Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

----____-Gwreichion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gwreichion. H YR Orsedd v. Cowlyd Mewn ymddyddan ag ysgrifenydd Eisteddfod Llandudno, yn ol y Man- chester Guardian, dywedai y Prif-fardd Pendant pe buasai Pwyllgor Eisteddfod 1896 wedi gofyn iddo ef y buasai yn rhoddi ei ganiatad i newid mesur y Gadair; ac heb ei ganiatad nad oedd gwaith yr Orsedd yn Llanelli ond ofer.' Felly Mwy yw Cow lyd na'r Orseld If Yr oedd Mr Wynne wedi byw flynyddoedd gyda gwraig o Scotland, ac wedi myned mor debyg i Scotsman nes y meddyliodd gwraig maelfa yn Mangor y dydd o'r blaen mai Sais pur oedd yn gofyn How do yon svll the philberts, Mrs ?' 1/- a pound, sir,' ebe hithau. 1/- a pound that is a very dear price, isn't it ?' ebe yntau yn bur wy- bodus, pryd y daeth y ferch i mewn ac a ddywed- odd yn Gymraeg wrth ei mham, Nage, mam, 8c y pwys ydynt, ac fe dalent yn iawn pe baeck chi ddim ond cael 6o.' Burstiodd y Scotsman Cym- reig allan i chwerthin yn galonog, ac aeth allan heb yr un gneuen, ond yr hon a graciodd y ferch IT Y crochan u, d. Yr oedd gwraig Cefnbran wedi rhoi y crochan uwd oedd wedi ddarparu ar gyfer swper y teulu i oeri y tuallan i'r drws, ond erbyn iddynt noswylio yr oedd gweilch direidus wedi dyfod heibio a chrogi y crochan yn y pren deiliog yn nhalcen y ty, er mawr ofld i'r teulu lluddedig. lir chwilio pob twll a chornel, methas- ant ddod o hyd i'w swper, a gorfu iddynt fyn'd i orphwys y noson hono, pan oedd reitia am dano, heb yr uwd. Gwaeth na'r cwbl, fe gollwyd y crochan, a rhoddwyd y bai ar y tramps. Tl Av ddamwain, yn mhen y pythefnos, pan oedd un o'r bechgyn yn lluchio ceryg at wiwer yn y pren, dychlamodd ei galon wrth ganfod y crodhan colledig yn crogi yn ei frig, pryd y rhedodd i'r ty i hysbysu ei dad a'i fam. Pan glywodd y tad, 0, diolch.' ebe fe, diolch byth Nid y tramps ar ol y cwbl, ond dipyn o ffriks y cythrel, yn siwr i chi, am i ni beidio talu y degwm. Mi dalwn foru nesa, Marged.' IT Dywedai Miss Roberts wrth facngen y lletrith y boreu o'r blaen, Ydi dy feistr yn rhoi dw'r yn y llefrith, dywed ? mae o yn dene iawn, heb yr un mymryn o hufen,' Nac ydi wir, mam all neb ddweyd hyny am mistar herwydd mae o'n rhoi dw'r yn y canie y nosweth gynt, ac yn tywallt y llefrith iddynt yn ffres o'r tuches bob boreu. 'Rydw i yn dyst o hyny. I 'Purion,' ebe Miss Roberts, 'raid i chi ddim galw yma ond hyny.' It Yr oedd y dosbarth yn darllen yn Sctlm cxxix., ac wrth ymdrin a'r geiriau, Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tyner ef ymaith ar hwn ni leinw y pladurwr oi law, na'r hwn fyddo'n rhwymo ei ysgubau, ei fynwes,' dywedai John Pirs, Pwy erioed gymodd ei bladur i ladd llyiau pen tai ? 'Tydyw llysiau pen tai, mwy na'r annuwiolion, ddim gwerth i'v/ cynull ond i'w llosgi. Dyna feddwl y Salmydd, ddalia i.' If Yr oedd gwr boneddig yn y wlad yma er's talm oedd yn ffefryn aeillduol yn mhlith y bonedd- igesau, a mawr y cipris oedd yn eu meddyliau cyf- rin pwy a'i cawaai yn wr ond ar ddamwain, pan gyfarfyddodd dwy o'i anwyliaid, gofynai y naill, Glywsoch chi ? y mae Mr Eye wedi cynyg ei hun i Miss Williams y Fedw Hy ebe y llall, yn ffroenuchel ryfeddol, Y mae wedi cynyg ei hunan i minau, ond 'doeddwn i ddim yn myn'd i daflu fy hun i ddyh a. choes gore IT Y mae hynyna yn galw i'm cof mai y str6c oreu a wnaeth Mr Rowndell Palmer (diweddar Iaril Sdlborne) yn ei fywyd oedd pan oedd yn am- ddifiyn gwr mewn achos o dor amod priodas, ac ar ol i'w wrthddadleuydd wneud angyles o'r wraig nes llwyr enill ffafr y rheithwyr, cododd Palmer ar (i ol ac a ddywedodd, Y mae fy nghyfaill, wrth osod ger eich bron gyfres orwych o rinweddau a rhagoriaethau y foneddiges brydweddol, wedi an- nghofio dweyd fod ganddi goes bren.' Aeth hyn ag anadl y rheithwyr am y foment, a symudodd y goes bren eu ffafr yn llwyr i du yr amddiffynydd Peth mawr ydyw cael bod yn weddol gyfa yn yr hen fyd yma. jl Y mae anfon ysgub yn rhodd i gwpwl newydd briodi yn eithaf priodol, ond y mae anfon y penill yma gyda hi, fel y gwnaeth rhywnn yn y De, yn athrod ar y gwr :— Defnyddiol iawn yw'r anrheg hon Ar dywydd teg a chroes; Y sgubo'r llawr yn lan a'r pen, Ac weithiau'r gwr a'r goes, CYFARWYDD, -0-

Cyfarfod Misol Liverpool.

--0-Ffestiniog.

[No title]

Advertising

I Cwyddoniaeth,

[No title]

Advertising