Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Newyddion Cymreig.
Newyddion Cymreig. Cynaliwyd arddangosfa amaethyddol Machyn- lleth ddydd Iau. Yr oedd yr anifeiliaid ddangos- Wyd yn lluosog ac o ansawdd rhagorol. Cymro o'r enw David Williams, brodor o Gwynfe, sir Gaerfyrddin, yw prif-gwnstabl Port Elizabeth, Deheubarth Affrica. Curad newydd Eglwysrhos, Llandudno, yw'r Parch Bevan Evans, M.A., diweddar o Bonty- pridd. Ymwelodd 5,626 o grwydriaid a thlottai sir Dre- faldwyn yn ystod y chwarter diweddaf-llai o 1,620 na'r chwarter cyfatebol y flwyadyn flaenorol. Ddydd Gwener, terfynodd tymhor pysgota eog- iaid yn y Ddyfrdwy, a dywedir fod mwy wedi eu dal eleni nag er's blynyddau lawer. Bwriada Cwmni y L. & N. Western adeiladu gorsaf newydd yn Prestatyn, ger Rhyl, ac y mae'r gwaith wedi ei roddi i ffirm o Lerpwl. Mae Syr G. Osborne Morgan wedi paru gyda'r Llyngesydd Field am weddill y tymhor seneddol. Bwriada ef a'i briod dreulio mis o seibiant yn Swit- zerland. Ysgrifena'r Proffeswr Herkomer yn ffafr corph- ori'r Eisteddfod, am y byddai i hyny, medd efe, roddi asgwrn cefn i'r sefydliad fel na fyddai raid dibynu ar frwdfrydedd yn unig i'w chynal. Ddydd Mercher, adnewyddwyd yr holl drwydd- edau yn rhanbartb Penarddlag o sir Fflint. Dy- wedid fod meddwdod wedi lleihau, a llongyfarch- Wyd y tafarnwyr am gadw cystal trefn yu eu tai. Hysbysir fod priod Syr Theodore Martin, Plas Llantysilio, ger Llangollen, yn beryglus glaf. Cyn priodi, adwaenid hi fel Helen Faucit, y chwareu- yddes enwog. Mae eglwys y Bedyddwyr, Seion, Cefn Mawr, wedi rhoddi gal wad unfrydol i'r Parch J. Jones, Llandysul, i ddyfod i'w bugeilio fel olynydd i'r Parch Abel J. Parry. Watcyn Wyn yw'r unig bregethwr gyda'r Anni- bynwyr sydd wedi ei ordeinio yn weinidog heb iddo gymeryd gofal eglwys na myned i'r maes cenadol. Mewn cyfarfod o Gynghor Dinesig Bangor, gyn- aliwyd nos Wener, penderfynwyd goleuo'r ddinas & thrydan, a bwriedir prynu maea gan Arglwydd Penrhyn er gwneud y trefniadau angenrheidiol. Yn llys trwyddedol Porthmadog, ddydd Gwener, gwnaed cais am drwydded i westty fwriedir adeil- adu ar ben y Wyddfa, ond gwrthododd yr ynadon hyn. Gwysiwyd larll Powys gan Gynghor Trefol Maldwyn ddydd Iau am esgeuluso adgyweirio ty ar i ystad, ond gan ei fod wedi rhoi rhybudd i'r ten- ant ymadael, gohiriwyd yr achos. Hysbysir marwolaeth y clerigwr adnabyddus, Parch George W. Rees, ficer Llandysilio, sir Ben- fro, yr hyn a gymerodd le ddydd Gwener, yn yr 85 mlwydd o'i oedran. Yr wythnos ddiweddaf dechreuwyd adeiladu pont dros afon Conwy yn Nhalycafn, yr hon fydd yn hwylusdod i fasnach y gymydogaeth. Y mae i'w gorphen mewn un mis ar ddeg. Ddydd Mercher, claddwyd yr hyn oedd farwol o Mrs Owen, gweddw y diweddar Barch John Owen, Ty'nllwyn, a mam y Parch John