Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
ARAITH AR AN GEN TEILIWR.
ARAITH AR AN GEN TEILIWR. Nis gwn pwy yw yr awdwr. Olywais hi yn cael ei thadogi ar yr hen Williams o Bantycelyn. Math o gerydd ar bregetbwriaeth sectyddol ydyw. Y testyn-" A theiliwr a gafwyd mewn gardd wedi ei ladd gan fwtsiwr Ar ol rhag- ymadroddi a churo'r llwyni, disgynodd ar ei destyn 1. Y gwrthrych a nodir-teiliwi-. -Yn nacaol, nid crydd, nid saer, nid gof, nid gwehydd, nid sadler, nid pedler, nid eurych-ond teiliwr. 0, ie, ie, teiliwr oedd o Y dyn mwyaf defnyddiol o ddynion y byd. Onib'ai teiliwr, byddem oil yn haid o lymangwn llymrig, croemllymion a rhynllyd, a phob un yn rhinsian danedd gan anwyd, ac yn gwargrymu fel bwa crwth pob un yn warth iddo'i hun, ac yn adgas i'w gym- ydogion o'i gwmpas. Mae natur wedi gofalu am glydwch i bob creadur arall, a rhoddi naill ai blew, ai plu, ai cen i'w hamddiffyn ond wedi gadael dyn yn gorbedyn noethlwm a chroen- deneu, i giel ei ddiddosi gan deiliwr. Gwelwn mor werthfawr yw teiliwr. 2. Y man y cafwyd ef: mewn gardd.—Yn nacaol, nid ar yr heol, nid yn y dafarn, nid yn y flair, nid yn ei wely, nid ar ben y bwrdd yn pwytho, nid mewn ffos wedi boddi ond mewn gardd. Mae gwahanol farnau yn nghylch pa awr o'r dydd y cafwyd ef, pwy oedd perch enog yr ardd, pa beth a'i harweiniodd ef i'r ardd, a pha negea oedd ganddo yn yr ardd. Ond mewn gardd y cafwyd ef. 3. Yr agwedd oedd arno-wedi ei ladd gan fwtsiwr. Nid wedi lladd ei hun, nid wedi cael ei ladd wrth ymladd a. theiliwr arall, nid wedi marw &'i ben ar y gobenydd, ac nid wedi tagu wrth lyncu bresych, ond wedi ei ladd gan fwt- siwr Mae bwtsieriaid yn urdd digon defnydd. iol i ladd ychain, defaid, a moch, ond yn ddos- barth peryglns os ant i ladd teilwriaid, Gwar- eder ni rhagddynt
BREUDDWYD TEILIWR.
BREUDDWYD TEILIWR. Mae teiliwr, fel dyn arall, yn cysgu ac yn breuddwydio. Yr oedd rbyw hen deiliwr un- waith yn dueddol iawn i gelcio a chwiw ladrata brethyn ei gwsmeriaid. Troai ei law mor sydyn, a thorai glytiau mawrion, mwy na dail cabbage cyffredin, o dan drwyn dyn mewn munyd. Wrth hir ddilyn yr arferiad hwnw, yr oedd efe wedi caffaelu llawer o glytiau o wahanol liwiau ac an- soddau. Un diwrnod, fel yr oedd efe a'i brmitis yn cydweithio, edrychai yn fwy selog nag ar- ferol, ocheneidiai yn drwmlwytbog, cynhyrfai ei ddyn oddimewn o'i sefnig i fon ei gynffon, a gruddfanai ei geudod, fel be buasai yno fochyn byw Gofynai y prentis yn fynych beth oedd yn ei flino ond ysgwyd ei benglog a gruddfanu oedd yr unig atebiad a roddai i'r bacbgen. Ond wrth hir duchan o'i du ef, a hir holi o du'r