Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

---------Ffestiniog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ffestiniog. CREDAF y dilynir sy:wadau difrifol Mr William Davies, Cae'rblaidd, oddiar y fainc ynadol y dydd o'r blaen, ag effeithiau dymunol, ac yr ymlidir yr arferion annynol yr ymddigrifa (?) ieuenctyd yr at dal ynddynt o'r wlad. Fel y cafwyd prawf yn yr heddlys erybwylledig, y mae y pwlpud wedi deffro i gymeryd rhan ymarferol yn ngwareiddiad y genedl sydd yn codi, a pheidio boddloni ar anog gwrandawyr i weithredoedd da, a cheryddu ym- ddygiadau annheilwng mewn geiriau yn unig. Llougyfarchwn y Parch Henry Jones, Trawsfyn- ydd (y inae y teitl yn gwir weddu iddo) am deil- yngu ohono gydnabyddiaeth ddiolchgar y fainc am ei wroldeb yn annghofio ei frethyn a'i swydd ac yn eydnabod ei ddynoliaeth trwy roddi cymhorth cyf&m&erol i'r heddgeidwad pan yn cyflawni ei ddy- ledswydd. Gresyn na cheid ychwaneg o'r pro- phwydi yn ymarfer yr hyn y maent yn ei bregethu, ac yn rhoddi engraipht ymarferol yn awr ac eil- waith i wyr y seti ar y modd i fyw." Priodolir yr holl helynt a'r rowdyism a ffyna, yn ein plith i'r "hen ddioden." Diau bod yr hen faeden yn haeddu llawer o fai, ond hwyrach y fceichir hi a llawer o bechodau nad oes a wnelo ond ychydig a hwy. Dywed rhyw ddifeinydd craff nad ydyw "yr hen was ei hun yn agos mor ddu a'r parddu a iuchir drosto, ac odid nad ydyw ffrwyth yr heidden ar brydiau yn cael bai lie na bo." Gan nad beth am hyny, diau mai hi sydd yn offeryn i danio y marworyn o ryddid afiach neu benrhyddid, a adawyd ar aelwyd meddyliau bechgynos diniwed y fro gan ryw Boanerges neu gilydd fu yn ym- fflamychu ar hawliau y gweithiwr neu "bydredd awdurdod," ond prin y gellir dywedyd mai hi sydd yn wreiddiol gyfrifol am y tftn gynyrchir. Tybed fod ein hymfflamychwyr cyhoeddus yn rhoddi ystyriaeth briodol i lawer o'r syniadau a honant yn angerddoldeb eu sel dros eu hegwyddor- ion a'u mympwyon ? Ofnaf fod rhai ohonynt wedi bod yn bwrw rhywbeth gwahanol i "fara ar wyneb y dyfroedd," a bod amser wrth lusgo heibio wedi ei adfer i sylw y cyhoedd yn annisgwyliadwy ae yn annymunol. —o— Gofidus gan drigolion y Llan yma ddeall fod yn mwriad y Parch D. D. Williams, B.A., gweinidog pobiogaidd Peniel, adael yr ardal. Llafuriodd Mr Williams yn ddiflino gyda phob achos da yn y gymydogaeth er pan sefydlodd yn ein mysg, a bu amryw flynyddoedd yn aelod ffyddlon a gweithgar o'r Bwrdd Ysgal. Gan mai yn enwadol y gwneir y bwrdd i fynu, diau mai un o'r nii enwad a ddewisir i lanw y bwlch, ond gobeithiaf y cedwir mewn cof hefyd fod Mr Williams yn cynrychioli rhanbarth yn ogystal ag enwad, ac y dewisir un o ranbarth y Llan yma fel ei olynydd. —o— Caiff yr ardal golled drom yn ymadawiad y gor- Uchwyliwr cyffredinol, Mr H. P. Maybury, yr hwn a ganodd ffarwel swyddogol a'r Cynghor Dinesig nos Wener diweddaf. Cynygiodd MrWm. Owen, Isallt, bleidlais ff'urfiol o ddiolehgarwoh i Mr Maybury am ei yni a'i ffyddlondeb yn nghy- flawniad ei ddyledswyddau tra yn ngwasanaeth v