Owen, Criccieth. Bu farw y Sul blaenorol yn Nghricciefch. Cynaliodd Cwmni Gwaith Dwfr Brymbo eu cyf- &rfpd blynyddol ddydd Mercher, a bu'r aelodau yn ymdderu tipyn yn nghylch swm y llog i'r cyfran- ddalwyr. Pendeifynwyd yn y diwedd eu bod i dderbyn 4 y cant. Yn ystod y regatta yn Mangor ddydd Mercher, (Jafodd cwch hwyliau ei ddymchwelyd, a thafiwyd Y pedwar dyn oedd ynddo i'r meir. Bu agos i un ohonynt golli ei hoedl, ond trwy driniaeth feddygol adferwyd ef. Bu llu o dan-ddiffoddwyr ar ymweliad a. phalas Arglwydd Mostyn ddydd Mercher. Cawsant Wledd groesawol gan y boneddwr urddasol, ac yn ddilynol dangoswyd mor fedrus oeddynt i ddiffodd lill ac achub bywydau. Cymro sy'n prysur ddringo i enwogrwydd yn y "yd cerddorol fel bariton yw Mr Meurig James. Brodor o Abertawe yw, a daeth i'r amlwg gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol ei dref enedigol bedair blynedd yn ol. Yn nghyfarfod blynyddol Llywodraetbwyr Ysgol anolradd Bala ddydd Gwener, ail etholwyd Syr Beyer Robertson, Pale, yn gadeirydd, a phen- derfynwyd darparu addysg ganolradd i ferched yr ardal. Ddydd Sadwrn, cychwynodd y Parch James y>nes, Llanbrynmair, a'i briod yn yr agerlong ■kwcam'a i'r America. Yr wythnos ddiweddaf y Priododd, ac yn ngwlad Uncle Sam y bwriada reulio ei fis mel. Torodd tan allan yn Weston Cotton, ger Croes- Sailt. ddydd Mercher, a llwyr Iosgwyd amryw ^deiladau oedd yn llawn o we) It a gwair. Bu agos ^O'lmp o geffylau ac amryw gwn fyn'd yn aberth 1 r fflamau, ond llwyddwyd i'w hachub. Yn bresenol, mae Mr Gwenogfryn Evans ar ym- Wehad a Myrddin Fardd, Chwilog, Arfon, yr hwn Syda llaw sydd yn hynafiaethwr gwych, yn llyfr- 'yf dyfal, ac yn of da. Neges Gwenogfryn yw chwilio i mewn i'r hen lawysgrifau Cymreig sydd Yn meddiant Myrddin. Ysgrifena Gwilym Cowlyd, y Prif-fardd Pendant, chwedl yntau, at y Parch R. Peris Williams, Llandudno, i wrthdystio yn erbyn y modd y cerir gvveithrediadau yr Orsedd a'r Eisteddfod ynmlaen. arllena ei lythyr fel math o Ddeg Gorchymyn i'r eirdd, ac y mae'n amlwg ei fod yn parhau i fyw an yr <> jjea Oruchwyliaeth Dderwyddol." Mae Mri Herbert Lewis a Lloyd George ar fedr reulio ychydig seibiant ar y Cyfandir, gan fod gwaith yr etholiad diweddaf wedi anmharu eu lechyd. Yn mysg y cyn-ymgeisvvyr eraill sydd yn /wyno, ceir Mr T. E. Ellis, Mr Humphreys-Owen, ,'Rees Davies, Mr Yaughan Davies, a Mr Wyn- ci .fillips, ac y maent oil ar adael y wlad hon i Wlho am gryfhad mewn gwledydd eraill. Ddydd Mercher, cymerodd etholiad le yn Nhre- yn°n i Ianw sedd Mr Richard Bromley, yr hwn J>«»iswyd yn drengholydd, ar Gynghor sir Fflint. aclau ymgeisydd oeddynt Mr J. Kerfoot Evans, ^Greenfield House, R.,a Mr J. P. Eyton, dmawr, C. Caed fod y ffigyrau fel y canlyn 3'i566 5 Eyton' 151; mwyafrif i'r Rhydd-
Ffestiniog.
