Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. WEDI i mi grybwyll bythefnos yn ol am organ fwriadedig Capel Mawr y Rhos yma, a gofyn pwy fydd y chwareuwr, derbyniais ddau neu dri o lythyrau i'm hysbysu eu bod a'u llygaid ar Miss yr hon sydd organydd gampus meddent hwy. Eraill a ddywedant na chant neb gwell na'r hen chwareuydd. Y cwestiwn sydd yn codi i'm meddwl i ydyw, a all, neu a fedr merch chwareu organ ? Yr wyf yn gwybod y gallant chwareu piano o'r goreu, ond peth arall ydyw chwareu organ. Yr wyf wedi clywed na fedr merch chwareu organ yn briodol mewn capel nag eglwys. Pwy rydd i mi oleuni ar hyn ? Mae cwyn gyffredinol trwy y Dyffryn yma fod pregethwyr yn tori eu cyhoeddiadau. Dau neu dri yr wythnos hon, ac un o'r rhai hyny yn un o bregethwyr mwyaf addawol Cymru. Beth yw'r mater ar bobl, dywedwch ? Eithaf gwaith peidio rhoi cyhoeddiad iddynt ar ol iddynt ein xiomi unwaith. Os dyna ydyw siampl y bugail, beth ddisgwylir gan y praidd ? Hei ho Dyma Raglen Eisteddfod Gwyr Ieuainc Gwrecsam allan o'r diwedd, a golwg iraidd arni. Llongyfarchwn hwy eleni eto. Ond beth ddywed yr urdd Gowlydaidd a Phen- dantyddol am destyn y Gadair tybed V Mae'r bechgyn hyn yn fwy rhyfygus na Phwyllgor Llandudno. Drama am Gadair Yn araf deg, os gwelwcb chi'n dda. Maent wedi mynu beirniaid newyddion hefyd, mi welaf. Ond pa'm y dewisasant ddau feirniad o'r un stamp Dau o Gymreigwyr Rhydychen ydyw'r rbai hyn, er y dywedir i mi nad ydyw Cymraeg Rhydychen yn wahanol iawn i ryw Gymraeg arall, ond mai ail-gyfodi ben Gymraeg dri chan mlynedd yn ol y maent. Wel, mae darn o'r Cymraeg hwn w hefyd yn y rhaglen hon, ac os dyma ydyw Cymraeg Rhydychen, yn mhell y bo. Am y testynau cerddorol, hwyrach y gellid eu gwella mewn rhai manau, ond lied dda ar y cyfan. Gwelaf fod y gwobrwyon wedi codi hefyd. Ac am y tri llywydd, wn i ddim beth i feddwl yn iawn. Dau Sais, onide, a'r llall yn Ellmyn. Dyma'r tri Cymro sydd yn myn'd i lywyddu yn yr Eisteddfod, a synwn i ddim nas gellir cael gwell Cymraeg ganddynt bwy na chan Ddicsioniaid Gwrecsam. Gwelaf hefyd fod y Pwyllgor wedi bod yn ddoeth iawn yn eu dewisiad o gadeirydd ar ol Eryrog, yn mberson Mr R. Bryan, o'r Aipht. Bachgen gwladgarol ydyw Robert, a bydd yn sicr o fod yn gaffaeliad mawr i'r bechgyn pybyr. Meddianer hwythau a deuparth o'i ysbryd llengar a gwladgar. Nos Sadwrn. SAMWEL JONES.
--0--Y Cynghrair Cenedlaetholl
--0-- Y Cynghrair Cenedlaetholl YN Amwythig ddydd Mercher, cynaliwyd cyfarfod o'r Cynghrair uchod, pan yr oedd yn bresenol:— Mri Thomas Gee W. H. Brown, Casnewydd W. Brace, Casnewydd Parch Towyn Jones, Garnant; Mri Morgan Evans, Caerdydd a Beriah G. Evans. Etholwyd Mr Gee i'r gadair, a phenderfynwyd ar gynygiad Mr B. G. Evans fod gwyr y wasg i gael bod yn bresenol.-Bu cryn drafodaeth parth enwi'r symudiad-niyiiai gwyr y De ei alw yn Gynghor, a gwyr y Gogledd ei alw yn Gynghrair. Wedi ym- gyndynu yn hir, penderfynwyd ei alw yn Gyngh- rair Cenedlaethol Cymru Fydd. Yn ol penderfyniad cynadledd Llandrindod, yr oedd Cymru i fod dan un Cynghrair, ac i gael ei rhanu yn bedair talaeth, pob un yn meddu ei bwyllgor gweithiol, aelodau yr hwn oedd hefyd ar y Cynghrair Cenediaethol. Mynai gwyr y De fod y talaethau hvn i gael eu galw yn gynghreiriau, a thrafodwyd y mater yn frwd. Yn ddilynol, pen- derfynwyd nodi yn yr adroddiad fod cynrychiolwyr y De yn ffafr yr enw 'eynghrair,'a chyurychiolwyr y Cynghrair Genedlaethol yn ffafr yr enw pwyll- gor gweithiol y dalaeth." Penderfynwyd anfon copi o rag-gynllun y cyfansoddiad i holl aelodau Cynadledd Llandrin fod, ac i gael eu barn arno mewn cynadledd sydd i'w chynal eto.
--0-Ffestiniog.
--0- Ffestiniog. WYTHNOS dipyn yn eisteddfodol oedd yr wythnos ddiweddaf yn yr ardal hon. Byddaf weithiau yn teimlo yn barod iesuro wrth y gair Eisteddfod gan mor gommon y mae wedi myn'd os bydd cyfar- fod eystadleuol yn cael ei gynal yn Ffridd Storfil, neu gyfarfod llenyddol bychan bach yn y Babell bydd y murleni a hagrant ein parwydydd yn hys- bysu y cyhoedd mai EISTEDDFOD ydyw y naill a'r llall ac am y cadeiriau a'r medals (lledr ac arian Bristol) y maent wedi myn'd mor lluosog a chyff- redin ag ydyw mwyar duon yn Medi. I beth y soniwn am y cadeiriau enillodd Eben Fardd, Hir- aethog, Caledfryn, Emrys, Nicander, Hwfa, Dyfed, ac Elfed, y mae un o hogiar dre yma yn gallu ym- ffrostio ei fod yn drech na hwynt oil yn rhif y cadeiriau a enillodd, ae efe eto ond bachgen ieuanc gwylaidd. Am y medals sydd yn ei feddiant a'r coronau a addurnant ei goryn, nid oes ball arnynt. Wel, bu yma ddwy Eisteddfod (bondigrybwyll) yr wythnos ddiweddaf, sef eiddo gwyr y Troed yn mlaen, a throed yn ol, a throed yn troedio'n fuan, yn yr hon yr oedd cynrychiolaeth barchus o wahanol enwadau Ymneillduol y fro a'r Eglwys Sefydledig yn bresenol. Dywedir i mi mai daliad go faith a gawsant nos Wener, a bod dydd Eistedd- fod y Temlwyr Da wedi gwawrio cyn iddynt fedru ymwahanu. Yn yr Eisteddfod ddiweddaf a gynal- iwyd brydnawn a nos Sadwrn, liywyddwyd y cyf- arfodydd gan y Parch Samuel Owen, Tanygrisiau, a Mr W. Hughes, Porthmadog, ac arweiniwyd yn fedrus yn y ddau gyfarfod gan y bardd ieuanc gobeithiol Bryfdir, doniau yr hwn oedd fel llif yr afon. Efe hefyd eaillodd y goron am y bryddest fuddugol. Coronwyd ef yn ol defod ac arfer (y llys- oedd Affricanaidd, y mae n debyg), ac anerchwyd ef gan Barlwydon, Glyn Myfyr, Morlwyd, a llu o feirdd eraill. Gyda Haw, ai tybed nad ydys yn rhy dueddol i chware plant" gyda'r hen ddefod a fu ar un adeg yn barchus ac uchel ei bri yn amser ein cvudadau ? Cor Talsarnau, dan arweiniad Mr Thomas, a enillodd y brif wobr am ddatganu, a ch adeiriwyd yr arweinydd mewn cadair dderw hardd. BARLWYD.
I Gohebiaethau.
