Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
0 Fin y Llyn.
0 Fin y Llyn. Su-t mae'r Frenhines, dywed?" gofynai ben amaethwr dyddan elai a'i yd i'r odyn i mi'r bore yma. O¡R 2&1008 Pa'm y poenwch yn nghylch iechyd hono 1" Wel mi dd'yda iti," meddai gan dynu bet lia feddai ruban na haner cantal oddiam ei ben. Mi dd'yda iti, disgwl clywed ei bod hi wedi marw—myn'd at ei gwobr oddiwrth ei gwaitb, rydw i." Un go dda ydi hi 'nte ? "Ie, ie, mae hi'n well na'i gwaeth. Ond yma ti, chawn i ddim etholiad am chweblynedd, ond tae hi'n myn'd i'r nefoedd, wst, caem lecsiwn yn syth, a throi'r Toriaid allan. Yna deuai Dad- gysylltiad, Bil Tir, a Horn Rwl. Diaist rhaid i mi redeg ar ol y drol." A rhedeg wnaeth. Ni welais ond ei gefn a gwadnau ei esgidiau yn troi'r gornel ar ol ei wedd. —o— Mae gormod o naw tafarn eto yn y Bala, ond bu yno saith ar hugain dro yn ol. Tynwyd trwydded ty y dydd o'r blaen er holl nerth yr Eglwys a'i harddercbog lu. Syn gweled yr Eglwys yn Nghymru eto cyn iseled a hyn, ond er Eglwys, tafarn, a rhagrithwyr, Meirion yw y sobraf o siroedd Cymru. Ond mae gan Feirion I&n eto le i fod yn lanach. —o— Cyn hir bydd organ anferth tu'n ol i bwlpud crwn capel mawr y Bala. Taag at hyn yr elai lw'r gyngberdd ddifyr gynaiiwyd yno nos Wener. 0 Lanfyllin gan fwyaf y deuai'r dat- ganwyr, a chynorthwyid hwy gan gantorion lleol, ac yn eu mysg Miss Augusta Jones, Mount I z!1 Place. Cafwyd elw da-daeth yr arian, daw yr organ. —o— Cryn anturiaeth gymer W. T. Stead arno ei hun i gyhoeddi can' mil o waith Bardd Cymreig: ond fe fydd yn gaffaeliad mawr i'r werin gael gwaith bardd fel Ceiriog am geiniog. Prin y disgwyliem aberth gymaint oddiar law Sais. Pa'm mae'r cyhoeddwyr Cymreig mor ddi-enaid a chysglyd ? -0- Cynllun arall all droi'n fenditb o'i eiddo yw y Llyfrgell Symudol" sydd ganddo. Mae tri- gain o wahanol lyfrau mewn gwahanol focsns, ac anfona hwy ar delerau hynod resymol i unrhyw dref, Han, neu bers>n. Bydd ganddo foes o lyfrau Cymraeg hefyd-gwelais dy-nu rbestr ohonynt. Mewn lleoedd heb fabwysiadu Deddf y Llyfrgelloedd bydd hyn yn gryn gaffaeliad. -0- Oafodd Methodistiaid Llanuwchllyn gyfarfod pregethu hynod wlithog a chysurus nos Fercher a dydd lau diweddaf. Nid yn fuan y cyll y pwlpud ei ddylanwad yn Nghymru, ac mae ei ddylanwad yn cynyddu, os modd, yn Mhenllyn. Y Parchn. John Hughes, Carneddau R. H. Morgan, Porthaethwy, a John Hughes, Lerpwl, oedd y pregethwyr. —o— Mae seindorf yn codi yn Llan- Nid peth bach i ddyn-faint bynag yw swm y gerddor- iaeth fydd yn ei feddiant, yw gwrando ar fechgyn a lyngs fel megin gof yn chwythu'r cyrn y tro pyntaf. A yw y Cynghor Plwyf yn rhy brysur i^gymeryd sylw o hyn ? Cerbyd i'w cario i Bont OWm Bydew i bracteisio fase'n eitbaf peth. Caf lonydd i gysgu felly. ONOMATO. -0-
Nodion o'r Rhos.