Ffestiniog. CYNALIWYD trengboliad gohiriadig i achos damwain angeuol William Thomas yn Chwarel y Graigddu, ddydd Gwener diweddaf, o flaen Mr R. 0. Jones, dirprwy-grwner, yn Ngwestty Glanygors. Eglurodd Mr Jones fod y treng- holiad wedi ei ohirio fel y gallai un o arolygwyr ei Mawrhydi fod yn bresenol. Ymddengys yn ol y tystiolaethau fod y traticedig yn parotoi i bowdro twll wyth troedfedd o ddyfn am y bed- waredd waith, bod y powdr wedi Ifrwydro tra yr oedd wrtbi yn ei ddodi yn y twll, a bod y truan wedi ei hyrddio ddeg Hath ar bugain o bellder, ac wedi syrthio ar graig noeth, lie caed ef wedi marw. Yr oedd ei ben wedi ei falurio yn ddychrynllyd, a chafwyd ei ymenydd gryn bellder oddiwrth ei gorph, yn lan ac i bobgolwg yn gyflawn. Chwythwyd asgwrn ei gn ymaith, ac er chwilio yn ddyfal am dano methwyd ei gael. Defnyddiai y trancedig stamper haiarn i fesur fel y codai y powdr yn y twll, a'r dybiaeth ydyw i'r stamper ddod i wrthdarawiad & spar neu ithfaen caled, ac enyn gwreichionen, yr hon yn ddiatreg a ffrwydrodd y powdr. Dywedir fod oddeutu tri cbwarter cant o bowdr wedi ei roddi yn y twll pan gymerodd y ffrwydriad le. Holwyd y tystion yn fanwl gan y crwner a Mr G. J. Williams (arolygydd ei Mawrhydi) ond ychydig, os dim, o oleuni ar achos uniongyrchol y ddamwain a gafwyd. Wedi ymgynghoriad byr, dychwelwyd rheithfarn o Farwolaeth ddamweiniol." Hysbysodd Mr Williams fod rheolau newyddion ar fin cael eu hanfon i'r gwahanol chwarelau yn y dosbarth, ac yn ol y rhai byny gwaherddir i bawb ddefnyddio un- rhyw erfyn baiarn lie y bo perygl iddo ddyfod i gyffyrddiad a. phowdr noeth. Ymddengys oddiwrth yr ychydig eiriau a dra- ddodwyd yn y Penrhyn ddydd Iau diweddaf, gan Dr Roberts a Mr Parry Jones, fod lie i ofni fod tuedd mewn dosbarth o chwarelwyr ieaainc Ffestiniog i redeg i benrhyddid ac i ddifrio aw- durdod o bob math. Gosodwyd y wialen yn ddidrugaredd ar warau y pechaduriaid, ond ofnaf os boddlonir ar fygwch a dweyd y drefn' mewn geiriau yn unig, y byddis yn hir iawn cyn yr ymlidir yr ysbryd dyeithr hwn o'r ardal. Credaf na thycia dim llai na cbosb drom i roddi yr ysbryd i lawr a chan nas gellir dwyn y dy- hirod i gyrhaedd y gosb rhaid cael cydweithred- iad cyffredinol y cyhoedd. Hyderaf y bydd yr heddgeidwaid yn cael y cynorthwy angenrheidiol i gael gafael ar y bodau hyn sydd yn peri y fath Hinder i ardalwyr heddychlawn unwaith y ceir hyny teimlaf yn ddibetrus yn nghylch y canlyn- iadau. Ddydd Ian diweddaf ydoedd yr hyn a elwid flynyddau blaenorol yn wyl y dirwestwyr a'r tafarnwyr," ond eleni dipyn yn fflat ydoedd y gweithrediadau, oherwydd, mae'n debyg, na ddaeth cynrychiolwyr y dosbarth blaenaf i'r wyl. Yn y gwyliau blaenorol byddai gwyr y ruban glas a gwyr (y trwynau fu agos