prentis, cyfaddefodd. "Tia wyddost," ebai, fy mod yn arfer, yn ol braint a defod y teil- wriaid er cyn cof, o gymeryd ambell i glwtyn o frethyn o eiddo eraill, heb feddwl niwaid, a'i ddefnyddio at fy ngwasanaeth fy hun ond erbyn edrych, mae'r peth o bwys mawr. Aethum i'r gwely neithiwr yn ddigon difeddwl drwg, fel arfer, a syrthiais yn fuan i freichiau trymgwsg. Daeth meddyliau hynod i fy mben ar fy ngwely, a gweledigaetharuthrol a gefais. Gwelwn fv hun allan yn nghanol y goleuni, ac heb le i lechu ac wele angel enfawr yn disgyn o'r uchelderau, a golwg digllon ar ei wynebpryd yn un Haw iddo yr oedd Hen fawr, gyfled a haner yrwybren, yn chwifio fel baner yr oedd ynddi bob lliw a defnydd y gellid meddwl am dano, wedi eu cydwnio fel y gellid gweled pob clwt yn eglur ar unwaith. Yn llaw arall yr angel yr oedd chwip, na welais ei bath erioed. Clywswn lawer o son am y gath naw cynffon, y cowhide, fflengyll scorpionog, &c.. ond dim un tebyg i hon erioed. Ataf fi daeth ar ei union a pheth oedd y lien fawr ond yr holi glytiau cabbage wedi eu pwytho at eu gilydd Darnau o alarwisgoedd o un man, dillad priodas o fan arall-nid oedd siaced fraith Joseph yn agos mor symudliwiog a bon. Dechreuodd ddanod a dwrdio yn arw, a chyda phob danodiad ffrewyllai fi a'i holl nerth, nes oeddwn yn troi fel chwrli- gwgan a minau yn crygleisio am fy mywyd, ac yn addaw na wnawn byth wed'yn, os eawn fy hoedl, ac ychydig o groen am fy esgyrn i ail ddechreu fy myd. Pa fodd bynag, deffroais yn foddfa o chwys, a bron marw gan fraw a dych- ryn. Os gweli di fi byth eto yn tueddu at gabbage, dywed yn union, "Cofiwch y breu- ddwyd, meistr.' "Gwnaf. Yn mhen hir a hwyr, fel yr oeddynt yn cydweithio, a chyflawn- der o ddefnyddiau teg yr olwg tan eu dwylaw, dyna'r hen deiliwr yn amcanu crafangu darn ohono—"Stop cofiwch v breuddwvd, meistr," ebai'r prentis. "Na bidia mono, nid oedd dim o hwn yn y lien hono." Anhawddtynu cast o hen geffyl."
o Cynadledd yr Athrawon Cymreig.
o Cynadledd yr Athrawon Cymreig. DDYDD Sadwrn, cynaliodd athrawon Rhyl, Tre- ffynon, a Olwyd gvnadlèdd yn Cefn Meiriadog. Daeth dros 50 yn nghyd. Anerchwyd y cyfarfod gan Mr Tom John, Pentypridd, yr hwn a sylwodd fod yr athrawon yn v wlad hon, trwy uno a'u gilydd, wedi gwneud llawer i hyrwyddo eu budd- 14nau. Arnynt hwy eu hunain y dibynai pobpeth. Da oedd ganddo fod athrawon sir Fflint wedi llwyddo i gael cynrychiolwyr ar Fwrdd Llywodr- aethol Addysg y sir. Buont yn hir yn ceisio ymgyrhaedd at hyn, ac erbyn hyn i raddau yr oeddynt wedi llwyddo.—Siaradwyd gan amryw athrawon, a diolchwyd i Mr John am ei anerchiad.
I Nodion o'r Ddinas.
I Nodion o'r Ddinas. [Gan CWILSYN.] DA genyf ddeall oddiwrth lythyr gohebydd mewn colofn arall fod cerddorfa Gymreig ar gael ei sef- ydlu yn y ddinas. Bu llawer o dro i dro yn eym- hell hyn, yn neillduol arweinwyr ein cymanfaoedd canu, ac y mae'n wir hyfrydwch genyf fod y cym- helliad ar fedr cael ei sylweddoli. —o— Tipyn o waradwydd ar Gymry ieuainc cerddgar y ddinas ydyw eu bod wedi aros hyd yn hyn heb symud yn mlaen. Difaterwch yw'r unig esgusawd dros hyn. Mae eu gallu yn ddiamheuol, a digon o fanteision yn eu cyrhaedd i berffeithio yn y gelf, ae eto bron na theimlid anhawsder mewn rhai addol- dai i gael chwareuwyr cymliwys i arwain y mawl. Gellir disgwyl diwygiad bellach, a gobeitbiaf y bydd cerddorfa Gymreig Lerpwl yn llwyddiant. -0- Hydref 28, bydd y Parch D. Adams, B.A. (Hawen), Bethesda, yn cael ei sefydlu yn weinidog eglwys Grove Street. Bydd ei ddyfodiad yn ychwanegiad pwysig at bwlpud y ddinas. Saif ar ei ben ei hun fel pregethwr ac nid oes neb hyd yma wedi anturio cymaint ag ef i ddadrys y cwes- tiwn gwyddonol dyrys o ddadblygiad-cwestiwn yn ddiau sydd i gael mwy o sylw yn y dyfodol rag mewn dyddiau fu. Mae ganddo feddwl coeth a diwylliedig, teimladau tyner a llawn o brofiadau dwysion, ac y mae'n sicr yn meddu cymhwysderau arbenig i arwain a chyfarwyddo pobl ieuainc mewn dinas fel hon. Daw i lanw lie pwysig, ond fel y dywedai rhywun yn ddiweddar-" Mae yr hwn all ddal ei dir yn mhlith chwarelwyr goleuedig Arfon yn sicr o ddal ei dir yn mhlith unrhyw ddosbarth arall o'r genedl," ac nid oes amheuaeth genyf na cheir y dyn priodol i'w le priodol pan ddaw Mr Adams yma. -0- Nos Fercher nesaf, cynelir cyfarfod blynyddol y Feibl Gymdeithas yn Nghapel Chatham Street. Eleni ceir clywed y dirprwywr newydd, sef y Parch D. C. Edwards, M.A,, Merthyr. Y mae ef yn fab i'r diweddar Ddr Edwards y Bala—y gwr a'r nefoedd yn ei wyneb," fel y galwai Huw Myfyr ef, ac felly yn frawd i'r Prifathraw T. Charles Ed- wards, D.D. Efe sydd wedi ei benodi yn olynydd i Dr Dickens Lewis-gwr wnaeth lawer dros y gymdeithas hyd nes y diffygiodd ei nerth ar y tfordd ac y gorfu iddo roddi y gwaith i fynu. -0- Yn Nghymru, mae cyfarfod y Feibl Gymdeithas bob amser yn hynod boblogaidd. Ceir yr hon enwadau, ac Eglwys Loegr hefyd, yn ymuno i'w gynal, a bodola teimlad rhagorol ynddo. Ond rhaid I i mi ddweyd mai dyma'r cyfarfod mwyaf gwywedig ei wedd yn mhlith Cymry Lerpwl. Ni cheir ond cynulliad bychanlllddo er's blynyddau, ac y mae rhai o'r gweinidogion wedi bod yn amlwg trwy eu habsenoldeb. Haedda'r gymdeithas well cefnog- aeth gan ein harweinwyr crelyddol; dylent gofio fod eu presenoldeb yn cario dylanwad ar yr aelod- au, ac yn lie tori eu cyhoeddiad bob blwyddyn yn y cyfarfod hwn, dylent ymdrechu gwneud a allant i gynorthwyo cymdeithas mor ragorol. Yr ydych chwi, weinidogion, yn cymhell eich aelodau i ddi- wygio-caniatewch i aelod eich cymhell chwithau i wneud yn gyffelyb. --(1- Nos Fercher, yn ysgoldy capel Anfield Road, cynaliodd y merched gyfarfod dirwestol dan lyw- yddiaeth Mrs T. C. Jones. Caed cryn hwyl ynddo, yn neillduol pan oedd y meibion yn myned dan feirniadaeth y merched. Anturiodd amryw ohon- ynt i gystadleuaeth, ac ar air a chydwybod y Misses Harris a Jones, Rockfield Road, barnwyd y Mri Ernest Hughes, J. Jones Williams, a H. Lloyd Jones yn teilyngu y rhosynau gynygid yn wobrwy- on. Cafwyd papyr dyddorol hefyd gan Miss M. C. Jones, a chan swynol gan Miss Harris. -0- Hysbysir fod y Barwn de Worms, yr A.S. dros Ddwyreinbarth Toxteth, wedi ei ddyrchafu i'r ben- defigaeth. Cymer ei le yn Nhy'r Arglwyddi ar agoriad y Senedd. Dywedir ihai Mr Austin Taylor fydd yr ymgeisydd Ceidwadol, ond hyd yma nid oes un Rhyddfrydwr wedi ei enwi.
-0--Dynladdiad honedig ger…
-0-- Dynladdiad honedig ger Cwreosam. YN ynadlys Gwreesam, ddydd Llun, cyhuddwyd David Oultram, Northwich, o achosi marwolaeth ei blentyn dwyflwydd oed.—Dr Marsh, Northwich, a ddywedodd fod y plentyn wedi ei esgeuluso yn fawr, a phan ofynwyd iddo am dystysgrif er mwyn ei gladdu, iddo wrthod ei rhoddi. Pe buasid wedi gweithredu yn ol ei gyfarwyddiadau ef, credai y buasai y plentyn yn awr yn fyw.—Yr Arolygydd M'Guire a dystiodd iddo ar y 15fed o Ionawr gy- huddo'r carcharor a'i wraig o esgeuluso eu pedwar plentyn, ac iddynt gael eu danfon i garchar am dri mis am y trossdd, Yr oedd yn bresenol yn y trengholiad pan ddychwelwyd rheithfarn o ddyn- laddiad yn erbyn Oultram.—Dr E. D. Evans, Gwrecsam, a ddywedodd iddo wneud archwiliad ar y corph, ac iddo gael mai achos y farwolaeth oedd esgeuiusdra, gan nad oedd y plentyn wedi cael bwyd digonol na chymhwys.—Dywedodd y cy- huddedig iddo wneud ei oreu i'r plentyn, ac na chafodd noson o gysgu am chwech wythnos cyn i'r plentyn farw. Wedi ymgynghori, anfonwyd y car- charor i sefyll ei brawf yn y frawdlys nesaf. -o Cymerodd etholiad Bwrdd Ysgol Porthmadog Ie
[No title]
ddydd Sadwrn. Wele'r canlyniad :—C. IjJ. Breese, 912; H. Parry, 811 Ellis H. Roberts, 750; Parch R. H. Evans, 597; Richard Hughes, 590; O. M. Richards, 513; Dr W..Jones-Morris, 510; Parch W. R. Hughes, 469; D. R. Thomas, 448; David Richards, 345 A. Bromwich, 299. Y naw cyntaf etholwyd. Hydref 7, bydd Mr T. E. Morris yn ail ddechreu ei ymchwiliad i elusenau Mon.
Priodasau.
