Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Corphori'r Eisteddfod.

Annibynwyr Cymru.

Seneddol.

Lleol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Lleol. AR achlysur eu priodas, anrhegwyd Mr a Mrs G. J. Stephen, gan Gymdeithas Ymdrech Grefyddol y Tabemacl a chopi hardd o'r argraphiad diwygiedig o'r Beibl. NID oedd ond un cyfnewidiad yn nghylchdeithiau Wesleyaidd y ddinas y flwyddyn hon, sef ymadawiad y Parch David Jones, Boundary Street, o Gylchdaith Shaw Street. Cymerir ei le gan y Parch Evan Evans. FEL y gwelir yn ein colofnau hysbysiadol, ceir sale haner-blynyddol yn masnachdy adnabyddus Mri Jones, 59, 61, a 63, Brunswick Road, ac y mae'r nwyddau gynygir ar werth, a'r prisiau isel ofynir am danynt, yn sicrwydd y ceir bargeinion da. Nos Sul ddiweddaf, rhoddodd eglwys y Methodistiaid Everton Brow alwad unfrydol i'r Parch Wynne Davies, Bolton, i ddyfod i'w bugeilio, a hyderir y bydd iddo gydsynio. Mae Mr Davies yn bregethwr coeth yn Saesneg a Chymraeg. DDYDD Iau, yn ynadlys y ddinas, cyhuddwyd Robt. Jones, Hemans Street, o lofruddion wirfoddol ei blentyn dwy fiwydd a saith mis oed, RobertEdward Jones, ar yr 17eg o Awst, trwy don eiwddf a chyllell. Wedi gwrando'r tystiolaethau, anfonwyd y cyhudd- edig i sefyll ei brawf yn y frawdlys nesaf.

PRIODAS 0. KENRICK JONES,…

Advertising

TREFN CYMANFA'R ANNIBYNWYR

PWLPUDAU CYMREIG Medi 8. LERPWL.

--0--Marchnadoedd.

Advertising

Family Notices