Nodion o'r Rhos. VP. oedd Clwb yr Hen Fugeiliaid yn cerdded yma, ddydd Llun, a golwg tarawiadol arnynt-pob un a'i lugeilffon yn ei law. Y drwg ydoedd fod y bugeil- iaid wedi rhagdrefnu sports a chan fod y dydd yn hafaidd, llwyddasant i dynu lluaws i Johnstown, a gwnaeth llawer ohonynt son am danynt yno. Fel gwrthweithiad i lol y bugeiliaid, cynaliodd Vsgol Sul M.C. Johnstown ei gwledd de flynyddol, a chafwyd hwyl neillduol. Ddydd Mercher, gosodwyd sylfeini capel Seisnig yr Independiaid yn Johnstown. Am dri o'r gloch cynaliwyd gwas-inaeth byr yn y capel, ac yna aeth- pwyd allan ac yr oedd llwyfan hwylus wedi ei chodi yn barod, a thyrfa fawr wedi casglu o'i chwmpas, a llawer yn eu gwynebau du, oherwydd eu bod ar eu ffordd adref o'r gwaith. Wedi gwasanaeth arweiniol byr, galwyd ar Mr. Edward Nicholas, Llundain, i osod y gareg gyntaf, yr hyn a wnaeth yn drefnus, heb ddim liawer o siriau, a choronodd ei waith gyda rhoddi e9 arni. Yna gosododd y Parch 0. J. Owen, Poncie, yr ail, tan ddweyd yn Gymraeg ei fod yno fel cynrychiol ydd eglwys Mynydd Seion, a thros yr eglwys hono cyflwynodd £10. Galwyd yn nesaf ar y Parch R. Roberts i osod y drydedd, yr hwn a anerchodd y dorf mewn araith ^resog, ac wedi gosod y gareg yn ei lie, dywedodd *°d ganddo addewid Eglwys Bethlehem o £ 10. Gosodwyd yr olaf gan Mrs Thos. Sauvage, Cefn. Mawr, a rhoddodd £ q arni. Derbyniwyd yr un \Vm gan Mr Dennis yn gwneud vr holl dderbyn- ladau yn £102. Yn yr hwyr, traddodwyd pregeth alluog gan y Parch M. 0. Evans, Gwrecsam. Nos Iau, ail ddechreuodd y cor meibion yma. Ac ytnddengys eu bod o ddifri, ond p'am y maent am *yned i Gaer a Dolgellau, gan basio y Cefn am yr 11n wobr, ar yr un darn ? GwastrafF, onide ? Daeth Rhaglen Cymdeithas Gwyr leuainc Johns- u°wn i law, ac y mae o ran ei hymddangosiad allanol y hynod hardd, ac o ran ei chynwys ni welsom erioed ei gwell, Y mae'n llawn amrywiaeth, ac er *?d ambell hen destyn ynddi, y mae'n sicr o fod yn "dyddoro! ac addysgiadol. Gweithia Mr. Morgans ac eraill yn rhagorol yn Johnstown. Nos SADWM. GOMER JONES. --0-- Yn ystod yr ystorm o fellfc a tharanau yr wyth- nos ddiweddaf, lladdwyd buwch, dau borchell a ftiochyn tew, gan feilten yn Nghilcen, sir Fflint. Ysgrifenydd newydd Ceidwadwyr Caernarfon yw r. Gordon Roberts, cyfreithiwr.
Advertising
0 vr?"7' cefn°gwcl1 Gydwladwyr. Bwytewch "FOOTBALL Prvvi Yr ansawdd S°reu ar wynsb y ddaear. O dyflant fiwali Xa chymerweh eich perswadio i bryrm ansawdd swael, difias fel yr Anoericanaidd.
O'r De.