Priodasau. MEDI 19, yn nghapel yr Annibynwyr, Brixton, gan y Parch Mr Snell, M.A., priodwyd Mr Thomas Henry Gilbert a Miss Edith J. Tucker, o Baldwin Crescent, Camberwell, lie y cynaliwyd y wledd briodasol. Mr R. Bryan, o Wrecsam, oedd y gwas priocias, tra y gweithredai dwy chwaer a nith i'r briodasferch fel y morwynion priodas. Derbyn- iwyd lluaws o longyfarchiadau gyda'r pellebyr a'r post oddiwrth gyfeillion yn y wlad hon a gwlad yr Aipht; ac yr oedd y pwyddion yn lluosog a gwerth- fawr. Brodor o Ruthin yw'r "gwr ieuanc,' adnabyddus yno ac yn y brifddinas fel Cymro gwladgarol a charedig. Haulwen fo byth ar yr undeb. Stockport. -Yr oedd ddydd Mercher diweddaf yn ddiwrnod nodedig yn hanes y capel Cymreig yn y dref uchod, gan fod y gyntaf o briodasau yn cymeryd He yno. Y ewpl dedwydd oeddynt Henry Powell (manager y Star Tea Co., Fflint), a Mary Jones, Davenport Lodge. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch W.Glynne, B. A., Manchester. yn cael ei gynorthwyo gan y Parch Thomas Hughes, gweinidog. Rhoddwyd y briodasferch gan yr hen flaenor hybarch Mr John Roberts, Mona Cottage. tra yr oedd Miss Morris, Mona Cottage, yn forwyn briodas, a Mr Isaac Powell, Lerpwl, yn was priodas. Darparwyd a rhoddwyd arlwy i'r cwmni dedwydd gan Mrs Morris, Davenport Lodge, gyda'r hon yr oedd y briodasferch wedi bod yn tfyddlon weinidog- ..aethu am flynyddau. Anrhegwyd y par ieuanc a Beibi Teuluaidd hardd gan y Parch Thomas Hughes ar ran yr eglwys yn y lie, achawsant lawer iawn o anrhegion gwerthfawr, ac yn nghanol dymuniadau goreu cyfeillion ymadawodd y cwpl ieuanc am Fflint, lie y bwriadant breswylio. Priodas Mr T. Freeman a ffliss Kate Jenkins. Ddydd Gwener, Medi 20, yn Nghapel Annibynwyr Cymreig King's Cross, Llundain, priodwyd Mr T. Freeman, Y. H., cyfarwyddwr gwaith Týn y Clay- ton, Pontardulais, a'r Villiers Spelter Works, Glandwr, gyda Miss E. Kate Jenkins, Glansawdde, Llangadog. Gweinyddwyd gan y Parch R. Thomas, Tabernacl, Lerpwl, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch Dr Owen Evans, Llundain. Mae Mr Freeman yn un o ddynion cyhoeddus mwyaf adnabyddus Abertawe, yn aelod o'r Gorphoraeth er's blynyddau, ac hefyd wedi gwasanaethu fel maer tra mae enw Miss Jenkins yn adnabyddus drwy'r oil o Gymru fel un o'r rhai mwyaf amlwg yn nglyn a Chyngrair Rhyddfrydol y Merched. Rhoddwyd y briodas- ferch ymaith gan ei brawd-yn-nghyfraith, Mr Thomas, Y.H., Bristol, ac yr oedd yn bresenol hefyd Mrs Herbert Thomas, Dr Herbert Jenkins, Mr Bryn Freeman, Mr a Mrs William Williams, a Mr a Mrs Llewelyn Williams. Ar ol y seremoni, rhoed boreubryd yn yr Holborn Restaurant, ac yn y prydnawn, cychwynodd Mr a Mrs Freeman i dreulio eu mis mel i'r Eidal a Switzerland.
Tri Thywysog Pwlpud Cymru.
