Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

o Newyddion Cymreig.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

o Newyddion Cymreig. Cyfrifir fod mwy bedair gwaith o Fedyddwyr yn Neheudir Cymru nag sydd yn y Gogledd. Aeth cerbyd tros eneth fach bedair oed, merch Mr Edward Roberts, Pwll Penmorfa, ger Porth- madog, nos Sadwrn, gan ei lladd yn y fan. Mae'r Parch Moses Roberts, Seion, Ffestiniog, wedi derbyn gilwad i fugeilio eglwys y Bedyddwyr yn Ngholwyn Bay. Am werthu diodydd meddwol ar y Sul, dirwywyd John Morris, White Horse Inn, Oefn Mawr, i 20s a'r costau gan ynadon Rhiwabon ddydd Gwener. Cafodd bachgen wyth mis oed ei losgi i farwolaeth yn Queensferry ddydd Iau trwy i'r gwely fyned ar dan. Mae Mr Westlake Morgan, Bangor, wedi anfon cylchlythyr at Gynghorau Sirol Cymru yn galw eu sylw at y priodoldeb o gynyg ysgoloriaethau cerddorol rhad i fyfyrwyr tlawd. Syrthiodd dyn o'r enw Samuel Hawkins i lawr yn farw yn meddygdy Dr Dalton, Llandudno nos Sadwrn. Gan ei fod yn cwyno er's talm ni chynelir trengholiad arno. Yn Ngwrecsam, ddvdd Mercher, anfonwyd John W. Fox, glowr, Poncie, i sefyll ei brawf yn y frawdlys am briodi Martha Roberts tra'i wraig gyntaf yn fyw. Yn ynadlys Colwyn Bay, ddydd Sadwrn, gostyngwyd trethiant y Queen's Lodge o 600p i 300p, a thy arall, eiddo Mr D. Gambie, o 275p i 240p. Cafwyd boneddwr o'r enw Alfred Wolfgang, West Kirby, wedi marw yn ei wely yn y Queen's otel, Llandudno, fore Gwener, mewn canlyniad i y meryd dogn gormodol o laudanum. Wrth anerch torf fawr o bererinion ger Ffytion Gwenfrewi nos Sul, datganodd y Tad Beanclerc ei gred fod pobl Lloegr a Chymru yn dychwelyd at y ffydd Babyddol. Mewn cyfarfod dirwestol mawr gynaliwyd yn Neuadd Gyhoeddus Colwyn Bay nos Lun, tra- ddodwyd anerchiadau gan Mr Herbert Roberts, A.S., a Mr W. S. Caine. Yn ynadlys Pontypridd ddydd Gwener, dedfryd- wyd nifer o lowyr i sefyll eu prawf yn y frawdlys nesaf am fod yn gyfranog yn yr ymladdfa a drodd yn angeuol i ddyn o'r enw Vaughan. Anfonwyd yr eneth Mary Hughes, Cae Mali, Penrhyndeudraeth, i sefyll ei phrawf yn y frawdlys nesaf am dori i mewn i Trwynygarnedd, fferm gyf- agos, a lladrata eiddo oddiyno, gan ynadon Ffes- tiniog ddydd Gwener. Dyma gyffes cffeiriad Pabaidd yn ddiweddar :— Yr ydym yn enill tir yn mhobman ond Cymru ond am y Dywysogaeth, y mae wedi ei melldithio gan Fethodistiaid Calfinaidd, ac nis gallwn wneud dim ohoni." Yn ynadlys Caernarfon ddydd Sadwrn, cyhudd- wyd Joseph Edward Tate o geisio boddi ei hun yn Llyn Llanberis. Gan ei fod wedi bod yn y carchar am wythnos gollyngwyd ef yn rhydd gyda rhybudd i beidio troseddu mwyach. I Traddododd y Parch W. Pari Haws ei bregethau ymadawol i eglwysi ei ofal yn Rhiwbryfdir a Bryn- bowydd, Ffestiniog, ddydd Sul. Dechreua ar ei Weinidogaeth yn Nolgellau ddydd Sul nesaf fel olynydd i'r Parch D. Griffiths. Gosodwyd ceryg sylfaen addoldy newydd y Methodistiaid Cyntefig yn Queensferry ddydd Sadwrn gan Mri J. Roberts, Saltney J. Roberts, Ewloe; Mrs J. Roberts, Allt Amy; a'r Parch Joseph Da vies, Bwcle. Yr oedd y cynulliad yn lluosog. Dichon y daw Ffestiniog mor enwog am ei chloddfeydd aur ag yw am ei chwarelau llechi. Dywedir fod arbrofion wedi dangos fod yr ardal yn gyfoethog o fwn aur, ac y mae dwy gloddfa wedi eu hagor—un yn Llechwedd deiliog, a'r llall yn Manod. Cyfarfyddodd pwyllgor gweithiol Cymdeithas Athrawon Rhyl a Threffynon yn Rhyl ddydd Sadwrn. Bu'r cwestiwn o addysg gelfyddydol dan sylw, ac amlygwyd y farn nad oedd y gwaith a Wneid yn werth y gost yr eid iddo. Penderfynwyd gofyn i Bwyllgor Addysg y sir gyfarfod dirprwy- aeth o'r athrawon. Yn llys trwyddedol Bangor ddydd Sadwrn, gwrthodwyd adnewyddu trwydded y Cross Keys luri am fod y trwyddedwr wedi ei gospi ddwywaith am ganiatau meddwdod yn ystod y flwyddyn.— Gwrthodwyd caniatau trwydded i'r Moon's Hotel, Colwyn Bay, hefyd yr un dydd am yr ystyrid nad oedd angen tafarndy arall yn y lie. Yn Llys Trwyddedol Gwrecsam, ddydd Llun, gofynwyd i'r ynadon drosglwyddo trwydded y Rock Tavern, Minera, i ddyn o'r enw Price, gan fod y tenant blaenorol yn y carchar yn aros ei brawf ar y cyhuddiad o geisio saethu dyn arall. Dywedodd Mr Lester, un o'r ynadon, nad oedd y ty ond caban ar ochr y bryn i dde: u glowyr tlawd wrth ddyfod oddiwrth eu gwaith i yfed ac ymladd," a gresynai nad oedd y gallu ganddynt i ddileu y drwydded. Ond nid oedd y gallu gan- ddynt, ac felly caniatawyd y trosglwydcliad.

Barddoniaeth.

[No title]

Advertising

Syffryn Clwyd.

Undeb Bedyddwyr Cvmreig Lerpwl…

Advertising

ANERCHIAD.

Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr