Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
---------Ffestiniog.
Ffestiniog. CREDAF y dilynir sy:wadau difrifol Mr William Davies, Cae'rblaidd, oddiar y fainc ynadol y dydd o'r blaen, ag effeithiau dymunol, ac yr ymlidir yr arferion annynol yr ymddigrifa (?) ieuenctyd yr at dal ynddynt o'r wlad. Fel y cafwyd prawf yn yr heddlys erybwylledig, y mae y pwlpud wedi deffro i gymeryd rhan ymarferol yn ngwareiddiad y genedl sydd yn codi, a pheidio boddloni ar anog gwrandawyr i weithredoedd da, a cheryddu ym- ddygiadau annheilwng mewn geiriau yn unig. Llougyfarchwn y Parch Henry Jones, Trawsfyn- ydd (y inae y teitl yn gwir weddu iddo) am deil- yngu ohono gydnabyddiaeth ddiolchgar y fainc am ei wroldeb yn annghofio ei frethyn a'i swydd ac yn eydnabod ei ddynoliaeth trwy roddi cymhorth cyf&m&erol i'r heddgeidwad pan yn cyflawni ei ddy- ledswydd. Gresyn na cheid ychwaneg o'r pro- phwydi yn ymarfer yr hyn y maent yn ei bregethu, ac yn rhoddi engraipht ymarferol yn awr ac eil- waith i wyr y seti ar y modd i fyw." Priodolir yr holl helynt a'r rowdyism a ffyna, yn ein plith i'r "hen ddioden." Diau bod yr hen faeden yn haeddu llawer o fai, ond hwyrach y fceichir hi a llawer o bechodau nad oes a wnelo ond ychydig a hwy. Dywed rhyw ddifeinydd craff nad ydyw "yr hen was ei hun yn agos mor ddu a'r parddu a iuchir drosto, ac odid nad ydyw ffrwyth yr heidden ar brydiau yn cael bai lie na bo." Gan nad beth am hyny, diau mai hi sydd yn offeryn i danio y marworyn o ryddid afiach neu benrhyddid, a adawyd ar aelwyd meddyliau bechgynos diniwed y fro gan ryw Boanerges neu gilydd fu yn ym- fflamychu ar hawliau y gweithiwr neu "bydredd awdurdod," ond prin y gellir dywedyd mai hi sydd yn wreiddiol gyfrifol am y tftn gynyrchir. Tybed fod ein hymfflamychwyr cyhoeddus yn rhoddi ystyriaeth briodol i lawer o'r syniadau a honant yn angerddoldeb eu sel dros eu hegwyddor- ion a'u mympwyon ? Ofnaf fod rhai ohonynt wedi bod yn bwrw rhywbeth gwahanol i "fara ar wyneb y dyfroedd," a bod amser wrth lusgo heibio wedi ei adfer i sylw y cyhoedd yn annisgwyliadwy ae yn annymunol. —o— Gofidus gan drigolion y Llan yma ddeall fod yn mwriad y Parch D. D. Williams, B.A., gweinidog pobiogaidd Peniel, adael yr ardal. Llafuriodd Mr Williams yn ddiflino gyda phob achos da yn y gymydogaeth er pan sefydlodd yn ein mysg, a bu amryw flynyddoedd yn aelod ffyddlon a gweithgar o'r Bwrdd Ysgal. Gan mai yn enwadol y gwneir y bwrdd i fynu, diau mai un o'r nii enwad a ddewisir i lanw y bwlch, ond gobeithiaf y cedwir mewn cof hefyd fod Mr Williams yn cynrychioli rhanbarth yn ogystal ag enwad, ac y dewisir un o ranbarth y Llan yma fel ei olynydd. —o— Caiff yr ardal golled drom yn ymadawiad y gor- Uchwyliwr cyffredinol, Mr H. P. Maybury, yr hwn a ganodd ffarwel swyddogol a'r Cynghor Dinesig nos Wener diweddaf. Cynygiodd MrWm. Owen, Isallt, bleidlais ff'urfiol o ddiolehgarwoh i Mr Maybury am ei yni a'i ffyddlondeb yn nghy- flawniad ei ddyledswyddau tra yn ngwasanaeth v diweddar Fwrdd Lleol a'r Cynghor. Cefnogwyd yn wresog gan yr hen gyfaill Mr Oadwaladr Ro- berts, yr hwn a gymerodd fantais ar