O'r De. DYNA Dydd Gwyl Mabon drosodd unwaith eto gyda'i helyntion i gyd. Cynaliwyd llawer o wahanol gyrdde, o'r cwrdd pregetbu i lawr heibio'r cyrdde llenyddol, cerddorol, masnachol, gwleidyddol byd at filoedd cyrdde y diamcan a'r difeddwl ar y groesffordd, ac yn y dafarn. Gwneir llawer o ddaioni ar y Mabon's Day yn ddiau, a llawn mwy o ddrwg, 'rwy'n ofni. -0- Cynaliodd Bedyddwyr Mynwy a pbarth o Forganwg gymanfa gaou fawreddog yn Rose- berry Hall, Caerdydd, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd mwy yn methu cael Ile, fe ddywedir, nag oedd yn llwyddo i'w gael, er fod miloedd lawer yn bresenol. Arweinid y cor unol, an- ferth, gan yr hen law Dan Davies, Dowlais. Etholwyd ef i'r anrbydedd drwy bleidlais- dengys hyn ei fod yn gymeradwy yn mhlith lluaws ei frodyr. —o— Un o'r tonau cynulleidfaol sydd a mwyaf ofyn'd ynddi yn y cymanfaoedd canu ac yn y cynull- eidfaoedd yn gyffredinol yn y De y dyddiau hyn ydyw "Diadem." Mae hi wedi gafael yn rhyfedd yn y cynulleidfaoedd--tebyg ei bod yn gafael gyda gormod o wres i barhau. Mae'n amheus a oes iddi barhad. Ond er nas gallaf gredu fod yn y don adnoddau i barhau, yr wyf yn teimlo fod Emlyn Evans yn myn'd braidd yn mhell yn y Gerddor am y mis hwn, geilw hi yn ffal-di-ral" yn nghanol y wawdiaeth lemaf. Ond dweded Emlyn a fyn, mae rhywbeth yn y don sydd wedi gafael ar hyn o bryd yn y werin, ac y mae miloedd wedi addoli wrth ei chanu. —o— Peth graddol yw diwygiad, mae'n debyg. Yn nglyn a'r Eisteddfod cerdda yn araf iawn, ond y mae yn fyw, ac ar ei daitb. Cwynir llawer ar hyd y blynyddau nad oes golwg i gael ar yr un feirniadaeth. Nid ydym eto wedi gweled beim- iadaethau Pontypridd, Rhyl, ac Abertawe, fel y gwelir fod sail i'r gwyn ond erbyn heddyw mae swn diwygiad yn y gwynt, wele gyfansodd- iadau Caernarton-yr awdl a'r bryddest-wedi eu cyhoeddi yn llyfryn coch, destlus chwe' cheiniog, gyda'r feirniadaeth ar y naill a'r llall hefyd wele bwyllgor Llanelli yn dechre ey- hoeddi'r beirniadaethau yn un o'r papyre lleol, y Guardian, ac wedi dechre y maent yn bwr- iadu parhau nes gorphen, hyderaf y ceir gweled pob beirniadaeth-y traithodau yn ogystal a rhyw gywyddau ac englynion man. Wedi cael y beirniadaethan mewn papyr lleol bydd gobaith wed'yn i'r wlad gael eu gweled drwy 11 iddynt gael eu cyfodi i bapyre pwysicach. Maddeued y Guardian. -0- Mae beirniadaeth y bryddest yn darllen yn deg a dillyn. Ymddengys mai pregethwyr gan mwyaf oedd yn y dosbarth goreu. Nis gwn a rfydd rhywraiyn cwyno am hyn heblaw Wmffra Huws y Darian. Mawr ganmolirpryddest y Llew, sef y fuddugol-gobeithio ei bod yn llanw'r gymer- adwyaeth; mae ei Chymreigrwydd yn sicr pan gofiom yr awdwr, a gosodir cryn bwys ar hyn yn y feirniadaeth-rhaid aros i'w gweled a'i myfyrio cyn cymdeithasu a'r Dysgybl Anwyl sydd ynddi. Hyderaf na siomir ni. -0- 'Roedd yn llawenydd genym glywed yn y South yma mai Elfyn gafodd gadair Gwynedd, ac mai Gwili enillodd ar y bryddest. Derbynied y naill a'r llall ein llongyfarchiadau calonog. —o— Hyd y gwn i, ni fydd Moelwyn, Castellnedd, bytb yn cystadlu nac ycbwaith yn canu'n faith. Barna rhai mai gwaith ofer iddo fyddai cynyg canu'n faith, fod ei nerth mewn ergydion i'r pwrpas mewn ychydig o le. Dyma benill o'i eiddo a glywais pwy ddydd sy'n gyfoethog iawn Tybed ai mater yw seren Ar ei daith i'r ysbrydol draw ? Tybed ai ysbryd yw blodyn Gyda mater yn ysgwyd llaw ? Un yw yr holl greadigaeth Cysgod ei feddwl Ef, Y blodau yw ser y ddaear A'r ser ydyw blodau'r nef. SOUTHMAN.
