Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Newyddion Cymreig.

Ffestiniog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ffestiniog. CYNALIWYD trengboliad gohiriadig i achos damwain angeuol William Thomas yn Chwarel y Graigddu, ddydd Gwener diweddaf, o flaen Mr R. 0. Jones, dirprwy-grwner, yn Ngwestty Glanygors. Eglurodd Mr Jones fod y treng- holiad wedi ei ohirio fel y gallai un o arolygwyr ei Mawrhydi fod yn bresenol. Ymddengys yn ol y tystiolaethau fod y traticedig yn parotoi i bowdro twll wyth troedfedd o ddyfn am y bed- waredd waith, bod y powdr wedi Ifrwydro tra yr oedd wrtbi yn ei ddodi yn y twll, a bod y truan wedi ei hyrddio ddeg Hath ar bugain o bellder, ac wedi syrthio ar graig noeth, lie caed ef wedi marw. Yr oedd ei ben wedi ei falurio yn ddychrynllyd, a chafwyd ei ymenydd gryn bellder oddiwrth ei gorph, yn lan ac i bobgolwg yn gyflawn. Chwythwyd asgwrn ei gn ymaith, ac er chwilio yn ddyfal am dano methwyd ei gael. Defnyddiai y trancedig stamper haiarn i fesur fel y codai y powdr yn y twll, a'r dybiaeth ydyw i'r stamper ddod i wrthdarawiad & spar neu ithfaen caled, ac enyn gwreichionen, yr hon yn ddiatreg a ffrwydrodd y powdr. Dywedir fod oddeutu tri cbwarter cant o bowdr wedi ei roddi yn y twll pan gymerodd y ffrwydriad le. Holwyd y tystion yn fanwl gan y crwner a Mr G. J. Williams (arolygydd ei Mawrhydi) ond ychydig, os dim, o oleuni ar achos uniongyrchol y ddamwain a gafwyd. Wedi ymgynghoriad byr, dychwelwyd rheithfarn o Farwolaeth ddamweiniol." Hysbysodd Mr Williams fod rheolau newyddion ar fin cael eu hanfon i'r gwahanol chwarelau yn y dosbarth, ac yn ol y rhai byny gwaherddir i bawb ddefnyddio un- rhyw erfyn baiarn lie y bo perygl iddo ddyfod i gyffyrddiad a. phowdr noeth. Ymddengys oddiwrth yr ychydig eiriau a dra- ddodwyd yn y Penrhyn ddydd Iau diweddaf, gan Dr Roberts a Mr Parry Jones, fod lie i ofni fod tuedd mewn dosbarth o chwarelwyr ieaainc Ffestiniog i redeg i benrhyddid ac i ddifrio aw- durdod o bob math. Gosodwyd y wialen yn ddidrugaredd ar warau y pechaduriaid, ond ofnaf os boddlonir ar fygwch a dweyd y drefn' mewn geiriau yn unig, y byddis yn hir iawn cyn yr ymlidir yr ysbryd dyeithr hwn o'r ardal. Credaf na thycia dim llai na cbosb drom i roddi yr ysbryd i lawr a chan nas gellir dwyn y dy- hirod i gyrhaedd y gosb rhaid cael cydweithred- iad cyffredinol y cyhoedd. Hyderaf y bydd yr heddgeidwaid yn cael y cynorthwy angenrheidiol i gael gafael ar y bodau hyn sydd yn peri y fath Hinder i ardalwyr heddychlawn unwaith y ceir hyny teimlaf yn ddibetrus yn nghylch y canlyn- iadau. Ddydd Ian diweddaf ydoedd yr hyn a elwid flynyddau blaenorol yn wyl y dirwestwyr a'r tafarnwyr," ond eleni dipyn yn fflat ydoedd y gweithrediadau, oherwydd, mae'n debyg, na ddaeth cynrychiolwyr y dosbarth blaenaf i'r wyl. Yn y gwyliau blaenorol byddai gwyr y ruban glas a gwyr (y trwynau fu agos i mi ddweyd) yr hylif coch yn ymafaelyd codwm gerbron yr ynadon, ond eleni cafodd yr olaf eu ffordd eu hun. Priodolir absenoldeb cefnogwyr dirwest i luaws o eagusodion, yr oil ohonynt, hyd ag y gwn, yn eithaf cyfreithlawn, megys yr esgusodion yn y ddameg, Un a briododd wraig, arall I I oedd ar fin symud," a'r lleill oeddynt brysur yn y maes neu gyda'u masnach, fel nad oedd neb ar gael i ofalu am ddyfodol "sobr" y fro. Hwyrach, o ran hyny, fod gor- mod o capital wedi ei wneud o'r gorchwyl o wrthwynebu adnewyddiad trwyddedau yn y gorphenol mor bell ag y mae a wnel 4 Ffestin- iog, a bod pobl yn dod yn gallach wrth hen- eiddio. BARLWYD. DDYDD Gwener, cynaliodd Cymdeithas Tonic Sol-ffa Gogledd Cymru ei phedwerydd eisteddiad blynyddol yn Mlaenau Ffestiniog. Yn y cyfar- fod cyntaf yn nghapel Jerusalem, llywyddwyd gan Mr Cadwaladr Roberts, Tanygrisiau, yr hwn yn ei anerchiad agoriadol a gyfeiriodd at ddylanwad cyfundrefn y Tonis Sol-ffa ar ganu corawl a chynulleidfaol Cymru. Oanodd y cdr unedig, yn rhifo oddeutu 600, amryw donan ac anthemau, dan arweiniad Mri Evan Jones, Penygroes, a W. J. Williams, (Gwilym Alaw), Caernarfon. Un o bethau mwyaf dyddorol y cwrdd oedd cynllun-wers a roddodd Mr D. Pryse Jones i ddosbarth o fechgyn o'r Y sgol Uwchraddol, rhai ddangosent fedrusrwydd neillduol i ddeall elfenau cerddoriaeth. Caed anerchiadau gan y Parchn Gethin Davies, D.D. Bangor Cynflig Davies, Porfchaethwy Mr J. Spencer Curwen, Llundain, ac Alaw Manod, Ffestiniog. Hysbysid fod mwy o Gymry ar gyfartaledd yn enill tystysgrifau cerddorol na neb arall mewn unrhyw ran o'r byd. Tranoeth cynaliwyd cynadledd, dan lywyddiaeth y Parch E. Cynflig Davies, pan y trafodwyd amryw faterion cerddorol pwysig. o:

Gostau <€tholiadol Ymgeiswyr…

Cwreichion.

Barddoniaeth.

Advertising