yr achlysur i hysbysu y Cynghor fod y Bwrdd Lleol cyn ei ym- dd&todiad wedi cydfyw yn heddychlawn a'i swydd- ogion, ac wedi eu parcha yn ol eu haeddiant. Y canlyniad naturiol oedd cynyrehu teimlad o sefydlogrwydd yn mynwes y swyddogaeth, ffrwyth yr hyn ydoedd gweithgarwch diball i ddiwygio y fro yn mhob cysylltiad. Diau fod meithriniad syn- iadau amheus am gymhwysder a gonestrwydd eu x swyddogion yn arwyddocau gwendid anfaddeuol mewn aelodau o awdurdod cyhoeddus, ac ni cheir byth wasanaeth dihoced oddiar eu llaw, tra yn ym- wybodol fod llygaid barcutaidd (?) bodaehod anwy- bodus yn dilyn eu holl symudiadau ac yn pwyso a mesur eu teilyngdod, fel pe buasai tafod ystwyth, Syniadau eithafol a haerllugrwvdd dihafal yn sicr- hau cyfiawnder beirniadaeth Y mae swyddog newydd ar fin ymgymeryd a'i ddyledswyddau, a byddai yn garedigrwydd ag ef i roddi mor lleied ag sydd yn bosibl o anhawsderau ar ei ffordd i gyflawni ei waith a gonestrwydd tuag at ei ethol- aeth ydyw i bob aelod wneud ei aUu i gynorthwyo pob swyddog i gario allan benderfyniadau y Oyng- hor. Hwyrach mai prin y cydnebydd yr oil o'r Cynghor fod hon yn athrawiaeth iachus, ac o bosibl y maentumia rhai mai gwylwyr ydynt hwy ac nid gweithwyr, ond hawyr bach, y mae yr ymddiried- aeth a roddwyd i chwi gan y trethdalwyr yn golygu rhywbeth tra gwahanol. Wedi i Mr Robert Roberts, y cadeirydd, gydnabod gwasanaeth gwerthfawr Mr Maybury mewn ychydig eiriau coeth a chymhwys, gan adgofio y Cynghor ei fod wedi gwneud ei waith yn ardderchog yn ngwyneb Ilawer o ragfarn a chudd-wrthwynebiad, cydna- byddodd gwrthrych y bleidlais y teimladau caredig a ddangoswyd gany siaradwyr, a sicrhaodd hwynt ei fod wedi ymdrechu cyflawni ei ddyledswydd tuag at wreng a boneddig, heb ofni gwg na cheisio gwen, a hyderai y byddai i'r Cynghor gynorthwyo ei olynydd i gwblhau y gwaith oeddys wedi ei dde- chreu. Cneuen lawn o wirionedd ydyw yr aw- grymiad a gynwysa yr anogaeth, a da fyddai i lions a jackals y Cynghor ei hystyried yn ddifrifol. Y mae cydweithrediad calonog yn ganwaith mwy effeithiol nag ydyw adolygiadau sych-ddysgedig ac ensyniadau cyfeiliornus a disail. -0- A oes yna rhyw ddrwg yn nghaws beirniad- aeth cystadleuaeth y seindorf tua Phwllheli wedi'r eyfan, tybed ? Sibrydodd Irân wen wrthyf fod amryw o gerddorion profedig yn anfoddlawn iawn arni, a honir fod rhywbeth tebyg i gam wedi ei Wneud. Nid wyf ar un cyfrif yn cefnogi "dadl Wedi barn," ond os gwnaiff storom glirio'r awyr, ar bob cyfrif gadawer i ni gael y ta,ranau a'r mellt a gynddeiriogrwydd y dymhestl cyn y Nadolig. Yr ydym ni yma yn ber(faith dawel yn nghylch y dyfarniad a theimlwn yn hyderus nad oes hyd yn liod yn mysg doniaa y Blaenau allu i'w gwyrdroi nac i dynu dim oddiwrth y clod teilwng a dder- kyniodd seindorf y Llan gan y beirniad enwog. BARLWYD.
[No title]
-:0:- Hysbysir marwolaeth Mrs Owen, priod y cen- nadwr Chineaidd, Parch William Owen, Chung- lng, Hankow. Priodwyd hwy yn Harrowgate, Gorph 6ed 1893 ac yr oeddynt yn bresenol yn hYfarfodYdd yr Undeb Cynulleidfaol yn Nghaer- ydd, ac wedi hyny buont ar ymweliad ag amryw Unau yn y Gogledd.
