Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
----.----_-O'r De.
O'r De. YR wythnos ddiweddaf, cynaliwyd Pwyllgor yr Undeb Cynulleidfaol yn Llandrindod. Pa bethau a benderfynwyd yno, nid oes neb y tuallan eto a wyr. Yn y pwyllgor yno y pender- fynwyd ar y personau sydd i gymeryd rhan yn ngweithrediadau cyhoeddus cyfarfodydd yr Un- deb. Pwy a etholwyd ? Ymddengys fod y pwyllgor wedi dod yn nghyd yn gryno. —o— Gwelaf fod pregethwyr gan amled ag amldra yn y ffynonau ar y tywydd teg yma. Perswad- iwyd Dr. Gomer Lewis, Abertawe, un nos yno i roi ei ddarlith ar Ffair y Byd "—pregethwyr oedd y gynulleidfa-a chafwyd hwyl. Mae llawer bellach wedi cael y ffair hon. Yn ystod y ddeunaw mis diweddaf mae'r Doctor doniol wedi ei darlithio yn ymyl dau cant o weithiau. —o— Mae dull traws-arglwyddiaethol Eglwys Loegr o gario ymlaen ei gwasanaeth yn cael ei deimlo yn fwy-fwy, hyd yn nod gan ei chefnogwyr. Yn diweddar, synwyd cynulieidfa mewn eglwys yn Oastellnedd, gan waith y ciwrad yn hysbysu nad oedd yn bwriadu pregethu na gwasanaethu, ond yn unig rhoddi emyn allan i'w ganu myn- egodd mai yr achos o hyn oedd gwaith yr archddiacon yn trefnu amser a phregethwr Oyf- arfodydd Diolchgarwch ei eglwys beb ymgyng- hori âg ef Ymadawodd y gynulleidfa wedi canu'r emyn. —o— Ymddengys fod Iolo Tir larll gynt, yn rhoddi lie i'r beirdd i fyw heb dalu rbent. Mae Gurnos yn bresenol yn trigianu ar dir oedd yn eiddo lolo Tir Iarll, ac ymddengys ei fod yn myned i wneud ymdrech i gael yr hen drefn i weithrediad eto. —o— Wrth ddarllen yn ddamweiniol un o golofnau yn y Western Mail y dydd o'r blaen, gwelais baragraph yn dweyd fod yr englyn canlynol yn argrapbedig ar fedd Twm o'r Nant CA'DD awen burwen yti berwi-a than Dosthineb Duw ynddi; Seraphim 'roes er hoffi Farworyn, i'w henyn hi. Bydded hysbys i'r MaiI mai englyn o eiddo Twm ei hun yw'r englyn uchod i un o brif-feirdd Cymru, ac mai dau englyn hollol wahanol i'r 11 uchod sydd ar fedd y prydydd poblogaidd. -0- Damwain ofidus yn Aberdar Junction. Y lladdedigion yn hanu o wahanol ardaloedd Cymru fel arfer. Yn ymyl yma y mae Cilfynydd, lie y collwyd y fath nifer ychydig amser yn ol. Cofiwn fod y glo yn costio'n ddrud. -0- Nid yw digwyddiadau alaetbus yn sobri nemawr ar rai cymeriadau. Bore Sul diweddaf, bu ymladdfa ar fynydd Llanwono, rhwng dau lane-dau Gymro, a bu un ohonynt farw ymhen ychydig oriau oddiwrth effeithiau'r ymladd. Ni ddylai peth fel hyn gymeryd lie yn Nghymru. —o— Drwg genym oil fod Eisteddfod Pwllheli wedi !roi yn goiled arianol. Cymered y pwyllgor galon, nid oedd gan Llanelli a'i gwyl fawr ddim dros ben. o SOUTHMAN.
-:0:-Y Chwarelwyr a u Cyflogau.
