Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Byffryn Clwyd.
Byffryn Clwyd. RHUDDLAN. FEL prawf o'r ffordd y mae darllawyr Seisnig yn gwthio eu pigau i Lanau tawel Cymru, gellir nodi fod Mri Soames a'i Gyf., Gwreesam, yn arwerthiad diweddar rhan o ystad Bodryddan, wedi prynu dau dafarndy yn Rhuddlan, sef New Inn am l,425p a'r Black Inn am 1,700p. Mr John Bird o Bantasa a brynodd dafarn Rhuallt am 417p.
RUTHIN.
RUTHIN. Nid yw Clwb y Bel Drosd yn talu am dano ei hun yn Rhuthin. Y cwbl a dderbyniodd y llynedd fel gate money, er iddynt gael chwareu gartref 17 o weithiau, oedd 6p 15s 9c ac yr oedd y golled ar y flwyddyn tros l7p. Y ddiweddar Mrs Thomas Griffiths.-Bu Mrs Griffiths, Stanley House, farw ar y 5ed o'r mis hwn a thrwy hyny daeth undeb priodasol i ben oedd wedi para am dros 55 mlynedd. Ganwyd Mr a Mrs Griffiths yn Dyserth 76 mlynedd yn ol. Bu iddynt ddeuddeg o biant, un o ba rai sydd yn briod a'r darlunydd enwog Proff. Herkomer. Y mae Mr Thomas Griffiths wedi gweithredu fel relieving officer yn Rhuthin er y flwyddyn 1863, ac wedi cyflawni'r swydd yn deg gan enill iddo'i hun barch gwreng a boneddig. Bu Mr a Mrs Griffiths yn aelodau ffyddlawn a diargyhoedd gyda'r Wesleyaid am 63 mlynedd. Daeth tyrfa luosog iawn i dalu'r gymwynas oLd i'r ymadawedig. Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parch J. Felix, gweinidog parchus y Wesleyaid ac yn Eglwys Llanrhydd a'r fynwent gan y Parch J. Fisher, B. D.
LLANELWY.
LLANELWY. Mae ein hybarch Esgob wedi troi i stydio hynaf- iaeth. Yr oedd ganddo lythyr dyddorol yn y Times un diwrnod yr wythnos ddiweddaf ar Brad- shatu's Guide yn 1841. Dywed ar awdurdod y llyfr difyr hwnw ei bod yn cymeryd pum' awr ac lugain munyd i fyn'd gyda'r trSn o Birmingham i Lundain yn 1844. Mae amryw yn y Dyffryn yn hyderu y bydd i'w arglwyddiaeth lynu wrth y gwaith hwo, ac ysgrifenu yr esbdniad hwnw ar Bradshaw y mae cymaint o alw yn y byd am dano. Fel v dvwedodd rhvwun 'does ond un Ddinas yn sir Fflint, a'r Llan yma ydyw hono, ac y mae Cynghor y Sir wedi addaw rypario llwybrau i ni. Dyna un fantais arall o fod yn ddinas. CLYWEDOG.
Cynghor Sir Fflint.