Advertising
o Gytnry, cefnogwch Gydwladwyr. Bwytewch "FOOTBALL O Plo1?, cefntsgweli Gydwladwyr. Bwytewch FOOTBALL •• • Yr ansawdd gofeu ar wyneb y ddaear. O dyflant ?,a ch-vmerwch e'ch pers wadio i brynu ansawdd 8wael. aiflas fel yr Amencanaidd.
Cwreichion. :
Cwreichion. IT Y MAE moesgarwch cardotwyr yn ddibendraw. Aeth un ohonynt at dy boneddwr nad ydyw yn un o'r rhai mwyaf hael ei galon, y bore o'r blaen, yr hwn a'i cyfarchodd a thon dipyn yn uchel, Be gebystr sy gynoch chi eisio yma heddyw ? oni chawsoch chi gardod yma ddoe ?' Do, syr,' atebai y crwydryn, ac mi fuoch mor ffeind wrtha i fel na fedrwn i ddim peidio dwad yma heddyw i ddiolch i chi. Begio'ch pardwn, syr.' t IT Twtsiodd y cardotyn fan gwan y boneddwr a'i foesgarwch ymddangosiadol, a rhoddodd gardod iddo tranoeth wed'yn Pwy sydd heb ei fan gwan? If Onid ydyw hyn yn milwrio yn erbyn y Cor- rupt Practices Act ? Yr oedd ymgeisydd am sedd yn y Cynghor Trefol yn troi swllt yn ol i bob un oedd yn planu tatws yn ei gae y nos o'r blaen, ac yn dweyd, Mi allwch chwithau wneud rhywbeth i minau.' II Yn ol yr Oswestry Advertiser, y mae yr ym- geisydd Ceidwadol am sir Drefaldwyn wedi anfon cylchlythyr at y pleidleiswyt o'r tuallan i'r sir i diolch iddynt am ddyfod yn mlael yn yr etholiad diweddaf i fotio iddo ef, a sylwa y galygydd 'fod Mr Wynne yn erlyn fots fel yr erlyna betris-y mwyaf y mae yn fagio mwyaf boddhaol ydyw.' Rhyfedd, onide ? Diolch i estroniaid am geisio ethol cynrychiolydd i bobl sy'n byw yn y sir. Onid oes eisi.au diwygio yr etholfraint ? IT Y mae un hen fardd wedi cymeryd yn ei ben fod pla yr holidays sydd wedi meddianu cymdeithas yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf wedi niweidio mwy ar grefydd a masnach na dim arall. Y mae,' medde fo, wedi bydoli yr eglwys a llesgau mas- nach;' ac i goroni ei bwnc fe'i clensiodd ag englyn Daliodd No o flaen y diluw-yn ei ffydd I ffoi rbag y distryw A'r un wedd mynwn heddyw Olud dawn holiday Duw IT Pe buasai rhywun yn gofyn i mi am yr esbon- iad goreu ar y dyn glwth (ac yfwr gwin hefyd, os myner), fe fuaswn yn rhoddi fy mys ar engraipht byw yn ngwr yr Hendre. Yr oedd yn cadw mwy o swn nag arfer yn y tren y nos o'r biaen, ac wedi laru ar ei glonc fe apeliodd pregethwr ato gan ofyn, Mr Evans, do you love peace ?' ac atebodd yntau yn deilwng ohono ei hun (canys nis gallodd erioed gyfodi uwchlaw y gyllell a'r fforcen), Yes, green peas.' IT Y mae peth wmbredd o ddrwg yn y byd, ac nid ydyw hyny yn rhyfedd—'does dim ond y 'bobl dda yn marw, os oes coel ar y cofiantau. nid ydyw hyny yn rhyfedd-'does dim ond y bobl dda yn marw, os oes coel ar y cofiantau. IT Daeth boneddiges i'r tren y dydd o'r blaen, ac wedi eistedd i lawr fe sylwodd fod dyn a dryll yn ei law ar ei chyfer. 