-:0:- Y Chwarelwyr a u Cyflogau. PRYDNAWN Sadwrn, cynaliwyd cyfarfod o chwar- elwyr ar y mynydd rhwng Bethesda a Llandinorwig. Nid oedd y cynulliad ond bychan—o tan dri chant, tra y disgwylid y buasai yno chwech neu saith mil. Canwyd yr emyn arferedig ar achlysuron o'r fath- "0 Arglwydd Dduw Rhagluniaeth," ac yna tra- 11 ddododd Mr J. W. Thomas, llywydd Undeb y Chwarelwyr, yr hwn a lywyddai'r cyfarfod, an. erchiad ar amcan y cynulliad, sef vmgyfamodi er ceisio cael eu hiawnderau fel gweithwyr.—Mr W. R. Jones, Llanfrothen, a draddododd araith effro ar ddyledswydd y chwarelwyr i ofalu am eu budd- ianau, trwy gael Undeb cryf er sicrhau sliding scale i enill y cyflog uwchaf oedd yn bosibl.—Mr W. W. Jones, Llanllyfni, a dybiai mai camgymeriad oedd i chwarelwyr Dinorwig ofyn i'r Anrhyd. W. Vivian am godiad yn eu cyflogau cyn i'r chwarelwyr eraill benderfynu gwneud yr un peth.-Mr W. Williams, Ffestiniog, a ddywedai pan aethant hwy at eu meistri i ofyn am godiad yn sir Feirionydd, yr ateb a gawsant oedd fod chwarelwyr sir Gaernarfon yn gweithio'n is na hwy o tua 20 y cant. Apeliai ef atynt i fynu cyfiawnder, ac ymddwyn yn gyfiawn tuag at eu cydweithwyr trwy beidio gweithio tan bris. Apeliai atynt hefyd i ymuno a'r Undeb.— Ar gynygiad Mr W. J. Williams, Ysgrifenydd yr Undeb, pasiwyd y penderfyniad a ganIyn Fod y cyfarfod hwn o chwarelwyr Arfon o'r farn fod cyflog y chwarelwyr fel gweithwyr yn llawer rhy isel, pan gymerir i ystyriaeth y galw mawr sydd am lechi, a'r pris uchel a geir am danynt; ein bod yn parchus apelio at berchenogion chwarelau i benodi dirprwy i gyfarfod y dynion er ystyried yr apeliad, ac felly rhoddi cyfle ini wyneb yn wyneb egluro pethau iddynt; ein bod ni hefyd o'r farn nas gallwn ddyfod i gyd-ddealltwriaeth boddhaol hyd nes y caffom safon cyflog a gydnabyddir gan y meistr a'r gweithiwr." Dywedai Mr Williams fod, Pris y llechi y fath fel y dylai'r chwarelwyr enill 7s lc yn y dydd. Er mis Mai y mae pris liechi wedi codi 10 y cant., -Mabwysiadwyd y pender- fyniad yn unfrydol.
o Ewyllys Boneddwr o Fon.
o Ewyllys Boneddwr o Fon. YR, wythnos ddiweddaf, profwyd ewyllys Col. McCorquodale, o'r Gadlys, Mon, sefydlydd y argrapbdai mawrion sydd ar ei enw mewn gwahanol fanau yn y wlad hon ac Ysgotland, a'r hwn a fu farw yn y gwanwyn diweddaf. Talwyd toll ar £ 372,857 9s. 7c. Gedy ei eiddo i'w blant weddw, oddeithr £ 10,000, neu unrhyw swm ,ai na byddo yn fwy nag un rhan o haner canfed ei holl eiddo, at ddybenion elusenol. Cyfar- ^ydda ei sgutorion i roi'r flaenoriaeth i elusenau ■Lancaster, Buckingham, a M6n dinas Lerpwl, iftas Llundain, a bwrdeisdrefi Southwark a ■keeds. Gedy y cyfranau oedd ganddo yn y iverpool Daily Post, a chwmniau eraill, i'w Albion.