Cynghor Sir Fflint. CYNALIWYD hwn ddydd Mercher yn neuadd tref Rhyl, tan vlywyddiaeth y cadeirydd Mr J. L. Muspratt. Llwybrau Llanelwy. Yr oedd Rhaith Plwyf Llanelwy wedi gofyn i'r Cynghor hwn drwsio ac adgyweirio'r llwybrau yn ochiau'r ffyrdd, a'r Cynghor hwn wedi addaw iddynt 30p tuag at hyny. Annghytunai Mr W. Elwy Williams ar hyn, a dywedai y dylasai'r perchenogion ar bobtu'r ffordd gadw'r llwybrau yn drefnus ac nid dod arofyn ffermwyr a threthdalwyr y sir. Cytunai Mr Perks fod hyn yn esiampl beryglus. Dywedai Mr R. Llewelyn Jones fod perchenogion yr eiddo yn Rhyl yn gorfod gofalu am y math yma o lwybrau. Mr G. A. Parry a ddywedai eu bod yn rhy lawdrwm ar Lanelwy, mai dyma'r unig ddinas oedd ganddynt yn y sir, a dylent wneud yn fawr ohoni. Penderfynwyd trwy gryn fwyafrif ffafrio Llanelwy. Llaeth egwan. Yn ol adroddiad y definydd swyddogol yr oedd y llaeth yn ardal Rhyl yn bur wan, prin i fynu a'r safon a'r samplau o Dreffynon a'r Wyddgrug yn dda. Camdrefn yn Lleweni. Cwynid yn nghylch y dull y dygid yn mlaen ar- ddangosiadau yr Ysgol Laeth yn Lleweni. Ni hys- bysid yr arddangosiad yn mlaen llaw, wythnos o rybudd a roddid i'r cynghorwyr Ileol fod y dos- barthiadau yn dechreu, yr oedd y lie yn gwbl an- nghymhwys, a chan na wyddai'r ffermwyr ddim am dano methiant oedd y symudiad. Ar awgrym- iad Mr Herbert Lewis, A.S., penderfynwyd gohebu gydag awdurdodau Coleg Bangor yn gofyn iddynt gyfarwyddo y person fyddo'n gyfrifol am yr arddangosiad o hyn allan ar iddo ymohebu hefo cynghorwyr plwyfol, rhanbarthol, a sirol yn yr ardal gyda'r amcan o gael eu barn a'u cydweith- rediad. "Am yr aur rhaid ymorol." Penderfynwyd codi treth o 6ch yn y bunt am yr haner blwyddyn presenol. Pont y Foryd. Saif y bont hon ar enau yr afon Glwyd, ac y mae siroedd Dinbych a Fflint un bob oehr i'r afon yn y fan yma. Codwyd hi gan gwmni preifat, yr hwn hefyd sy'n ei gweithio gan godi toll am ei chroesi; ond dywedir nad yw yn talu, ac y mae'r cwmni a'i piau yn awyddus i'w gwerthu ac yn trafod y mater hefo boneddwr i'r perwyl hwnw. Diau fod y bont yn gyfleusdra gwerthfawr i'r wlad oddiamgylch ac o fantais fasnachol i Rhyl yn enwedig. Felly cyn- ygiodd Mr R. Ll. Jones, I I fod y Cynghor hwn yn penodi pwyllgor o saith ac yn gofyn i Gynghor Sir JDdinbych benodi saith i'w cyfarfod er mwyn ym- gynghori a'r tir-berchenogion ac eraill parth y budd o bwrcasu Pont y Foryd, a'r telerau goreu i ddwyn hyn oddiamgylch." Dadleuai'r cynygydd pe na buasai'r bont hon y buasai raid i'r ddwy sir fyned i'r draul o godi un arall. Gan nad oedd yr anturiaeth yn talu i'r cwmni, tybiai Mr Jones fod y .presenol yn gyfle rhagorol i brynu'r bont yn rhad. Pe syrthiai hi i ddwylaw cribddeilgar, byddai ganddo hawl i godi toll o chwech cheiniog yn ol a blaen ar geffyl a throl Eiliwyd y cynygiad gan Mr G. A. Parry, Bwcle. Gwrthwynebwyd gan Dr. Edwards, Wyddgrug, am y rheswm mai Rhyl a dderbyniai braidd yr holl fudd oddiwrth y bont, ac yr oedd Cynghor Rhanbarth Rhyl wedi cydnabod yr hawl i'w phrynu. Yr oedd Rhyl eisoes wedi derbyn mwy na'i rhan deg gan Gynghor y Sir. Dywedai Mr Elwy Williams fod hwn yn gwestiwn oedd yn perthyn gymaint i'r sir ag i Rhyl ac y byddai raid iddynt ei wynebu rywdro, a goreu bo'r cyntaf. Galwodd