Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE, ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS, 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL- Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERDDOROL Y CYMRY Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o 10s. 6ch. y mis ac uchod, .Gan y gwneuthurwyr goreu bob amser ar law Broadwood, Brinsmead, Collard, Neumeyer, Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &c. AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c., &c, HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &e. VOICE TRAINING, c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on application. CANEU^N, &c. (Goreu'r Iaith, Dr. Parry, &c. Gwiad y Delyn [J. Henry], cyfaddas i bob llais. Is O Rwy'n Cofio (Sweet Memories) Tenor Is Gwlad y Canu Is HofF Wlad fy Ngenedigaeth. Soprano neu Tenor Is Bwthyn yr Amddifad" Is Llyrhyr fy Mam. Sopraho neu Tenor Is Merch y Morwr Is Merch y C'tdben. BaTitone Is Cenwehior yrhenganiadau Is Hen Gadair Fawr fy Mam. Contralto, Baritone 6c O'P eidiweh tori'r Blodau Is Sor,gs of Wales [bound] 4s post free Dim ond Deilen Contralto neu Baritone 6d Gems of Welsh Melddy 7s 6d post free Yr oil yn y ddau Nodiant. D. R. JONES & Co., 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. F Eto ar y Blaen. -TE R,W ERI N. L TE A CHOFFI PUR. Gwerthiant yn cynyddu bob wythnos o gall. pwys i dunelli. I Cartref Cymrcig. GLASLYN HOUSE, 9, Eustoa Square, Londoq, N,W. W-V AN S ) TEMPERANCE HOTEL Most Central to aU parts of London. Close to Euston (L. & N. W. Ry.) Station. Two Minutes walk from St. Pancras (Midland Ry.) Station. Ten Minutes train from Paddiogtoo (G. W. Ry.) to Gower Street Station for Euston Square. Fare, lcl. 2 I Home for Students during Excwiindt ion. j Adclysgol. R EAUMAR IS GRAMMAR & COUNTY SCHOOL. HEAD-MASTER E. MADOC JONES, M.A., Downing College, Cambridge, A&SISTED BY QUALIFIED MASTERS. BOARDERS are received at the School House. D Terms Moderate. Superior accommodation healthy and pleasant situation. SCHOOL RE-OPENS SEPTEMBER 17TH. Apply, HEAD-MASTER, COUNTY SCHOOL, BARMOUTH. (A DUAL SCHOOL FOR BOYS d; GIRLS). HEAD-MASTER EDMUITI-) D. JONES, M.A. HEAD-MISTRESS Miss E. J. OWENS, B.A. Boys received as Boarders by the Head- master. and Girls by the Head-mistress. Prospectus, &c., on application from J. LLOYD, Clerk. JAMES NISBET, L.R.A.M., Teacher of Piano, Organ, Harmony & Singing. Eighty Csrtificates, Two Medals, One Book Prize, One L.R.A.M. Diploma, Three Eisteddfod Prizes gained by Pupils. 11, SPELLOW LANE, LIVERPOOL. RICHARD E. EVANS, HOUSE AND ESTATE AGENT, la, Preston Street (Opposite Police Courts), LIVERPOOL, And 67, CLARENDON ROAD, SEACOMBE. ESTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR LET, MORTGAGES EFFECTED. T)IOS.JONES &Co. Ltd. TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7, and 2/- per Th. SPECIAL VALUE. ——— Parcels of Tea value 20/- and upwards gent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON A PPLICA TION. THOS JONES Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKeR STREET, LIVERPOOL. Y CYMRO: Kewyddiadur Cenedlaethol.. Danfonir UN COPI yn ddidraul trwy y Post:— Am 12 mis, 5/6 Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/6 Telerau Hysbysiadau- Yn ol 3/- y fodfedd, neu 13 gwaith am 19/6. 0 At Ein Cohebwyr. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore ddydd Llun a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher. Coed Talon. Y sgrifena Cymro Uniaith lythyr lled faith yn cwyno fod gormod o Saesneg o lawer yn y canu a gafwyd yn nghyfarfod Cym- deithas Ddirwestol y Chwiorydd." Terfyna yn yr apeliad a ganlyn Ferched anwyl, os ydych am ddarostwng addoliad Duw Bacchus a'i ymlid o'n gwlad, siaredwch a chenwch yn ei erbyn yn Gymraeg. Y mae'n sicr o ganfod eich ffolineb gyda'r ffwibri Seisnig sydd yo nodweddu ambell i fam a merch yn yr ardal hon. Bydded i'r chwiorydd drefnu cyfarfod buan eto, a phobpeth ynddo yn Gymraeg."
