Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

(o) Barddoniaeth.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

(o) Barddoniaeth. "YR AFON OLAF." [Diioeddglo AWDL "YR AFON," buddugol ar Gadair Eisteddfod Gwynedd, Pwllheli, 1895. HYD lenydd, tra dilynaf-y nwyfus, Lan Afon brydferthaf, O'm heiddilwch meddyliaf—am awr gaeth, A therfyn alaeth yr Afon Olaf." Afon Olaf!" yn welw—i'w rhydau, Y rhodiaf i farw, 0 fwlch: i f'enaid pwy fydd Diddanydd y dydd hwnw ? Afon Olaf anialwch--d,ear oer, Pwy drydd mewn tynerweh I'm gwel'd dros ei mygle trwch O'm heuogrwydd a'rii hagrweh ? Afon Olaf!" ei niwloedd-a ofnaf, A hafnau'i chuddleoedd 0 ddwfn lif, a ddof i'n lan I dir can o'i dryghinoedd ? Afon Olaf yn bylon -o'i glynoedd, Y glenir duwiolion, I lanaf wyl nefolion Lie ceir llu y corau lion. Yn druan, ofnus, pan draw yn nyfnaf Li' gofwy angeu, a'i law gyfyngaf, Yn mraich y Ceidwad, mor wych y codaf O'r hen Iorddonen yn llwyr ddianaf Trwy roi 'nghred yn nodded Naf,—draw o'r glyn, Try ofni helynt yr Afon Olaf Ond aros, enaid, resyni—'n unig Ar y glanau difri'; Holaf, ai Olaf yw hi?—oes, uwch glyn, Ryw Afon wed'yn garaf ei nodi ? Oes, enaid euog, mae cyson, dawel, Afon o Fywyd," a'r fwynaf awel I wasgar iechyd ger Llys goruchel, Na fedd ar ingoedd-nefoedd yr angel Yn wyn i'w glanau anwel,—Cristion gwir- O'i noethle ddygir yn fythol ddiogel. Drwy'i gororau, clywir seiniau Aur delynau afradloniaid; Dwfr i'w nofio, heb fyn'd trwyddo," Welir yno loywa'r enaid. Yn nifyr swn yr Afon Bywheir y saint, pob rhyw son Am allu brau angau el I drengu 'ngwrid yr angel Frwd, glodforedig wlad o hyfrydion, Lie disychedir, y denir dynion Yno yn ddyogel uwch ben ei ddigon, Ca' eiddil yfed—dragwyddol Afon Heirdd o hyd yw dyfroedd lion,—heb lygriad, NA daearoliad ar ei hawelon ELFYN.

-0-Marchnadoedd.

Llythyr Watcyn Wyn.

-:0:-Gohebiaethau.

[No title]

Cweinidog Newydd Annibynwyr…

[No title]

CWRS Y BYD.