Mr Pennant sylw y cadeirydd at y ffaith nad oedd y cynygiad wedi ei ddwyn yn mlaen yn rheolaidd cydolygai'r cadeir- ydd, a darfyddodd y ddadl. Reilffordd Segur. Galwodd Ficer Llanfynydd sylw'r Cynghor at y reilffordd rhwng Brymbo a Choed Talwrn, ar yr hon ni chludir teithwyr, a gofynai am help y Cynghor i orfodi Cwmniau y L & N.W. a'r Great Western i weithio y darn hwnw o'r llinell rhwng Wyddgrug a Gwreesam. Dywedir. fod cwmni wedi ei ffurfio 30 mlynedd yn ol er rnwya gwneud rheiltfordd rhwng y ddau le hyn, ond i'r dda.u gwmni a nodwyd ymuno i estyn y llinell o Goed Talwrn i Frymbo. Ond wedi cael yr awdurdod buont am saith mlynedd cyn tori yr un dywarchen. Aeth blynyddau eraill heibio cyn dechreu ei gweithio, ac atiliwyd hi wed'yn am y dywedid nad oedd yn talu. Yr oedd efe wedi apelio at y cwm- niau, ond ni symudent hwy gam yn mlaen. Rai blynyddau'n ol gorfodwyd y L & N.W. i weithio llinell rhwng Wyddgrug a Choed Talwrn yr oedd ef yn gofyn i'r G.W.R weithio'r rhan arall.-Dy- wedai'i Clerc fod y gyfraith yn gorfodi cwmni i weithio reilffordd y byddont wedi cael awdurdod i'w gwneud, Yr oedd sir Fflint wedi mynu agor eu pen hwy i'r llinell, a buasai ef yn anog Mr Davies i apelio at Gynghor Sir Ddinbych i agor y pen arall.Credai Mr Herbert Lewis y bwriedid unwaith wneu I trunk line i borthladd ar y Ddyfr- dwy, ond yr oedd y llinellau difudd yma yn esgus ar y ffordd a chan fod y cwmni wedi blocio cwm- niau eraill dylid eu gorfodi i weithio'r llinell. Rhoddwyd y mater yn y diwedd i ystyriaeth pwyllgor.
,--0-ICyngrair Llyfrgelloedd…
--0- Cyngrair Llyfrgelloedd Rhydd y Deyrnas Cyfunol. YN y ddeunawfed gynadledd perthynol i'r Cyngrair uchod a gynaliwyd yn Nghaerdydd yr wythnos ddiweddaf, datllenwyd papyr gan Mr Evtn Owen, Y. H., ysgrifenydd Cymdeithas Ddarbodol y Glowyr ar 44 Llyfrgelloedd y gweithwyr yn Morganwg a Mynwy." Wedi sylwi ar y cyffroad mawr yn Llundain yn nglyn a darparu llenyddiaeth boblog- aidd i'r bobl rhuddodd Mr Owen bortread o'r glowr Cymreig. Dywedodd ei fod yn gymeriad teimladwy ac o awyddfrvd grefyddol, yn berson awyddus i ddyrchafu ei hun a'i ddosbarth ac yn ymhyfrydu mewn mynychu Eisteddfodau, Cym- anfaoedd a chynulliadau cyffelyb oedd a. thuedd i ddiwyllio'r meddwl. Cyfeiriodd at ei gariad at gerddoriaeth a duwinyddiaeth, at ei allu fel dadleuwr ac fel amddiffynwr cadarn iawnderau llafur. Wedi hyny, sylwid yn y papyr ar yr an- hawsderau ar ffordd ffurfiad Llyfrgelloedd yn y parthau gweithfiol. Un o'r priL- anhawsderau ydoedd safle hynod Glofaes Deheudir Cymru, yr hon oedd yn gynwysedig o nifer o ddyffrynoedd I culion, y rhai oeddynt yn herio gallu yr archadeil- adydd i ffurfio pentrefi ar ddull yscwar America. Yr unig ffordd i wneud ydoedd adeiladu tai ar ochr yr heol drwy y dyffryn. Gyda'r eithriad o ychydig o ystrydoedd un uwchlaw y Hall ar ael y bryn, yr oedd y Rhondda Fawr yn gynwysedig o un ystryd 15 milldir o hyd, a'r Rhondda Fechan yn un ystryd o 12 milldir o hyd. Cynwysa y ddwy ystryd hyn tua 100,000 o drigolion. Wrth ystyried natur wasgaredig y pentrefi hyn, y mae anhawsder i ffurfio llyfrgelloedd gan fod pob gweithiwr yn awyddus i gael y Ilyfrgell mor agos i'w breswylfod ag sydd bosibl. Y canlyniad o hyn ydoedd fod annealltwriaeth