!PABYDDIAETH A CHYMRU.
PABYDDIAETH A CHYMRU. NID oes un anmheuaeth nad yw'r Babaeth wedi gosod ei bryd ar Gymru, ac yn ben- derfynol o wneud cais teg i adenill ei thrig- olion o'r cyfeiliornad yr aethant iddo gyda gweddillyr ynys anffodus hon dri chan mlynedd yn ol. Wythnos i ddydd Sul, sef dranoeth i ordeiniad Esgob Mostyn, traddodwyd dwy bregeth yn hen eglwys yr Esgob yn Birkenhead y gyntaf yn y bore gan Dr Hedley, esgub Mynyw neu Menevia, a'r ail gan un o bregethwyr mwyaf hyawdl y Jesuitiaid yn y rhan yma o'r wlad, sef y Parch S. Sykes, S-J. Cyflwyna'r blaenaf ran gyntaf ei anerchiad i egluro daliadau Eglwys Rhufain, ac yn mha bethau y mae yn gwahaniaethu oddiwrth, ac yn rhagori, wrth gwrs, ar Eglwys Loegr a Phrotestan- iaeth yn gyffredinol. Nid dyma'r lie ac I nid dyma'r Haw i ddadleu nac i benderfynu y dyrysbynciau duwinyddol sydd wedi rhanu dysgedigion a chewri meddyliol y canrifoedd yn ddau ddosbarth. Nid yw'r Esgob Hedley, chwareu teg iddo, mor haerllug a honi cwbl anffaeledigrwydd i'w eglwys ei hun, gan ddweyd, yn eglur beth bynag, "nad oes iachawdwriaeth yn neb arall," fel y gwna ei frodyr yn gyffredin. Ond fe a yntau mor bell a haeru fod dau o nodweddion arbenig Cristionogaeth, fel y ceir hi yn yr Ysgrythyr ac mewn hanes, yn absenol o Brotestaniaeth Lloegr a Chymru, sef Awdurdod i athrawiaethu ac i lywodr- aethu, ac yn ail cyfundrefn Sacramentaidd yn rhoddi gallu i gyflwyno gras ysbrydol trwy weithredoedd allanol wrth yr hyn y meddylia adenedigaeth trwy fedydd, tros- glwyddiad gras ysbrydol trwy osodiad dwy- law, maddeuant pechodau trwy wasanaeth gollyngdod, a thraws-sylweddiad yn y cymun. Y pethau hyn oil a ddywedir, ac a ategir gan yr Esgob trwy ddyfyniadau o'r Ysgrythyrau y clywsom dduwinyddion Protestanaidd yn eu defnyddio, ac i'n tyb ni gyda llawer mwy o reswm, i ddybenion gwahanol ac i brofi athrawiaethau cwbl gyferbyniol. Fel y dywedwyd, nid dyma'r lie i drafod duwinyddiaeth y prelad dysgedig ond gallwn ninau, heb berygl esgymundod. feirniadu yr hanes sydd ganddo am Gymru. Yn un man, dywed mai marw'n araf a ddarfu Pabyddiaeth yn Nghymru, a'i bod yn llechu mewn manau anhygyrch am o Jeiaf gan mlynedd ar ol yr hyn a elwir Diwygiad Protestanaidd. Nid oes ganddo tros y gosodiad hwn, mae'n wir, ond prawf lied simsan. Ardalydd Worcester, tra'n ymladd tros ei frenin yn erbyn y Werin- iaeth, a ddaeth ar ddamwain i Ystrad Fflur, Ceredigion, ac a'i cafodd yn adfeilion, ond yr oedd yno hen bobl yn yr ardal a fuasent yn Babyddion yn eu hieuenctyd, ac a hiraethent am glywed Gwasanaeth yr Offeren unwaith drachefn, ac wedi iddynt ei glywed a fuont feirw'n ddedwydd. Fe- allai fod hyn yn wir a phe byddai, nid yw yn