Gohebiaethau. COFIANT Y PARCH EDWARD MORGAN, DYFFRYN. SYR,—A fyddwch chwi mor garedig a chaniatau i mi trwy eich colofnau ofyn am help i gasglu yn nghyd ddefnyddiau y cofiant uchod ? Mae llawer or rhai a allasent estyn y cymhorth helaethaf wedi dilyn Mr Morgan i'r Orphwysfa ond y mae nifer da yn aros ato ,Vn ngwahanol siroedd De a Gogledd Cymru, yn gystal ag yn nhrefi Lloegr, yn gwybod llawer o'r ffeithiau yn ei hanes y dylid eu dwyn i mewn i'r cofiant. Pwy bynag y mae ar ei law fy nghynorthwyo, byddai yn dda genyf gael gair oddiwrtho yn ddioed. 1. Hoffwn gael llythyrau a ysgrifenwyd ganddo. Os anfonir i mi rai o'r cyfryw, mi a gymeraf gopi ohonynt, ac a'u dychwelaf yn ddioed i'r neb a'u danfono. 2. A oes gan rywun nodiadau neu adroddiadau o'i areithiau ar yr Athrofa neu ryw fater arall ? Hoffwn gael y rhai hyn ? 3. Teimlwn yn ddiolchgar am hanes oedfeuon. nodedig iddo mewn unrhyw fan; hanes ymweliadau o'i eiddo a Chyfarfodydd Misol a Chymdeithasfa- oedd yn y De a'r Gogledd; mewn gair, unrhyw ffaith gysylltiedig a'i hanes. Dymunwn wasgu ar feddyliau cyfeillion ac ed- mygwyr Mr Morgan y rhaid iddynt estyn y cym- horth sydd yn eu gallu at barotoi ei Gofiant o fewn yr ychydig wythnosau nesaf, neu ynte y bydd yn 01 pob tebyg yn rhy ddiweddar am byth. Mi wnaf fy ngoreu gyda'r defnyddiau sydd wrth fy Haw cyn gynted ag y caniateir i mi yr hamdden angen- rheidiol i'w gosod yn nghyd.—Yr eiddoch yn gywir, GRIFFITH ELLIS. 10, Pembroke Road, Bootle. "CYFARFOD MISOL LIVERPOOL A HAD I YR EGLWYSI." SYR,—Cymhwys ac amserol oedd gwaith eich gohebydd Aelod o'r C.M." yn dwyn i sylwgwes- tiwn yr iaith a chynllun y Cyfarfod Misol i ddod allan o'r anhawsder. Credem y buasai rhyw "wr profiadol o'r rhai yr apeliai atynt yn gwneud sylw o'r mater yn y papyr diweddaf, ond gan na wnaeth neb, a rhag i'r peth basio yn ddisylw, can- iatewch i'ch ufudd was ddweyd ei farn arno. Tyb- iwn nad yw awgrym y C.M. na'r "Aelod" yn cyfarfod yr anhawsder yn ei holl agweddau, er y gallai fod peth daioni yn mhob un ohonynt, ond yn ddiddadl yn y diweddaf. Y mae dweyd y penau yn Saesneg yn addefiad o'r fath egluraf y dylai y bregeth fod yn yr un iaith, ac felly elai y gwasan- aeth yn wasanaeth Seisnig, a dyna ddiwedd ar Fethodistiaeth Gymreig yn Lerpwl. Annghyfiawn- der a'n cyfeillion Seisnigaidd fyddai disgwyl iddynt dderbyn y briwsion a syrth oddiar fwrdd y rhai !wynhant athrawiaethau breision a melusion yr Efengyl, ac nid hir y goddefent yr annghyfiawnder. Pendraw y symudiad o angenrheidrwyddydyw troi y gwasanaeth yn gwbl Seisnig ac os bydd am- gylchiadau yn galw, os bydd ychydig wir Gymry yn aros, troi yn ol drachefn i ddechreu y bennod a sefydlu gwasanaeth Cymreig hollol, neu gario y gwasanaeth yn mlaen yn Saesneg a dweyd y penau yn Gymraeg. Mae awgrym Aelod yn dda mor bell ag y mae'n myn'd, sef dysgu Cymraeg i'r plant gartref ond nid i'r arferiad. o'r iaith ynddo ei hun, nac i deyrngarwcb y Cymry iddi, yr ydym i ddiolch fod yr iaith Gymraeg yn fyw heddyw. Nid yw dysgu iaith, pa iaith bynag, yn sicrhau yr amcan uchaf sydd i iaith-trosglwyddiad meddwl a ffurf- iad drychfeddyliau yn yr iaith hono. Buasai'r Gymraeg wedi marw er's canrifoedd onib'ai am y drychfeddyliau a ffurfiwyd ynddi, am y syniadau barddonol