[No title]
-0- Mae Mr Lloyd Hughes, Coedhelen Mr Issard ^avies, Caernarfon a Dr Owen Rowlands, Llan- aiarn, wedi eu codi yn ynadon heddweh yn sir yrS' Dau Dori y blaenaf a Rhyddfrydwr
Cymanfa Methodistiaid Seisnig…
Cymanfa Methodistiaid Seisnig Cymru. YR wythnos ddiweddaf, cynaliodd Methodistiaid Seisnig Cymru eu pumed gymanfa flynyddol yn Nghaerdydd. Daeth oddeutu 250 o weinidogion a lleygwyr yn nghyd, a chroesawyd bwy yn Nghapel Clifton Road nos Lun. pan y llanwyd y gadair gan y Parch D. Jones, Caerdydd, ac y caed IInerchiadau croesawol gan weinidogion gwahanol enwadau y dref. Fore Mawrth, cynaliwyd cyfarfod gweddi cyff- redinol, ac wedi i'r ysgrifenydd (y Parch Edward Griffiths, Garston) ddarllen y cofnodion ac adr-dd- iadau y gwahanol bwyllgorau, etholwyd y pwyll- gorau am y flwyddyn nesaf. Yn y prydnawn, cynaliwyd cyfarfod o'r Christ- ian Endeavour yn y Memorial Hall. Llywyddwyd gan y Parch John Pugh, ac yr oedd yn bresenol Y Parchn Ellis Edwards, Bala Dr Griffith Parry, Carno Aaron Davies, Pontlotbyn William Evans, Penfro Seth Joshua Mri E. J. Baillie, Caer A. T. Roberts, Lerpwl; S. Evans, Maesteg, &c. Cafwyd anerchiadau gan y Cadeirydd, Mri Seth Joshua, Mr H. G. Howells, Mr J. E. Ray, Mr Jackson, Ceinewydd, a Mr Harris, Abertawe. Tystient oil i'r gwaith da wnaed gan y Gymdeithas, ac argymhellent fod y gwaith ya cael ei eangu. Wedi cael anerchiad gan y Parch Ellis Edwards, Bala, holwyd yr ymgeiswyr am ordeiniad, a thradd- odwyd cynghorion iddynt. Yn y prydnawn bu yr holl ddyeithriaid yn mwynhau gwledd o de. I Yn yr hwyr, yn y Memorial Hall, cymerwyd y gadair gan Mr E. J. Baillie, Caer, ac yr oedd torf fawr wedi dod yn nghyd. Y mater dan ym- driniaeth oedd Yr Eglwys a Chwestiynau Cym- deithasol," a'r siaradwr cyntaf oedd y Parch G. Ellis, M. A., Bootle, Llywydd-etholedig y Gym- anfa Gyffredinol. Yn nghwrs ei anerchiad, sylwodd mai un o arwyddion yr amserau ydoedd eu bod y noson hono wedi dyfod yn nghyd i drafod y cwestiwn dan sylw yn ddifrifol. Dywedid wrth- ynt weithiau fod gweinidogion yn ofni ymaflyd yn y cwestiynau hyn, ond dymunai ef ddatgan yn ddi- floesgni na ddylai yr eglwys anwybyddu materion mawr cymdeithasol y dydd. Ni allai'r eglwys fod yn ddifater yn nghylch tlod;, dyoddefiadau, tros- eddau, a phechodau, y rhai i fesur oedd yn ddyledus i amgylchiadau cymdeithasol. Perthynai i bob dyn unigol ei hawliau a'i ddyledswyddau ond ni ddylai annghofio ei fod yn ddyledus am ei ryddid a'i fanteision i grefydd Gristionogol. Tueddai yr oes yn ystod