-:0;-Cwibnodion o Ddyffryn…
-:0;- Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. BORE da, Mr Gymro Mae arnaf braidd ofn daugos fy ngwyneb, wedi bod mor anffyddlon yn ddiwe idar ond yr wyf yn gwybod y madd- euwch i mi ar ol derbyn fy eglurhad. Yr ydych yn cofio mai'r diwrnod yr aeth Syr Osborne Morgan i mewn yr ysgrifenais i ddweutha, oddigerth y pwt bychan hwnw by- thefnos yn ol, yrais i chi o Landrindod ar ol derbyn llythyr oddiwrth yr ben wraig yma. Wel i chwi, yr oeddwn wedi bod wrthi mor galed yn lecsiwna nes oedd fy nerth wedi ym- adael a mi yn lan, a'r ffrwst y diwrnod hwnw yn fwy na allais ddal. Felly, gyrodd y Dr-Dr Parry Jones—fi i'r ffynonau ac yno y bum hyd yr wythnos hon. Ac yr ydwyf wedi gwella yn gampus. Erbyn dod adref mae'r fath nifer o bethau wedi digwydd yn fy absenoldeb nad gwiw i mi ddechreu eu croniclo, byd yn nod pe gwyddwn p'le i ddechreu. Caniatewch i mi beth bynag estyn fy nghyf- archiadau pen blwydd i Herald y Rhos. Dathl- wyd ei ben blwydd heb yn wybod i mi. Ond ran hyny, pwy fuasai byth yn meddwl ei fod yn 12 mis oed 1 Yr oedd yr hen wraig yma-ben- dith ami-yn arfer rhoi y plant yn eu dillad cwta yn dri mis oe 3, a dyma yr Herald lieb gael ei ddillad ewta eto, heb son am ddechreu crop- ian. 'Does ryfedd felly i'r amgylchiad fyn'd heibio heb yn wybod i mi. Hai ati, Mills Newydd da arall gefais ar fy nychweliad oedd fod Wilfrid Jones-trainer yr hogie yma-wedi ei benodi yn athraw cerddorol i Ysgolion Canol- radd Gwrecsam, Rhiwabon, a Llangollen- prawf ychwanegol o syniad uchel y Dyffrynwyr am dano. 0 ran hyny, beth a ddisgwyliem yn amgen ? Bachgen iawn yw Wilfrid, ac yn dringo i fynu yn gyflym. Dyna ddau o'i gyn ddysgyblion yngwefreiddio Cefn Mawr nos Fercher-Emlyn Davies a Tom Tom. Cyngherdd blynyddol Emlyn oedd hwn, a chyngherdd rhagorol ydoedd hefyd. Ond o gresyn na fuasent wedi cael merched Cymru i I ganu yn lie y Sacsoniaid byny yr oedd arnynt ofn agor eu genau i ddweyd gair. Yr oedd gan Miss Nellie Asher a Miss Kirkby Lunn leisiau ardderchog, ond ddeallais i yr un gair ddywed- son nhw. Cafodd Emlyn a Tom dderbyniad brwdfrydig, ae y maent yn gwella bob cnoc. Can odd Emlyn Lead kindly light' yn ardderchog, a thynodd Tom y ty i lawr wrth ganu Gwlad fy ngened- igaeth.' Yr oedd yn dda iawn genyf wel'd j Emily Wright yn defnyddio'r baton mor fedrus, tra'r cor merched yn swyno'r gynulleidfa gyda Clychau Aberdyfi." üs. deil Emily ei gafael j yn y cor hwn, bydd yn fuan ddau gor peryglus 1 yn y Cefn. Da genyf weled trigolion y Cefn yn rhoddi y gefnogaeth a haeddant i'r ddau gerddor ieuanc. Yr oedd y Tabernacl yn llawn