gwrthddweyd gwirionedd diamheuol, sef fod Pabyddiaeth yn araf golli ei gafael ar Gymru er's oesau cyn y Diwygiad Pro- testanaidd. Gallem ddyfynu yn rhwydd luaws o gyfeiriadau gwamal a diraddiol at offeiriaid o waith beirdd Cymreig yr Oesau Canol, a'r Brawd Llwyd," fel y galwent ef, oedd eu cyff cler. Mae'r Esgob, er mwyn profi ei ochr ef i'r ddadl, yn dyfynu dernyn wedi ei gyfieithu o waith Gruffydd ap yr Ynad Coch, ond mynach neu frawd llwyd, mae'n amlwg, oedd y Gruffydd hwn ei hun a'r un oedd barn Ap yr Ynad Coch a- Thudur Aled am Eglwys Rhufain yn eu hoes hwy ag ydyw barn dau esgob Pabaidd neu ddau esgob Protestanaidd am eu gwahanol eglwys hwythau yn yr oes hon, sef fod yr eiddynt hwy y fwyaf Ys- grythyrol, bendithiol, ac anffaeledig tan haul. Felly, tystion gwael tros ffyniant Pabyddiaeth yn Nghymru cyn y Diwygiad Protestananaidd ydyw ei mynachod pa mor awenyddol bynag oeddynt. Beth oedd Dewi, a Dunawd, a Chunedda Wledig, a Garmon, a saint y pumed a'r chweched ganrif a roisant eu henwau ar luaws Llanau Cymru ? ac a oeddynt tan ac yn cydnabod y Pab fel pen yr eglwys ar y ddaear ? nid yw yn hawdd penderfynu i sicrwydd. O'n heglwys ni yr oeddynt," medd y Pabyddion nage," medd dosbarth bychan o eglwyswyr Cymreig sydd am gael y dorth a'r dafell, "aelodau o hen Eglwys y Cymry oeddynt." Hwyr yr un dydd, yn yr un addoldy, pregethai y Tad Sykes, gan gymeryd yn destyn yr adnod genhadol hono, Ewch i'r holl fyd," &c. A'r hyn sy'n taro dyn yn chwithig ydyw pa le y bu'r grefydd hon cyhyd heb ufuddhau i'r comisiwn mawr sydd yn y testyn ? Gadawodd ini ymdaro goreu gallem yn y tywyllwch am dri chan- rif, gan yn y cyfamser geisio argyhoeddi pob cenedl arall dan haul i'r gwirionedd-cen- edloedd melynion Asia, duon Affrica, gwar ac anwar, bonedd a gwreng, caeth a rhydd, ond gadawodd Gymru i gymeryd ei siawns hyd y flvvyddyn hon. Modd bynag, creda I y y Fad Sykes y rhoddir derbyniad calonog i'r esgob newydd yn Nghymru a gobeithia pan ddaw'r Cymry ideimlo eu hangen am eglwys esgobaethol, y dewisant yr un na byddo ei hawliau i'r swydd ddim yn amheus ac un wedi derbyn ei hawdurdod o'r unig ffynonell y dichon awdurdod yspryd ddyfod allan. (Pa fodd y mae Esgobion Cymru yn teimlo tan y cerydd ?) Ac wedi sylwi ar y deffroad cenedlaethol a gymerodd Ie yn Nghymru yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf, daw y pregethwr drachefn at gysylltiad Eglwys Loegr a'n gwlad gan ddefnyddio'r ymadroddion llosgfaol a gan- lyn Nid wyf yn meddwl fod yn holl hanes y Sefydliad ddim byd mor brudd ofidus a chywilyddus a'i hym- ddygiad tuag at Gymru. Penodid i'w hesgobaethau yn fynych ddynion cwbl annheilwng a diwerth-I dynion nad oeddynt yn malio