i mi ddweyd) yr hylif coch yn ymafaelyd codwm gerbron yr ynadon, ond eleni cafodd yr olaf eu ffordd eu hun. Priodolir absenoldeb cefnogwyr dirwest i luaws o eagusodion, yr oil ohonynt, hyd ag y gwn, yn eithaf cyfreithlawn, megys yr esgusodion yn y ddameg, Un a briododd wraig, arall I I oedd ar fin symud," a'r lleill oeddynt brysur yn y maes neu gyda'u masnach, fel nad oedd neb ar gael i ofalu am ddyfodol "sobr" y fro. Hwyrach, o ran hyny, fod gor- mod o capital wedi ei wneud o'r gorchwyl o wrthwynebu adnewyddiad trwyddedau yn y gorphenol mor bell ag y mae a wnel 4 Ffestin- iog, a bod pobl yn dod yn gallach wrth hen- eiddio. BARLWYD. DDYDD Gwener, cynaliodd Cymdeithas Tonic Sol-ffa Gogledd Cymru ei phedwerydd eisteddiad blynyddol yn Mlaenau Ffestiniog. Yn y cyfar- fod cyntaf yn nghapel Jerusalem, llywyddwyd gan Mr Cadwaladr Roberts, Tanygrisiau, yr hwn yn ei anerchiad agoriadol a gyfeiriodd at ddylanwad cyfundrefn y Tonis Sol-ffa ar ganu corawl a chynulleidfaol Cymru. Oanodd y cdr unedig, yn rhifo oddeutu 600, amryw donan ac anthemau, dan arweiniad Mri Evan Jones, Penygroes, a W. J. Williams, (Gwilym Alaw), Caernarfon. Un o bethau mwyaf dyddorol y cwrdd oedd cynllun-wers a roddodd Mr D. Pryse Jones i ddosbarth o fechgyn o'r Y sgol Uwchraddol, rhai ddangosent fedrusrwydd neillduol i ddeall elfenau cerddoriaeth. Caed anerchiadau gan y Parchn Gethin Davies, D.D. Bangor Cynflig Davies, Porfchaethwy Mr J. Spencer Curwen, Llundain, ac Alaw Manod, Ffestiniog. Hysbysid fod mwy o Gymry ar gyfartaledd yn enill tystysgrifau cerddorol na neb arall mewn unrhyw ran o'r byd. Tranoeth cynaliwyd cynadledd, dan lywyddiaeth y Parch E. Cynflig Davies, pan y trafodwyd amryw faterion cerddorol pwysig. o:
Gostau <€tholiadol Ymgeiswyr…
Gostau <€tholiadol Ymgeiswyr Cymreig SIR Drefaldwyn.Costiodd yr etholiad 1,168p. 18s nc. i Mr. A. C. Humphreys Owen, A.S. a 1,136p 8s. lie. i'w wrthymgeisydd, Mr. R. Williams- Wynn. Yn Rhanbarth Croesoswallt costiodd dychweliad Mr. Stanley Leighton, A.S., 1,412p. 2s. 3c. tra yr oedd costau Capten Owen Thomas, yr ymgeisydd Rhyddfrydol, yn 781p. Is. 7e. Yn Nwyreinbarth sir Ddinbych, costiodd yr etholiad 1,237p. 2s. 7c. i Syr George Osborne Morgan, A.S., a 1,199p. 16s. 4c. i'w wrthymgeis- ydd, Mr. St. John Baikes. Yn Mwrdeisdrefi Dinbych, costiodd yr etholiad 563p. 4s. 5c. i Mr. Tudor Howell, A.S., a 590p. 18s. Ie. i Mr. Herbert Walter Morgan, yr ymgeis- ydd Rhyddfrydol. Yn Ngorllewin sir Ddinbych, costau dychweliad Mr Herbert Roberts, A.S., oedd l,168p. Is. 10c., a chostau ei wrthwynebydd, Mr Wynne Edwards, oedd 1,231p. 6s. 4c. Yn Mwrdeisdrefi sir Fflint, gwariodd Mr Herbert Lewis, A.S., 482p. 19s. 9c., tra yr oedd costau ei wrthymgeisydd Mr Pennant, yn 502p. 14s. Ie.