hedegog a wisgwyd a'r hen Omeraeg odidog, a'r pregethau a draddodwyd gan gewri y pwlpud Cymreig yn ystod y 150 mlynedd diweddaf. Mae'r arferiad o iaith yn myned yn is na'r tafod ac yn ddyfnach na'r deall-mae iaith y gwir Gymro wedi gafael yn hanfodion ei bersonolaeth, yn ei feddwl, ei serchiadau, a'i reswm. Onid ffaith yw mai y meddylwyr cliriaf a dyfnaf, a mwyaf goleuedig, yw y Cymry goreu o ran iaith ? Gwyddom am engreiphtiau yn Lerpwl heddyw o bersonau bychain o wybodaeth a gallu, rhai na feddianwyd gan un syniad goruchel, ac na threiddiasant erioed o ran deall na myfyr yn ddwfn i unrhyw wirionedd nac athrawiaethj eto rhai'n yw'r Cymry gwaelaf-nis gallant siarad dwy frawddeg na bydd rhyw air Saesneg yn ymgripio i mewn, ac y maent yr un fath gyda'r Saesneg, fel y mae'r ddwy iaith yn un gymysgfa ganddynt, nas gellir galw y naill na'r Hall yn Saesneg na Chymraeg. Collodd y Gwydd- elod eu hiaith—paham ? Am eu bod wedi ymddy- eithro o ran eu meddwl i'w llenyddiaeth yn eu hiaith eu hunain, a bod eu dysgawdwyr, y rhai a ffurtiant eu syniadau yn y presenoi, yn arfet iaith estronol. 0 ganlyniad, maent wedi colli eu cenedl aetholdeb. Mae'r un peth yn wir i raddau pell am yr Ysgotiaid ond hyd yn hyn mae corph cenedl y Cymry yn gydnabyddus a. Ilenyddiaetb eu gwlad mae dysgawdwyr y bobl er adeg y Diwygiad Meth- odistaidd wedi creu byd newydd o syniadau yn meddwl y genedl—mae'r genedl yn meddwl yn yr iaith Gymraeg, mae ei hacenion a'i geiriau wedi myned yn rhan hanfodol o'r gwir Gymro. Mae pob syniad newydd, pan enir ef, yn cael ei wisgo mewn gwisg o Gymraeg pur a thra parhao y Cymro i drafod yn ei feddwl ffeithiau a gwirion- eddau mawr creadigaeth, rhagluniaeth, a datgudd- iad, yn Gymraeg, fe bery'r iaith ac fe luosogir drychfeddyliau a damcaniaethau newyddion yn meddwl y Cymro, ac fe ddeuant i'r cyhoedd mewn Cymraeg diledryw. Credwn o ganlyniad nad dysgu'r iaith Gymraeg yn unig sy n eisiau i'r plant. ond trosglwyddiad o wirioneddau a ffeithiau mawr a phwysig i'w meddyliau yn yr iaith hono yn y fath fodd ag y byddo iddynt ymafael yn y meddwl a bod yn ffynonell ymborth iddo am oes gyfan. .Unwaith y cymer gwirionedd afael yn meddwl y ♦plentyn yn Gymraeg, yn yr iaith hono yr ymwna y meddwl a* ef o hyny allan, ac yn Gymraeg y traetha et dafod ei syniadau arno. Effaith cym- ysgu'r iaith mewn pregeth yw creu bastarddiaid o syniadau, o leiaf mewn ystyr ieithyddol, yn medd- yliau rhai nad ynt yn Gymry da. Mae r un peth yn wir eto ag yn Nhvvr Babel gynt-mae effaith cymysgu ieithoedd yn rhwystro pobl i ddeall eu gilydd (mewn mwy nag un ystyr). Dylem amcanu cael dealltwriaeth eglur rhwng holl aelodau y M C Cymreig a pheidio gwneud bastardd ohono, na bydd y naill beth na'r llall. Os Saesneg ddealla y gwr neu y ferch ieuanc oreu, elont at y Saeson ar bob cyfrif, ond dylem ni amcanu cynal i fynu eglwysi Cymreig bur. Mae'r llifeiriant o feddwl yn yr iaith Gymraeg sydd wedi gordoi Cymru er amser Harris a Row- lands drwy offerynoliaeth y pwlpud Methodistaidd yn llanw cryf yn meddyliau miloedd o Gymry, ond drwg genym orfod addef fod y dyfroedd yn cael eu llwydo i raddau gan ddyfroedd Seisnig y races, cricket, a'r bel droed, yn nghyda llanw Ilenyddiaeth isel yn Saesneg sy'n cael ei fwrw ar