Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Cohebiaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cohebiaethau. ENWAU LLEOL. SYR,—Caniatewch i mi ddiolch i'r Prifathraw Rhys am ei erthygl ddyddorol bythefnos yn ol ar y pwnc uchod. Y mae'r wlad, yn enwedig ei phobl ieuanc, yn hoff o'r math yma o efrydiaeth a phe deallid ystyron enwau lleol yn well, hwyrach y caem wared o'r pla hwnw sydd wedi syrthio ar lawer o'n cenedl o roi enwau Seisnig ar eu tai. Mae'r pla hwn yn waeth yu y parthau o Gymru lie mae'r trigolion slafaidd yn mvn'd i gysgu i'r spensh, y cwt mochyn, corn y simddeu, neu rhyw dwll annghynes arall, er mwyn gwneud tipyn o bres o'r ymwelwyr Seis- nig o Brimijim a lleoedd goleuedig eraill, trwy osod iddynt eu holl ystafelloedd gwelyau. (Rhwng cromfachau), wyddoch chwi beth, Dr Rhys, dyma'r agwedd salaf fyddaf i'n gael ar geiedl y Cymry. Tua Rhyl, Llangollen, a ffordd yna, 14 byddigions mae nhw'n galw rhyw fan glarcod dirmygus sy'n sportio'u modrwyau a'u cigarettes ac er mwyn rhyw grach bethau fel hyn rhaid galw'r ty yn Mount Pleasant yn lie Bryntirion rhag ofn i mi o'r byddigions chwedl hwythau roi clicied eu gen bropor o'i lie. Crow Castle pe bai mymryn o wladgarwch yn Rhaith Plwyf Llangollen mi fyneu newid yr erthyl ftol hwn o enw am yr hen enw anwyl Dinas Bran." Ond rhaid i mi beidio myn'd ffordd yna, neu ni ddeuaf byth i ben. Bwriadu gofyn i chwi, Dr Rhys, yr oeddwn i, os byddwch mor fwyn, pan gaffech egwyl, pa beth ydyw ystyron y geiriau 1, Clwyd, 2, Clywedog, 3, Elwy, 4, Aled,5, \Vhylar, 6, Dwrial neu Wyrial. Yr wyf yn meddwl mai dyna'r oil o lawforwynion I y Glwyd, neu'r aberoedd y mae enwau arnynt sydd yn rhedeg i'r Glwyd. Y mae'r Aled fel y gwyddoch yn colli ei henw ar ei hymuniad a'r Elwy, lawer o filldiroedd cyn cyrhaedd y Glwyd ac y mae amryw afonydd cryfion yn rhedeg i'r Glwyd heb arnynt enwau ond y manau y byddont yn myned iddynt ar y .pryd, megys afon Ystrad, afon Llanrhaiadr, &c. Bydd gair eddiwrthych yn dderbyniol iawn gan ganoedd heblaw eich ufudd was, RICHARD DERNION. Y TAFODIEITHOEDD. SYR,-Yn y rhifyn diweddaf o'r Gymro, fe ymddangosodd llythyr at y Prifathraw Rhys, ar y mater dyddorol uchod gan un o'r enw "Brodor." Tra yn cytuno a Brodor" yn ei sylwadau ar ranau neillduol o'r sir, nis gallaf gytuno ag ef pan y dywed mai dyma fel y seinir y geiriau canlynol yn Ffestiniog ciant,5 'cianu,' ciaws, nhad, « mam,' &c. Yr wyf wedi fy magn yn Ffestiniog, ac wedi gweithio am fiynyddan yn en mysg, ac ni chlywais unwaith seinio y geiriau uchod ond yn briodol, sef cant,' canu,' &c., ond gan y gweith- wyr o gyfeiriad Penrhyn a Trawsfynydd. Mae tafodiaith Ffestiniog yn perthyn yn nes i sir Gaer- narfon nag ydyw i ochr ddwyreiniol sir Feirionydd, gan fod mwyairif poblogaeth Ffestiniog ya frodorion o sir Gaernarfon. Blaenau Ffestiniog. G. W. JONES. CERDDOUFA GYMREIG I LERPWL. SYR,-Gyda'ch hynawsedd arferol, dymunaf ychydig o'ch gofod i longyfarch fy nghydgenedl yn Lerpwl am eu bod o'r diwedd wedi symud yn mlaen er ffurfio cerddorfa lawn yn y ddinas ac yn 01 a ddeallaf, rhaid i'r oil o'r aelodau fod yn Gymry glan gloyw. Y mae llawer o son a llawer o gym- hell wedi bod o dro i dro, ond dyma'r drychfeddwl o'r diwedd yn ffaith, a bechgyn ieuainc talentog a sobr wedi cymeryd y peth mewn llaw. Cawn wel'd bellach pa gefnogaeth a gant gan luaws Cymry Lerpwl. Y maent yn rhoddi eu hunain dan draul a llafur uiawr, canys nid chwareu ydyw ceisio bod yn feistriaid ar yr offerynau llinynol yma. Deallaf hefyd fod arnynt angen ychydig yn rhagor o ael- odau er gwneud y gerddorfa yn gyfiawn. Dyma gyfleustra ardderchog i'r rhai sydd yn hoff o gerdd- oriaeth, onide ? ac hefyd i rai sydd ganddynt ysgyfaint digon cryf i chwythu y cornet, y trombone, a'r euphonium, &c. Rhoddir cyfleustra hefyd i'r sawl sydd yn alluog i dauysgrifio er rhwyddhau y mudiad, a chael cerddorfa fydd yn anrhydedd i'r Cymry. Ofer fyddai i mi geisio nodi yr amrywiol gerddorion sydd wedi cymeradwyo y syniad o dro i dro oddiar lwyfanau ein cymanfaoedd canu, a lle- oedd eraill. Gyda hynyna dywedaf rhwydd hynt i'r symudiad. Ceir pob hysbysrwydd am y cyfarfodydd, ae hefyd os bydd rhywun yn teimlo ar ei galon danysgrifio, derbynir y cyfryw, yn nghydag ymgeisiaeth am aelodaeth, &c., gan R. S. Roberts, 20, Carisbrock Road, Walton, neu L. J Lewis, 92, Kensington ac y mae eich ufuddaf was yn foddlawn gwneud cymaint fyth ag sydd yn ei allu gyda'r DRUM FAWR.

--:0:--Dyfyniadau o Lyfrau.

[No title]

Advertising

Llangynog.

Eisteddfodwyr Llandudno a…

0 Nodion o'r Rhos.

Ein Genedl yn Mancelnion.

--0--Barddoniaeth.

[No title]

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.

Coleg Duwinyddol y Bala.

-0-Colygfa Ryfedd mewn Eglwys…