Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Nodiadau Cerddorol.
Nodiadau Cerddorol. DA genyf ddeall am lwyddiant y cerddor gobeithiol Mr Edward Broome yn Canada. Y mae newydd gael ei benodi i'r swydd o organydd ac arweinydd cor eglwys Douglas, Montreal, gyda chyflog o 200p yn flynyddol. Deg oedd nifer y cor yn flaenorol, ond ar gais Mr Broome, gwneir ef i fynu o 40 o leisiau. Gwerir hefyd 200p iwneud gwelliantau ar yr organ. Gwelais gopi y dydd o'r blaen o'r Caniedydd Cynulleidfaot-Ilyfr tonau ac emynau newydd yr Annibynwyr. Ni chefais hamdden i edrych drosto yn fanwl ond yn ol yr hyn a welais gallaf dystio fod y cynwys yn dra chwaethus ar y cyfan, er fod rhai o'r tonau-ychydig mewn nifer-y cyfryw mae .yn bryd eu claddu bellach. Cynwysa y llyfr hefyd amryw anthemau buddiol gan awdwyr Cymreig, gydag eraill hefo geiriau wedi eu cyfaddasu gan gyfansoddwyr Seisnig a thramor. Ceir hefyd ddetholiad or Ysgrythyr wedi eu pwyntio yn briodol yn nglyn a nifer go dda o chants-sengI a dwbl. Dyddorol yw yr erthygl a welir yn y Temple Bar ar y Musical Sands." 'Ddyliwnmai Hugh Miller, y daearegwr enwog, tua deagain mlynedd yn ol, a ddarganfyddodd seiniau cerddorol yn dod allan o dywod y mor pa.n yn Mau Laig yn ynys Eigg, pan .y dywed that the discovery added one to the two previous known examples of the same peculiar phenomenon-Jebel Nagous, or 'the mountain of the bell,' in the peninsula of Sinai; and the Rig Rawan, near Oabul." Yr oedd yna un arall na wyddai Miller ddim am dani, sef El Bramador, yn 'Chill, yn ol awdwr yr erthygl. Dyma'r hanes yn ol Miller am dywod cerddorol yr Eigg; I was turning aside the sard when I became aware of a peculiar sound that it yielded to the tread, as my companions paced over it. I struck it obliquely with my foot where the surface lay dry and incoherent in the sun, and the sound elicited was a shrill sonorous note, somewhat re- sembling that produced by a waxed thread when lightened between the teeth and the hand and tapped by the nail of the forefinger. I walk ed over it, striking it obliquely at each step, and with every blow the shrill note was repeated. My com- panions joined me, and we performed a concert in which, if we could boast of but little variety in the tones produced, we might at least challenge all Europe for an instrument of the kind which pro- duced them. As we marched over the drier tracts, an incessant woo, woo, woo, rose from the surface that might be heard in the calm some twenty or thirty yards away and we found that when a damp, semi-coherent stratum lay at the depth of three or four inches beneath, the tones were loudest or sharpest, and most easily evoked by the foot." WALAS. o
0 Tros y Werydd,