Tri Thywysog Pwlpud Cymru. MAE ami un wedi bod yn ceisio elfenu athrylith tri thywysog pwlpud Cymru, sef Christmas Evans, Williams o'r Wern, a John Elias. Yr olaf fu'n ceisio eu mesur a'u pwyso yw'r Prifathraw Gethin Davies, D.D., Bangor, ac fel hyn y traetha ei 16n arnyut yn rhiiya diweddaf Serai Gomer Ty- wysog yn myd y dychymyg oe id Christmas Evans. Am wibiau herfeiddiol i'r gororau hyn, gan gludo ei wrandawyr gydag ef megys ar adenydd yr eryr, nid oedd neb i'w gymharu ag ef. Cymerai i fynu olygfa neu hanesyn Ysgrythyrol, ac olrheiniai y manylion gyda'r fath amrywiaeth, cyflymdra, byw- iogrwydd, a nerth, nes gwneud pawba'i gwrandaw- ent yn garcharorion i'w hyawdledd. Y gallu hwn yw un o ddirgelion ei fawredd ? yma yr oedd cudd- iad ei nerth. Am y cyfryw beth, dywed Matthew Arnold Nis gall gormod ohono fod yn meddiant neb tra y Ilwyddir i gadw meistrolaeth arno ac y mae yn rhaid dweyd mai yn hyn o beth yr oedd Christmas Evans yn colli. Mynych y teimlid fod yn ei ddarluniau a'i alegoriau absenoldeb o'r cyd- bwysedd hwnw mewn chwaeth, a dosparthiad a barn, sydd bob amser yn angenrheidiol er dyogelu yr amcan mewn golwg. Yr oedd Williams o'r Wern yn meddu ar yr un gallu ag yntau i gyflwyno gwirioneddau yn ngoleuni llachar dychymyg cryf ond bob amser gyda hyn o wahaniaeth tra yr ym- geisiai Christmas am y lliwiau cryfaf a chyfoeth- ocaf, hoffbeth Williams oedd treiddio at feddwl yr ysbryd ac am hyny, y mae y Bedyddiwr wedi ei alw yn fardd y ffeithiau, a'r Annibynwr yn fardd yr egwyddorion. Cyfenwir John Elias, yr hwn a wnai i fynu y triawd enwog, yn brophwyd y tan. Ynddo ef ceid crynhoad o'r tanbeidrwydd a'r feudwyaeth sarug oeddynt yn nodweddu dau Elias y Beibl. Llosgai ei ddychymyg ef uwchben moeseg Criationogaeth fel y gwnelai dychymyg Evans ger- bron ei phrydferthwch a'r eiddo Williams ei hathroniaebh. Barddoniaeth y fellten a'r daran oeddfyr eiddo ef. Cymhwysai ei eiriau at arswyd- gerddoriaeth mynydd Sinai. Mae deheurwydd chwim gydag eglurebau-hoffder o'r ffigyrol a'r cymhariaethol, y ddameg a'r gyfatebiaeth-yu nod- weddion cyffredin y pwlpud Cymreig. Nis gall y pregethwr na ddefnyddia y cyfryngau hyn, ac na apelia at y teimladau hyn, byth fod yn boblogaidd yn Nghymru." --0-
[No title]
Am ladrata oriawr, anfonwyd Alexander Henry Wicks, Lerpwl, i garchar am fis gan ynadon Caer- narfon ddydd Llun. Am greulondeb at geffyl, dirwywyd Andrew Harrison gan ynadon Gwrecsam ddydd Llun, i Ip Is a'r costau. Yn Rhaith Plwyf Corwen, ddydd Llun, etholwyd Mr Lloyd John, cyfreithiwr, yn warcheidwad yn lie y diweddar Mr Thomas Davies, Liverpool House.
Advertising
f I ddL nwisit HOT WATER. COLO WATER, For 150 Wrappers the splendid Picture "The Charge of the Light Brigade," in good gilt frame, will be pent carriage paid. Full particulars on each Wrapper. j WATSON'S MATCHLESS CLEANSER is sold only in 16oz. Tablets. I A 16oz. TABLET of SOAP lor 3d. equals 3d. per lb. A 12oz. g, ft 2|d. „ Sid. »* I
Syffryn Clwyd.