dim am yr eneidiau tan eu gofal ond yn dra gofalus am eu cyflog. Gydag ychydig eithriadau, yr un ysbryd oedd yn gweithredu yn mysg y clerigwyr. Nid bugeilio y defaid oedd eu hamean ond eu cneifio; ac felly, yn ol ei haeddiant, methiant fu y Sefydliad yn Nghymru. Methiant mor fawr a fu cais Eglwys Sefydledig Lloegr i enill serch Cenedl y Cymry, fel y cyhoeddodd un newydd- iadur Uchel-eglwysig yn ddiweddar na fyddai dim arddeliad yn Nghymru nes sefydlu cyffesgell yn mhob plwyf o'i mewn. Dyna ymadroddion cryfion a rhyfedd i ddyfod tros wefusau un o ddoniau yr eglwys y mae cynifer o glerigwyr Eglwys Loegr mor dra awyddus i ymuno a. hi pe gwydd- ent pa fodd, ac ydynt ar eu goreu glas yn ei dynwared yn ei seremoniau a'i sacra- mentau. Yr oedd gweinidogaeth Eglwys Loegr mor aneffeithiol yn Nghymru fel y datgana'r Tad Sykes ei grediniaeth pe buasai'r Eglwys Gatholig wedi danfon cen- adon yno 130 mlynedd yn ol y buasai Cymru heddyw mor Babyddol ag ydyw yn ddiau o Ymneillduol. Tybiem mai ychydig sydd yn cydolygu a'r gosodiad yna hawddach meddwl mai methiant fuasai'r ymgyrch hwnw i Gatholeiddio Cymru annuwiol fel y mae pob lie i gasglu a fydd hefvd yr ymdrech bresenol i adfer i'r wir ffydd Gymru Ymneillduol.
- 0 Newyddion Cymreig.
0 Newyddion Cymreig. Bydd Cor Merched Caerdydd yn cynal cyfres o gyngherddau yn America yn ystod y misoedd nesaf. Y Barnwr Liwrance fydd yn Ilywyddu brawd- lysoedd nesaf Gogledd a Deheudir Cymru. Bwriedir cyflwyno rhyddid Caerdydd i Syr E. J. Reed, y diweddar A.S., ar yr 28ain cyfisol. Bwriada Rhaith Dosparth Rhyl roddi croesawiad swyddogol i Undeb y Bedyddwyr Cymreig sydd i'w gynal yn y dref hono yr wythnos nesaf. Mae eglwys M.C. y Gatehouse, Bangor, wedi gwahodd y Parch E. Lloyd, Y.H. (Tegfelyn), Pren- teg, ger Porthmadog, i'w bugeilio. Disgynodd bachgen saith mlwydd oed, mab i Isaac Davies, llifiwr, Helygain, o ben rnur ddydd Llun, a bu farw tranoeth mewn canlyniad. Brathwyd Mr Vaughan Davies, A.S., yn ei fawd gan lwynog tra allan yn hela yr wythnos ddi- weddaf. Ddydd Iau, disgynodd darn o araig ar William Jones, Llanbedrog, ger Pwllheli, gan ei ladd yn y fan. Cafodd Robert Williams a Griffith Jones, Torca, Aberdaron, eu dirwyo gan ynadon Pwllheli, ddydd Iau, i 54s 6e am greulondeb at geffyl. Ddydd Sadwrn, 7fed cyfisol, yn West Pawlet, claddwyd gweddillion Dewi Glan Dulas, un o feirdd mwyaf awenber yr America. Prydnawn Gwener, bu Mr John Williams, ffarmwr, Llangwyllog, Mon, farw yn ddisymwth yn ngorsaf Bangor. Tybir mai clefyd y galon oedd achos ei anga-u. Anrhegwyd Mr Robert Roberts, yr hwn fu'n bost-feistr Bangor am 49 mlynedd, yr wythnos ddi- weddaf ag anerchiad goreuredig a Ilestri arian fel ,rwydd