Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA AMNIBYNWYR LERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA AMNIBYNWYR LERPWL. DAETH yr wyl flynyddol hon oddiamgylch unwaith eto, a dechreuwyd y gweithrediadau trwy bregethu yn adduldai Annib/nol y ddinas a'r cylch nos Wener. Diau nad oes well cyfle i weled sefyllfa enwad, a'r dylanwad sydd gan grefydd ar y bobl, nag ar achlyaur fel y presenol ac yr oedd y cyn- ulliadau lluosog, y pregethau grymus, a'r dylan- wadau deimlwyd, yn brawf eglur fod yr Efengyl yn meddu gafael gref ar y genedl Gyrweig. Y gweinidogion wasanaethent yn yr wyl eleni oedd- ynt :—Y Parchn 0. Evans, D.D., Llundain Lewis Probert, D.D., Pentre, Rhondda; D. Stanley Jones, Narberth J. Maehrebh Rees, Llundain W, J. Nicholson, Porthmadog; Ben Kvans, Llan- elli; Ben Davies, Ysbalyfera Job Miles, Aber- ystwyth D. Rees, Capel Mawr H. Ivor Jones, Porthmadog; G. Griffiths (Penar), Pentre Estyll W. Parri Huws, B.D Ffestiniog ac 0. R. Owen, Glandwr. Am 6-30 o'r gloch nos Sadwrn, cynaliwyd Y GYFEILLACH GYFFREDINOL, neu, i roddi yr hen enw Cymreig arm, y Seiat Fawr, yn y Picton Lecture Hall. Daeth cynulliad lluosog yn nghyd, ac ar y llwyfan ceid yr holl weinidogion dyeithr, yn gystal a gweinidogion a blaenonaid y cylch. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu ac i'r Parch Ben Davies ddarllen a. gweddio. Cymerwyd y gadair gan y Parch H. P. Thomas, Birkenhead, yr hwn yn ei anerchiad agoriadol a daflodd gipdrem ar sefyllfa'r achos gan nodi y prif ddigwyddiadau yn y cylcb er y gymanfa flaenorol. Nid oedd un amgylchiad eithriadol iawn wedi cymeryd le yn ystod y flwyddyn. Y cyfarfod pwysicaf gynaliwyd gan yr enwad oedd yn nglyn aIr Uodeb Cynulleidfaol fu'n ymweled a'r ddinas. Caed Cymanfa Ganu lwyddianus, a Chymundeb Cyffrediuol yn Nghapel Urove Street-tri chyfar- fod fu yn fendith i lawer. Y symudiad pwysicaf yn eu plith oedd dathlu Canmlwyddiaut Cym- deithas Genadol Llundain. Da oedd ganddo ddeall fod rhai eglwysi wedi gweithio yn rhagorol gyda hyn, ac yr oedd gwaith mawr eto i'w wneud gan- ddynt. Cyfeiriodd at y llyfr tonau ac emynau newydd- Y Caniedydd Gyiiulleidfaol, gan gymhell yr eglwysi i'w fabwysiadu a'i ddysgu. Nid oedd ond ychydig o newid wedi bod yn y swyddogaeth yn ystod y flwyddyn. Gofid iddo oedd nodi un diacon gymerwyd ymaith trwy angau, sef Mr Sil- vanus Lloyd, fu'n gwasanaethu eglwys y Tabernacl am amser. Gwr tawel, diymhongar, tangnefeddus ei ysbryd, oedd Mr Lloyd, ac iddo air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Da oedd ganddo groesawu y Parch Samuel Roberts i'w plith fel gweinidog cyntaf eglwys Seacombe. Liongyfarchai yr eglwys yn Grove Street hefyd am en bod wedi llwyddo i gael gan y Parch D. Adams (Hawen), Bethesda, i ddod yno i'w bugeilio, a phan ymsef- ydlai yma rhoddid croesaw calonog iddo. Bydd ei ddyfodiad yn gaffaeliad, nid yn unig i'r enwad, ond hefyd i'w gydgenedl yn y ddinas. Pan y tybid fod yr holl fylchau wedi eu llanw, daeth y newydd atynt fod pobl Glandwr yn cytneryd ymaith y Parch Robert Thomas, Tabernacl, oddiwrthynt. Gofidient yn ddwys am hyn, ond dymunenb iddo Iwy ddiaut mawr eto yn y dyfodol, a hyderent y ca eglwys y Tabernacl arweiniad dwyfol i symud yn mlaen i ddewis bugail arall. Llongyfarchai y Parch