Cwreichion.
Cwreichion. IT Y MAE y rhai fyddo wedi ffoli ar gwn yn gread- uriaid rhyfedd. Yr oedd gan wr y Wernol gorgi yr oedd wedi gosod ei serch arno, ac yn awyddus i wybod a oedd efe yn cymeryd ei ddysg, fe ddywed- odd wrth gymydog gyfarfyddodd ar y ffordd, Dyma chi, John Evans, cymerwch arnoch godi ffrae a mi, a rhowch gilgwthiad i mi, i edrych beth wneiff y ci Na, ddim, thank ye,' ebe y cymydog yn bur gall. H Aeth John Roberts y Glo hefo trip y dydd o'r blaen, a phan oeddynt'yn troi am ryw benelin yn y I ffordd rhoddodd rhywun ei ben allan, ac a ganfu dien arall yn dyfod i'w cyfarfod, pryd y dywedodd 'Bobl anwyl, y mae tren yn dwad i gwarfod y'n tren ni, ac mi eiff yn golision Yn reit ddifrifol atebai John Roberts, Diawst i, taswn i yn gwbod faswn i ddim yn cymyd return ticket j' IT Y mae un gweitbiwr, chware teg iddo, wedi gwneud apeliad at y Rhaith Blwyfol am allotment, a phan ofynodd un o'r aelodau iddo beth oedd ei ragolygon, fe atebodd yn ddifrifol, Yn awr y mae Chamberlain yn llywodraethu, ac y mae yn hen bryd i ni gael tair acr a buwch.' IT Mewn swper tir tatws y noson o'r blaen, pan oedd y cadeirydd yn rhoddi y llwncdestyn, Y Boneddigesau-y ilestri gwana,' fe gododd labrwr oedd wedi ei fendithio a gwraig fwy na fo'i hun, ac a ddywededd, er difyrwch mawr i'r tatwsiaid, Siaradech chi ddim fel ene tasech chi wedi byw hefo Sal ni acw am 'thefnos, mi na lw.' UYroeddgwr y Tyddyn wedi haner gyflogi gi crwmffast dros adeg y cynhauaf, a dywedodd wrtho, Khedwch i nol y'ch caritor o'r lie y buoch ddiweddaf, a chyfarfyddwch fi yma am bedwar o'r gloch i daro'r fargen.' Daeth y crwmffast yn bryd- lon, 'Wel,' ebe y meistr, 'gawsoch chi'ch caritor?' Do,' ebe y bachgen, ac yr ydw i wedi cael y'ch caritor chwithau, a ddo i ddim atoch chi pe tae chi yn rhoi y Tyddyn i mi am ddwad.' IT Y mae Dr Pan Jones wrthi yn estyn ymwared i bobl y De y dyddiau hyn, ac yn rhanu y ddaear iddynt. Gwnaeth y Dr tirion y diffyg i fynu ar ol yr etholiad, a'i arwyddair fyddo'r hen dwng Nid elo i byth o'r fan yma cyn cael y ddaear i'r bobl.' If Sylw digon cyrhaeddgar oedd hwnw wnaeth rhywun y Sul o'r blaen ar ol bod yn y moddion gras, Wyddoch chi be, tydyw y diafol ddim yn meddwl ei fod yn greadur mor ddrwg wedi gwrando ambell bregeth,' meddai. IT Sylw arall pur bert: Tydyw crefydd bur a dihalogedig byth yn gadael ei holl arian gartref pan yn myned i'r Eglwys.' Y mae y sylw yr un mor gymwys i'r capel hefyd, ac yn werth ei gofio. ? Wedi gwrando pregeth ryfeddol o farwaidd y Sul o'r blaen dywedai gwr dyeithr wrth fyned o'r oedfa, Yr anwyl ine rhaid fod crefydd yn gofyn mwy o fywyd na hyn'a—alle dyn diarth feddwl, oddiwrth y gwasanaeth, mai rhyw bry genwar ydyw eich Duw chi y ffordd yma.' Gymry, beth feddyl iwch chwi o'r sylw rhyfedd ? If Wrth fyned i Langynhafal y prydnawn o'r blaen, cyfarfyddais hen wladwr yn dychwelyd o lafur y dydd, ac er fy syndod, fe'm cyfarchodd yn y geiriau diddisgwyl, 1 Ys gwn i beth fydd yn y Cymro ar ol y walk yma ?' Anghofiais nes oedd yn rhy ddiweddar ofyn iddo am wreichionen. Yr oedd digonedd ohonynt yn pefrio yn nghil ei lygad pe buaswn yn ddigon cwit i'w darllen. If Y mae y ffermwyr yn dechreu cwyno oherwydd anwadalwch y tywydd. Meddai gwr y Gellifor ar ol y gwlaw trwm ddisgynodd nos Fercher, 'beithio na tydi hi ddim yn myn'd i wneud cynhaua 'run fath a hwnw gawson ni bum mlynedd yn ol-wedi hel dynion at y ty. disgynai cawod o wlaw, neu gawod o eira nes oeddwn i wedi mynd o'r diwedd bron i weddio a grwgnach bob yn ail Onid oes offeiriad yn y Gellifor? 