0 Tros y Werydd, DIPYN yn drallodus yw trigolion West Pawlet yma y dyddiau hyn. Rhyw bythefnos yn ol cwympodd maen yn chwarel W. H, Hughes tra yn ei chodi i'r Ian ar ddau o'r gweitbwyr. Bu un farw yn mhen ychydig amser, yr hwn oedd Hungariad, ac anaf wyd y Ilall yn dost. Cymro ydoedd ef o Corris, o'r enw Robt. Evans, ond mae yn gwella yn rhag- orol. Eto, yr wythnos ddiweddaf, yn yr un twll, bu damwain ddifrifol trwy i ddarn o'r graig ym- ollwng. Yr oedd chwech o weithwyr i lawr ar y pryd, a chollodd un brawd ei fywyd. Bu o dan gladd am beth amser. Ed. E. Jones ydoedd ei ^nw, genedigol o Bont Arthog, ger Dolgellau. 'Cafodd y gweddill ddod i'r lan megys cydrhwng gwlnedd angau. Brodor o Fethesda oedd un ohonynt, sef Wm. Thomas, neu yn fwy adnabydd. us Wil Tom Clerk.' Yr oedd un Hungariad wedi ymdreiglo mor galod i'r ysbwrial nes oedd ei es- gidiau wedi dod oddiam ei draed. Cymerir amser maith cyn y bydd y gwaith hwn yn ei ystad gyn. tefig, a chydymdeimlir a Mrs Jones, gwraig y trancedig, yr hon sydd yn unig mewn gwlad es- tronol. Talodd Pedrog ymweliad a'r lie hwn, ac yr oedd ei wynebpryd yn anwyl gan bawb, a bydd tine soniarus yn nglyn a'i enw yma. am amser hir. Traethodd yr hen, hen hanes yn newydd i gyd. Llongyfarchwyd ef ar ei lwyddiant yn Llanelli, a chyfarchodd un fel hyn- Am dir uebel ymdrechodd,-ugain, Ag od a orchfygodd; Awen yr Haul," dyna rodd Ysgydwad i'r gweis gododd. Un arall- Lion eilliaist feirdd Llanelli,-a haeddi'r Dedwyddwch ddaeth iti; Mae elfen gan d'awen di Ag enaid gwerth i'w gweini. Yr wythnos ddiweddaf, yn Scranton, bu'r beirdd yn cadeirio Pedrog mewn rhwysg a mawredd mewn dair fenthyg a enillodd Y Myfyr gynt. Mae ein parchus weinidog, y Parch Ed. Roberts, Wedi derbyn yr alwad a gafodd gan eglwys yn Ohio -bydd ei ymadawiad yn soiled anmhrisiadwy i'r B,Chor. yma ac yn Middle Granville. Mae llawer o son am y Llew hyd y wlad hon, a frawen yw pawb o'i weled yn dal yn ir a'i gynyrch yn her, ac yn enill ei goron fel I Llew Llwyfo cyn iddo farw.' Ac yn wir, fe ddylai Ceulanydd gael coron am ei anerchiad iddo. Disgwylir y Parch W. Ryle Da vies, M.A., i'r lIe hwn yr wythnos nesaf, a dychwela i Lundain yr Wythnos wed'yn. West Paivlet. ERYROG.
[No title]
-0- Y mae'r emynyddes boblogaidd Mrs Alexander, Swraig Esgob Derry, Iwerddon, yn beryglus o glaf. Mrs A. a gyfansoddodd yr emynau adna- "yddus, There is a green hill far away," Jesus Ca-Hs us," a lluaws eraill a ddefnyddir fel cyrngau Oiawl gan y Saeson. Yn Nghynadledd y Llyfrgellwyr a gynelid yr ^ythnos ddiweddaf yn Nghaerdydd, dywedai Syr Pagan, maer Salford, y dylai awdwyr Cymreig "ellach wisgo eu meddyliau yn Saesneg, ac nid ftiewn iaith baganaidd a geiriau y cymer ddau ddyn 1 w seinio. Mab i'r Parch Owen Jones, Manchester, wedi kyny Llandudno, yw ysgrife.jydd taledig yr Eis- teddfod Genedlaethol nesaf.
Advertising
»ymry, cef nog well Gydwlidwyr. Bwytewch" FOOTBALL Pr\M •" • ansawdd goreu ar wyneb y ddaear. O dyfiant Na chymerwch eich perswadio i brynu ansawdd «waeX, diflas fel yr American&idd.
Gwreiohion.
