Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

John Ambrose Lloyd,

Y Meddyg Brenhinoi,

Damwain Angeuol yn Mhenmaenmawr.

-0--Newyddion Cymreig.

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.

--0--Eglwys y Plwyf a Rhaith…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0-- Eglwys y Plwyf a Rhaith y Plwyf yn methu cytuno. MAE anngbytundeb wedi codi rbwng awdurdod- au Egl wys y Plwyf a Chynghor y Plwyf yn Newmarket, sir Fflint. Ymddengys fod John Wynne, Gop, fu farw 150 mlynedd yn ol, wedi cymunroddi 40p yn flynyddol yn ei ewyllys o'i ystad at addysg y plwyf. Ar farwolaeth ei weddw rai blyti, dd-au yn ddiweddarach, gwerth- wyd ystad Mr Wynne i Syr Roger Mostyn, Mostyn Hall, un o hynafiaid yr Argl. Mostyn presenol. Ni roddwyd rhybudd i Syr Roger fod y 40p i'wtalu o'r ystad, a bu cryn lawer o gyfreithio o'r herwydd. Am nifer o flynyddau cynullodd yr arian, ac yn 1836 yr oedd 2,500p yn nwylaw'r ymddiriedolwyr, Adeiladwyd ysgol gyda'r swm hwn, a buddsoddwyd y gwedd- ill mewn tir, gyda'r canlyniad fod y 40p yn yr elusen wedi codi i 80p. Yn 1859, trwy orchy- myn llys barn gwnaed yr ysgol yn Ysgol Eglwys Loegr, gyda'r ficer a'r churchwardens yn ym- ddiriedolwyr, a rheolwyd yr el n sen ganddynt hwy er y pryd hwnw. Yn 1890 gwnaed ym- chwiliad i'r elusen, a chwynai amryw fod yr Eglwyswyr yn ei meddianu i gyd ac fod yr Ym- neillduwyr yn cael eu hanwybyddu. Hysbysodd Mr Herbert Lewis, A.S., cadeirydd y ddirprwy- aeth, os penderfynai'r pwyllgor gorphori'r elusen yn y cynllun addysg y byddai raid iddi yn y dylodci to a yn t101101 anenwadol, Ni wnaed hyn, fodd bynag, a pharhai awdurdodau'r Eglwys i'w rheoli. Yn ddiweddar bu Rhaith y Plwyf yn trafod y mater, a chan eu bod yn anfoddlawn ar weinyddiad yr elusen, gwnaeth ant gais am yr holl ysgrifau perthynol iddi, ond gwrthodwyd hyn iddynt gan hawlio mai elusen eglwysig ydoedd. Nid oeddynt am gael eu llesteirio yn eu hamcan, ac y maent wedi eyftr- wyddo eu clerc i ymofyn am ewyllys John Wynne, copi o'r cynllun wrth yr hwn y rheolir yr ysgol, a hanes yr ymchwiliadau wnaed i'r mater. Presbyteriad oedd y John Wynneadaw- odd yr arian, ac y mae wedi ei gladdu dan y pwlpud yn nghapel Annibynol Newmarket. Mae'r mater wedi creu dyddordeb mawr yn y plwyf.

[No title]

--------= TCofadail Llywelyn.

-0--Qamwain Angeuol i Weinidog…

--0-Gwyl Cerddorol Caerdydd-

[No title]

Nodion o'r Ddinas.

Eisteddfod Lerpwl.