D. M. Jenkins, Park Road, ar ei ddyrchafiad i gadair Undeb Cynulleidfaol Cym-u-yr anrhyd- edd mwyaf allai'r enwad roddi arno. Er nas gellid dweyd fod y flwyddyn ddiweddaf yn un o flynyddau deheulaw y Goruchaf,' eto yr oeddynt wedi symud yn mlaen gan gadw eu golwg ar Gan- aan, tir yr addewid, a phwy wyr nad yn y tawel- wch presenol y gwneir mwyaf o waith. Daw y dwyfol i'r golwg yn ngweithrediadau rheolaidd natur yn gystal ag yn y wyrth a'r pethau mawr eithriadol; ac felly gyda chrefydd, deuai'r dwyfol i'r golwg yn y tawelwch. Yr angen mawr presenol oedd am tfydd-yn ol maint y ffydd yr oedd Duw yn cyfranu Ei feadibhion-a da fyddai i'r cynu! eidfaoedd weithredu digon o ffydd fel ag i roddi cyfle i'r Nefoedd wlawio gwyrtbiau ar eu pen. Yna cyflwynodd y mater i sylw, sef Salrn xix 7, 11, yr hon oedd wedi ei dosbarthu i'r gwahanol siarad- wyr fel y canlyn "Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith," &c., Parch. D. S. Jones. "Tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr," &c., Parch. J. M. Rees. Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn," &c., Parch. 0. R, Owen. Gorchymyn yr Arglwydd sydd bur," &c., Parch. W. Parri Huws, B.D. Ofn yr Arglwydd sydd lan," &c., Parch B. Evans. "Barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd," &c., Parch. H. Ivor Jones. Mwy dymunol y'nt nag aur," &c., Parch D. Rees. "Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was," &c., Parch. L. Probert, D.D. Parch D. Stanley Jones, N arberth; Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith yn troi yr enaid.' Sonir am ddau ddabguddiad mawr yn y Salm, sef datguddiad natur a datguddiad y gyfraith-y naill yn apelio at ddyn trwy ei reswm a'r llall trwy ei gydwybod. Synfyfyriai'r Salmydd ar fawredd y greadigaeth a'r datguddiad geid ynddi ond er synu, teimlai fod angen ei natur ef ei hun yn fwy na chyfoeth y datguddiad ac yn yr ymdeimlad hwn y dywed mai cyfraith yr Arglwydd yn unig sydd yn abl i droi yr euaid.. Wrth gyfraith yma y tybir yr oil o Lyfr Duw oedd ar gael y pryd hwnw, ac yn neillduol Pum Llyfr Moses. Y mater gorph- orid yn y Salm oedd rhagoriaeth datguddiad y gyfraith ar ddatguddiad natur. Rhagorai yn y lie cyntaf \n y ffaith fod mwy obersoaolrwydd ynddo. Yma amlygid Duw yn Dad, a rhaid cael person i garu person-ni wnaiff egwyddor y tro. Nid yn unig ceid person yma, end yr oedd y cyfryw berson yn siarad. Ni cheid hyny yn y greadHgaeth; felly yr oedd y gyfraith yn rhagori ami. Rhagorai yn y lie nesaf am fod yr egwyddorion yn cael eu dysgu mewn cymeriad. Trwy egwyddorion y mae natur yn dysgu, trwy gymeriad y m^e'r gyfraith. Mae gwirionedd yn brydferth fel y mae'n daenedig yn y ffurfafenau uwch: en, ond rhaid myned at Dduw i'w weled yn ei ogoniant penaf-yn y cymeriad sydd yn rhoddi bod i'r gwirionedd y gwelir ei fawr- edd amlycaf. Ceir datguddiad y gyfraith hefyd yn siarad gyda mwy o awdurdod a chydwybod dyn. Dyma ddatguddiad sydd yn eyfeirio bys ar ol pob pechadur, ac yn dweyd wrtho-' Ti yw y dyn.' C'fnai mai tuedd fawr yr oes oedd apelio gormod at ddyuion fel beirniaid ac nid fel pechaduriaid- dysgu gormod ar y pen ar draul esgeuluso'r gyd- wybod. Rhagoriaeth arall y gyfraith yw mai Gwaredwr yw syniad canolog y datguddiad hwn.. Y Creawdwr yw canolbwnc natur