Gwreiohion. T Y DYDD o'r b aen yr oedd cath ieua.nc yn difyru ei hun wrth boenydio cacynen yn yr ardd, gan ei thosi yn ot a blaen yn ol ei fifansi; ond yn mhen tipyn fe feddyliodd y gacynen fod yn amscr iddi hithau ddangos ei phrancie, a rhoddodd golyn i'r gath yn ei thrwyn. Haws dychymygu na dar- lunio penbleth y greadures-neidiai a rhedai fel peth o'i cho, gan regi (fel y gall cath) yn gynddeir- iog ond yn nghanol ei gofwy chwiliodd yn sydyn am ei gelyn, ac wedi ei chael fe'i mathrodd yn gacen a'i phawen, gan ofalu cadw'i thrwyn yn I ddigon pell. IT Y wers a dynais oddiwrth y tro digrif 1 oedd hon-faint o'n dynion ieuanc, bob blwyddyn, sy'n cael eu temtio a'r ddiod feddwol i yfed nes teimlo ei cholyn ? Gresyn nad ymddygent cyn galled a'r gath fach trwy beidio chware a'r gelyn byth m vy, ond ei gadw at a respectable distance. If Helo, John, yr ydych yn fwy penfoel nag erioed. Beth sydd yn cyfrif am hyny, d'ydwch V ebe cymydog wrth gyfaill y dydd o'r blaen, pryd y cafodd yr ateb 'smala Wel, nis gallaf gyfri am fy mhenfoelni, oddigerth yn y ffordd gyffredin, mai cwrs natur ydyw ond y mae gen i hyn o galondid, mae nhw'n deyd i mi nad oes neb bron o inmates y gwallgofdai wedi colli'u gwallt.' Aeth y cymydog i ffwrdd yn swta, oherwydd yr oedd ganddo ef grop trwm ar ei benglog, a chaiff y gair o fod dipyn yn wag o tano. If Hats off. Y mae meddyg Americanaidd yn ysgrifenu ar y pen hwn, ac yn tystio mai yr ar- feriad ffol o wisgo hetiau ffelt tynion am y pen yw yr achos o gynarwch penfoeloi ar ddynion; ac i brofi hyny, sylwa nad ydyw y gwallt byth yn colli ond yn lefel â gwasgiad yr het l' Dywed yn mhell- ach pe b'ai pawb fel efe yn gwisgo het silc uchel, a 500 o dyllau yn ei choryn (mwy o dyllau nag o het) na fyddai berygl yn y byd iddynt fyned yn benfoel, nac ychwaith i gael eu trwblo a. chur yn y pen. Gwneled y rhai nad yw wedi myned yn rhy bell arnynt brawf ar y cynghor. IT Yr oedd dwy foneddiges ieuanc, wrth ramblo ar hyd y caeau y dydd o'r blaen, wedi dyfod at ffos ddofn yr oedd yn rhaid ci chroesi; ac yn ofni yr anturiaeth, gofynasant i hogyn gyru'r wedd oedd yn y cyrhaedd pa fodd y gallent groesi yn ddyogel. A'i holl egni gwaeddai y bachgen Snakes ac nid cynt nag y dywedodd y gair dyna'r ddwy yn rhoi naid dros y ffos fel dwy iyrches, a phe buasai y ffos leted arall,' ebe y bachgen, fe fuasai y ddwy yn ei llamu yn rhwydd, a digon dros ben.' If S01 am ymryson crasineb, yr oedd yr hen Evan y Crydd yn ei dymher ddrwg yn dweyd wrth ei wraig,* I Ar f'engoch i, yr ydw i'n meddwl mod i wedi colli'm synwyre.' Yn wir, wyddwn i ddim fod gen ti ddim i'w golli, EVl\n,' ebe hithau, yn grabet ryfeddol. 0, do, Pegi, fe fu gen i beth unwaith yn siwr i ti.' I Wei, wir,' ebe Pegi, chanfyddes i ddim erioed gen ti.' Naddo, mi wn, rhaid fy mod i wedi ei golli dipyn cyn eich priodi chi.' Teimlodd Pegi y brath, a hi dawodd a son. IT Yr oedd bachgen y diacon yn cael pen ei flwydd y dydd o'r blaen, ac aeth y gweinidog yno i longyfarch Robin, gan ddiweddu ei gyfarchiad, 1 A gobeithio y byddwch chwi y flwyddyn nesaf, a holl flynyddoedd eich bywyd, yn ymgryfhau mewn synwyr, dysg, a rhinwedd,' a chan feddwl ei fod yn rhwym o datu yn ol y compliment, heb feddwl dim am grasineb, atebai Robin, Yr un fath i chwithau, syr.' II Y mae yn hen syniad gan yr hen bobl fod y flwyddyn y byddo llawer o gnau yn flwyddyn y bydd llawer o nadrodd, ac yn ol yr hanes yn y gwahanol newyddiaduron, y mae yr hen syniad yn cael ei wireddu eleni. Clywais hefyd na welwyd erioed mo'r wiwerod mor fywiog ac amled ag eleni -y mae yn gnaua gwyllt' arnynt hwythau y dyddiau diweddaf fel ar y ffermwyr, gyda hyn o wahaniaeth, nad ydyw y tywydd yn rhwystro dim ar eu cnaua hwynt. OYFARWYDD.