diweddar Fwrdd Lleol a'r Cynghor. Cefnogwyd yn wresog gan yr hen gyfaill Mr Oadwaladr Ro- berts, yr hwn a gymerodd fantais ar yr achlysur i hysbysu y Cynghor fod y Bwrdd Lleol cyn ei ym- dd&todiad wedi cydfyw yn heddychlawn a'i swydd- ogion, ac wedi eu parcha yn ol eu haeddiant. Y canlyniad naturiol oedd cynyrehu teimlad o sefydlogrwydd yn mynwes y swyddogaeth, ffrwyth yr hyn ydoedd gweithgarwch diball i ddiwygio y fro yn mhob cysylltiad. Diau fod meithriniad syn- iadau amheus am gymhwysder a gonestrwydd eu x swyddogion yn arwyddocau gwendid anfaddeuol mewn aelodau o awdurdod cyhoeddus, ac ni cheir byth wasanaeth dihoced oddiar eu llaw, tra yn ym- wybodol fod llygaid barcutaidd (?) bodaehod anwy- bodus yn dilyn eu holl symudiadau ac yn pwyso a mesur eu teilyngdod, fel pe buasai tafod ystwyth, Syniadau eithafol a haerllugrwvdd dihafal yn sicr- hau cyfiawnder beirniadaeth Y mae swyddog newydd ar fin ymgymeryd a'i ddyledswyddau, a byddai yn garedigrwydd ag ef i roddi mor lleied ag sydd yn bosibl o anhawsderau ar ei ffordd i gyflawni ei waith a gonestrwydd tuag at ei ethol- aeth ydyw i bob aelod wneud ei aUu i gynorthwyo pob swyddog i gario allan benderfyniadau y Oyng- hor. Hwyrach mai prin y cydnebydd yr oil o'r Cynghor fod hon yn athrawiaeth iachus, ac o bosibl y maentumia rhai mai gwylwyr ydynt hwy ac nid gweithwyr, ond hawyr bach, y mae yr ymddiried- aeth a roddwyd i chwi gan y trethdalwyr yn golygu rhywbeth tra gwahanol. Wedi i Mr Robert Roberts, y cadeirydd, gydnabod gwasanaeth gwerthfawr Mr Maybury mewn ychydig eiriau coeth a chymhwys, gan adgofio y Cynghor ei fod wedi gwneud ei waith yn ardderchog yn ngwyneb Ilawer o ragfarn a chudd-wrthwynebiad, cydna- byddodd gwrthrych y bleidlais y teimladau caredig a ddangoswyd gany siaradwyr, a sicrhaodd hwynt ei fod wedi ymdrechu cyflawni ei ddyledswydd tuag at wreng a boneddig, heb ofni gwg na cheisio gwen, a hyderai y byddai i'r Cynghor gynorthwyo ei olynydd i gwblhau y gwaith oeddys wedi ei dde- chreu. Cneuen lawn o wirionedd ydyw yr aw- grymiad a gynwysa yr anogaeth, a da fyddai i lions a jackals y Cynghor ei hystyried yn ddifrifol. Y mae cydweithrediad calonog yn ganwaith mwy effeithiol nag ydyw adolygiadau sych-ddysgedig ac ensyniadau cyfeiliornus a disail. -0- A oes yna rhyw ddrwg yn nghaws beirniad- aeth cystadleuaeth y seindorf tua Phwllheli wedi'r eyfan, tybed ? Sibrydodd Irân wen wrthyf fod amryw o gerddorion profedig yn anfoddlawn iawn arni, a honir fod rhywbeth tebyg i gam wedi ei Wneud. Nid wyf ar un cyfrif yn cefnogi "dadl Wedi barn," ond os gwnaiff storom glirio'r awyr, ar bob cyfrif gadawer i ni gael y ta,ranau a'r mellt a gynddeiriogrwydd y dymhestl cyn y Nadolig. Yr ydym ni yma yn ber(faith dawel yn nghylch y dyfarniad a theimlwn yn hyderus nad oes hyd yn liod yn mysg doniaa y Blaenau allu i'w gwyrdroi nac i dynu dim oddiwrth y clod teilwng a dder- kyniodd seindorf y Llan gan y beirniad enwog. BARLWYD.

[No title]

Advertising

Cwreichion. :

Cymanfa Ddirwestoi Meirion.

Newyddion Cymreig.

Advertising