Syffryn Clwyd. YR wyf wedi dweyd droion mai lie digymhar i fyw yn hir a marw'n hen yw'r hen ddyffryn yma a rhag ofn fod rhyw Thomas o amheuwr yn y byd eto eisiau prawf ar bobpeth, dyma fo Yn mhlwyf Llandyrnog ceir gwr o'r enw Thomas Jones sydd wedi cyrhaedd ei gant oed. Y mae wedi trigianu am flynyddau lawer yn ffarm y Cross Keys gyda. Mr a Mrs Edward Jones Fe'i ganwyd yn Llan- fihangel Glyn Myfyr Medi 16, 1795, priododd pan yn 37 oed gydag un Mary Owens, Trefriw, yn eglwys y plwyf Llanynys. Cyrhaeddodd ei gant) oed mewn llawn iechyd a mwynhad o'i holl gyn- eddfau. Gall ddarllen heb spectol, clywed heb gorn, siarad yn ddifloesgni, a cherdded heb ffon. Mae ganddo ddawn ffraeth ac atebiad parod i bawb. Nid yw erioed wedi gwisgo llodrau, ac y mae'n dal yn dyn at yr hen gHs penglin. Mae ganddo gronfa o adgofion dyddorol am Gymru cyn i ryfeddodau y 19eg ganrif ddechreu troi ei gwyneb tu chwith i fynu. Nid yw erioed wedi siarad gair o Saesneg, ac ni fu mewn cerbyd tren erioed yn ei fywyd. Oddiwrth ei ymddangosiad gellir tybio fod ganddo flynyddau eto i aros yn y byd a thra bydd ef byw ni wiw i neb wadu nad Dyffryn Clwyd yw --in o'r llenyrch iachaf a thebycaf i gynyrchu hirhoedledd o unman yn Nghymru. Yn Llys Sirol Rhuthia ddydd lau, gerbron y Barnwr Syr Horatio Lloyd, hawliai Mr a Mrs I Alston. Plas Newydd, Llanychan, lip o iawn am niweidiau dderbyniodd Mrs Alston, y cerbyd a'r ferlen mewn damwain a achoswyd, yn ol honiad yr erlynwyr, trwy esgeulusdra ar ran gwas Cwmni y L. & N. Western.— Ymddangosai Mr Alun Lloyd i erlyn a Mr Colt Williams i ani(ldiffyn.Dywedodcl Mrs Alston iddi ar y 4ydd o Fehefin fyned mewn cerbyd, gan basio gorsif Rhuthin. Yno cyfarfydd- odd stg un o wageni'r cwmni, yn cael ei dynu gan geffyl yr hwn a branciai, ac ymddangosai y gyried- ydd fel wedi colli llywodraeth arno. Gan nad oedd lie i'w cherbyd basio, safodd a daeth y wagen ar ei draws, taflwyd y cerbyd yn nghyda'r foneddiges oedd ynddo i'r ffordd, a derbyniodd niweidiau. Bu dan law'r meddyg am wythnos, gorfu iddi gael gwisg newydd, ac yr oedd y cerbyd a'r ceffyl wedi eu niweidio hefyd. — Wedi gwrando amryw dystion dyfarnodd y Barnwr 7p 3s 60 o iawn i Mr a Mrs Alston. Yn llys trwyddedol Rhuthin ddydd Llun, gwrth- odwyd adnewyddu trwydded y Blackameor's Head, Efenechtyd, ar y tir nad oedd y ty wedi ei agor i werthu diodydd er's blwyddyn. Adnewydd- wyd trwyddedau'r White Horse, Llanelidan, a'r Black Horse, Rhuthin, ar yr amod fod cyfnewid- iadau yn cael eu gwneud. Ymosodiad.-Bu ynadon Rhuthin, ddydd Llun, yn gwrando achos a ddygid yn erbyn Margaret Chelton o ymosod ar Elizabeth Barker, hen wraig 80 oed yn byw yn Llmfwrog. Dywedodd yr achwynyddes fod Chelton wedi dod i'w thy, ei churo a'i chicio, a'i gadael mewn llewyg ar lawr. Bu raid cael meddyg i weini arni. Anfonwyd y gyhudd- edig i sefyll ei phrawf yn y frawdlys chwarterol. Dymunol iawn oedd bod yn bresenol nos lau yn Ysgol Genedlaethol Llanelwy. Yn y dyddiau di- weddaf hyn nid yn ami y ceir golygfa gyffelyb. Ar ganol y llwyfan, yn llanw cadair y llywydd, gwelid IT Eajjou, ac am unwaith jr oaud gwein heb wg ar ei wyneb, ac nid oedd min ymosodiad na chwerwedd ysbryd i'w deimlo yn ei anerchiad. Gerllaw iddo yr oedd Mr Peter Roberts, Y.H.— Calfin, fel y gwyr pawb—yntau'n ymddangos fel wedi annghofio y swm enfawr delirgan weinidogion i deithio i'w cyhoeddiadau Sabbothol .yn He rhoddi yr arian at gynorthwyo'r achosion gweiniaid ac ochr yn ochr yn y fan draw dacw'r Parchn J. Silas Evans, y ficer-corawl, a Benjamin Evans, gwein- idog y Bedyddwyr, Rhuddlan. Yn wir i chwi, yr oedd golwg hapus neillduol ar bawb. Dylaswn ddweyd mai cyfarfod blynyddol y Feibl Gymdeith- as ydoedd, a chaed anerchiadau rhagorol gan yr Esgob a'r Parch D. Charles Edwards, Merthyr. Greayn na ellid aberthu sect a phlaid yn llawer amlach, fel ag i beri fod cyfarfod undebol fel hwn yn rheol, ac nid yn eithriad, yn ein piitb.