-0-Barddoniaeth.
-0- Barddoniaeth. I BETH 'RWY'N BYW ? I BETH 'rwy'n byw ? nid wyf yn gwybod, Gwagedd yw fy oes i gyd, Chwerw bennod, heb atalnod, Na diweddnod ar ei hyd Ar derfysglyd gefnff Ir bywyd, Heb un angor, rhwyf, na llyw Fy ngobeithion gloewon gladdwyd, I ba beth yr wyf yn byw ? I beth 'rwy'n byw ? os byw y gelwir Cael bodoli yn y byd Fel y milyn a ddifetbir Neu a drenga yn ei bryd Beth a ddywed dysgedigion ? Geiriau gweigion annghytun, Holl ddysgeidiaeth yr athrawon Sydd mor ddall a mi fy hun. I beth 'rwy'n byw ? ai yn watwaredd I oferedd bywyd chwim ? Gwagedd wyf-a llai na gwagedd Yw y byd, nid yw yn ddim A ddaw boreu i'r cymylau Glirio, wedi croesi'r ffin- A gaf i esboniad golau Yno ar fy mywyd blin? I beth 'rwy'n byw? mor hawdd fy hebgor Pe bawn cyn yfory'n myn'd, Dranoeth fyddai neb yn cofio'r Fan lie bum ond ambell ffrynd Chwery'r plant ar fedd henafol, Sathrant fy ngweddillion gwyw Ni wyr neb yn y dyfodol Fy mod wedi bod yn byw. I beth 'rwy'n byw ? 'rwy'n ofni beiddio Croesi y fynedfa ddofn Lie mae fflamau'r fall yn deifio Godrau llosgfynyddau ofn A oes ystyr i farwolaeth ? A oes gobaith am ryddhad ? Beth yw dyfnder colledigaeth ? Beth yw Nefoedd a'i mwynhad ? I beth 'rwy'n byw ? beth yw fy hanfod ? Pechod fel difaol dan Sy'n fy ysu-tra mae milod Mudion yn greadnriaid glan ? Beth wyf fi ? pa beth a fyddaf ? A ddarllenaf i ryw bryd Gyfrol fawr esbomad olaf Duw ar fywyd yn y byd ? GWAENFAB. o
[No title]
Ddydd Sadwrn, Medi 7, bu farw y Parch David Evans, Talybont, ger Aberystwyth, yn yr oedran o 51; a chladdwyd ef ddydd Mercher, Yr oedd Mr Evans yn bregethwr cryf a bugail gofalus ac efe oedd Cadeirydd Cyfarfod Misol Gogleddbarth Sir Aberteifi.
INewyddion Cymreig.