o barch y dref tuag ato. Ddvdd Mawrth, bu dyn ieuanc o'r enw William Hendrick farw yn Nhreffynon mewn c inly niad i gwymp a gafodd bythefnos yn ol oddiar bontrhwng Holway a Phantasaph. Mae'r A'rolygydd Vaughan, dirprwy-brifgwnstabl sir Ddinbych, wedi anfon ei ymddiswyddiid i mewn oherwydd gwaeiedd iechyd. Gwasanaethodd yn yr heddlu am 28 mlynedd. Yn ynadlys Wyddgrug, dydd Mawrth, dirwvwyd William a Joseph Boswell, a John Phillips, glowyr i 3p a'r costau, am herwhela, a Robert Edwards i lp a'r costau am drosedd cyffelyb. Yn Mangor ddydd Gwener, cynaliwyd Arddang- osfa Amaethyddol Mon ac Arfon. Dangoswyd llawer mwy o anifeiliaid nag mewn blynyddau diweddar, a siaredir yn uchel am euhansawdd. Mae'r Mri Howell Williams, Porthm idog, a M. Roberts, mab rheithor Penmachno, wedi enill dwy ysgoloriaeth werthfawr yn Ysgol Blair Lodge mewn cerddoriaeth. Wyr i'r diweddar Barch William Evans, Tonyr- efail, yw'r Parch William Evans, Pembroke Dock, llywydd newydd Cymanfa Methodistiaid Seisnig Cymru. Y mae eglwys M.C. Smyrna, Plasmarl, wedi rhoddi galwad i'r Parch Hugh Davies (Pencerdd Maelor), Prestatyn, i ddyfod i'w bugeilio, ac y mae yntau wedi cydsynio. Dechreua fugeilio y ddeadell yo mis Tachwedd nesaf. Cynaliwyd nodachfa fawreddog, a barhaodd am bedwar diwrnod, yn Mhafilion Caernarfon yr wyth- nos ddiweddaf, er talu rhan o ddyled Capel Moriah. Yr oedd y swm a dderbyniwyd yn 1,500p, a chaed elw clir o 1,000p. Mae Undeb Tonic Solffa Gogledd Cymru wedi penderfynu gwneud cais am ysgrifenydd cynorth- wyol i Goleg y Tonic Solffa fyddo'n gerddor da ac yn Gymro trwyadl. Sonir am sefydlu Coleg Cym- reig os na chydymffurlir a'r cais. Anfonwyd Margaret Ann Jones gan ynadon Ffes- tiniog, ddydd Mawrth, i fis o garchar gyda llafur caled am feddianu arian trwy dwyll. Yn yr un llys anfonwyd William Thomas, Tanymanod, i garchar am bythefnos am fod yn afreolus y Sadwrn blaenorol. Ddydd Mercher, bu Bwrdd Duwinyddol Prifysgol Cymru yn cynal cynadledd yn Amwythig, tan lywyddiaeth Dr T. C. Edwards. Gwnaed trefn- iadau ar gyfer yr arholiad cyntaf am y gradd o B.D. yn Mehefin, 1896, ac hefyd at gyfer yr arhol- iad am y D.D. Ddyddiau Gwener, Sadwrn, a'r Sul, bu Esgob Pabaidd Cymru, Francis Mostyn, D.D., yn or- deinio 16 o ymgeiswyr i waith y weinidogaeth yn Nhremeirchion. Derbyniasant eu haddysg yn Ngholeg Beuno Sant, ond nid oedd un enw Gym- raeg yn eu plith. Ddydd Mawrth, yn Eglwys Crist, Chelsea, priodwyd Miss Rose Myddleton Edisbury, trvdydd ferch Mr J. F. Edisbury, Bersham Hall, ger Gwrec- sam, a Mr Thomas Parry-Jones, mab hynaf Mr Parry-Jones, Llwyn Onn. Gweinyddwyd gan gan yr Hybarch Archddiacon Howell a'r Parch P. Thompson, ficer Eglwys Crist.