y blynyddau diweddar at Gymdeith- asiaeth, a phasiwyd canoedd o ddeddfau yn ystod y 50 neu 60 mlynedd diweddaf oedd a thuedd werinol iddynt. Y cwestiwn ddylai gael sylw felly oedd, pa beth ddylai fod agwedd yr eglwys at reoleiddio cymdeithas? Angen cyntaf a phenaf dyn oedd angen ysbrydol; yn ail, yr unig ffordd effeithiol i wella amgylchiadau dyn oedd trwy adgenedlu y dyn ei hun; yn drydydd, dylai yr eglwys ddysgu fod pob ymgais i gynorthwyo cymdeithas trwy ddeddfwriaeth i fod o fewn cylch cyfyngedig. Dylai yr eglwys ddysgu eu bod i fyned rhagddynt trwy ddylanwad moesol yn hytrach na thrwy nerth cyfreithiol er symud yr annghydraddoldeb y sonid cymaint am dano. Credai nad oedd y cyfoeth gesglid o gynyrch cenedl yn cael ei ranu yn gyfiawn a chyfartal; ac mewn cyfoeth mawr a thlodi adfydus y gorweddai peryglon y wlad ond pe gellid cael gan y bobl i wario eu henillion yn ddoeth, byddai cwestiwn dyrys y bobl diwaith wedi ei ddadrys yn fuan. Pe gwend 100,000,000p yn lie 140,000,OOOp ar ddiod feddwol, a gwario'r 40,000,000 araU am reidiau bywyd, byddai y fath gynydd mewn masnach a ddarparai waith i'r oil ag sydd yn segur yn awr. Siaradwyd yn mhellach i'r un cyfeiriad gan y Parchn R. R, Roberts, B.A., Aberdar Ellis Edwards, Bala, a. Mr Owen Owen, Croesoswallt. Ddydd Mercher, wedi cynal cwrdd gweddi a chael anerchiad ynddo ar faterion cyfundebol gan y Parch Thomas Jones, Rhostyllen, cyfarfyddodd y gynad- ledd am ddeg, pan gymerwyd y gadair gan Lywydd y Gymanfa, Dr Cynddylan Jones. Traddododd anerchiad meddylgar ar waith y weinidogaeth a chyfrifoldeb gweinidogion. Go.-ododd bwys mawr ar i'r gweinidogion feddu gwybodaeth drwyadl o'r Ysgrythyr, a dymunai weled Ysgol Dduwinyddol Cymreig yn cael ei sefydlu yn y Dywysogaeth. Nid oedd ganddynt dduwinyddiaeth arbenigol Gymreig, er fod delw yr athrylith Gymreig i'w gweled i fesur ar eu pregethau, ond credai ef fod yn bosibl codi Ysgol Dduwinyddol yn Nghymru fyddai o fudd nid yn unig i'r genedlaeth bresenol, ond i oesau dyfodol.—Yna cyflwynwyd Mr E. J. Baillie, Caer, i'r cynulliad fel Llywydd etholedig y flwyddyn ddyfodol. Wedi diolch i Dr Cynddylan Jones am lanw'r gadair mor fedrus am y flwyddyn aeth heibio, darllenwyd papyr gan y Parch W. James, B.A., Manchester, ar Yr Offeiriadaeth Gristionogol." Dywedodd mai egwyddor sylfaenol yr offeiriadaeth ydoedd agosrwydd at Dduw, ac felly fod pob gwir Gristion yn wir offeiriad. Ffug oedd olyniaeth Apostolaidd, ac nid oedd offeiriadaeth yn bod wedi ei gyfyngu i un dosbarth neillduol.