I Newyddion Cymreig. Nos Fawrth, boddodd bachgen o'r enw Christo- pher Owen yn Mhorthmadog. Mae'r Parch Daniel Jones, cenadwr y Bedyddwyr yn India, ar ymweliad a Ohymru yn bresenol. Brodor o Lanilltyd, sir Forganwg, yw Mr Jones. Y mae gweithwyr Glofa y Dublin Main, ger Helygain, wedi cael pythefnos o rybudd gany bwr- iedir atal y lofa am nad yw yn talu i'w gweithio. Bydd canoedd felly o lowyr sir Fflint yn ddiwaith. Seisneg iiewydd. -Bob. -Gwelest ti bapur new- ydd Seisneg Dinbech, Huw? Huw.-Seisneg Dinbech ydio? Roeddwn i'n meddwl fod o'n Seis- neg go wladedd a diarth. Hysbysir fod y Parch J. Myfenydd Morgan, di- weddar gurad Eglwys St. Asaph, Lerpwl, ac yn awr ficer St. Dogmael, Penfro, wedi cael cynyg bywoliaeth gwerth 700p yn y flwyddyn gpr Liun- dain a'i gwrthod Ddydd Iau, cynaliwyd arddangosfa amaethyddol Meirionydd yn Nolgellau. Yr oedd y cynulliad yn lluosog a'r anifeiliaid o ansawdd rhagorol. Yr un dydd cynaliwyd arddangosfa cwn a dof- ednod yn Llangollen, a dywedir ei bod ya Ilwydd- iant yn mhob ystyr. Yn Llys Sirol Llandudno, ddydd Iau, sylwodd y "Barnwr Horatio Lloyd fod 150 o achosion i ddod ger ei fron yno, tra nad oedd oud oddeutu chwech o achosion yn yr oil o Fon. Dangosai hyn, meddai, fod llawer iawn o anonestrwydd yn aidal Llan- dudoo. Wythnos i ddydd Mawrth claddwyd Mr Richard Hughes, Cefn Mawr, yn mynwent Llangaffo. Cym- erai Mr Hughes ran naenllaw yn symudiadau am- aethyddol y sir bu hefyd yn warcheidwad y ty- lodion am lawer o flynyddau yn Undeb Caernarfon, ac yn gadeirydd yr Undeb. Daliwyd labrwr ieuanc o'r enw Wm. Williams, brodor o Lanerchymedd, gan yr heddgeidwad Pugh o Lanfairfechan, ar y cyhuddiad o ddwyn dwy oriawr yn Clydach, Pontypridd. Addefodd y dyn ei drosedd, a dywedai mai hiraeth am gartref oedd arno a dim arian i ddod yno. Gwerthwyd Coed y Celyn, palas gwych ar lan y Gonwy, ger Bettws y Coed, trigfa y diweddar Mr Charles Kurtz, gan Mri Dew a'i Fab, i Dr M'Cull- och am 4,100p a ffermydd Tanygaer, Tanyfoel, a Gvvil nger, yn yr un ardal, i Mr Birnie Griffith am 3,900p. Agorwyd Ysgol Ganolradd Abergele ddydd Mercher, pan yr aeth 26 o blant i dderbyn eu haddysg ynddi. Etholwyd Dr C. H. Williams, M.A., Llundain, yn brifathraw arni, a Miss J. Henry, Coleg Newnham, Caergrawnt, yn brif- athrawes, mewn cyfarfod o lywodraethwyr addysg ganolradd y sir. Bagillt.-Ail agorwyd eglwys y plwyf hwn wythnos i ddydd Mawrth, wedi myced tan amryw welliantau. Gwnaed y gwaith gan Mr Richard Jones, adeiladydd, Bagillt. Y pregethwr ddydd Mawrth oedd Ficer Abergele, a phrydnawn dran- oeth traddododd Esgob Llanelwy bregeth Saesneg, yr hwn a obeithiai y byddai i'r eglwys adgyweir- iedig wneud i bdydrau 0 hapusrwydd dywynu ar y trigolion. Y mae gan y Wesleyaid ddau gapel yn Magillt er's yn gynar yn y ganrif, y Methodistiaid ddau, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr un bob un; ac y maent yn awr yn codi eglwys genadol yn mhen arall y pentref. St. Helens.