dyna ddaw i'r amlwg yn holl hanes ac amrywiaeth y cread. Ond yn yr holl addewidion a chyfamodau dan y gyfraith, awn dyfodiad Gwaredwr glywir. Daw rhagoriaeth y gyfraith hefyd i'r golwg am ei bod yn cyffwrdd, yn troi, yn adfer yr enaid. Nis gull natur wneud hyn. Trwy y gyfraith daw dyn i adnabod ei hun, a rhaid:iddo adwaen ei hun cyn y daw i adnaboi ei Geidwad. Parch J. Machreth Rees Tystiolaeth yr Ar- glwydd sydd sicr.' Yr un datguddiad geir yn y dystiolaeth ag yn y gyfraith. Wrtb dystiolaeth y tybir cenadwri sy'n cael ei rhoddi i amcan ymar- ferol. Perthyna i dystiolaeth sicrwydd-testinwny witness, barn sylwedydd, ydyw. Tystiolaeth am bethau ysbrydol geir yma—yr Arglwydd yn tystio am dano ei Hun, am ddyn, am drefn y cadw, ac am sefyllfa ddyfodol. Nodwedd fawr natur yw sicrwydd-ceir ei holl ddeddfau yn gweithredu gyda threfn a sicrwydd. Gwelir yr haul yn codi sbob bore heb fethu byth felly am y dystiolaeth. Priodol yw gofyn beth yw sicrwydd y dystiolieth i ni ? Wrth ba safon y profir ei sicrwydd ? Ceir dosbarth liuosog am ddiddymu yr hen safonau, me^ys trwy wadu ysbrydolrwydd ac anffaeledig- rwydd y Beibl, &c. Ond teg gofyn beth sydd ganddynt i'w gosod yn eu lie? Rheswm a chyd- wybod dynol, medd rhai. Ond wrth wneud hyn yn safon, gwneir y dynol yn safon i'r dwyfol, a gwneir datguddiad yn ddiangenrhaid. Mae pechod wedi effeithio ar reswm, ac wedi tywyllu'r deall, a rhaid anwybyddu pechod yn llwyr os cym- erir rheswm fel prawf o sicrwydd y dystiolaeth. A oes safon i'w gael ? Rhaid cael safon y dystiolaeth yn y dystiolaeth ei hun; ac y mae tri pheth yn brawf o'i gwirionedd. Yn gyntaf, dengys am- gylchiadau y dystiolaeth e; bod yn dod o rhywle uwchddynol. Yn ail, cysondeb y dystiolaeth a hi ei hun. Pa mor ddyeithr bynag i reswm ydyw, a pha mor bell bynag tuhwnt i ddeall, eto wrth gymdeithasu, wrth gynefino S hi, daw ei chysondeb i'r amI wg. Prawf arall o sicrwydd y dystiolaeth ydyw ei heffeithiolrwydd. Beth yw'r dylanwad a berthyn iddi? Y mae'n gwneud y gwirion yn ddoeth i iachawdwriaeth Ystyr y gwirion yma yw syml—yn golyga symlrwydd y plentyn. Ceir amcan aruchel i'r dystiolaeth. Ynddi cysylltir dyn a'r dyfodol, ac y mae nef a daear yu gynwys- edig ynddi. Yr haul yw symudydd mawr y byd anianyddol. Efe sy'n cynyrchu bywyd a pbryd- ferthwch. Felly'r dystiolaeth—haul mawr y byd moesol ydyw, yn taflu ei belydrau tanbaid i bydew- au llygredd y byd, ac fel y dywed y Prophwyd- Haul y Cyfiawnder a gyfyd i chwi a meddygin- iaeth yn ei eigylL' Prawf arall o sicrwydd y dyst- iolaeth yw yr ymwybyddiaeth ag v mae'n bosibl i ddyn ddod yn feddianol arno. Yr hwn sydd yn credu sydd ganddo y dystiolaeth ynddo ei hun.' Yn ol y sifonau a'r profion hyn, daw sicrwydd y dystiolaeth yn amlwg. Parch O. R. Owen, Glandwr: 'Deddfau yr Ar- glwydd sydd uniawn.' Syniad dyeithr yw'r hwn a geir yn yr adnod fod deddfau yn Ilawenhau v galon. Hawdd oedd credu fod addewidion yn pari Ilawenydd, ond ar y cyntaf ymddengys mai syniad dyeithr yw fod deddfau yn gwneud hyny. Er cyny, ceid fod y Salmydd yn traethu gwirion- edd. Yr oedd deddfau naturiol Duw yn ein llaw- enhau, ac os gwneid hyn gan ddeddfau natur, paham na ellir credu yn gyffelyb am ddeddfau y byd moesol ? Deddfau moesol Duw sydd yn yr adnod, at y mae'r ffaith ein