—Yn y drafodaeth ddilynodd, cymerwyd rhan gan y Parchn R. Hughes, Aber- ystwyth; D. Hughes, Caernarfon; Dr Griffith Parry, a Mr H. Lewis, Y.H., Bangor. Yn nghyfarfod y cynrychiolwyr, penderfynwyd cynal Cymanfa'r flwyddyn nesaf yn Nghroesoswallt aphenodwydy swyddogion canlynolLlywydd am 1896, Parch Wm Evans, Pembroke Dock ysgrifenydd, Parch E. Griffiths, Garston is-ysgrif- enydd. Parch R. J. Rees, Caerdydd trysorydd, Mr Benjamin Williams, Tredegar. Pwyllgor Gweithiol:—Mri Evan Davies, Aberaeron H. S. Davies, Pontypridd; Rhys Davies, Merthyr Parchn John Edwards, Colwyn Bay Maurice Griffiths, Llanidloes David Jones, Caerdydd: Edward Parry, Drenewydd John Pugh, Caerdydd John Williams, Caerdydd; Richard Williams, Rhns • Mri W R. Evans, Gwrecsam Jacob Jones, Rhyl; J. Jones-Griffith, Tonypandy; Henry Lewis, Y.H., Bangor; ac Owen Owens, Croesos- wallt. Yn nghyfarfod y prydnawn, ordeiniwyd y rhai canlynol i gyflawn waith y weinidogaeth Mri R. Burges, Caerdydd; Cornelius David, Langharne; Henry Harding, Caerdydd H. G. Howell, Caer- dydd H. J. Jenkins, Ceinewydd T. S. Morris, Coed way a J. H. Williams, Llanelli. Llenwid v gadair gan Dr. Cynddylan Jones, a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. Moses Will- iams, Bristol; Evan Morris, Aberaeron; Thomas I Hughes, Manchester; Griffith Parry, D.D., Carno; W. Evans, Pembroke Dock; Proff. Edwin Williams, Trefecca; Mr R. Rowlands, Y.H., Tremadog; a Mr Rhys Davies, Merthyr. Yn yr hwyr traddodwyd pregeth y gynadledd gan y Parch F. B. Meyer, B.A., Eglwys Crist, Llundain, ac yr oedd y Park Hall yn orlawn yn gwrando arno. Dechreuwyd gwaith dydd olaf y gynadledd trwy i'r holl gynrychiolwyr gyfranogi o Swper yr Arglwydd yn nghapel Cliftoa Street, a thraddododd y Parch William Evans, Pembroke Dock, anerchiad ar Syniad yr Ysgrythyr ar Sancteiddrwydd." DulIenwyd papyr hefyd gan y Parch W. Evans, Pensarn, a chymeryd rhan yn y drafodaeth arno gvn y Parchn 0. D. Jones, Lerpwl; Proff. Wynne Parry, Bala; W. A. Williams. Abertawe R. Morris, Amwythig Griffith, Ell s M.A., Bootle, ac eraill. Yn y prydnawn darllenwyd papyr ar Y modd goreu i weithio yn mhlith yr ieuengtyd gan y Parch Maurice Griffiths, Llanidloes a dilynwyd ef gan y Parchn John Edwards, Colwyn Bay; Richard Jones, Whiston, Penfro a Mr G. Robyns- Oweu, Pwllheli. Daeth y gynadledd i derfyn drwy gynal cyfarfod lluosog yn yr hwyr yn Park Hall, pan y cymerodd nifer mawr o weinidogion ran yn yr ymdriniaeth ar Sefyllfa bresenol Cristionogaeth."
-0-Gohebiaethau.
