w rwystro i dir. Os daw o i dy gyrhaedd, gwhn o a'r nydwydd ddur ac os na fydd byny yn ddigon, cura fe yn ei dalcen a'r wydd." Bu y llith yna yn foddion i roi taw ar y teiliwr, a chafwyd hamdden i ystyried pethau eraill oedd yn gofyn sylw. Dro arall, achwynai y teiliwr fod ei hen gym- ydogion, y rhai a gladdesid yn weddaidd, yn codi o'u beddau ganol nos, ac yn gwneud gwaith bwganod, er braw a dychryn i'r gymydogaeth; ac yr oedd o yn galw sylw'r gymanfa at y mater, ac yn gofyn help ei frodyr i ddarostwng yr elfodau anystywallt, ac i gadw tawelwch yn ngwlad angau. Ond cynghor yr oracl iddo oedd gosod y nodwydd ddur fyth yn mhen y fesur- lath, a rhoi y wniadur ar flaen y nodwydd, a rhedeg ar ol y drychiolaetbau gan ysgwyd y fesur-lath nes byddai y wniadur yn tincian ar flaen y nydwydd, ac y disgynai hyny ar glustiau yr elod mor frawychus a swn larwm, nes y ffoent mewn eiliad i'w llochesau. (o)