Gymru y dyddiau hyn. Nid y Gymraeg ydyw iaith y foot- ball, races, &c., ac os caiff y pethau gwael hyn fwy o afael ar serch Cymry ieuainc na Ilenyddiaeth eu cenedl a'r Beibl Cymraeg, a'r pregethiad ohono yn yr iaith eu ganwyd, bydd i'r iaith Saesneg hefyd tyned a lie yr iaith Gymraeg, dechreuant feddwl yn Saesneg am y pethau aeth a'u bryd, a llefara eu tafodau am hyn a phobpeth arall yn yr iaith a wisga hoff fyfyrdodau eu calon. Yr hyn sydd I arnom ni eisiau ydyw teyrngarwch di-ildio at ein hiaith, traethiadau grymus ac argyhoeddiadol o wirioneddau a ffeithiau mawrion moeseg a chrefydd, a'r hen bwerau "-dylanwtdau grymus Ysbryd I Duw i roddi ei oleuni a'i esboniad Ei hun i'r meddwl ar y pethau a draddodir, nes llyncu i fynu fyfyrdodau ein pobl ieuainc pan ar eu penau eu hunain. Os traddodir y cyfryw yn ddylanwadol yn Gymraeg, meddyliant yn Gymraeg, ymresymant t yn Gymraeg, tynant gasgliadau yn Gymraeg, ac fel j canlyniad siaradant yn Gymraeg. Cyhyd ag y pery y Cymro fel Cymro yn grefyddol,fe bery ein hiaith, a dim llawer yn hwy. Ond credwn yr awgrymir i ni gan Ragluniaeth y Nef fod gan Dduw amcan gyda golwg ar y Cymro a'i iaith mewn ystyr gref- yddol. Beth yw'r trefedigaethau o Gymry crefyddol geir yma ac acw wrth y miloedd dros gyfandir yr America ? ie, yn Affrica sefydlirachosion crefyddol Cymreig, heb sor: oih ein heglwysi Cymreig cryfion yn nghanol y Saeson yn Llundain, Lerpwl, Manchester, &c —beth ydynt ond prawf fod crefydd yn ei gwedd Gymreig i fyw yn hir, ac o ganlyniad y Gymraeg. Gan hyny, bydded i'n pregethwyr a'n swyddogion o bob gradd gydgrynhoi eu holl ymad- ferthoedd i roddi ymborth i'r meddwl Cymreig, a hwnw o natur Gymreig-y cyfryw ymborth a wna i Fethodistiaeth eto fyned rhagddi mewn grym a dylanwad am ganrifoedd, ac nid gwneud rhyw aderyn brith ohoni, na bydd y naill beth na'r llalT, ac oherwydd hyny yn farwolaeth i'r dullwedd Gymreig o grefydda ac yn angau i'r iaith roddodd fodolaeth i Fethodistiaeth Gymreig yn mhlith enwadau Cristionogol y byd. D.R. PABYDDIAETH A CHYMRU. SYR,—Gyda dyddordeb y darllenais eich hysgrif ar y testyn uchod yn y Cymro am Medi 26ain, ac yr wyf yn tybio fod yr awgrymiadau rhybuddiol a wnewch yn hynod amserol. Y mae y frawddeg gyntaf o'r ysgrif yn hynod felly i'm tyb i, yn enwedig i'r rhai hyny o'm cvdgenedl sydd yn honi bod a gofal crefydd y genedl arnynt, gan fod y Babaeth wedi penderfynu gwneud ymgais deg i adenill y Cymry i'w mynives, nid yw yn debyg yr ildia yn fuan gan nad yw ildio i rwystrau yn ei hanes hyd yn hyn. Teimlwn dipyn o naws gwawd- iaith yn eich ysgrif pan y gofynech Pa le y buont cvhyd heb wneud yr ymgais?' Ond efallai fod y rheswm dros yr oediad yn hanes y genedl Gymreig, -y bywyd crefyddol fu yn y genedl yr oesoedd diweddaf. ac nad yw ynddi, yn yr un wedd o leiaf, ar hyn o bryd. Y mae yn amlwg fod y rhai hyny sydd yn arweinwyr crefyddol yn mhlith pob enwad, yn treulio y rhan helaethaf o'u cyfarfodydd cref- yddol cyhoeddus, o leiaf, i drafod amgylchiadau allanol crefydd, yn brawf lied eglur fod y pethau hyn yn fwy pwysig ^ganddynt na bywyd mewnol crefydd. ac na chrefydd ymarferol rhwng dyn a dyn. Addefir yn rhwydd gan bob plaid grefyddol fod miloedd o Gymry na welir mo honynt mewn un lie o addoliad ar