Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Nodiadau Cerddorol.

0 Tros y Werydd,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Tros y Werydd, DIPYN yn drallodus yw trigolion West Pawlet yma y dyddiau hyn. Rhyw bythefnos yn ol cwympodd maen yn chwarel W. H, Hughes tra yn ei chodi i'r Ian ar ddau o'r gweitbwyr. Bu un farw yn mhen ychydig amser, yr hwn oedd Hungariad, ac anaf wyd y Ilall yn dost. Cymro ydoedd ef o Corris, o'r enw Robt. Evans, ond mae yn gwella yn rhag- orol. Eto, yr wythnos ddiweddaf, yn yr un twll, bu damwain ddifrifol trwy i ddarn o'r graig ym- ollwng. Yr oedd chwech o weithwyr i lawr ar y pryd, a chollodd un brawd ei fywyd. Bu o dan gladd am beth amser. Ed. E. Jones ydoedd ei ^nw, genedigol o Bont Arthog, ger Dolgellau. 'Cafodd y gweddill ddod i'r lan megys cydrhwng gwlnedd angau. Brodor o Fethesda oedd un ohonynt, sef Wm. Thomas, neu yn fwy adnabydd. us Wil Tom Clerk.' Yr oedd un Hungariad wedi ymdreiglo mor galod i'r ysbwrial nes oedd ei es- gidiau wedi dod oddiam ei draed. Cymerir amser maith cyn y bydd y gwaith hwn yn ei ystad gyn. tefig, a chydymdeimlir a Mrs Jones, gwraig y trancedig, yr hon sydd yn unig mewn gwlad es- tronol. Talodd Pedrog ymweliad a'r lie hwn, ac yr oedd ei wynebpryd yn anwyl gan bawb, a bydd tine soniarus yn nglyn a'i enw yma. am amser hir. Traethodd yr hen, hen hanes yn newydd i gyd. Llongyfarchwyd ef ar ei lwyddiant yn Llanelli, a chyfarchodd un fel hyn- Am dir uebel ymdrechodd,-ugain, Ag od a orchfygodd; Awen yr Haul," dyna rodd Ysgydwad i'r gweis gododd. Un arall- Lion eilliaist feirdd Llanelli,-a haeddi'r Dedwyddwch ddaeth iti; Mae elfen gan d'awen di Ag enaid gwerth i'w gweini. Yr wythnos ddiweddaf, yn Scranton, bu'r beirdd yn cadeirio Pedrog mewn rhwysg a mawredd mewn dair fenthyg a enillodd Y Myfyr gynt. Mae ein parchus weinidog, y Parch Ed. Roberts, Wedi derbyn yr alwad a gafodd gan eglwys yn Ohio -bydd ei ymadawiad yn soiled anmhrisiadwy i'r B,Chor. yma ac yn Middle Granville. Mae llawer o son am y Llew hyd y wlad hon, a frawen yw pawb o'i weled yn dal yn ir a'i gynyrch yn her, ac yn enill ei goron fel I Llew Llwyfo cyn iddo farw.' Ac yn wir, fe ddylai Ceulanydd gael coron am ei anerchiad iddo. Disgwylir y Parch W. Ryle Da vies, M.A., i'r lIe hwn yr wythnos nesaf, a dychwela i Lundain yr Wythnos wed'yn. West Paivlet. ERYROG.

[No title]

Advertising

Gwreiohion.

-0-Barddoniaeth.

[No title]

INewyddion Cymreig.

Advertising