-:0-Ymosod ar ddyn gyda phigfforch…
-:0- Ymosod ar ddyn gyda phigfforch ger Cwrecsam. YN ynadlys Gwrecsam, ddydd Llun, cyhuddwyd Robert Parsonage, llafurwr yn ngwasanaeth Mr J. Griffiths, Roden's Hall, Isycoed, o ymosod ar John Griffiths, ma.b ei feistr.—Oddiwrth y tystiolaethau, ymddengys nad oedd y cyhuddedig yn gallu cyd- dynu yn dda gyda'r erlynydd, a'u bod ddydd lau wedi cweryla. Aeth yn ysgarmes rhyngddynt, ac yn ddilynol cymerodd Parsonage afael mewn pig- fforch, a tharawodd Griffiths yn ei ais gyda hi.- Wedi i'r meddyg rod li tystiolaeth p-xrth y niwed achoswyd gan y bigfforch, dedfrydwyd y cyhudd- edig i sefyll ei brawf yn y frawdlys chwarterol, ond gollyngwyd ef yu rhydd ar feichiu,fon.
Advertising
CYRN! CYRN! CYRX! MAE BUNODION BENSON EVANS Yn rhoddi esmwythad ar unwaith i GYRN poenus, ac yn eu symud yn hollol mewn ychydig ddyddiau. Symuda hefyd DDEFAID ar y dwylaw a'r bysedd, tyn ymaith enyniad a gwres o BUNIONS gan eu gwneud yn iach a diboen. Gwerthir mewn potelau 7tc a Is. lie. 2 yr un. Danfonwch am botet-mae'n foddyo-in. iaeth anffaeledig. GASTROCYNE BENSON EVANS, Yr unig feddyginiaeth effeithiol i Dliffy Treuliad, Poenau ar ol Prydiau, Llosg-ga!n^ Biliousness, &c. Derbyniwyd miloedd o adwyoni'w effeithiolrwydd rhyfeddol. Mewn Poteli, Is. Itc. a 2s. 6c. yr un. T. BENSON EVANS, High Street, Dinbych.
Cynddelw a'r c Hen Deiliwr.1
a pheth cyffelyb. Cyiiawnodd hwn orchest ryfeddol wrth saethu. Aeth allan un diwrnod gyda ffarmwr a'i ddryll i saethu, a chododd haid o betris o'i flaen. Cyfeiriodd y teiliwr y gwn ar en bolan, a thaniodd nes oedd y cwm yn ad- seinio a dyna gawod o betris meirw yn disgyn yn amlach bron na'r gawod soflieir yn yr hen oesoedd Sawl un, feddyliwch chwi, a gafodd ei ffetanu yn ol tystiolaeth y teiliwr ei hunan ? Cant a haner Dyna deiliwr yn rhagori yn mhell ar G wion Gwag Siol yn stori Doctor y Bendro. Dyna ergyd yr ergydion.