—Nos Sadwrn a'r Sabboth, y 7fed a'r 8fed cyf., cynaliodd Methodistiaid y dref hon gyf- arfod pregethu yn eu haddoldy ar ol ei eangu a'i brydferthu. Cwynid er's talm fod yr adeilad yn rhy fychan i'r gynulleidfa, ond erbyn hyn mae yn addoldy hardd ac eang, Gwasanaethwyd yn y cyfarfodydd agoriadol gan y Parchn John Williams, Princes Road, a Wm. Jones. David Street; gyda Dr R. 0. Morris, M.A., Birkenhead. Cafwyd oedfeuon nerthol iawn, yn cael eu traddodi i gan- oedd o wrandawyr aiddgar. Pregethodd Dr Morris yn Saesneg prydnawn Sabboth. Casglwyd yn y cyfarfodydd ychydig dros 16p. Credwn y bydd yr eangiad a'r cyfnewidiadau a wnaed eleni yn fan- teisiol i gynyd(I Methodistiaeth yn y dre' hon, gan fod yrna nifer fawr o Gymry yn dra esgeulus o foddion gras. Coleg y Gogledd, Bangor. -Cynaliwvd cyfarfod o Gynghor y Coleg ddydd Mercher, yr lleg cyf., pryd yr oedd yn bresenol Mr H. Bulkeley Price (yn y gadair), Arglwydd Esgob Bangor, Mr W. E. Davies, Mr J. Lloyd Griffith, Proff. J. Morris Jones, Dr W. Jones Morris, Mr T. G. Osborn, yr Hybarch Archddiacon Pryce, y Prifathraw Reichel, Parch Daniel Rowlands, Parch T. J. Wheldon, a Proff Hugh Williams. Darllenwyd llythyr oddi- wrth Proff Keri Evans yn amlygu ei awydd i ym- ddiswyddo, a chytunwyd Ai gais, gyda datganiad o ofid am y gwaeledd iechyd y cyfeiriai ato. Rhoed awdurdod i'r senedd i benedi athraw dros y term nesaf, a threfnwyd i benodi yn mis Rhagfyr Bro- ffeswr mewn Athroniaeth a Rhesymeg. Dangosai adroddiadau y gwahanol bwyllgorau fod cynllun y Coleg ar gyfer addysg amaethyddol yn Ngogledd Cymru ar lawn waith, mewn cysylltiad a Chyng- horau Sirol y pum sir, ac fod y neuadd newydd a ddarperir ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus y Coleg ac anghenion yr adran Normalaidd bron wedi ei gorphen. Disgwylir y bydd yn barod erbyn dech- reu y tymhor yn mis Hydref. Claddedigaeth Mr Peter Hughes, Anedd-dy, Bwlch, ger y Wyddgrug.—Hunodd y gwr da a'r Cristion cywir hwn foreu Sul, Medi 8 a chymer- odd ei angladd le ddydd Mercher, lleg. Derbyn- byniwyd nifer luosog o lythyrau oddiwrth weini- dogion a chyfeillion eraill yn datgan eu cydym- deimlad dytnaf &'r teulu galarus yn eu trallod, ac yn mynegu eu gofid nad allent fod yn bresenol yn yr angladd, a daeth tyrfa fawr yn nghyd. Cariwyd y corph o'r ty at y bedd gan ddynion ieuainc dos- barth yr ymadawedig yn yr Ysgol Sul. Darllen- wyd cyfran o'r Ysgrythyr wrth y ty gan y Parch G. Jones (M.C.), a gweddiwyd gan y Parch Gwen- ffrwd Thomas. Ar ol gwasanaeth yn yr eglwys gan y Ficer, siaradwyd yn dyner ar lan y bedd, a dygwyd tystiolaeth uchel i'w gymeriad fel dyn, cyfaill a Christion gan y Parch J. A. Davies, Llan- airfechan Mri Edwin Roberts, Dinbych ac Ellis Rsberts, Brynteg. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch W. James, Sarn W. M. Jones, Llanelwy; Mri W. Rees Jones, Fflint; D. Jones, Caer Evan Roberts, Brynteg Thoa. Jones, Rhesycae John Morris, Ysw., Y.H., Jno Jones, Mr a Mrs Thomas, Liverpool; heblaw llu mawr o wyr a gwragedd na adwaenem. Bu Mr Hughes yn ddiacon yn eglwys Soar am 35 mlynedd, a chymerodd ran flaenllaw yn nghaniadaeth y cysegr ar hyd ei oes.