bod yn ddeiliaid y deddfau hvny yn brawf fod yr Arglwydd yn sylwi arnom. Nid yw yn deddfu i golledigion uffern-y maent hwy wedi eu gadael ganddo felly, gan ei fod yn deddfu i ddynion ar y ddaear, ceir achos o lawenydd am fod hyny yn brawf o'i ofal am dan- ynt. Ceir cnewyllyn addewid yn mhob gorch. ymyn, ond rhaid gofalu peidio eu tori neu ni ddeuir i fwynhau y fendith sydd ynddynt. Deddfau un- iawn ydynt, ac os yw'r deddfau yn peri Ilawenydd pit faint mwy y dylai eu huniondeb beri hyny ? Adlewyrchiad ohono ei Hun yw deddfau Duw. Ni wna gam a gwr yn ei fater, a chysur yw hyn i'r rhai gadwant ei orchymynion. Gan fod Ei ddeddf- au yn brawf o'i uniondeb, y maent yn brawf hefyd o'i drugaredd. Y bod mwyaf uniawn yw y mwyaf trugarog bob amser. Dywedir am Job ei fod yn wr perffaith ac uniawn, ac vr oedd digon o drugar- edd ynddc i gofio am holl dlodion y wlad. Y n v weithred fwyaf o unioncteb Duw y mae y weithred fwyaf o drugaredd yn cael ei hamlygu, sef yn aberth Ei Fab. Am fod y deddfau yn uniawn, y maent yn hawdd eu cadw. Nid ydynt yn gorch- ymyn mwy nag ellir gyflawni nid ydynt yn myned yn groes i leferydd y gydwybod, am hynv deddfau hawdd eu cadw ydynt. Efallai fod deddf- au trahaus Pharaoh yn meddwl y Salmydd wrth lefaru y Salm. Deddfau celyd llawn trawsder oeddynt, yn gofidio y galon ond am ddeddfau Duw, yr oeddynt mor uniawn ac mor hawdd fel mai Ilawenydd lanwai y galon o'u cadw. Ceir fod deddfau uniawn Duw hefyd yn unioni bywvd. Nis gall deddf ddrwg byth ddylanwadu yn dda. Po fwyaf uniawn y deuwn, mwyaf y Ilawenydd deiml- wn. Byd dyeithr yw hwn-y mae ei lwybrau yn llawn peryglon, a dyn yn barod i fyned ar gyfeil- iorn ynddo ond ceir deddfau Duw fel fingerposts yn cyfarwvddo y teithiwr ar ffyrdd uniondeb. Parch W. Parri Huws, B.D., Ffestiniog: I Gor chymyn yr Arglwydd sydd bur.' Hawdd gwel'd oddiwrth y Salm fod yr awdwr yn fardd yn gystal a phechadur. Meddai lygad i weled anian, ac i ddarlunio golvgfeydd y greadigaeth. Ond yr oedd fel bardd yn fwy tan ddvlanwad ei gydwybod na'i lyga;d-perthynai fwy i'r byd moesol na'r byd naturiol. Tra yn canmol y wledd gafodd ei lygad naturiol, ni ddiwallwyd ei enaid eanddi ond can- fyddodd ei lygad ysbrydol fawredd a gogoniant y deddfau cvffyrddwyd ei enaid ganddynt am eu bod yn siarad ac yn gwneud sylw ohono. Ar yr allanol o ddyn yn unig yr oedd y cread yn dylan- wadu, ond am y deddfau cyffyrddent hwy a. mewnol ddyn y galon. Gall y gyfraith fod vn chwerw, ond y mae llais Tad ynddi er hyny. Os yw'r llais yn arw ar brydiau, llais yn ceisio gwella dyn ydyw wedi'r cwbl. Nid rhyfedd fod y llais yn troi yr enaid-unwaith yr aiff i mewn gadawa ei ol yno. Rhaid cael ffenestr yn y ty cyn y gall dyn fwynhau pelydrau yr haul. Y llygaid yw ffenestri yr enaid, a rhaid i'r gyfraith eu goleuo, eu puro, cyn y bydd i belydrau Haul Mawr y Cyfiawnder lewyrchu drwyddynt, a pho fwyaf glafn a phur fyddant, mwyaf o belydrau sanctaidd yr Haul a fwynha yr enaid. Gwella y mae dyn wrth wr >ndo geiriau Duw. Troir hen Saul o erlidiwr yn aposbol a dychwela'r afradloniaid adref wrth wrando geir- iau y Tad. Augen mawr y byd yw rhagor o ol- euni Tywyllwdh sy'n peri yr holl aflonyddwch a'r anesmwythder ynddo. Goleuni i ddvnion yw goleuni Duw. A'r bywyd oedd oleuni dynion '— nid