hyd y blynyddoedd ond mewn claddedigaeth, neu gyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf. A fu gweinidog un o'r enwadau Protes- tanaidd yn ymweled a gwahodd rhai ohonynt i newid eu ffordd o gwbl ? Dywedir gan lawer na buont erioed. Mewn cyfarfod cyhoeddus un o enwadau Ymneillduol Cymru a gynaliwyd ychydig wythnosau yn ol, bu trafodaeth bwysig ar dalu,— cvdnabod am ddarllen papyrau ar bynciau yn dwyn perthynas ag amgylchiadau ac arholiadau neillduol yr enwad, a chymeradwywyd i dalu cydnabyddiaeth neillduol am y cyfryw bapyrau. Ai felly yr oedd yr enwad hwn yn gweithredu 60 neu 70 mlynedd vn ol pan yr oedd y wlad yn fyw i Gristionogaeth ? Nage, yn ddiau, ond llafur cariad oedd yr oil. Yn ordeiniad y Tad Mostyn, addawai ef yn ddifrifol wneud pob peth tuagat hyrwyddo y Babaeth, ac ymwadu a phob peth a fyddai yn debyg o fod yn rhwystr i lwyddiant ei genadaeth yn Nghymru a dianmheu y cyflawna ei adduned yn llythyrenol, os parha yn y dyfodol fel y bu yn y gorphenol, canys bywyd o hunan-ymwadiad y mae y Tad Mostyn r wedi ei dreulio ar ei hyd ac ychydig o hyny welir yn ngwaith swyddogion eglwysig yr enwad y cyfeiriwyd ato uchod, ac ychydig sel a gofal sydd yn cael ei ddangos gan eglwysi Protestanaidd at esgeuluswyr moddion gras ein cenedl yn Nghymru. Onid ydyw y difrawder cywilyddus yma yn rheswm dros ymgais bresenol y Babaeth, meddwch chwi ? Oddiar adnabyddiaeth ag amryw offeiriaid Pab- aidd yn y ddinas hon a'r amgylchoedd, yr .wyf yn meddwl y deil eu hesiampl a'u llafur i ddyrchafu moes ac amgylchiadau pobl eu gofal, i'w gydmaru yn lied dda ag eiddo gweinidogion enwadau Crist- ionogol eraill ein dinas, ac yn arbenig eu llafur diymffrost ag eiddo y gweinidogion Cymreig. Yehydig iawn o weinidogion Cymreig ydwyf wedi eu cyfarfod yn ystod y 15 mlynedd diweddaf yn y lleoedd isel-courts ac alleys y ddinas, lleoedd y mae canoedd o'n cydgenedl yn byw, tra y byddaf beunydd yn cyfarfod offeiriad Pabaidd. Nid wyf yn qwybod fod un pregethwr Cymreig o un enwad, yn byw, ac yn llafurio ond ychydig, os dim, rhwng Mill Street yn y de, a Stanley Road vn y gogledd, ac afon y Merswy. Eto dywedir fod yn y rhan yma o'r ddinas lawer iawn o Gymry yn preswylio, ac mewn sefyllfaoedd adfydus i'r eithaf. Neu cymerer rhan ddwyreiniol y ddinas, ochr y wlad o Sefton Park—gwaelod Lodge Lane i Newsham Park. Nid oes ond un neu ddau o'r gweinidogion Cymreig yn llafurio ynddo, a dywed yr ariialwyr fod yn y rhan yma hefyd ganoedd o baganiaid Cymreig. Onirl, meddwch chwi, gwell fyddai i'r cyfryw fod yn Gristionogion Pabaidd ? Onid yw y sefyllfa yma ar bethau yn arddangos fod maes lied gymwys i'r Babaeth hau had all dyfu yn lied wych ynddo.-Yr eiddoch, AP IHITAN. NATUR A'I PHLANT. SYR-Mae y Cymro wedi dangos fod cryn fwynhad ac atdyniad iddo yn nghwmni natur a'i phlant, ac wedi bod yn dweyd ychydig bethau dyddorol am rai o'r teulu yn ddiweddar, yn neillduol y ci. Mae arferion a neillduolion ein cyfaill pedwar- troediog yn eu perthynas a dynion, yn ei gyfeillgar- weh ac yn ei elyniaeth, yn ddyddorus iawn i sylwi arnynt. Gresyn, onide, na fuasai Hiraethog wedi ymdroi yn hwy gyda'i ddesgrifiad difyrus a swynol ddyfyn- wyd genych yr wythnos o'r blaen o'r cwn oedd ytti cydoesi ag ef, yn neillduol Tango, nid