Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Cohebiaethau.

--:0:--Dyfyniadau o Lyfrau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-0: Dyfyniadau o Lyfrau. CENEDLAETHOLDEB: gan y PROFF. HENRY JONES.—" Yn fy marn i, mae yr ymgais i (Mirlethu gredafau cynhennid, i ddadwreiddio iaith, i anwy- byddu llenyddia th a hanes, neu gyfyngu dyheadau unrhyw bobl pwy bynag, yn gamgymeriad difrifol, uid yn unig i'r bobl hyny, ond i ddynolryw. Pa gyfaill i natur na olygai y byd yn dlotach o ddifod- iad unrhyw un o'i ffurfiau ar fywyL neu na edrychai gyda goSd ar ddiflaniad y violet, llygad y dydd, neu y rhosyn gwyllt ? Dymunwn ya hytrach eu cadw. Pam ynte y dylai unrhyw generll gael ei diffodd, a chan golli ei neiliduoiion arbenig ei hun, gael ei suddo yn y pentwr dynol cyffredin ? Y mae yn bosibl y gall gwirionedd a daioni, a phrydferth- weh hefyd, gymeryd amrywiaeth di ben draw o ffurfiau teg, ac fod arnynt eisiau holl genedloedd y daear i ddadguddio eu galluoedd. Mae cynydd dadblygiad dyn yn gweithredu, nid er un math o unrhywdeb cyfftedinol, ond er gwahaniaethu o fewn vr undod, y rhai byth a ddeuent yn fwy arwydd- ocaol. Mae perffeithrwydd y dyfodol i fod, nid yn un don, pa mor felus bynag, ond yn gynghanedd lAwn-leisiol llawer o donau. Ni allwn wneud i irwrdd ag amodau cenedl, bach na mawr, heb ysbeilio y byd o ryw ran o'i ystyr a'i werth. Ac yr ydym yn gwneud yn iawn wrth amddiffyn a cheisio dal i fynu y meddianau cenedlaethol hyny sydd yn ein gwneud yr hyn ydym, mewn rhyw ffyrdd yn bobl ar m-ahan.Y Traethodydd. -:0:-

[No title]

Advertising

Llangynog.

Eisteddfodwyr Llandudno a…

0 Nodion o'r Rhos.

Ein Genedl yn Mancelnion.

--0--Barddoniaeth.

[No title]

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.

Coleg Duwinyddol y Bala.

-0-Colygfa Ryfedd mewn Eglwys…