goleuni i'r anifail ac i'r mynydd ydyw, ond i ddynion. Dyma'r goleuni sy'n gloewi cymeriad, yn sancteiddio'r ymarweddiad, ac yn arwain. Os na fydd trefn ar lygaid natariol dyn, aiff ar gyfeil- iorn ac i brofedigaeth yn fuap, felly os na fydd y llygad ysbrydol yn ol u a chlir buan y tramgwydd- ir y teithiwr. Nid oes ond un llygad gan y dyn ysbrydol—un llygad ar gyfer Sul adiwrnod gwaith, a chan fod y cymeriad yn dod i'r golwg yn y llygad dylid bod yn ofalus i'w gadw yn lan ac yn bur. Parch Ben. Evans, Llanelli Ofn yr Arglwydd sydd lân.' Yn y gair hwn dangosir y gyfraith fel y mae yn cyfarfod y gallu i ofni sydd ynom. Gan mai ofn yr Arglwydd ydyw, dangosir beth yw ei natur. Ceir dau fath o ofn-ofn canlyniadau pechod ac ofn pechu. Yr olaf geir yn yr adnod hon-ofn pechu, ofn plentyn i ddicdo ei Dad. Duw fel Tad, ac nid fel Barnwr, amlygir yma. Y mae yr ofn hwn yn lan am mai ofn yr Arglwydd ydyw. Fel yr haul felly yr heulwen. Y mae natur yr ofn fel Duw ei hun. Nid priodoledd yn y Goruchaf ydyw chwaith, ond rhywbeth sydd yn gosod den- garwch ar holl briodoleddau cymeriad Duw. Fel y perarogl yn codi yn naturiol o'r rhosyn, felly codai yr ofn hwn yn nghalon y credadyn. Wnaeth y nef ddim erioed nad oes glendid ynddo. Amcan yr ofn yw gwneud y plant yn berffaith. Mae'r nef am i ddyn wneud pobpeth ar yr un llinellau a Duw. Ceir y purdeb hwn yn cael ei greu gan yr addoliad o Dduw fel Bed pur a sanctaidd, ac mae'r mewnol a'r allanol o ddyn mewn cydgord perffaith. Purdeb a glendid yn unig s'dd dragwyddol. Bu dechreu ar bechod, a da ganddo feddwl ei fod rhyw ddydd i gael ei guddio os na chaiff ei ddifodi. Mae pur- deb cyn hyned a Duw, ac i barhau cyhyd a Duw, a bydd yr anian at burdeb yn y galon yn cael ei dadblygu a'i pherffeithio am byth. Parch H. Ivor Jones, Porthmadog: 'Barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd.' Barn sydd yn dynodi ac yn gwahani-iethu pethau, a rhaid wrth safon iddi. Safon y farn yn yr adnod hon ydyw Duw ei hun. Hawl yn perthyn i'r awdurdod uchaf yn mhob liywodraeth yw gweinyddiad barn, ac y mae dau amcan iddo, sef amddiffyn y diniwed a chospi y troseddwr. Hyn oedd amcan y gyfraith-y dat- guddiad goruwch-naturiol oedd gan y Salmydd. Ceid y barnau hyn yn unol a'r cymeriad dwyfol- yn wirionedd ac yn gyfiawn. Cymerir i ystyriaeth natur foesol y weithred a'r gweithredydd. Ni wneir hyn gan ddeddfau natur. Llysg y tan y tros- eddwr fel y diniwed. Ymwneud a natur foesol dyn y mae deddfau Duw, a gwell yw cael ein ceryddu na chael ein damnio. Cysur dan y cerydd yw cofio fod y deddfau yn wirionedd ac mai cyfiawn ydynt i gyd. Trwyddynt hwyy profir dyn. Nid yw prof- edigaeth bob amser yn gerydd, ond y mae pob cerydd yn brofedigaeth. Gwobrwyon cyfiawnder yw y rhai ddyry Duw—nid oes ffafraeth yn ei lyw- odraeth Ef, a phan y ceir coron yn y diwedd, coron cyfiawnder fydd hi. Perthyna i wirionedd sefydl- ogrwydd. Er fod y mor yn dymhestlog, a'r llong ar ei thaith yn cael ei hysgwyd gan y tonau, y mae yr haul sy'n cyfarwyddo llwybr y llong yn sefydlog —nid yw byth yn gadael ei ystafell. Felly am wirionedd-mae mor sefydlog a Duw ei hun ac ar fordaith bywyd y mae dyn dan lygad yr haul o hyd, hwn sy'n cyfarwyddo ei fywyd. Cofiai am fachgen mewn masnachdy, yr hwn pan ddaeth dyn i mewn