0 'r anwyl ebe hi mewn dychryn mawr, oes ene ergyd yn y glvu ene ?' Oes, mam,' atebai y dyn, ond mi ro'f it y corcyn yma yn ei ffroen.' Thenciw mawr,' ychwanegai y foneddiges, 'does d:m yn debyg i fod yn ofalus.' If Daeth boneddiges ieuanc spriws i'r gymydog- aeth yn ddiweddar, a lledaenwyd y si ei bod yn werth dwy fil o bunau, ae ni bu yn hir cyn llygad- dynu y llanciau yn mhell ae agos, ac yn eu plith hen lane hynod o set, yr hwn a lwyddodd i enill ei chalon, ac mor sydyn ag y disgyn huddugl i I botes, ymbriododd y ddau anwyl. Ond yn fuan fuan ar ol priodi cafodd yr hen lane ar ddeall nad oedd ei wraig binclyd ddim yn werth dwy fil a binau, heb son am bunau, ac os oes coel ar siarad y cymydogion y mae y cwpl siomedig yn byw yn debycach i'r ci a'r hwch nag i wr a gwraig I T Dywedai Samuel Hughes y Giat er's talm (ac un pert ei gyrhaeddiad oedd yr hen Samuel), pan welodd garwr o dros y mynydd yn dyfod i Goedy- gawen ar ol un o'r morwynion, I Hwde, was, cym bwyll—fe ddyle yr adnod hono fod wedi ei har- graphu ar dalceni merched mewn llythyrenau cyn frased ag y gallai llanciau eu darllen filldir o ffordd.' Sut mae hi, Samuel Hughes?' Wel hono, ngwas i, Y rhai hyn gochel di.' If Lolyn y pentref o'i febyd oedd Robin Hannah, ac yr oedd y person newydd yn bryderus iawn eisiau gwybod pam ei gelwid felly ac un boreu cyfarfyddodd ef ar y ffordd, ac wedi cyfarch gwell iddo gofynodd, Robert, pam mae nhw yn eich galw yn Robin Hannah?" ac ebe Bob, gyda difrifwch mawr, Dynes dduwiol iawn oedd fy mam, syr, ac yn cydymtfurfio yn fanwl a'r gor- chymyn dwyfol, 'ffrwythweh ae amlhewch. I Fel y gwyddooh chi, syr, ystyr y gair Hannah ydyw hanu, ac yr ydw ine wedi hanu o mam, a dene sut y cefes i ngalw yn Robin Hannah.' Yr oedd y person wedi synu, ac y mae yn rhyfeddu at ddysg- eidiaeth Robin. ° IT Aeth cymydog at wr y Felin y boreu o'r blaen i ofyn benthyg ei ful, pan y dywedodd y melinydd, 'Does gen i yr un rnul rwan.' Ond yn mh, n enyd fe nadodd y mul yn yr ystabl, pryd y dywedodd y benthyciwr, '0, beth ydyw hwna,? Onid ydw i'n clywed y mul yn nadu ?' Ddyn,' ebe yntau yn grabet, Ydi yn well genych goelio y mul na mi ?' Yroedd y melinydd wedi gwerthu y mul y diwrnod o'r blaen, ac yn disgwyl i'w berchenog ddyfod i'w nol. CYFARWYDD. o
Cymanfa Ddirwestoi Meirion.
Cymanfa Ddirwestoi Meirion. CYISTALIWYD y gymanfa hon eleni yn Harlech, ddyddiau Mercher a Iau. Llywyddwyd y cvfarfod cyntaf gany Parch D. Davies (Deiui Eden), Harlech, a chaed anerchiadau gan Mr Griflioh Williams, Minffordd, a'r Parch John Roberts, Corris. Fore ddydd Iau, cynaliodd y merched gyfarfod dan lywyddiaeth Mrs Dr Jones, Harlech. Pasiwyd amryw benderfyniadau, ac yn eu plith un yn galw ar ddirwestwyr i ddarparu lleoedd i wrthweithio dylanwad y tafarnau. Yr un adeg caed cyfarfod yn addoldy'r Bedyddwyr. Darllenwyd yr adrodd- iad am y'flwyddyn, a chwynid nad oedd y dosbarth gweithiol yn y rhanau gwledig yn rhoddi'r gefnog- aeth ddyladwy i ddirwest. Ni ddiddymwyd ond un drwydded yn unig yn ystod y flwyddyn. Mabwysiadwyd yr adroddiad, a phasiwyd amryw benderfyniadau eraill ar gynygion Mr W. Roberts, Maentwrog Parch J. Roberts, Corris Mri R. Jones, Abermaw 0. Hughes, Dinmel, ac E. L. Rowlands, Aberdyfi. Cymerodd y rhai can- lynol ran yn y trafodaethau —Mrs Wynn Williams, Dolgellau; Mrs Morgan, Blaenau Ffestiniog; Parchn W. R. Jones, Llanfrothen; W. Pari Huws, Ffestiniog; Rhys Huws, Abermaw: W. Jones, Trawsfynydd; J. Williams, Dolgellau; J. W. Roberts, Llanbedr Mri D. Ifor Jones, Corris T. M. Williams, Abermaw; J. Hughes, Ffestiniog R. Owen, Corris W. Owen, Abermaw, Plenydd, I D. R. Daniel a Ceridwen Peris, Yn nghyfarfod cyhoeddus yr hwyr, llywyddwyd gan Dr Edward Jones, Dolgellau.