03 oes, gall ef wneud ei waith rhwng y cawodydd. CYFARWYDD. o
Barddoniaeth.
Barddoniaeth. Y LLYTHYRGLUDYDD (Darn i'w Adrodd). Y BYWIOG lythyrgludydd sy'n myn'd o dy i dy, A'i god yn llawn o gynyrch dawn y byd mewn gwyn a du; Dosbartha y newyddion, bygythion hefyd, rai Sy'n myn'd a dod trwy'r llythyr god, fel llanw'r m6r a'i drai. Ar draethell mdr amrywiaeth masnachol, dydd 'rol dydd, A'n lion i'w daith, mewn ufudd waith cyflwyna'i nodion cudd Hoff swyddog a'i wasanaeth fel dolen gydiol syw Gyfuna 'nghyd feddyliau'r byd yn ei agweddion byw. Y siriol lythyrgludvdd yn eistedd wrth y ddor, Dan ddirfawr gwyn mae geneth fwyn sydd newydd groesi'r m6r; Llais hiraeth wedi'i suo fel i ryw lesmair prudd, Tra deigryn del y gair ffarwel heb sychu 'ddiar ei grudd. Daw heibio'r 1 lythyrgludydd, estyna iddi'n lion Air bach dan len o Walia wen, sydd falm briwedig fron. Gwnaeth darllen ei gynwysiad ei chalon ddwys yn fflam, A gwenai'n lion drwy'r frawddeg hon, Oddiwrth dy anwyl fam." Y pruddaidd lythyrgludydd, er dwyn newyddion clyd I fewn i'n tai, ti gludaist rai, a chwerwant oes i gyd. Derbyniodd gwraig y morwr air prudd, Bu farw John," A chafodd fedd un nawn mewn hedd yn ngwaelod gwely'r don. Mae adgof heddyw'n crwydro'n gwynfanus yma thraw, Dan olion pwys brawddegau dwys dderbyniodd o dy law; Arddengys dy swyddogaeth yn cludo'r teg a'r croes, Fod mel a. sen yn dwf ar bren cymdeithas yn mhob oes. Y ffyddlawn lythyrgludydd, er mor amrywiol yw Newyddion hael, bramt yw dy gael, fel ein negesydd gwiw, I gludo'n cyfeillgarwch mewn dymuniadau cun, Yn ffrydiau derch o gwpan serch gysyllta ddyn wrth ddyn. Buddioldeb dy swyddogaeth sydd yn cyhoeddi'n hy' Y byddai'r byd fel mynwent fud pe heb dy swydd fach di. Edmyger ei ffyddlondeb, mae'n deilwng wrthrych clod, Tra ar ei gefn mae'n cario trefn y byd mewn llythyr g6d. O'r Drych. PERORYDD. WM. DAVIES Y LLYFRAU, o DDINBYCH. DIFYR yw William Davies,—mae'n gawr mewn Grym mawr, fel y gwyddis II Ymagor a wna megis Llyfr a'i brawf oR o fawr bris. Ymdyfa William Davies-yn ein serch Yn un sydd o fawrbris Ei chwyl rawd o uchel ris Yw da lyfrbryf dilwfrbris. Lie afrwydd am werth llyfrau-o uiifan Yw Llanfair yn ddiau Nid oes llyfr wna'i dwys wellau Ond rhyw gan trwy eu genau. MEIRIADOG. Y DIOGYN. "BONEDDWR" heb un eiddo—yw'r diogyn, Ar adegau'n gweithio; I wr o'i dras a'i urddas o (?). Cywilydd yw hyn, 'rwy'n coelio. RHAGORIAETH DW'R AR GWRW. DW'R wast i bob dirwestwr-yw gwirod, Neu gwrw'r tafarnwr A'r gore i ddyn yw'r gwir ddw'r A groewyd gan ei Grewr. SIWGR. TRA hyglod yn mhob trigle-yw siwgr, Hwn wna'r seigiau gore A feddwn, rhaid cyfadde, A pheth iawn mewn coffi a the. IOAN BROTHEN.
