Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

CWRS Y BYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWRS Y BYD. Angladd Groegaidd, PE digwyddasti ambell walch o Gymro fod yn uno addoldai gorwychaf y ddinas hon rhwng un a dau prydnawn dydd Iau diweddaf, buasai mewn perygl o gael twtsh o ysgafnder wrth Weled dau o'i gyd wlad wyr, nid amgen yr ysgrif- enydd dawnus Diogenes, ac awdwr y golofo hon -y ddau yn sefyll yn mys canoedd eraill, a chanwyll oleuedig tua troedfedd o byd yn Haw pob un. Yr audoldy oedd Eglwys Groeg, Princes Road, a'r amgylchiad gwasanaeth cladda hen foneddwr hybarch o Roegwr o'r enw M. Paspati. Nid oedd y gwasanaeth, pob gair ohono yn y Roeg, lawn mor addurnol ag y gall- asai dyn ddisgwyl; ond yr oedd yn weddaidd, syml, a difrifol iawn. Dygid ef yn mlaen yn lied debyg i'r hen ddull yn ngwasanaeth Eglwys Loegr, pan fyddai'r person a'r clochydd yn cymeryd y cyfan yn en dwylaw eu hunain ac nid oedd yno ddim canu o gwbl. Y ddefod ryfeddaf, yn nesaf at oleuo canoedd o ganwyllau gefn dydd goleu, ydoedd i'r pertbynasau a'r cyfeillion agosaf, ar ol gorpbea y gwasanaeth a chyn cychwyn y crph tua'r fynweut, fyn'd at yr arch, yr hon oedd wedi ei gorchuddio hefo dail a blodeu, a chusanu yinyl y cauad. Nid yw yr eglwys, er yn un o adeiladau harddaf Lerpwl oddifewn ac oddiallan, wedi ei threfnu i gyuwys ond ychydig ganoedd o bobl. Go fychan mewn cydrnariaeth ydyw nifer y Groegiaid sydd yn byw ar lanau y Merswy, er fod amryw ohonynt yn wyr o safle yn y byd ttiasnachol. Y maent braidd yn llai o gorph na'r cyffredin o dylwythau Ewropeaidd ac yn node-iig o dduon o ran gwallt, llygaid, a phryd a gwedd a llawer ohonynt yu dal cyn hardded ag y portreadir eu henafiaid gan y celfau cam. Y mae rhyw chwithdod angerddol yn cerdded trwy waed dyn wrth edrych ar genedl yr hanai Homer ac Alexander ohoni, ac ydoedd yn goleuo ac yn coethi'r ddynoliaeth ganrifoedd ar ganrif- oedd cyn geni cenedloedd cryfaf y presenol. Enwogion Cymru- MAE llawer o Gymry yr oes hon mewn dygn anwybodaeth parth enwogion eu cenedl. Yr oeddwn yn siarad ychydig ddyddiau yn ol a, diacon parchus gyda'r Annibynwyr, ac er fy mawr syndod ni wyddai pwy oedd Ieuan Gwyn- edd na ptia bryd yr oesai. Credai Onomato y dylid diarddel y dyn hwnw, ond barn un arall ydoedd y dylid ei ddiswyddo, a'i droi yn ol i fod fel dyn cyffredin. Ond pe diswyddid pob i fod fel dyn cyffredin. Ond pe diswyddid pob swyddog eglwysig am na wyr am enwogion ei enwad, mae lie i ofni y byddai golwg gwag ar ami i set fawr mewn gwlad a tbre. Fel un ffordd syml i geisio chwalu y caddug hwn fe roddir crybwylliad byr o wythnos i wythnos ar ben y golofn hon am rhyw Gymro o fri a anwyd neu a fu farw ar gyfer