Newyddion Cymreig.
Newyddion Cymreig. Fore Gwener, Ilwyr ddinystriwyd prif signal box Gorsaf Ganol Gwrecsam gan dan. Yr un bore, cafwyd William Jones, gof, Colwyn Bay, yn farw ar esmwythfainc yn ei dy. Credir mai clefyd y galon oedd achos ei angau. Yn ol adroddiad pwyilgor "Y Cymry ar wasgar," perthynol i'r Methodistiaid, rhifa'r Cymry yn Llundain a'r ardal 28,349. Caed rhedegfa gychod lwyddianus ar Lyn Morawl Rhyl ddydd Sadwrn diweddaf. Hysbyswyd yn Mwrdd Gwarcheidwaid Caernar- fon ddydd Sadwrn fod dyled y gwahanol blwyfi i'r Undeb yn cyrhaedd 3,000p. Mae'r Parch Wm. Williams, Lambeth, ar fedr cyhoeddi cyfrol o "Adgofion Personol am Mr Spurgeon. Yr oedd y ddau yn gyfeillion mawr. Bydd yn ddrwg gan lawer ddeall fod y Parch E. James, Nefyn, oherwydd afiechyd, yn methu cyf- awni ei ddyledswyddau cyhoeddus. Bydd Cor Meibion enwog Treorci yn cael yr an- rhydedd yn fuan o ganu gerbron ei Mawrhydi y Frenhines. Yr 28ain cyfisol, bydd Cor y Penrhyn, tan ar- weiniad Dr Roland Rogers, yn perflormio'r Elijah yn Methesda. Nos Sadwrn, suddodd yr agerddlong Flagstaff, o Gaernarfon, yn ymyl Caergybi, ond achubwyd yr holl ddwylaw. Ceisia Rhaith Dcsbarth Llandudno gael ben- thyg 7,502p gan Fwrdd Llywodraeth Leol er myned yn mlaen gyda gweithfeydd cyhoeddus. Da genym ddeall fod y Prifathraw Prys, Tre- fecca, yn gwella yn araf o'i afiechyd difrifol di- weddar. Ymgeisiai 14 am addysg rad yn Ysgol Ganolradd y Bala, a'r plant canlynol fuont lwyddianus :-T. K. Hughes, Llandrillo Evan Evans, Cynwyd a J. M. Owen, Corwen. Ddydd Gwener, rhoddodd yr Arglwyddes Wil- liams-Wynn enedigaeth i ferch yn Glanllyn, ger y Bala. Hysbysir fod y fam a'r baban yn dod yn mlaen yn dda. Dywed Mr Wm. Divies, Cae'rblaidd, Ffestiniog, fod rhai o ddynion ieuainc y chwareli wedi eu cymhwyso i fod yn derfysglyd yn ngweithfeydd glo y Deheudir." Ddydd Iau cynaliwyd trengholiad yn Rhyl ar gorph Isaac Hampton, Kidderminster, yr hwn fu farw mewn cerbyd yn y dref y noson gynt. Dy- chwelwyd rheithfarn iddo farw o ergyd o'r parlys. Bwriada Mr Owen M. Edwards '"?gyhoeddi gweithiau Islwyn ar fyrder. Arfaetha hefyd gy- hoeddi nifer o'r clasuron Cymreig am ^brisiau yn amrywio o 2s 6c i 10s 60. Mae rhai pobl mewn tipyn o benbleth pa fodd i wahaniaethu rhwng y dctau Esgob Mostyn. Fe wyr pawb mai gwir berchenog y teitl ydyw Dr Pan Jones. Bwriwch eu bod yn rhoi'r mater at farn Esgob Llanelwy. Y Tywycld am Hydref. -Ceir amryw o ddyddiau teg yn y mis hwn, ond nid felly trwyddo. Tua'i ganol bydd yn fwy ansefydlog—tywydd oer a inutwodog tebyg heiyd y disgyna cawodydd o eira tua'i ddiwedd.