yn mhell cyn amser dechreu, a dangogwyd y brwdfrydedd mwyaf. Ond gresyn na fyddai neuadd yn Cefn Mawr i gynal cyngiaerddau fel hyn. Tybed nad oes rhai o foneddigion yr ardal yn barod i an- turio dipyn pe byddai i rywun godi'r peth i'r gwynt 1 Chwareu teg i Mr J. C. Edwards, daeth yr holl ffordd o Abermaw er bod yn bresenol i lywyddu yn y cyngherdd. Yn ei waith brics ef y dechreuodd y ddau arwr weithio ac y mae Mr Edwards yn ymffrostio yn hyny. Hen fon- eddwr iawn ydyw Edwards, waeth beth ddy- wedir. Yr oeddwn yn disgwyl y buasai rhaglen Gwyr leuainc Gwrecsam allan cyn hyn, ond ni oblywaf yr un miw am dani. Tybed os yw'r becbgyn wedi tori eu calonau ar ol y 'Steddfod ddiwedd- af ? Na, choelia i fawr eto maent yn ddystaw iawn. Hwyrach mai eisiau ein "sydyn-synn" 'gair newydd) sydd arnynt. Cawn weled. Nos Sadwrn. SAMWEL JONES.
Advertising
CHAS. R. HALL, GENERAL LETTER GUTTER & ENGRAVER 53, PARADISE STREET, LIVERPOOL. ANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &C. RICHARD E. EVANS, HOUSE AND ESTATE AGENT, ia, Preston Street (Opposite Police Courts), LIVERPOOL, And 67, CLARENDON ROAD, SEACOMBE. ESTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR LET, MORTGAGES EFFECTED. FOOTBALL OATS, a Summer purifier. FOOTBALL OATS, not heating like Oatmeal. r, FOOTBALL OATS, for Breakfast and Supper FOOTBALL OATS, contain Phosphates and Nitrogen. FOOTBALL OATS, prevent Constipation and Gout. FOOTBALL OATS, prevent Rheumatism and Bile. FOOTBALL OATS, prevent Dyspepsia. FOOTBALL OATS, provide pure blood. FOOTBALL OATS, provide healthy complex- ions. FOOTBALL OATS, produce wholesome sleep. FOOTBALL OATS, British Medical Journal commends. FOOTBALL OATS, Lancet commends. FOOTBALL OATS, Hospital commends. FOOTBALL OATS, cook in 10 minutes. FOOTBALL OATS, superior to Foreign Oats. FOOTBALL OATS, no woody flavor. FOOTBALL OATS, Delicious, Sweet Nut- flavor. FOOTBALL OATS, very strengthening. FOOTBALL OATS, from all Grocers. FOOTBALL OATS, take no others. FFORDD J-JAIARN gIR QAER [CHESHIRE LINES]. GWIBDEITHIAU I FANCEINION A SOUTHPORT. Gellir cael Tocynau Rhad bob dydd Sadwrn am I, 2, a 3 diwrnod o'r ORSAF GANOL, LL VN, LLEIFIAD, i FANCEINION, gyda thren gyflym, fel y canlyn :— Dydd Sadwrn a dydd Llun, 8.30 c.a., 9.30 c.a., 12.30 w.a., 1.30 w.a., a 2.30 w.a. Yn dychwelyd o Fanceinion yr un dydd 6.30 w.a., 7.30 w.a., 8.30 w.a., 9.55 w.a., 10.50s w.a. (s dydd Sadwrn yn unig), a 11.0 w.a. Cludiad, 3ydd dosbarth, yn dychwelyd yr un diwrnod, 2/9; i ddychwelyd ddydd Sul neu'r LIun dilynol, 3/6. Bob dydd Sadwrn, Llun, a dydd lau, hyd rybudd pellach, ceir Tocynau Rhad i SOUTHPORT fel y canlyn:— Ddydd Sadwrn o Lerpwl am 9.0 c.a., 10.5 c.a., 11.3 c.a., 12.20 w.a., 1.25 w.a., a 2.22 w.a. Ddydd Llun a dydd lau, o Lerpwl, 9.0 c.a., 10.5 c a., 11.3 c.a., 12.20 w.a., 1.3 w.a., a 2.22 w.a. Am gludiad a manylion pellach, gweler tafleni. D. 