yr wythnos hono. Ac ni a ddechreuwn gyda'r Parch Thomas Price (Carnhuanawc), yr hwa a anwyd yn mhersondy Ll»nfihwgel, ger Buallt, Hydref 2, 1788 ac a fu farw yn ficer Cwrndu, sir Faesyfed, Tach. 7, 1848. Cytiierai ddyddordeb angerddol yn hanes a llenyddiaeth Gymru a chydnabyddir ei Hane-i OymTu y K°reu a ysgrifenwyd hyd yn hyn. I'w gym- hwyso at ysgrifenu yr hanes, bu yn teithio llawer yn mysg y Llydawiaid, a dySgodd eu 11 c!1 hiaith. Bu ganddo ran flaenllaw yn mhrif symudiadau Cymreig ei oes ac yr oedd yn un 0 hyrwy idwyr Eisteddfodau y Fenni. Yr oedd Yn arlunydd a cherfiwr cywrain a gallai droi ei law gelfydd bron at unrhyw waith, a medrai 'Wneud telyn a'i chwareu. Cyhoeddwyd dwy gyfrol ddyddorol o'i weddillion llenyddol, tan y penawd Price's Remains, ar ol ei farwolaeth. Dyma y beddargraph buddugol iddo yn Eistedd- fod Porthmadog, 1851 Carnhuallawc, eawr ein hynys !-gwnai'n henw Gwnai'n hanes yn hysbys Gwnai'r delyn syw'n fyw a'i fys 0 !'r mawr wr-yma'r erys! Cynadiedd aruthrol. DAETIJ chwechie chwech !-dau Sais, Brace a Srown, o Newport, 2 Parch Towyn Jones, 3 rhyw Walter Thomas o rywle, 4, Mr Thos. Gee o Ddinbych, 5 a Mr Beriah Evans o bobman, 6- Union gymaint arall ag oedd yno o deilwriaid yn frghyfarfod Tooley Street. A dyma'r oil sy'n aros o'r symudiad chwyddedig a elwici Cyngrair Ithyddfryciwyr Cymru Am y pedwar cyntaf, ic cared doeth yr encilion." Gresyn na chofiai r Gee mai nid argraphwyr cyflogedig Dinbych ydyw Hhyddfrydwyr Cymru. Ac fe seliwyd tynged y Cyngrair pan benodwyd Mr Beriah Gwynfe Evans yn ysgrifenydd iddo. Pe buasai 'n gan y Cynrair Rhyddfrydol rym y behemoth, l»is gallasai oroesi'r weithred hono. Mae esgyrn Haddedigion y brawd chweiwsych hwnw yn dangos ol ei daith yn yr anialwch—Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cyfaill yr Aelv.yd, Dafydd y Genedl, ac eraill tra yn awr y gellir chwanegl1 v mudiad hwn i geiaio rhoi llyffethair a mwgwd ar Ryddfrydiaeth Cymru. Dim Perygl. Y MAE swyddog meddygol sir Forganwg, Dr Y Williams, newydd gyhoeddi llyfr dyddorol fros ben, er ar destyn mor ddiflas a saiie iechydol Forganwg. Yn un man, dywed yr awdwr ?0(1 heintiau yn cael eu hau trwy gydgynuli- ^au mewn marchnadoedd, capelau acysgolion." Wrth gyfeirio at hyn, ymffrostia un newydd- laclur Toriaidd na chyfelria at eglwysi. Na 9 1 11 ^eir, debyg os nad yw Eglwys Loegr yn forganwg yn wah nol i'r hyn ydyw yn siroedd e^aill Cymru, yr unig berygl fyddai i deulu'r clochydd roi'r clefyd i deulu'r person. Anwyd nid haint a geir debycaf yn Eglwysi Cymru. Dwyn Dyfroedd Cymru- YDD yr un afon gwerlh son am dani yn gbyrnru yn mhen ychydig flynyddoedd os pery trefi mawrion Lloegr i'w dyhysbyddu y naill ar ol y Hall. Welwn