gan ddweyd wrtho, 'Mae dy feistr wedi myned allan, dyro bwysau dros ben i mi,' a atebodd mai Duw oedd ei feistr ef ac nad oedd Ef byth yn myned allan. Byddai cofio y gwirionedd hwn yn gymhorth i gadw deddfau Duw. Parch. D. Rees, Capel Mawr: 'Mwy dymunol y'nt nag aur.' Yn yr adnod hon y dechreuai'r Salmydd ddweyd ei brofiad. Er mor ddymunol oedd yr aur, ac er i hwnw fod y math goreu-aur coeth a llawer ohono, eto nid oedd i'w gyffelybu a'r gwerth oedd yn y dystiolaeth. Deuai gwerth y gyfraith i'r golwg yn y ffaith ei bod yn gyfarwydd- yd i ddyn yn yr anial; yn oleuni iddo yn y nos ac yn agor ei lygaid iddo weled ei sefyllfa, ei gyfrifol- deb, ei angenion, a'r modd i'w cyflsnwi. Llwybrau dyogelwch, llwyddiant, a dyrchafiad oedd llwybrau y gorchymynion, am hyny gwerthfawr oeddynt. Nododd hanes bywyd Mr. Owen Thomas, bachgen o Fon, yr hwn a ddringodd o fod yn arddwr yn Modorgan i fod yn arddwr i Syr Robert Peel, Due Devonshire, ac y mae heddyw yn ben garddwr y Frenhines. Priodolai ei lwydd a'i ddyrchafiad i'r ffaith iddo gadw v gyfraith trwy wrthod gweithio ar y Sabboth. Tuag i fynu—i gyfeiriad Duw-yr arweiniai y llwybrau hyn. Dyrchafa di hi a hithau a'th ddyrchafa di.' Melusach yw geiriau Duw na mel, ac na diferiad diliau mel—nid mel wedi ei wasgu ond mel yn dyferu—i'r rhai oedd yn sugno maebh a nerth ysbrydol ohonynt. Dr. Probert, Pentre: 'Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir Dy was Dal perthynas a'r dyfodol y mae rhybuddion. Safem mewn angen am danynt am ein bod yn symud yn gyflym tua'r dyfodol a'r ffordd yno yn dywell iawn. Dywedir fod Luther unwaith wedi cael darlun o'i elyn, a thrwy gyfrwng y darlun gallodd gadw o-ffordd ei ddialydd a gwar- edu ei einioes. Dyna oedd y Beibl-darlun o'n grdynion, a thrwyddo y gellid eu hadwaen, eu hos- goi, ac achub ein bywydau. Ceir ynddo hefyd ddarlun o'n cyfeillion, a'r Cyfaill Goreu yn amlwg iawn, ac er fod y ffordd yn ddyeithr ceid cyfar- wyddiadau pa fodd i'w theithio. Rhybuddio gwas sydd yn yr adnod-ysbryd ymostyngar gwas yw yspryd yr Efengyl. Dyma oedd yr esiampl fawr roddodd Crist i'r byd—' yr Hwn a gymerodd arno agwedd gwas.' Ceid gwobrwyon o gadw'r gorchym- ynion, megys corph iach, llwyddiant bydol, a llawenydd tragwyddol. Ceir dau fath o weithwyr -y rhai sy'n gweithio am gvflog a'r rhai sy'n gweithio am wobr. Rhaid i'r olaf gwblhau y gwaith cyn y cydnabyddir eu gwasanaeth. Er fod Crist wedi prynu etifeddiaeth i ni, cyn y gellir ei mwynhau rhaid i ni wneud ein rhan i'w wasanaethu, oblegyd dyna ddywed y Gwaredwr ei hun, Yr hwn sydd yn fy ngharu, cadwed fy ngorchymynion.' Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Dr Owen Evans, Llundain. CYFARFOD CENADOL. Nos Lun, cynaliwyd cyfarfod i ddathlu Can- mlwyddiant Cymdeithas Genadol L'undain, yn Nghapel y Tabernacl. Daeth torf luosog yn nghyd, a ehymerwyd y gadair gan y Parch D. M. Jenkins, Wedi i'r Parch Peter Price fyned trwy y gwasan- aeth agoriadol, traddododd y cadeirydd ei anerch- iad. Sylwodd mai amcan y cyfarfod oedd rhoddi cyfle i eglwysi y cylch gymeryd rhan yn nathliad canmlwyddiant y Gymdeithas Genadol. Canrif hynotaf y byd ar lawer ystyr oedd y ddiweddaf, ac ar ei therfyn buddiol oedd adolygu ei chwrs. Wrth edrych ar y rhan ddiweddaf ohoni, ofnid nad oedd achos