yn unig o ran eu cymeriadau, ond hefyd yn eu hallanolion, eu lliw, a'u llun. Clywais yr anwyl W. Nicholson, yn dweyd pe'n arlunydd, mai ei ddau gynyg cyntaf fuasent F'ewythr William," yn awdl Elusengarwch Dewi Wyn, a Hiraethog a'i Daago. Fel rheol ei ffyddlondeb a'i ymlyniad i'w berchenog dan bob amgylchiadau ydynt nodweddion penaf y creadur defnyddiol. Cafwyd engraipht darawiadol o hyn yn ein hymyl y dydd o'r blaen, pan y syrthiodd dynes yn farw ar un o heolydd Seacombe, ac y cymerodd ei chi safle amddiffyrol wrth y corph gan herio neb i ddod yn agos, nes. gorfodi myned ato mewn cerbyd a thaflu tenyn am ei wddf, a'i symud trwy orfod. Ond, syr, os gwir yr hyn sydd ysgrifenedig am gi Richard II., brenin Lloegr, yr oedd hwn yn eithriadol yn ei ymddygiad at feistr i gwn yn gyffredin. e ae'r hanesydd, y bardd, a'r arlunydd wedi bod wr hi'n anfarwoli rhai o'r digwyddiadau yn eu pe thynas a'r brenin anffodus hwn gymerasant le yn nghastell Fflint. Mae Shakespeare wedi des- grifio gyda graddau o fanylwch rai o'r actau cyffrous hyny yn ei weithiau ar Richard II. Ond yr hanesydd a'r arlunydd yn unig sydd wedi trosglwyddo i ni hanes y ci. Mewn darlun gan Caldecott o draddodiad Richard i ddwylaw Due Lancaster, wedi hyny Harri IV., gwelir yn sefyll mewn amlygrwydd yn nghanol y darlun, ac yn lly fu Haw Lancaster, filgi llathraidd o'r enw Mathe, ac f o lhyn yr ysgrifenir gan hanesydd y cyfnod am yr amgylchiad, ac yn ddiau mae yr hanes yn iaith ac arddull henafol ei awdwr yn fwy dyddorus i'w ddarllen na phe cyfieithid ef :— And as it was enfourmed me, Kynge Richarde had a grayhounde called Mathe, who alwayes wayted upon the Kynge, and woulde knowe no man els. For whansoever the Kynge did ryde, he that kepte the grayhounde dyd lette hym lose, and he woulde streyght runne to the Kynge, and fawne upon him, and leape with his fore fete uppon the Kynge's shoulders. And as the Kynge and the erle of Derby talked togyder in the courte, the grayhounde, who was wont to leape uppon the Kynge, left the Kynge and came to the Erie of Derby, Duke of Lancaster, and made to hym the same friendly countinaunce and chere as he was wonte to do to the Kynge. The Duke, who knewe not the grayhounde, demauuded of the Kynge what the grayhounde woulde do. I Cosyn,'quod, the Kynge, it is a greate good token to you, and an evyll sygne to me.' Sir, howe knowe you that ?' quod the Duke. I I know it well,' quod the Kynge, the grayhounde maketh you chere this day as Kynge of Englande, as ye shalbe, and I sbalbe deposed; the grayhounde hath this knowledge naturallye therefore take him to you he wyll folowe you and forsake mee.' The duke under- stoode well those wordes. and cheryshed the gray- hound, who woulde neverafter folowe Kynge Rich- arde, but folowed the Duke of Lancaster." ————— E. DENMAN. COLEG BANGOR. SYR,—Prin mae'r coleg uchod wedi llenwi syniad y wlad am dano pan agorwyd ef. Rywfodd, try rhywbeth i fynu'n barhaus yn ei hanes leiha gariad gwerin ato yn hytrach na dim arall; a phan gyll gwlad ei hymddiried, anhawdd iawn fydd denu ei serch yn ol. Trist gwel'd sefydliad o'r natur yma a dweyd y lleiaf am dano, nad yw'n meddu y dy- lanwad wedda iddo yn Ngogledd Cymru, a dylai'r Cynghor gymeryd hyn yn