—Astrologer. Mae Mr Thomas Jones, Brynmelyn, Llandderfel (cadeirydd y Cynghor Sir), a Mr G. H. Ellis, Pen ymount, Ffestiniog, wedi eu penodi yn ynadon yn Meirion. Rhyddfrydwr goleuedig yw'r cyntaf, ac Undebwr tawel yw'r ail. Ceir plwyf yn sir Benfro heb ond un etholwr ynddo. Pan fo angen rhyw welliant yn y plwyf, mae'r gwr hwn yn trafod y mater gyda'i gydwy- bod, ac nid yn ami y bydd annghytuadeb yn cym- eryd lie rhyngddynt. Yn ynadlys Ffestiniog, ddydd Gwener, cyhudd- wyd geneth o'r enw Mary Hughes, Caer Fali, Pen- rhyndeudraeth, o dori i mewn i Trwynygarnedd- fferm gyfagos—nos Sul tra'r oedd y teulu yn y capel, a lladrata arian a nwyddau oddivno. Gohir- iwyd yr achos am wythnos. Br odor o Abercarn ydyw'r Parch Edwin Lloyd, yr hwn oedd yn gweithredu fel cyfieithydd rhwng y tri penaeth Affricanaidd a Mr Chamberlain y diwrnod o'r blaen. Bu Mr Lloyd allan fel cenadwr tros Gymdeithas Genadol Llundain am lawer o flynyddau, er nad yw eto yn ddeugain oed. Ysgrifena Americanwr Cymreig at Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn gofyn idd- ynt newid y dyddiad i Gorphenaf 4ydd, er mwyn iddynt ddathlu Dydd Gwyl Annibyniaeth yn yr Hen Wlad trwy gael dydd Americanaidd yn nglyn a'r Eisteddfod. Daw hyn dan sylw cyfarfod nesaf y pwyllgor. Ddydd Sadwrn, cynaiiwyd trengholiad yn Man- gor ar gorph Richard Jones, Plas Llechylched, Mon. Dywedodd mab y trancedig iddo weled ei dad yn dringo i fynu ochr truck a gludai wartheg o Tycroes i Fangor, ac iddo syrthio wysg ei gefn gan dderbyn niweidiau tost. Tybid iddo ddod i wrth- darawiad a. phont y reilffordd Dychwelwyd rheithfarn o Farwolaeth ddamweiniol." Ysgrifena Mr Elton R. Ede i'r Times fel y can- lvn —" Er v dichon na fn v nenhnd-fwvtaror r erioed yn bodoli yn Nghymru, eto y mae ei enwi yn galw i gof hen arfer arall, sef ysmygu yn yr eglwys, a chofus genyf i fy mam ddweyd iddi weled hyn yn Nghymru oddeutu 1850. Safai y bwrdd cymundeb yn y fynedfa, a byddai'r fferm- wyr arferol a rhoddi eu hetiau arno, a phan dde- chreuai y bregeth tanient eu pibellau, ac ysmocient heb un syniad o anmharch. Nid wyf wedi gweled yr arfer hwn wedi et gofnodi mewn unrhyw lyfr, ac er nad yw yn ddymunol i'w ail godi, eto gresyn fydda.i ei adael i fyned yn annghof." Ffynongroew.—Os derbyniol genych Mr Golyg- ydd, cewch yn awr ac yn y man ychydig o hanes y gymydogaeth uchod. Mantais i Gymry Lerpwl sydd heb fod yn gwybod am y lie fydd deall mai pentref poblog ar lan y mor oddeutu milldir o orsaf Mostyn yw Ffynongroew. Gofynwyd y cwestiwn i mi ami i dro A oes acw ffynon a'i dw'r yn fwy croyw na ffynonau eraill Cymru?' Ni byddaf byth yn honi fy mod i yn deall y dirgelwch sy'n perthyn iddi, ond byddaf yn awgrymu y gallai arweinwyr crefyddol yr ardal, ond iddynt hwy fod yn gall yn eu cenedlaeth, wneud y tfynon yn at-dyniad i filoedd o bererinion bob blwyddyn. Os yw'r Pabyddion yn llwyddo yn Nhretfynon, paham na allai Protestaniaid Iwyddo yn Ffynongroew ?-Syl- wedydd.
