Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Cohebiaethau.!

Dyffryn Clwyd.

Nodion o'r Ddinas.

O'r De.

Mr Herbert Roberts, A.S,,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mr Herbert Roberts, A.S,, a'r Ysgol Sul. DDYDD Mercher, bu aelodau holl ysgolion Sul Abergele yn mwynhau eu hunain yn Tanrallt, palas Mr J. Herbert Roberts, A.S., yr hwn oedd wedi eu gwahodd ac yn estyn croesaw calon iddynt. Mewn anerchiad byr, dywedai Mr Herbert Roberts nad oedd dim yn rhoddi cymaint mwynhad iddo a threulio diwrnod gyda rhai yr oedd wedi byw yn eu plith ar hyd ei oes. Dymunai ddatgan gobaith y byddai i'r plant oedd yn bresenol dyfu i fynu yn ddynion a merchel da, ac y deuent yn ddinasyddion defnyddiol. Gyda manteision presenol addysg, yr oedd llwybr cynydd yn agored iddynt oil yn ddi- wahaniaeth. Apeliai atynt i fod yn bur i'w gwlad, ac i wneud rhywbeth er hyrwyddo a gwella Cymru. Hyderai weled Abergele yn cynyrchu dynion a wnaent enw iddynt eu hunain yn y byd meddyliol. Da oedd ganddo eu cyfarfod fel plant yr Ysgol Sul, ac wedi'r cyfan yr Ysgol Sul oedd Prifysgol Cymru. Argymhellai hwynt i barhau yn aelodau ffyddlawn ohoni. Yn mhob ysgol arall elent yn rhy hen i ddysgu, ond yn yr ysgol Sul parhaent i gynull gwybodaeth po hynaf yr eleut. Tra yn manteisio ar bob addysg arall, dymunai arnynt barhau i fyfyrio'r Beibl a duwinyddiaeth, oblegyd wrth fod yn ffyddlawn i wirioneddau sylfaenol eu crefydd y gallent yn unig ddisgwyl am lwydd yn y byd hwn a dedwyddwch tragwyddol yn y nesat.-Wedihyn, eisteddodd oddeutu 800 wrth y byrddau llawn a threuliwyd y gweddill o'r dydd i ddifyru eu hunain. Diolchwyd i Mr a Mrs Roberts am eu caredigrwydd ar gynygiad y Parch Francis Jones, ac eiliwyd gan y Parch Humphrey Lloyd, y curad.

Boneddwr mewn Helbul yn Rhyl.

---0---Y Cymraeg yn Rhaith…

Manion oddeutu'r Menai.

[No title]

Advertising

[No title]