ddifrifol i'w hystyriaeth yn yr argyfwng presenol ar Gymru ac ar fywyd-y Coleg hefyd. Mae rhyw ragfarn wrth-Gymreig ynddo, ac awyr afiach o gulni nas gellir yn hawdd ei esbonio, o'i gylch. Pan a myfyriwr gwladaidd o Gymro-ar gyfer yr hwn y darparwyd y lie—i'r ddarlith, tarewir ef ar unwaith gan y pellder sydd lhyngddo, a'i athraw-pdlder wedda rhwng meidrol ac anfeidrol yn hytrach na rhwng Sais neu Wyddel. a Chymro, a'r canlyniad yw, mae'r wers yn debyc- ach i ddeddf, am nad oes gydymdeimlad rhwng dysgybl ac athraw. Yn sicr, dylid gwneud ym- drech i leihau'r pellder a chynyddu'r cydymdeim- lad-dod a dysgybl ac athraw yn nes at eu gilydd. Pam y rhaid i Goleg Bangor fod amgen yn hyn i golegau Rhydychain a Chaergrawnt ? Colled fawr i'r coleg hwn oedd ymadawiad Proff Henry Jones a Mr Cadwaladr Davies-dau wedi eu trwytho ag yspryd Cymreig ac mewn cydymdeimlad byw a'r Cymry, a gwyr o'r un dylanwad yn unig wna i'r coleg enill y safle a'r dylanwad weddai hyn iddo. Hyn yw llais y wlad, ac os gweithreda'r Cynghor yn amgen, dyoddefa. Mae'r gadair mewn athron- iaeth yn wag-pwy a'i lleinw ? A raid myn'd i wastadedd Lloegr, mynyddoedd Scotland, a mawn- ogydd yr Iwerddon, y tro yma ? Na, gall Coleg y Gogledd ddweyd yn awr, Megais a meithrinais feibion," a chredaf fod ganddi yn eu plith un teil- wng i'r gadair-un o blant ei hieuenctyd ac un o ddysgyblion Henry Jones, un wnaeth eithriad i Gymru trwy flaenu rhestr yr M.A. mewn athron- iaeth yn Mhrifysgol Llundain, ac un a enillodd anrhydedd uchel yn yr un ganghen yn Nghaer- grawnt. Cyfeirio yr wyf at Mr Edward Edwards, M.A., Llanuwchllyn, ac athraw hanes yn Ngholeg Aberystwyth. Byddai caffaeliad un fel Mr Ed- wards ar staff Coleg Bangor yn sicr o fod yn werfch mawr, ac yn ychwanegiad hapus at ei ddylanwad. Hyderwn na thyr Coleg Aberystwyth ei aden- ydd," chwedl Joseph Thomas, Carno, ac y caiff ehedeg yn ol at ei alma mater, lie mae wedi enill edmygedd iddo ei hun. X. o
Addysg yn Sir Ddinbych.
Addysg yn Sir Ddinbych. CYNALIODD Bwrdd Llywodraeth Addysg gyfarfod yn Llanrwst, ddydd Gwener, Mr T. Gee yn y gadair.—Galwodd Mr E. Roberts, Rhuthin, sylw at sefyllfa anfoddhaol pethau parth Ysgol y Genethod yn Rhuthin. Er fod hyn wedi cael sylw flwyddyn yn ol, nid oedd dim wedi ei wneud, ac yr oedd y bobl yn cwvno am yr arafwch.-Penderfyn- wyd anfon at y Dirprwywyr Elusenol.—Derbyn- iwyd ymddiswyddiad Syr George Osborne Morgan, A.S., fel aelod. Yr oedd Capt. Griffith-Boscawen hefyd yn dymuno ymddiswyddo, ond dymunwyd arno barhau yn aelod.—Pasiwyd fod y Pwyllgor Arianol yn ffurfio cynlIun i gynorthwyo ysgolion parhaol ar yr un tir ag ysgolion cyfnodol.—Dar- llenwyd adroddiad Mr Owen Owen, Croesoswallt, yr arholwr am ysgoloriaethau yn Ysgol Sirol Llan- rwst. Enillwyd y ddwy ysgoloriaeth o lOp yr un yn rhanbarth Arfon gan Jane Jones, Dolyddelen, ac Eliza. Kate Evans, Penmachno a'r ddwy ysgolor- iaeth o 5p yr un yn rhanbarth air Ddinbych gan Kate Jones, Llanddewi, a Frances Poole Edwards, Llanrwst. Mabwysiadwyd adroddiad pwyllgor Llangollen, a chymeradwywyd prynu maes Peny- bont, yn cynwys pedair acr, am 1,200p er adeiladu ^sgol sirol arno.—Wedi trafod amryw faterion eraill llai pwysig, penderfynwyd cynal y cyfarfod nesaf yn Rhiwabon, Tachwedd 8fed.