Advertising
Elienau Ithropeth Foesol," (Yr unig lyfr yn ein hiaith ar y gangen hon o wybodaeth). Pris is. Trwy y Post, is ic mewn Ilian, 1/6 Mae pawb sydd i ryw fesur yn hoff o oh-haia Gwirioneddau Ysgrythyrol yn rhwym o deimlo dyddordeb mewn Athroniaeth Foesol. Danfoner at yr Awdwr, Rev. JOHN JONES, Tuebrook, LIVERPOOL AT GymdeitJpau Darllen Gfartraf A ChYIdeiLhasau Llenyddol. There are no more vigorous compositions in the whole field of Welsh Literature than Goronwy's Letters. The epistles con- tain a faithful transcript of Goronwy's life, his difficulties, his feelings, his passionate love of country, his enthusiasm for the Welsh language and literature. ',The Letters are couched in perfect idiomatic Welsh. IVesteriz Mail, Mehefin 21, 1895. Pris Swllt. Trwy y Post, Is. Ie. LJytqyrau Coropy Owen"; u Tan olygiaeth Proff. J. MORRIS JONES, ALA., Ooleg y Brifysgol, Bangor. LERPWL Cyhoeddir gan I. FOULKES, 18, Brunswick Street Dim ond ychydjy F-opiau yn weddiil. Gwaith Barddonol Eben Fardd, Am 7s. Gch. Trwy y Post, gs. YR ydym wedi prymi yr holl Stoc o Waith y JL Prif-fardd Enwog o Glynog, ac er mwyn ciirio, gwerthir hwy wedi eu rhwymo yn hardd mewn Ilian am 7 s. 6ch. yr un—tua haner en pris ar y cyntaf. ISAAC FOULKES, 18, Brunswick Street, Lerpwl. PRIS SWLLT, Trwy Pest ar dderlyniad l8. lie. CANIADAU ELFED." Ail Argraphiad yn awr yn barod. ALLAN O'R WASG, PRIS SWLLT, Trwy y Post, Is. I Je. TRI CHRYFION BYD," 44 PLESER A GOFID," CYBYDD-DOD ac OFEREDD: Tair Antarliwt o waith TWM (R NANT. I FOULKES, 18, Brunswick St., LIVERPOOL. COLEG Y GOGLEDD, BANGOR, -t. (UN C'R COLEGAU YN Y BRIFYSGOL GYMKEIG) Prifathraw: H. R. REICHEL, M.A., Gydag 11 o Broffeswyr, 3 o Ddarlithwyr, a 14 o Athrawon eraill. DECHREUA y Tymhor nesaf Hydref 8, 1895 Parotoir ar gy fer Arholiadau Prifysgol Cyiar ac eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol y Mtiri fysgolion Edinburgh a Glasgow, ac arholiada eraill, Rhoir addysg arbenig mewu Amaethyddiaec ac Electrical Engineering. Mae yn v COIPO- q Normalaidd. y & flla Cynygirdros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerfch o £ 40 1 £ 10 y flwyddyn, i'r rhai fyddo'n ymaelodi yn y Coleg gyda dechreu y Tymhor nesaf. Bydd haner yr Ysgoloriaethau yn gvfyngedig i Gvni- ry. Decqreua yr arholiad am danvnt Medi 17 Ceir pob manylion gan JOHN EDWARI) LLOYD, M.A., Ysgrifenydd a Cho frestrydd. CWMNI YSWIRIOL Y PRUDENTIAL (CYFYXGEDIG). TRYSORFA DROS £ 20,000,000. GENTS addas ychwanegol yn eisiau —Ymofyne a J. W. JONES, P-tuden Office. CaeonrnatiaLi'f Important Announcement. <3- WA LI A jE3QOUSE, 8 & 9, Upper Wmn Place Londoij, W C. T CHANGE of PROPRIETORSHIP The above well-known Private Hotel is now under the immediate Superintendence of the new Pro- prietress, MRS. JONES, who hopes by persona attention to the Comforts of Visitors, again to make GWALIA HOUSE "A HOME FROM HOME,' ,¡ Telegraphic Address—" Gwynva. Loadon."