-0- Gohebiaethau. TOBACO. CODAIS yr englynion canlynol o'r hen Wyliedydd" am 1825 ac yr wyf yn deisyf eu cyflwyno i OWEN IFAN, sylwadau yr hwn ar wastraff myglys a rodd- odd foddhad mawr i filoedd heblaw yr oeiddoch, CYNILDEB. Ol-ysgrif Ewch yn mlaen, Owen anwyl. PEDWAR rhinwedd, medd rhai, sydd arno, Gwlychu gwr, a'i dwymo Ysgafnhau y pen a'r pwrs, Ac arbed cwrs o weithio. Tra by'ch byw a gwych heb gur,-iia gwaew Na gwewyr na llafur, Nac arfer i sychder sur, Mwg dail rhag magu dolur. EDJIWNT PKYS. RHINWEDD tobaco, mi a'i rhana—'n ddwy Yr hwn ddaeth o'r India 1. Difa stoc y cyfoethoca', 2. A'r iach yn afiach a wna. Tobaco, i'w sugno mae'n sur,—drwg anwes Drygioni, chwant anmhur, Abwydyn, a'n lludw budur, Gwaew yn y pen-a gwenwyn pur Saig fyglyd o ddrud ddirieidi—danllyd, Nid un-lles ond llosgi; Saig a bair swga boeri, Saig yn f'oes na sugna fi. Ddyn 'smala, na fola mo'i fwg—o'i fegin, Fe wna i ti fawrddrwg Cut and dry mewn cetyn drwg Dan dy ael, a dyn d'olwg. Pob llipryn, brilyn yn brolio-ei bib, Heb obaith diwygio, A phob Siac a'i dobaco— Ei wan fwg, yn wenwyn fo Tobaco, i'n bro heb raid,—i Gymro Ei gym'ryd sydd afraid Pob gwan a'r ffwdan ni phaid, Pawb a alio—pibellaid Ni WYDDIS PWY. Gwelir fod y ddau benill cyntaf, beth bynag am y lleill, o leiaf yn dri chant oed, canys bu EDMWND PRYS farw yn 1624, yn 80 oed.-C.
CYFARFOD MISOL LIVERPOOL A…
CYFARFOD MISOL LIVERPOOL A HAD YR EGLWYSI. MR. GOL.Wrth roddi'r gadair i fynu ychydig wythnosau yn ol, rhoes cyn-lywydd y Cyfarfod Misol (y Parch J. Hughes, M.A.) rai awgrymiadau i ystyriaeth y cyfarfod-yn eu plith, sefyllfa ddifrifol plant a phobl ieuainc ein heglwysi, y rhai ydynt yn dyoddef cam dybryd oherwydd eu han- wybodaeth o'r Gymraeg ac fod y C.M. yn gwneud rhywbeth tuag at iddynt ddeall y pregethau a mwynhau'r moddion." Nodwyd pwyllgor i drafod y mater a'u hawgrym hwy oedd fod v Cyfarfod Misol yn caniatau ac yn cymhell y gweinidogion i gyfieithu y penau a'r prif eiriau (h. y., y geiriau hirion), a dweyd pwt yma ac acw yn Saesneg, modd y gallo'r plant a'r bobl ieuainc fyddont heb ddeall Cymraeg yn ddigon da allu amgyffred a dilyn y bregeth, ac felly fod ar dir i dderbyn rhyw leshad oddiwrth y gwasanaeth. Addefa pawb fod sefyllfa bresenol ein plant yn y trefi Seisnig yn un dyrus tros ben, ac yn teilyngu sylw manylaf pob enwad Cymreig. Y pwnc ydyw Beth ydyw y rt'ordd ddoethaf ac effeithiolaf i'w cyfarfod. Nid ffordd y Cyfarfod Misol, gredaf fi. Yn un peth, nid pob un o'n gweinidogion a'n pregethwyr a deimlai'n gysurus iawn gario allan awgrym y Cyfarfod Misol; canys byddai llithro ar ambell air neu frawddeg Seisnig yn debycach o beri chwerthin nag o gynyrchu ysbryd defosiwn yn mhlith y bobl ieuainc ac nid y sawl fo'n pardduo pregeth Gymraeg hefo chyfieithiadau ohoni i'r Saesneg, yn gyffredin a ddeallir oreu gan ein hieu- enctyd, ond yn hytrach y gwr a all wisgo ei fedd- yliau yn Nghymraeg glir a semi yr aelwyd. Drachefn os am ddwyn y Saesneg i fewn, onid gwell fyddai ei chael hi a'r ieuenctyd hefo'u gilydd, a rhoddi un gwasanaeth iddynt bob Sabboth ar eu penau eu hunain ? Gwell na hyny drachefn fyddai i'r Cyfarfod Misol gael rhyw gynllun i wasgu ar gydwybodau y rhieni y fantais a'r ddyledswydd o ddysgu Cymraeg i'r plant gartref. Yno mae gwraidd y drwg, ac oddi- yno y gellir gwir feddyginiaeth. Y mae'r anhawsder dwyieithog yn fater tra phwysig gyda golwg ar ddyfodol ein plant a nerth yr eglwysi Cymreig a hoftem weled gwyr profiadol yn traethu eu barn arno yn ngholofnau Y Qymro. —Yr eiddoch, AELOD O'R C.M.