Advertising
Elienau Athroniaeth Foesol," (Yr unig lyfr yn ein hiaith ar y gangen hon o wybodaeth). Pris is. Trwy y Post, is ic mewn llian, 1/6 Mae pawb sydd i ryw fesur yn hoff o olrhain Gwirioneddau Ysgrythyrol yn rhwym o deimlo dyddordeb mown A throniaeth Foesol. Danfoner at yr Awdwr, Rev. JOHN JONES, Tuebrook, LIVERPOOL* AT Gymdeitliasau Darllen Gartref A Chyrrideithasau Llenyddol. There are no more vigorous compositions in the whole field of Welsh Literature than Goronwy's Letters. The epistles con- tain a faithful transcript of Goronwy's iife, his difficulties, his feelings, his passionate love of country, his enthusiasm for the Welsh language and literature. The Letters are couched in perfect idiomatic Welsh. Western Mail, Mehefin 21, 1895. Pris Swllt. Trwy y Post, Is. lc. Llytqyrau Goropy Owen"; Tan olygiaeth Proff. J. MORRIS JONES, M.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. LERPWL Cyhoeddir gan 1. FOULKES, ] 8 Brunswick Street Dim ond ychydig gopiau yn weddill. Gwaith Barddonol Eben Fardd, Am 7s. echo Trwy y Post, 8s. YH. ydym wedi prynu yr holl Stoc o Waith y 1 Prif-fardd Enwog o Glynog, ac er mwyn clirio, gwerthir hwy wedi eu rhwymo yn hardd mewn llian am ^s. 6ch. yr un-tua haner eu pris ar y cyntaf. ISAAC FOULKES, 18, Brunswick Street, Lerpwl. PRIS SWLLT, Trwy Post ar dderbyniad Is. lic. "CANIADAU ELFED." Ail Argraphiad yn awr yn barod. ALLAN O'R WASG, PRIS SWLLT, Trwy y Post, Is. lie. TRI CHRYFION BYD," "PLESER A GOFID," OYBYDD-DOD ac OFEREDD: Tair Antarliwt o waith TWM O'R NANT. I FOULKES, 18, Brunswick St" LIVERPOOL. COLEG Y GOGLEDD, BANGOR. (UN C'R COLEGAU YN Y BRIFYSGOL GYMREIG) Prifathraw: H. R. REICHEL, M.A., Gydag 11 o Broffeswyr, 3 o Ddarlithwyr, a 14 o Athrawon eraill. DECHREUA y Tymhor nesaf Hydref 1, 1895. Parotoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru ac eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol yn Mhri fysgolion Edinburgh a Glasgow, ac arholiadau eraill, Rhoir addysg arbenig mewu Amaethyddiaeth ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg Adran Normalaidd. Cynygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o £40 i 910 y flwyddyn, i'r rhai fyddo'n vmaelodi yn y Coleg gyda dechreu y Tymhor nesaf. Bydd haner yr Ysgoloriaethau yn gyfyngedig i Gym- ry. Decqreua yr arholiad am danynt Medi 17. Ceir pob manylion gan JOHN EDWARD LLOYD, M.A., Ysgrifenydd aChofrestrydd. CWMNI YSW1RI0L Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSORFA DROS,220,000,000. GENTS addas ychwanegol yn eisiau —Ymofyne a J. W. JONES, Pauden Office. Caeonrnatiala'f Important Announcement., Q-WALIA 3330USE, 8 & 9, Upper Wobnrn Place, Londoq, W.C. CHANGE of PROPRIETORSHIP The above well-known Private Hotel is now under the immediate Superintendence of the new Pro- prietress, MRS. JONES, who hopes by persona attention to the Comforts of Visitors, again to make GWALIA HOUSE "A HOME FROM HOME,' i Telegraphic Address-" Qwynva, London."