Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Cymdeithasfa Bangor.

Creulondeb Arswydus at Forwyn.

Cymru yn y Senedd.

Advertising

TIROEDD Y GORON YN NGHYMRU.

Corau Mawr y De a'u Costau.

Y Ficer Apostolaidd Cymreig.

[No title]

Advertising

Nodion or Rhos.

Advertising

[No title]

iHelyijtion Bywyd Hen Deiliwr

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

diwrnod at hyny chwaith. Ond os myni gadw I Boni o sir Fon ymarfoga ati hi o ddifrif. Cymer I y tape coch yn wregys am dy ganol, dod nydwydd ddur yn mhen y llathen fesur i wneud gwaew- ffon, a'r siswrn yn gleddyf, cymer y llabwd yn darian, a chroga'r wydd wrth reffyn am dy wddf, a dos i ben y clogwyn yna ar lan y m6r i wylio dyfodiad Boni, ac i'w rwystro i dir. Os daw o i dy gyrhaedd, gwhn o a'r nydwydd ddur ac os na fydd byny yn ddigon, cura fe yn ei dalcen a'r wydd." Bu y llith yna yn foddion i roi taw ar y teiliwr, a chafwyd hamdden i ystyried pethau eraill oedd yn gofyn sylw. Dro arall, achwynai y teiliwr fod ei hen gym- ydogion, y rhai a gladdesid yn weddaidd, yn codi o'u beddau ganol nos, ac yn gwneud gwaith bwganod, er braw a dychryn i'r gymydogaeth; ac yr oedd o yn galw sylw'r gymanfa at y mater, ac yn gofyn help ei frodyr i ddarostwng yr elfodau anystywallt, ac i gadw tawelwch yn ngwlad angau. Ond cynghor yr oracl iddo oedd gosod y nodwydd ddur fyth yn mhen y fesur- lath, a rhoi y wniadur ar flaen y nodwydd, a rhedeg ar ol y drychiolaetbau gan ysgwyd y fesur-lath nes byddai y wniadur yn tincian ar flaen y nydwydd, ac y disgynai hyny ar glustiau yr elod mor frawychus a swn larwm, nes y ffoent mewn eiliad i'w llochesau. (o)