'MELDRUM, Cyfarwyddwr. Yr Orsaf Ganol, Llynlleifiad Awst, 1895. ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU ABERYSTWYTH. PRIF ATHRAW T. F. ROBERTS, M.A. CYNW YSA y cwrso Addysg y parotoad angen- rheidiol am Raddau yn Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain, am Ysgoloriaethau yn Rhyd- ychen a Chaergrawnt, ac am astudiaeth feddygol yn y Prifysgolion hyn ac yn yr Ysgotland. Gall meibion a merched a ddernynir i'r ADRAN NORMALAIDD fyned trwy y cwrs gofynol at fod yn Athrawon ac Athrawesau Trwyddedig, ac ar yr un pryd barocoi am y gradd o B.A. neu B.Sc. Y mae y swm a dderbyniant fel Ysgolorion y Frenhines yn ddigon i'w cynal yn Aberystwyth am dymhor eu hefrydiaeth. Yn yr ADRAN AMAETHYDDOL cyfrenir yr addysg mewn Amaethyddiaeth a phynciau perthynasol sydd yn gymhwys i Amaethwyr, Goruchwylwyr Tir, Athrawon mewn Amaethyddiaeth, &c., a rhoddir parotoad ar gyfer Arholiad Cymdeithas Amaethyddiaeth Frenhinol Lloegr. Lletya y myfyrwyr mewn tai yn y dref, a'r merched dan arolygiaeth Miss E. A. CARPENTER, mewn neuadd eang wedi ei darparu ar eu cyfer. Cynelir Arholiad yn mis MEDI, pryd y cynygir nifer helaeth o Ysgoloriaethau, rhai yn agored ac eraill yn gyfyngedig i Gymry. Am bob manylion ymofyner a. T. MORTIMER GREEN, Cofrestrydd. Important Announcement. Q-WALIA IJOUSE. 8& 9, Upper Wo",urn Place London, W.C. CHANGE of PROPRIETORSHIP The above well-known Private Hotel is now under the immediate Superintendence of the new Pro- prietress, MRS. JONES, who hopes by persona attention to the Comforts of Visitors, again to make GrWALIA HOUSE "A HOME FROM HOME.' Telegraphic Address-" Gwynva, London." CYFRES Y CEINION-Pris Is. yr un LLYFRAU CYHOEDDEDIG e;an I. FOULKES, Brunswick Street, Liverpool I.-Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, gan v Parch W. REES, D.D. 2.—Llythurau yr Hen Ffarmwr, gan y Parch W. REES, D. D. 3.-Cyfrinach yr Aelwyd, gan y Parch W. REES, D. I). Y T <1 LLYFR UCHOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 4s. 4. -Gardd Eifion: sef, Barddoniaeth ROBERT kB GWILYM DDU o EIPION. 5-Goronwy Owen. Holl Waith Barddonol y Prif-fardd enwog, Hanes ei Fywyd, a Fac-simile o'i Lawysgrifen o Lyfr y Plwyf yn Eglwys Walton, 6.-Gwaith Beirdd Mon: sef LEWIS MORYS. Y BARDD COCH Hugh Hughes), a ROBIN DDU o FON. 7.—John Blackwell (Alun. EihollWaith Barddonol. 