Advertising
Gymry,cefnogwch GtycUvladwyr. B^ytewch FOOfBA.LL Oats Yr ansawdd goreu ar wyneb y ddaear. 0 dyflant Prydeirig. Na chymerwch eich perswadio brynu ansawdd gwael. diflas fel yr Americanaidd. Elienau Athropeth Foesol," (Yr unig lyfr yn ein hiaith ar y gangen hon o wybodaeth). Pris is. Trwy y Post, is ic mewn llian, 1/6 Mae pawb sydd i ryw fesur yn hoff o olrhain Gwirioneddau Ysgrythyrol yn rhwym o deimlo dyddordeb mewn Athroniaeth Foesol. Danfoner at yr Awdwr, Rev. JOHN JONES, Tuebrook, LIVERPOOL. AT Gymdeitliasaii Darllen Gartref A Chymdeithasau Llenyddol. There are no more vigorous compositions in the whole field of Welsh Literature than Goronwy's Letters. The epistles con- tain a faithful transcript of Goronwy's life, his difficulties, his feelings, his passionate love of country, his enthusiasm for the Welsh language and literature. The Letters are couched in perfect idiomatic Welsh. Western Mail, Mehefin 21, 1895. Pris Swllt. Trwy y Post, Is. Ie. Llytljyrau Goroqwy Owen"; Tan olygiaeth Proff. J. MORRIS JONES, M.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. LERPWL: Cyhoeddir gan I. FOULKES, 18, Brunswick Street Dim ond ychydig gopiau y n weddill. Gwaith Barddonol Eben Fardd, Am 7s. 6ch. Trwy y Post, s. YR ydym wedi prynu yr holl Stoc o Waith y 1 Prif-fardd Enwog o Glynog, ac er mwyn clirio, gwerthir hwy wedi eu rhwymo yn hardd mewn Ilian am T'S. 6ch. yr un-tua. haner eu pris ar y cyntaf. ISAAC FOULKES, 18, Brunswick Street, Lerpwl. PRIS SWLLT, Trwy Post ar dderbyniad Is. He. 2 "CAN1ADAU ELFED." Ail Argraphiad yn awr yn barod. ALLAN O'R WASG, PRIS SWLLT, Trwy y Post, Is. lic. "TRI CHRYFION BYD," "PLESER A GOFID," OYBYDD-DOD ac OFEREDD: Tair Antarliwt o waith TWM (TK NANT. I FOULKES, 18, Brunswick St,, LIVERPOOL. Important Announcement. Q-WALIA =OUSE, 8 & 9, Upper Wobnrn Place, LondoIl, W.C. CHANGE of PROPRIETORSHIP The above well-known Private Hotel is now under the immediate Superintendence of the new Pro. prietress, MRS. JONES, who hopes by persona attention to the Comforts of Visitors, again to make GWALIA HOUSE "A HOME FROM HOMF.' Telegraphic AJdress-" G wynva, London."