y Gwaredwr wedi myned rhagddo fel y dv- munid, ond wrth gymeryd golwg eangach ar y gwaith cenadol ceid fod llawer o le i dynu cysur ac i obeithio am ddyddiau gwell yn y dyfodol. Pa nodweddion eraill bynag a berthyn i'r ganrif, rhaid cydnabod ei bod yn ganrif genadol. Ynddi y deff- rodd Cymru at ei gwaith, ac y daeth yn ymwybod. ol o'i dyledswydd i geisio cael y byd at Grist. Priodolai y deffroad hwn i ymweliad y cenadon a'u gwlad, y rhai wrth draethu am drueni y paganiaid a gyffyrddent deimladau dyfnaf y fynwes, gan godi btwdfrydedd yn y Cymry i wella sefyllfa y truein- laid yn nhywyll-leoedd y ddaear. Cododd y casgl- iadau at y genadaeth yn ddirfawr, yr hyn oedd yn brawf arall o'r brwdfrydedd deimlid gydag achos y Gwaredwr, ac yr oedd y teimlad i wella brodorion pell yn troi yn fendith i'r eglwysi gartref. Parch W. J. Nicholson Porthmadog, a roes hanes cychwyniad y genadaeth a'r gwersi i ui oddiwrth hyny. Y wers gyntaf oedd mai'r moddion efteith. iolaf i gynyrchu sel dros y genadaeth dramor ydyw rhoi sylw i waith cenadol gartref. Dywedai fod pregethau Whitfield nid yn unig yn deffro cyd- wybodau ond yn agor llygaid dynion ar eu dyled- swyddau, ac ni foddlonent heb draethu y newydd- ion da yu eu tai a'r gweithfeydd. Mae eariad-waith yn dechreu gartref, ond nid yw byth yn aros gar- tref. Mor fuan ag y mae gartref cychwyna oddi- cartref, a da fyddai pe ceisiai Cymry Lerpwl achub y miloedd o'u cydgeneJl sydd yn mhydewau y ddinas. Gwers arall yw fod ysbrydoirwydd uchel bob amser yn cynyrchu cynlluniau newydd i hy- rwyddo achos Crist. Cyrddstu gweddi oedd y cyrddau cenadol cyntaf, ac yn y rhai hyn y cafodd V gymdeithas ei chychwyniad. Mewn cymundeb a'r Anweledig y cafodd y dynion fu'n sefydlu y gym-leithas oleani ar y llwybr i weithio ynddi, a'r ysprydiaeth i'w gwroli. Ceir perth yn llosgi ya ymyl pob dyn, a Duw yn siarad yn mhob perth, ac yn y cymundeb hwn y daw pob cynllun mawr o ddwyn y byd at Grist i'r golwg. Gwers arall yw y rhaid gwneud aberth fawr wrth wneud gwaith dros Dduw. Wrth sefydlu'r gymdeithas bu raid gwyn- ebu llawer anhawsderau, dyoddef llawer o wawd gan feirniaid oedd a'u dwylaw yn eu llogellau rhag cynorthwyo yn y mudiad. Nid yw offrwm heb gostio dim yn gymhwys ar allor Duw. Rhaid i aberth fod yn gnewellyn crefydd, a hawdd yw gwneud aberth pan gofir fod Duw wedi aberthu ei Fab. Trwy aberthu y mae profi gwir lawenydd. Nis gall dyn hunanol-crafanc o ddyn-dyn yn fysedd i gyd, fod yn liawen. Byw er mwyn eraill yw amcan ac ystyr y genadaeth, a rhaid cael yr ysbryd hwn er gwneud ein crefydd yn rhywbeth gwirioneddol. Dr. Owen Evans, Llundain, a roddodd hanes y gymdeithas. Yr oedd mwy na mil o genadon wedi eu hanfon allan er ei sefydliad; yn bresenol ceir 162 o orsafoedd gan y gymdeithas, 258 o^wropeaid yn llafurio yno, 15,000 o efengylwyr brodorol, a 12,000 o gynorthwywyr iddynt. Rhifai'r holl aelodau tua 100,000 Ceir 4,419 o ysgolion, a 126,000 o blant yn derbyn addysg ynddynt. Anfonwyd 68 o genadon yn ystod y pedair blynedd diweddaf, ac y mae 28 arall yn barod i fyned allan pan ganiata y groofa arianol. Yr oedd y gymdeithas mewn dyled o 42,545p. ar ddiwedd y flwyddyn, a disgwylient gasglu yn bresenol 100,000p, ac o'r swm hwn yr oedd 70,000p. wedi eu haddaw yn barod. Am y