8.—Yr Hen Bererinion: sef, Hanes Bywyd RICHARD JONES, Llwyngwril; RHYS DAFIS (Y GLUN BREN ac EDMUND JONES o Bontypwl. ico.-Diliau Barddas: sef, Cyfansoddiadau barddonol BARDD NANTGLYN (Robert Davies). 9 a ii.—Pigion Englynion Fy Ngwlad, yn cynwys 2,000 o Englynion goreu'r Iaith. Wedi eu casglu o waith Beirdd Hen a Diweddar, gan EIFIONYDD. Y Gyfres 1 af a'r 2il. I2.-Rheinallt ab Gruffydd. Rhamant Hanes- yddol. 13.—Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Yn nghyda darlun o'r Lasynys, hen gartref yr Awdwr, a darluniau eraill. Gan ELIS VVYN 0 LASYNYS. 14.—"Christmasia," gan DAVID OWEN (Brutus). "Bywgraffiad campus o'r enwog CHRISTMAS EVANS, an ysgrifenydd doniol a'i hadwaenai yn dda.' 15.—J. Ceiriog Hughes Ei Fywyd ei Athry i th, a'i Waith. (Gyda Darlun cywir ohono, ao o Benyl-Vi Dyffryn Ceiriog, lie ganwyd ef). Gan y ^UXFRBRYF. 16.—Yr Oriau Olaf: gan JOHN CEIRIOG HUGHES, sef Caneuon, Rhiangerddi, &c., na chy- hoeddwyd or biaen, ac wedi eu cymeryd o law. ysgrifau'y Bardd. Y DDAU LYFR UCHOD. wedi eu rhwymo ynnghyd mewn Llian. Pris 2s 6ch. BARN MR. T. E. ELLIS, A.S. Y llyfr tra nodedig hwnw, L'LYFR Y TRI c ADERYN,' llyfr a ddarllenccis ac a ail ddarllenais i, a chgnghoi-itit bob Cymro i'w ddarllen.Ara-ith Ion. 23ain, 1894. I7.-LIyfr y Tri Aderyn. Dirgelwch i rai i'w ddirnad ac i eraill i'w watwar. Gan MORGAN LLWYD 0 WYNF.DIX Un o'r llyfrau hynotaf yn yr iaith Gymraeg. Gyda NODIADAU AR FYWYD YR AWD WR, gan y Parch OWEN JONES, B.A., Lerpwl. Argr aphiad Newydd. iS—Llythyrau Goronwy Owen. Wedi eu manwl gydmaru a chopiau mewn ysgrif, yn nghyda rhai llythyrau nad oeddynt mewn casgliadau biaen- orol, ac ychydig eraill wedi eu cymeryd o ysgrif yfrau. rREBOR MAI, Prif Englyniwr Cymru-Ei Waith i. Barddonol; yn cynwys ei Englynion, Caneuon Cywyddau, &c., hefyd Darlun cywir oheno,a'i Fyw. graphiad. Pris, 5 rn DAFYDD AB GWILYM,—Ei Waith Barddonol, D yn cynwys rhai cywyddau na chyhoeddwyd o'r blaen, cyfieithiadau i'r Saesonaeg o rai o'i darnau goreu; a bywgraphiad o'r Bardd yn Nghymrag ac yn Saesneg, Tan olygiac1 CYNDDELW. Pris, 10/6. y MABINGGION CYMREIG, sef Chwedlau 1 Rhamantus yr Hen Gymry (fei yr ysgrifenwyd hwynt-yn yr Hen Gymraeg, ac mewn Cymraeg di, weddar). Wedi ei rwymomewn llian hardd, 17s. A NEW (fnc-simile) Edition of the Renowned Work iXt IOLO MANUSCRIPTS, being a selection of Ancient Welsh Manuscripts, in prose and Verse, from the collection made by ED WARD WILLIAMS (lofo Morganwg) and intended by him as materials for a New History of Wales. With ENGLISH TRANSLA- nONS and Notes by TALIESIN WILLIAMS Ab Iolo, o Merthyr Tydiil Price,2ls