Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr

Cynddelw a'r 'Hen Deiliwr.'

--0--Trychineb yn Nghemaes,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0-- Trychineb yn Nghemaes, Mon. DDYDD Mercher, cymerodd trychineb le yn Nghem- aes, a drodd yn angeuol i dri o bersonau, a diangfa gyfyng gafodd pedwar eraill. Oddeutu un o'r gloch prydnawn aeth pedair boneddiges, un bon- eddwr, a dau o geidwaid y glanau allan am fordaith mewn cwch hwyliau. Wedi morio am yspaid, cychwynwyd yn ol, a phan oddeutu dau can llath oddiwrth y lan daeth gwynt cryf yn ddisymwth, a dymchwelwyd y cwch. Taflwyd yr oil i'r dwfr, ond daliodd un o'r dynion ei afael yn un o'r bonedd- igesau nes daeth cwch i achub y ddau. Achubwyd boneddiges arall hefyd ac un o'r dynion, ond bodd- odd y lleill, sef Mrs Richmond, Lerpwl, yr hon oedd oddeutu 54 oed, ac wedi priodi yn ddiweddar ei merch-yn-nghyfraith, oddeutu 23 oed, ac yn glofl:; a'i mab-yn-nghyfraith, oddeutu 33 oed. Cafwyd hyd i gorph y fam a'r ferch, ond nid yw corph y mab wedi ei gael eto. Yn y trengholiad gynaliwyd ddydd Iau, dychwelwyd rheithfarn o "Farwolaeth ddamweiniol trwy foddiad." -0-

[No title]