Afiechyd difrifol, y Parch…
Afiechyd difrifol, y Parch Evan Jones, Caernarfon. BYDD yn ddrwg gan ein cydwladwyr ddeall fod y gwr parchedig ac adnabyddus yn dyoddef dan afiechyd difrifol. Tra yn y Pafilion, Caernarfon, ddydd LInn yn arolygu trefniadau y nodaehfa gynelir yno yr wythnos hon at ddileu dyled capel Moriah sydd dan ei ofal, cymerwyd ef :yn glaf yn ddisymwyth, a bu am ysbaid yn anymwybodol. Aed ag ef adref, ac er ei fod wedi gwella yehydig, eto mae ei sefyllfa yn rhoddi pryder dwys i'w gydnabod.
Advertising
CYPRES Y COINION-Pris Is. yr ua LLYFRAU CYHOEDDEDIS gan I. FOULKES, Brunswick Street, Liverpool i.-Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, gan y Parch W. REES, D. D. 2.-Llythurau yr Hen Ffarmwr, gan y Parch W. REES, D.D. 3.-Cyfrinach yr Aelwyd, gan y Parch W. REES, D. D. Y T <1 LLYFR UOIIOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 4s. 4.-Gardd Eifion sef, Barddoniaeth ROBERT &.B GWILYM DDU 0 EIFION. 5-Goronwy Owen. Holl Waith Barddonol y Prif-fardd enwog, Hanes ei Fywyd, a Fac-simile o'i Lawysgrifen o Lyfr y Plwyf yn Eglwys Walton, 6.-Gwaith Beirdd Mon: sef LEWIS MORYS. Y BARDD COOH Hugh Hughes), a ROBIN DDC o FON. 7.—John Blackwell (Alun. EihollWaiih Barddonol. 8.—Yr Hen Bererinion: sef, Hanes Bywyd RICHARD JONES, Llwyngwril; RHYS DAFIS (Y GLUN BREN ac EDMUND JONES o Bontypwl. zo.-Diliau Barddas: sef, Cyfansoddiadau barddonol BARDD NANTGLYN (Robert Davies). 9 a 11.—Pigion Englynion Fy Ngwlad, yn cynwys 2,000 o Englynion goreu'r laith. Wedi eu casglu o waith Beirdd Hen a Diweddar, gan EIFIONYDD. Y Gyfres 1 af a'r 2il. 12.-Rheinallt ab Gruffydd. Rhamant Hanes- yddol. 13.—Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Yn nghyda darlun o'r Lasynys, hen gartref yr Awdwr, a darluniau eraill. Gan ELlS WYN o LASYNYS. 14.—"Christmasia," gan DAVID OWEN (Brutus). "Bywgraffiad campus o'r enwog CHBISTMAS EVANS, an ysgrifenydd doniol a'i hadwaenai yr dda.' 15.—J. Ceiriog Hughes: Ei Fywyd ei Athry ith, a'i Waith. (Gyda Darlun cywir ohono, ac | o Benyb^yDyffryn Ceiriog, lie ganwyd ef). Gan y ^IJTBBRYF. 16.