ni ddim bai ar Lerpwl am sychu Llanwddyn ond meddyliwcb mewn difrif am Birmingham, tan arweiniad Mr Joseph Chamberlain, yn troi yr afon Wy i'w biser ei hun Ac yn awr dyma Llundain yn myn'd i dapio Llya Llangors, ger Trefeca, ac aberoedd yr Wysg. P'run nesaf, tybed Onid yw'n rhyfedd fod y Ddyfrdwy yn cael llonydd gan y lladron dwfr Seisnig ? Ymddengys fod llygad y Brifddir as sychedig ar ddyfroedd grisialasdd Cymru ers' rhai blynvddau bellach, a bod Mr Binnie, peirianydd ei Chyng- bor, wedi gwaria amser ac arian lawer er chwilio allan am y ffynonellau puraf a'r cyflenwad hel- aethaf. Ffrwyth ei ymchwilyw cynllun arutbrol i ddwyn i Lundain gyfanswm o 415,000,000 galwyn o ddwfr bob dydd. Y mae i'r cynllun bum adran, a byddai yn ymyraeth ag afonydd yn siroedd Aberteifi, Brycheiniog, Maesyfed a Threfaidwyo—rsef yr Wy, yr Wysg, yr Hafren a'r Towy. Gellir cymeryd y naill adran ar ol y llall mewn llaw a'r gyntaf a fyddai aberoedd y Wysg, y rhai sydd 600 troedfedd uwch arwyneb y mor. Yma cynullid y dwfr i gronfa fawr ar y fan y saif Llangors yn awr, yn yr hon y gellid ystorio 38,000,000,000 galwyn, a thynu 182 miliwn o alwyni ohoni bob dydd. Yr ail adran fyddai codi argae 166 troedfedd o uwchder tros yr afon Irfon, tu ucha pentref Llanynis. Byddai yr argae hon yn fwy na'r un ar draws y Fyrnwy, a ffarfiai gronfa i gynwys 31,000,000,000 o alwyni, a gellid dibynu arni am 135 miliwn bob dydd. Byddai y tair cronfa eraill yn llai. Y gyntaf ar yr Edwy (mae Aberedwy yn Muallt yn hysbys i'r Cymry ar gyfrif ei gysylltiad a diwedd Llewelyn ab Gruffydd), abl i gyflenwi 18 miliwn o alwyni yn y dydd yr ail, ar yr Ithon (yn yr un ardal), 37 miliwn yn y dydd a'r olaf, ar yr afon Wy, bedair milldir uwchlaw Rhaiadr, o'r hon y ceid 43 miliwn o alwyni yn y dydd. Byddai'r draul o ddwyn y diluw hwn i Lun- dain, yn ol amcangyfrif Mr Burnie, yn cael ei gynorthwyo gan ddwfr-beirianwyr enwog megys Mr Deacon, cyn-beirnianydd Lerpwl, yn agos i ddeugain miliwn o bunau. Yr anbawsder celf- yddydol penaf fyddai gyda croesi'r Hafren, lie y gwneid pibell 13t milldir o hyd ar lun syphon. Mae'n syn na fedrai celfyddyd a gwyddoniaeth, gyda'u holl wrhydri a'u buddugoliaethau, ddy- feisio rhyw foddion i godi dwfr pur o'r ddaear, neu i groywi dwfr y mor. Yn niffyg byny (wrth gwrs rhaid i ddinasoedd mawrion gael dwfr) ni ddylai Seneddwyr Cymru, nac edmygwyr tegwch natur, sefyll yn ddidaro yn ymyl i weled gwlad hardd yn cael ei hagru a'i dyfetha.

0 Fin y Llyn.

--0--Enlliblo Meroh a'r Canlyniad.

•— ; o • lawn am erlyniad…

! Hociion o'r Ddinas.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Cynadiedd Esgobaeth Llanelwy.

-0-Cair am Cymro o California

--0-Clawdd Offa a'r Cyffiniau.