ac ymryson yn eyfodi argychwvniad y mudiad fel ag i wneud yr ymgais yn hollol ddiffrwyth. Yr oedd amryw awgrymiadau wedi eu gwneud i gyfarfod a'r anhawsder hwn, un o ba rai ydoedd sefydlu canghenau yn y gwahanol bentrefi cyfagos, ond nid oedd y cynllun hwn yn hollol foddhaol. Awgrymai yr ysgrifenydd y priodoldeb o agor yr ysgoldai elfenol a sefydliadau addysgol eraill ar gyfer darllenfeydd i'r gweithwyr. Rhwystr arall ar ffordd sefydliad llyfrgelloedd gweithfaol ydoedd y duedd ymfudol yn mhlith y gweithwyr. Pan gychwynai glowr ieuanc i enill ei fywoliaeth mewn glofa nid oedd yn edrych ar y eyfryw lofa fel ei gartref arosol. Yn ami iawc symuda i ardal newydd mewn trefn i wella ei amgylchiadau. 0 ganlyniad, teimla beth anhaws- der i gynorthwyo mudiad na fydd yn llesol iddo ei hun na'i blant. Anhawsder arall ydoedd difaterwch y dosbarth ieuengaf o barthed i gwestiynau awgrymedig er eu lies. Cyfeiriwyd hefyd at gariad ac ymlyniad angerddol y flowr Cymreig at gerddoriaeth. Pe gallesid darbwyllo y glowr ieuanc i astudio pynciau defnyddiol eraill yn gyd- fynedol a cherddoriaeth gallai hyny fod o les mawr ac yn symbyliad cryf isefydliadllyfrgelloeddglofaol. Cyfeiriwyd at y mesurau Seneddol a basiwyd yn ddiweddar megys Addysg Rydd a mesur y Cynghorau Plwyfol, y rhai oeddynt wedi roddi symbyliad cryf i ffurfiad llyfrgelloedd glofaol. Cyn i'r mesurau uchod basio y senedd yr oedd y tal tua cheiniog yn y £ o enillion y gweithwyr yn myned i dalu am addysg y plant, ond gan nad oedd angen am y cyfryw daliad o dan gyfraith Addysg Rydd yr oedd y gweithwyr mewn amrywiol fanau wedi parhau y tal a'i gymhwyso at eu llyfrgelloedd. Er ei bod yn gynar i ffurfio barn am effeithiau Deddf y Cynghorau Plwyfol yr oedd pob lie i gredu y byddai ei darpariadau yn dra manteisiol i sefydl- iad llyfrgelloedd pentrefol. Rhoddwyd crynodeb o weithrediadau llyfrgell- oedd yn Merthyr, Dowlais, Rhymney, a manau eraill, yn nghydag awgrymiadau yn nghylch ffurfiad llyfrgelloeddd glofaol. Un awgrymiad ydoedd cysylltu y llyfrgelloedd glofaol a'r llyfrgelloedd mawrion yn Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd, See., yn nghydag astudiaeth fanwl o bamphletyn yn cynwys rhestr o 1,COO o lyfrau cyfaddas i lyfr- gelloedd gwledig sydd wedi ei barotoi gan Mr Frank J. Burgoyni, llyfrgellydd Lambeth, a Mr J. Ballinger, llyfrgellydd Caerdydd.
--0--Nodion o'r Rhos.
--0-- Nodion o'r Rhos. BOBL anwyl bu agos i mi golli ngwynt. Sy- mudiad ar droed yn y Capel Mawr i gael organ. Faint wawdiwyd ganddynt ar organ Bethlehem ? Ond nid yw hono ond dychymyg yn ochr yr organ yma. Y mae i gostio 500p a dywedir fod lluaws o ddynion ieuaiuc yr eglwys, dan arweiniad Mr Joseph Rogers, yn bwriadu casglu y rhan fwyaf- yn sicr gwnant, os nad y cyfan. Rhyfedd na fuas- ent wedi meddwl yn gynt, ond 44 gwell hwyr na hwyrach.
DAMWAIN DDIFRIFOL.
DAMWAIN DDIFRIFOL. Nos Sadwrn, tra yr oedd cerbyd yn eynwys saith o bersonau yn dychwelyd adref o Riwabon, daeth yr olwynion i wrthdarawiad a. mur. a tnafiwyd y teithwyr gryn bellder. Derbyniodd rhai ohonynt niweidiau tost, ond arbedwyd eraill trwy iddynt neidio allan cyn i'r ddamwain gymeryd lie. Pres- wyliai'r mwyafrif o'r teithwyr yn Mhenycae. GOMER JONES. o
Ar daith i Affrica.
Ar daith i Affrica. DDYDD Sadwrn, cychwynodd Mr Thomas Ellis, Mr Herbert Lewis, a Mr Jones Griffith o Lundain ar fwrdd yr agerlong Moor i Ddeheudir Affrica. o Awgfyma Watcyn Wyn y priodoldeb 0 alw yr Arehdderwydd yn Brif fardd."
Ymweliad Efrydydd Llydewig.
Ymweliad Efrydydd Llydewig. YMWELWYD yr wythnos cyn y ddiweddaf ag amryw o eglwysi y Bedyddwyr Cymreig yn y cylch gan Mr Pierre Coutellec, brodor o Gaer-aes, neu fel y gelwir y dref yn Ffrancaeg, Carhaix, yn Llydaw. Y mae efe newydd orphen tymhor yn Athrofa y Bedyddwyr yn Mangor, ac yn bwriadu treulio ychydig fisoedd i efrydu yn mhellach mewn sefydl- iad athrofaol yn Llundain gyda'r amcao o fyned yn genadwr yn ngwlad ei enedigaoth. Dygwyd ef i fynu yn y grefydd Babaidd, ond ynystod ei arosiad fel ysgolfeistr yn Morlaix daeth i gyffyrddiad a chenadaeth y Parch A. LI. Jenkins yno, a gadaw- odd gaethiwed a thywyllwch ofergoelus y Babaeth i rodio yn rhyddid a goleuni yr efengyl. Gwelodd Mr Jenkins gymhwysder ynddo at waith y weini- dogaeth, ac ar ol gorchfygu amryw o rwystrau ar y ffordd, derbyniwyd ef fis Hydref diweddaf i blith ei fyfyrwyr gan Dr Gethin Davies, llywydd parchedig yr athrofa grybwylledig. Geilw cyfiawnder a'r Parch D. Powell, Llynlleifiid, amhysbysu yma mai efe yw tad y meddvlddrych o gael cenadwr o Lydaw i efrydu yn Nghymru. Yn y cyfamser, dysgodd Mr Contellec Saesneg fel y gallodd aterch cyfarfodyud yn hollol ddealladwy yn yr iaith hono, a darllen ychydig yn Gymraeg fel y gallodd pawb ei ddilyn. Cafodd lawer o wrthwynebiad gan ei deulu, ac yn neillduol ei fam, oherwydd iddo ym- wrthod a chrefydd ei dadau ond safodd yn ddi- ysgog yn ngwyneb y cwbl. Bwriada ddysgu Cym- raeg i'r dyben o'i wasanaethu yn y dyfodol pan yn ymweled ag eglwysi Cymru, yn yr hyn orchwyl mae yn debyg iawn y llwydda. Teimlodd fod dysgu dwy iaith mewn 11 mis yn Mangor yn ormod o orchwyl iddo, ac am mai yn Saesneg, yr hon a ddysgodd ei darllen tra yn Llydaw, y rhoddir y gwersi yn Mangor bu orfad iddo ymberffeithio yn yr iaith hono yn gyntaf. Gobeithir y caiff oes hir i wasanaethu ei Arglwydd yn mysg ein brodyr yn ol y cnawd yn Llydaw dywyll ac ofergoelus. Dyma benill Llydewig a ganodd Mr Contellec yn rhai o'r cyfarfodydd ar y don I Llydaw,' penill o waith J.J., y llythyrenau yn golygu yn ddiameu y diweddar Barch John Jenkins, cenadwr y Bed yddwyr yn y wlad o 1834 i 1872, a thad y cenadwr llafurus sydd ganddynt yno yn awr Perag e c'houzanv Jesus Ur mar6 mezus trist ? Perag eo staget aze Va zalver Jesus Christ ? Ur sacrifis evidomp Eo Jesus ouc'h ar pren Hep merit bras e uard Na vije salvet den. Paham dyoddefodd lesu Farwolaeth gywilyddus, drist ? Paham 'n rhwymedig yma Fy lachawdwr lesu Grist ? Un aberth erom Y w Iesu wrth y pren Heb rinwedd mawr ei farw Ni fuasai gadwedig dyn. A dyma benillion o waith Gomer (sef y Parch Joseph Harris, Abertawe-11 Anerch cenadon ar gychwyn i Lydaw "-a ddarllenodd Mr Contellec mewn modd dealladwy i bob Cymro a'i clywodd Ewch, frodyr hoff, dan nawdd y nef, A'r newydd da o dref i dref Cyhoeddwch iachawdwriaeth Duw Yn Mhrydain Fechan i bob rhyw. Ewch, frodyr anwyl, ewch yn hy', A Duw hyd dranc fo'n nawdd i chwi; Llwydd Duw'ch dilyno yn mhob man, A choron nef fo'ch bythol ran. Yn iach yn iach yn enw'r lor, Mae eisiau'ch llafur draw i'r mor; Disgwyliwn gwrdd yn Salem fry, A meibion Llydaw gyda chwi, Ymddengys i ysbryd y prophwydi gynt ddisgyn ar y bardd pan gyfansoddodd y penillion hyu, oblegyd aeth i'w orphwysfa amryw flynyddau cyn y cychwynodd y cenadon y rhagwelodd efe eu mynediad oddiyma i Lydaw dichon hefyd i'w an- erchiad ysbrydoli eglwysi Morganwg a Mynwy i feddwl am eu cydgenedl, a'u hanog i roddi llaw o gymhorth iddynt. W.G.J. o
Pwllheli.
Pwllheli. PETHAU DONIOL YR EISTEDDFOD. DONIOI. iawn oedd cystadleuaeth yr unawd bass. Galwyd ar dri o'r ymgeiswyr yn mlaen i'r llwyfan, a chanodd y tri eu goreu y naill ar ol y Ilall ond pan alwodd Cadfan am y feirniadaeth cafwyd fod y tri beirniad y tuallan i'r babell pan oedd y gys- tadleuaeth yn myned yn mlaen, a'r canlyniad fu gorfodi yr uuawdwyr druain i ganu drachefn yn y cyngherdd. Ar ol y cadeirio aethom allan am dro, a chwrdd- aso-.n A'r ysgrifenydd. "Pwy gafodd y gadair, D-?" meddai. Wedi ei hysbysu mai Elfyn, sylwasom ei fod yn ddidaro iawn.. Yr ydwyf wedi bod wrthi," meddai, cyn dydd, ac yr wyf yn flinedig iawn." Hawdd genym ei gredu- gweithiodd yn ddiarbed. Yr oedd Dyfed yn gellweirus ddoniol wrth ddar- llen ei feirniadaeth ar yr awdlau. Dywedai am un ohonynt fod y syniadau mor ddidrefn a phe buas- ent wedi eu 44tywallt o drol." Am Mabon, dy- wedai fod ei floneg yn ei flino ac wrth gadeirio Elfyn synai fod y gadair wedi myned yn eiddo i Lenor mor ddifloneg." Doniol iawn oedd cystadleuaeth y band ar yr heol. Cychwynwyd hwy yn rhy fuan y naill ar ol y Hall, fel yr aeth yn helynt flin yno. Yr oedd amryw gyrn ar lawr, heblaw y cyrn oedd ar draed lluaws yno. Y mae gan y seindyrf yn gyffredin dwrw mawr pan yn cystadlu, ond yn ami bydd ganddynt fwy ar ol i hyny fyned trosodd. Credwn fod Mabon yn gwneud defnydd rhy fynych yno o'r ymadrodd A dyweded yr holl bob Amen. Doniol oedd gweled Eifion Wyn a Dewi Glan Ffrydlas yn eistedd yn y gynulleidfa pan oedd y cadeirio yn myned yn mlaen. Tybed ai siomedig oeddynt ? Doniol a derbyniol iawn oedd addewidion Solo- mon yno. Y mae'n debyg y ceir Eisteddfod flyn- yddol tra bydd y boneddwr hwn yn estyn ei gefn- ogaeth garedig. MARCUS.
--:0:--Deon newydd Tydcfewi.
-0: Deon newydd Tydcfewi. OMTNYDD Dr Allen fel Deon Tyddewi ydyw'r Parch E. O. Phillips, yr hwn a fu yn ficer Aber- ystwyth am chwarter canrif. Ordeiniwyd Mr Phillips yn 1850, ac yr oedd efe ar y pryd yn gymrawd o Goleg Corph Crist, Caergrawnt. Wedi t gadael Aberystwyth, aeth yn rheithor Letterston, Penfro. Y mae eisoes yn Ganghellydd yr Esgob- aeth, ac yn Ganon trigianol.
Advertising
Gymry.cefnogwch Gydwladwyr, Bwytewch FOOTBALL Oats Yr ansawdd goreu ar wyneb y ddaear. 0 dyfiant Prydeinig. Na chymerwch eich perswadio brynu ansawdd gwael, difias fel yr Americannidd.
Ein Genedl yn Manceinion.
Ein Genedl yn Manceinion. Nos Sadwrn a thrwy'r dydd y Sabboth cynaliodd yr Annibynwyr Booth Street a Queen's Road eu cymanfa flynyddol, a phregethwyd i gynulleidfa- oedd mawrion gan y Parchn Dr. Herber Evans, J. M. Davies, M.A., Bangor; T. Talwyn Phillips, B. D., Bala. -0- Mae gohebydd yn y Guardian yn rhoi tipyn o hanes cychwyniad a chynydd Indipendia yn mysg Cymry Manchester. Dywedir mai Williams o'r Wern sefydlodd yr eglwys Annibynol Gymreig gyntaf yma, a hyny yn 1818 ac mewn ty anedd yn Portland Street. Gweinidog cyntaf y ddeadell fechan hon oedd y Parch John Griffith, Bwcle (brawd y Parch \Vm. Griffith, Caergybi). Yr oeddynt yn ymgynull ar y pryd, 1824, yn Old Cloth Hall, Salf ord. Agorwyd eu capel cyntaf Medi 17, 1826, yn Gartside Street, pryd y pregethai Williams o'r Wern, Breese o Lerpwl, ac Isaac Harris o Wyddgrug. Bu yr eglwys hon yn ymgynull yn Gartside Street hyd 1877, pan agorwyd capel Chorlton Road. Cychwyn- wyd achos Booth Street yn awr, Chwef. 13, 1842, mewn ystafell fechan yn Bethel Place, Stretford Road ffurfiwyd yno eglwys yr Awst canlynol; a sefydlwyd eglwys Queen's Road, Tach. 27, 1868. Bu y pregethwyr adnabyddus canlynol yn gwein- idogaethu ar yr eglwysi hyn Parchn D. Morgan, Llanfyllin: Richard Jones, Llanidloes; David Hughes, Tredegar; Huw Tegai; T. E. Evans, Rhosllanerchrugog; Dr David Roberts, Gwree- sam D. Lloyd Jones, Patagonia a R. Trogwy Evans, America. Y Parch Richard Roberts ydyw gweinidog Booth Street yn awr; a'r Parch D. John, eglwys Queen's Road. —o— Mae y cymdeithasau Cymreig yn tin dinas yn llawn bywyd ar hyn o bryd ac yn prysur barotoi ar gyfer y gauaf. Mae rhaglen y gymdeithas genedl- aethol bron yn barod a phob arwyddion y bydd y tymhor dyfodol yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus. —o— Hefyd mae y cymdeithasau llenyddol perthynol i'r gwahanol gapelau yn parotoi eu rhagleni, a bydd y rhan fwyaf ohonynt allan ar fyrder. Gresyn nas gellid trefnu i'r cymdeithasau blodeuog hyn gyfarfod l'u gilydd o leiaf unwaith yn y flwyddyn, ond mae sectyddiaeth ar y ffordd; rhyw hongian .byw y mae yr hen ellyll yma, mae ei winedd wedi eu tori er's talwn\, mae'n bryd bellach claddu yr ysgerbwd allan o'r golwg. -0 Clywais fod Cymdeithas Lenyddol Heywood Street wedi taro ar gynllun newydd i dreulio y tymhor dyfodol, sef yw hyny, fod yr aelodau i barotoi papyrau ar y gwledydd a'r Ileoedd y buont ynddynt ar eu holidays. Mae un wedi bod yn Norway, gwlad y Midnight Sun," dau arall, a'r ddau mwyaf doniol, wedi bod yn Switzerland, yn dringo'r Alpau. Ceir gan un ohon mt holl droion trwstan ysdaith a phob peth digrif a welodd ac a glywodd. Mae y llall wedi ei ddonio tu hwnt i'w frodyr a gallu i baentio a desgrifio, ac y mae efe yn sicr o ddwyn yr Alpau yn eu crynswth i Fan- ceinion. Mae ysgrifenydd y gymdeithas, bonedd- iges lengarol, wedi bod yn Rhufain ac ar hyd a. lied yr Ital-mae disgwyliad mawr am y papyr hwn. Ni fydd papyrau yr aelodau fu yn Nghymru fymryn Ilai dyddorol; mae pob Ilanerch o'r Hen Wlad yn llawn o ddyddordeb. Doniol dros ben yn ddiamheu fydd 44 Anturiaethau dau fardd yn Eis- teddfod Llanelli," gan Ap Cyffin. Rhwng pobpeth, Mr Gol., e fydd yn haf o hyd ar y gymdeithas hon. -0- Am gymdeithas Cymru Fydd mae'r young lions wedi bod am fisoedd mor ddystaw a llygod. Ar ol y lecsiwn ffoisant i'w Ilochesau fel cenawon wedi eu chwipio, ond mae rhyw arwydd eu bod hwythau o'r diwedd yn dechreu ysgwyd eu clust- iau. Nos Iau, cynaliwyd pwyllgor pwysig, yn wir, y pwysicaf, i barotoi y rhaglen, ond ni ddaeth digon o'r aelodau yn nghyd i ffurfio quorum. Bu peth son am i'r ddau ysgrifenydd ymddiswyddo a gadael i'r cwb! syrthio i'r llawr, ond dadleuai enaid y gymdeithas, y ffyddlon Mr Gomer James, am gael ail gynyg, a gohiriwyd y gweithrediadau am wythnos. Mae perygl i'r gymdeithas hon, oedd mor flodeuog ychydig fisoedd yn ol, ddihoeni a marw, oherwydd difrawder ac anffyddlondeb ei swyddogion a'i phwyllgor gweithiol. Yn enw dyn, chwedl Owen Dwt, be haru chi, bobol -0- Yn un o gyfarfodydd Cymdeithas y Llyfrgelloedd a gynaliwyd yn Nghaerdydd yr wythnos ddiwedd- af, gwnaeth Syr William Bailey cyn-Faer Rhyd- ddu (Salford), sylwadau gwatwarus am yr iaith Gymraeg, galwodd hi yn "pagan language," a dywedai fod yn angenrheidiol cael dau ddyn i yngan ei geiriau! Pa bryd y peidia Saeson uniaith a gwneud ffyliaid cyhoeddus ohonynt eu hunain trwy siarad am beth na wyddant ddim am dano? Yr ydym ni yma yn adnabod yr hen foneddwr rhadlon Syr William Bailey yn dda mae yn perthyn iddo alluoedd disglaer a llawer o rinwedd- au, ond wyr o ddim mwy am iaith Gymraeg na wyr twrch daear am yr haul. Cyn datgan ei syniadau, dylasai Syr William astudio a dysgu yr iaith, neu ymgynghori a thystion diragfarn nad ydynt Gymry, megys Mr Thomas Darlington, M.A., neu y Proff. Kuno Meyer, neu ofyn barn ei gymydog dysgedig a fu am flynyddoedd yn llywydd y Manchester Literary Club." Gwnaeth y gwr hwn mewn araith a draddododd amser yn ol y sylw cyrhaeddgar a ganlyn -'I In travelling in Wales during the sum- mer months, you will meet with many ignorant monoglot Englishmen, who make merry over names of places in that country which they call break jaw words. In my opinion the weakness of these people is not so much in the jaw as in the brain." UNORDDAU.
0 Tynu Ystaen y Tlotty,
0 Tynu Ystaen y Tlotty, GAN fod tlotty Treffynon yn orlawn, pender- fynodd y Gwarcheidwaid beth amser yn ol ddilyn esiampl Undeb West Derby ae undebau eraill, a chodi bythynod gan symud nifer o'r plant iddynt er ceisio tynu oddiarnynt flas ac ystaen y tlotty. Tua chwe' mis yn ol, rhoisom ddesgrifiad o'r sefydliad gwertbfawr sydd gan Undeb West Derby yn Fazakerly, a chadeirydd yr hwn sefydliad eleni ydyw ein cydwladwr, Mr. Jonathan Parry. Y mae yn y sefydliad hwnw ar gvfartaledd agos i 600 o blant. Ni fwriedir un Treffynon ar ycyntaf ond i gynwys 24, a bydd gwr a gwraig yn gofalu am danynt fel pe byddent eu rliieni. Diau y dilynir esiampl Treffynon gan Undebau eraill.
[No title]
(0) Am ffugio cheque, anfonwyd W. A. Roberts i'w brofi yn y frawdlys gan ynad Lerpwl ddydd Mawrth