—Yr Oriau Olaf: gan JOHN CEIRIOG HUGHES, sef Caneuon, Rhiangerddi, &c., na chy- hoeddwyd or b.aen, ac wedi eu cymeryd o law- ysgrifau y Bardd Y DDAU LYFR UCHOD. wedi eu rhwymo ynnghyd mewn Llian. Pris 2s 6ch. BARN MR. T. E. ELLIS, A.S. Y llyfr tra nodedig hwniv, LLYFR Y TRI ADERYN,' llyfr a ddarllenais ac a ail ddarllenais i, a chynghorwn bob Cymro i'w ddarllen. "-Araith Ion. 23ain, 1894. 17.-Llyfr y Tri Aderyn. Dirgelwch i rai i'w ddirnad ac i eraill i'w watwar. Gan MORGAN LLWYD 0 WYNF.DD. Un o'r llyfrau hynotaf yn yr iaith Gymraeg. Gyda NODIADAU AR FYWYD YB AWD WR, gan y Parch OWEN JONES, B.A., Lerpwl. Argraphiad Newydd. 18-Llythyrau Goronwy Owen. Wedi eu manwl gydmaru a chopïau mewn ysgrif, yn nghyda rhai llythyrau nad oeddynt mewn casgliadau blaen- orol, ac ychydig eraill wedi eu cymeryd o ysgrif vfrau. < TREBOR MAI, Prif Englyniwr Cymru—Ei Waith Barddonol; yn cynwys ei Englynion, Caneuon Cywyddau, &c., hefyd Darlun cywir ohono,a'i Fyw. graphiad. Pris, 5 DAFYDD AB GWILYM,—Ei Waith Barddonol, yn cynwys rhai cywyddau na chyhoeddwyd o'r blaen, cyfieithiadau i'r Saesonaeg o rai o'r darnau goreu; a bywgraphiad o'r Bardd yn Nghymrag ac yn Saesneg, Tan olygiad CYNDDELW. Pris, IO/6. MABINGGION CYMREIG, sef Chwedlau Y Rhamantus yr Hen Gymry (fel yr ysgrifenwyd hwynt-yn yr Hen Gymraeg, ac mewn Cymraeg di weddar). Wedi ei rwymo mewn llian hardd, 17s. ANEW (fac-simile) Edition of the Renowned Work IOLO MANUSCRIPTS, being a selection of Ancient Welsh Manuscripts, in prose and Verse, from the collection made byEDWARD WILLIAMS (Iolo Morganwg) and intended by him as materials for a New History of Wales. With ENGLISH TRANSLA- TIONsand Notes byhisson, TALIESIN WILLIAMS Ab Iolo, o Merthyr Tydfil Price, 2is CYRN! CYRN!! CYRN! MAE BUNODION BENSON EVANS Yn rhoddi esmwythad ar unwaitb i GYRN poenus, ac yn eu symud yn hollol mewn ychydig ddyddiau. Symuda hefyd DDEFAID ar y dwylaw a'r bysedd, tyn ymaith enyniad a gwres o BUNIONS gan eu gwneud yn iach a diboen. Gwerthir mewn potelau 7tc a Is. ltc. yr un. Danfonwch am botel-maen feddygin- iaeth anffaeledig. GASTROCYNE BENSON EVANS. Yr unig feddyginiaeth effeitbiol i Ddiffyg Treuliad, Poenau ar ol Prydiau, Llosg-galon, Biliousness, &c. Derbyniwyd miloedd o gymer- adwyon i'w effeithiolrwydd rhyfeddol. Mewn Poteli, Is. lie. a 2s. 6c. yr un. T. BENSON EVANS, High Street, Dinbyoh. 8AVE8 HAND-LABOUR. A VENUS SOAP JJ W& WASHES EVERYTHING.