rhogolygon yr oeddynt yn addawol iawn. Ceid y drysau yn agored i'r Efengyl y plant dan addysg yn cael eu cymhwyso i dderbyn gwirioneddau Cristionogaeth y lie y tywalltwyd gwaed cen- adon erbyn hyn yn derbyn y genadwri, a dywedai fod Ynys Errotnanga, lie merthyrwyd John Williams y cenhadwr, yn ol tystioliaeth John G. Paton, heb dy na arddelir Crist ynddo, a bod y gwasanaeth teuluaidd ar bob aelwyd vn yr ynys. Soniai'r Beibl am ddau roddi-Duw yn rhoddi'r Mab i'r byd, a Duw yn rhoddi'r byd i'r Mab. Yr oedd y cyntaf wedi ei roddi, ac yr oedd sicrwydrl y nef- oedd ganddynt y rhoddid y byd i'r Mab hefyd. Parch G. Griffiths, Pentre Estyll, a sylwodd' ar yr hyn wnaeth Cymru gyda'r Genadaeth Dramor. Braich fer sydd gan Gymru, meddai, ond y mae wedi taflu'r had yn mhed. Dyogelwch ceuedl fel person ydyw gwaith, ac y mae gan Gymru orphen- ol llawn o gyfoeth a gwaith. Er pan sefydlwyd Ymneillduaeth, nid yw Cymru yn foddlawn i un symudiad mawr fyned rhagddo heb iddi hi gael rhan ynddo. Cyrhaeddodd hyawdledd angen y pagan dros y bryniau i Gymru. Nid cymdeithas enwadol oedd Cymdeithas Genadol Llundain. Rhoddodd y Methodistiaid a'r Eglwyswyr gyn- orthwy mawr iddi; ac yr oeddynt yn barod i an. nghofio pethau bach enwadol wrth ymgyrhaedd at yr amcan mawr o gael y byd at Grist. Gwnaeth Cymru lawer drwy ei meddwl a'i llenyddiaeth. Hen dybiaeth yw fod dyn yn breuddwydio yn y nns yn ol cwrs ei feddwl yn y dydd. Cafodd Dr. Phillips, Neuaddlwyd, freuddwyd unwaith, a bu'r breuddwyd hwnw yn foddion i anfon dau o'i vsgol., heigion i'r maes cenadol. Mor foreu a 1774 yr oedd gan Gymru gyfarfodydd gweddio cenadol. Canodd Williams Pantycelyn yr ysbryd cenadol. mewn emynau, ar ei ol daeth Dafydd Jones o Gaio,, a Ilu o emynwyr eraill. Rhoddodd Cymru yn hael hefyd mewn ystyr arianol, ac nid yn unig yr oedd meddwl a Ilogell yr hen genedl wedi rhoi ond yr oedd y galon wedi rhoi meibion a merched i'r genadaeth, ac yr oedd rhai ohonynt yn niysg- arwyr mwyaf y meusydd. Angen mawr y dyddiau presenol oedd cadw y tan cenadol yn fyw. Parch Job Miles, Aberystwyth, a siaradodd ar y fantais a ddeillia i'r eglwysi gartref o ddathliad y can'mlwyddiant. Y fantais gyntaf oedd ymgyd- nabyddu a'r meusydd cenadol. Ni cheir brwdfryd- edd sbery'n hir heb wybodaeth. Rhaid edrych ar y pagan fel bod gwirioneddol ac nid fel bod mewn breuddwyd. Mantais arall fyddai symud llawer o anmheuaeth yn nghylch gwirioneddau crefydd. Ceid awyrgylch Prydain heddyw yn llawn anmheu- on. Wrth ddarllen hanes y gwaith deuid i deinilo. fod gallu uwch-ddynol wedi bod yn dylanwadu. Ceid hanes am arwyr na wyddent fod bri ar arwriaeth, a dyna oedd arwriaeth gwirioneddol. Mantais arall fyddai i'r eglwysi svlweddoli eu bod yn bodo'i i amcanion cenadol. Yr ymad- adrodd mwyaf beiddgar lefarwyd erioed oedd Ewch i'r holl fyd," ond yr oedd adnoddau dwyfol tu cefn i'r gorchymyn hwn. Dychwelai'r fendith hefvd i'r eglwysi. Ceid fod manteision tymhorol wedi dod i'r wlad hon trwy y cenadon. Ceid y marsiandwr yn dilyn ol traed y cenadwr ac o wneud gwaith cenadol oddicartref cynyrchid ysbrvd gwaith yn yr eglwysi gartref, yr hwn a droai yn elw a bendith i grefydd ac i'r wlad. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch Stanley Jones, Narberth.

o. Cyhuddiati difrifol yn…