Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
O'r De.
O'r De. ITR wythnos cyn y ddiweddaf cynaliwyd Gwyl Gerddorol Caerdydd. Ymdyrair mawrion yno yn llu, ac yr oedd yno gynulliad o enwogion. tin o'r cyfarfodydd gafodd fwyaf o sylw'r Oymry yn ddiau oedd y cyfarfod lie y perSormiwyd Salm Bywyd Dafydd Jenkins—efe ei hun yn arwaiu. Mawr ganmolir y gwaith. 'Roedd yn yr holl gyrdde ganu da yn sicr, ond yr oedd y werin tuallan. A mean y sefydliad yw dyr- chafu chwaeth gerddorol y werin, ond rhaid gostwng pris y mynediad i fewn, neu bydd mil- oedd y cymoedd dan orfod bud allan. Achwynid yn ddifrifol ar y seti gweigion a phethau di- enaid iawn ydynt. 'Roedd estroniaid lawer yn cymeryd rhan, a da genym ymgydnabyddu a thalent cenedloedd eraill, ond i dynu'r Oymry at eu gilydd gosoder Cymry yn y corau. Pe gellid casglu goreuon cerddorol cymoedd Mor- ganwg yn unig i gyd-ganu yn Nghaerdydd, a cbael pris y mynediad i fewn rywbeth yn debyg i'r Eisteddfod, nid oes yn y dref hono adeilad digon eang i gynal haner y dorf ddelai yn nghyd. -0-
[No title]
Nid yw gwyl ganu Seisnigaidd rywsut yn gafael yn ein gwerin, ac oa yw Oaerdydd am gadw yn mlaen ei gwyl dair-blwyddol ar yr un llinellau yn y dyfodol, bydd yn rhaid iddi gad- eirio bardd neu rywbeth tebyg ar y canol i dynu'r Cymry at eu gilydd.
[No title]
-0- Go ddoniol yr ysgrifenai Mr Joseph Bennett i un o bapyrau Llundain, wrth sylwi ar y seti gweigion yn Nghaerdydd. 'Roedd edrych dros yr adeilad gwag, a gweled pawb ar eu heithaf- o Syr Joseph Barnby hyd at chwythwr gwynt yr organ, yn ei adgofio am ryw 'ffeiriad yn yr eglwys fore Sul heb neb ond efe a Die y clocbydd yn bresenol ac yn hytrach na dweyd fel arfer, anwyl gariadus frodyr," yn aralleirio yn fwy priodol. i ateb yr amgylchiadau, "anwyl Die a minau."
[No title]
--0- Cyn troi o Gaerdydd, dyma Gor y Merched eto'n gwynebu ar yr Unol Dalaetbau..011 yn gantoresau brenhinol—wrth fraint a defawd. Clara yn arwain, wrth gwrs. Cor Merched y De fyddai'r enw mwyaf priodol, am y gwneir ef i fynu gan ferched, nid o Gaerdydd, ond o'r trefi, y cymoedd, a'r siroedd pwysig eraill sydd yma. Maent wedi trefnu oddeutu deg a thri- ugain o gyngherddau tudraw i'r mor, ac yn bwriadu dychwelyd erbyn y Nadolig. Nadolig, pan y delo,—eto wel Y teulu yn gryno.-Islwyn. -0-
[No title]
Wrth ymdroi yn mhlith y cantorion, gwelaf fod Cor Meibton Treorci wedi derbyn gwahodd- iad i ganu i'r Frenhines. Awgryma Bachan Ifanc y Darian iddynt fyned ger ei broa yn eu dillad gwaitb. Wel, mae'r bechgyn i gyd wedi canu llawer yn eu dillad gwaith, 'does dim -dadl ond eu teimlad yn ddiame yw eu bod yn treulio llawn digon o amser yn y rheiny. Mae'n debyg pan oedd y parti ucbod yn canu yn Llan- elli fod pob un o'r beirniaid dan lif y swyn wedi ysgrifenu yr un peth ar eu papyre yn ei gylch— y gair wonderful." Bydd y Frenhines yr un fath a hwy yn ddiau. -0-
[No title]
Mae beirniadaeth y gadair yn Llanelli wedi ymddangos yn rhai o bapyre'r De yma. Mae'n ^ebyg y codir hi i'r Cymro. Ond nid oes dim Wedi ymddangos ond yr hyn a ddarllenwyd yn yr Eisteddfod. Mor bell ag yr a,, mae yn gryno a chynwysfawr, ond mae'n dra thebyg fod beirn- iadaeth helaethach wedi ei hysgrifenu. Math o grynodeb, gallwn feddwl, yw'r hyn sydd wedi ymddangos. Ai nid yw pob beirniad yn ysgrif- enu beirniadaeth o'i eiddo ei hun ? Os felly, paham na chyhoeddid yr oil ? -0-
[No title]
Nid oes nemor orchwyl mwy dyddorol ar awr o hamdden na darllen beirniadaethau y gwa- hanol feirniaid ar yr un cyfansoddiadau, fel ag eu ceir yn nghyfansoddiadau yr Eisteddfod, cy- boeddedig gan y gymdeithas ond i rai sydd yn 'hoffi rhyw bethau fel byn, trueni na chaent ef yn gynt. Dylid argraphu yn union wedi'r Eis- teddfod feirniadaeth pob un o'r beirniaid ar bob testyn. Paham na cheid gweled yn argraphedig feirniadaeth y traethodau ? Bu mawr lafur i gasglu ambell draethawd at eu gilydd gogyfer ag 11 Eisteddfod Llanelli—llawer mwy na chyfansoddi chwe chan llinell o awdl neu fil o bryddest ond dyma'r awdlwyr a'r pryddestwyr wedi clywed a gweled rhyw gymaint o'u hanes, ond y traeth- odwyr druain ddim. -0-
[No title]
Ceisia'r Darian godi rhyw fath o row eistedd- fodol, ond i ddim pwrpas. Gwneir cryn swn yn fynych o bethau bychain iawn, ond y mae rhyw ysgrifenwyr yn y Darian yn ceisio cadw swn am ddim. Rhyw rwgnach o eisie testyn i wneud helynt. -0-
[No title]
Daw arwyddion o adfywiad masnachol yn amlwg oddeutu yma y dyddiau hyn mae'r gWeithie tyn yn mynd bron i gyd ar yr ben bris, a newyddion am weithie'n sefyll-newyddion tirwg yr America yn newyddion da i ni-newid- lant eu lliw wrth groesi'r tonau. Sonir hefyd tnewn llawer ardal am gycbwyn glofeydd new- yddion, ac y mae cynllunio nifer o relwes newydd hefyd yn mynd yn mlaen yn dawel. A dyma dywydd hafaidd ddiwedd Medi a'r fath gyn- hauaf -toreithiog Wel den y Toris —o—
[No title]
Gwelaf fod Mr Freeman, Abertawe, a Miss Kate Jenkins, Llangadog, wedi uno mewn Priodas. Dau'n 11awn mynd—yn deall y byd. Wel den y Leiber las SOUTHMAN. -0-
.Creulondeb anfad at Ceffyl.
Creulondeb anfad at Ceffyl. ^ERBRON ynadon Maldwyn, ddydd Iau, cyhudd- ^yd Johathan Shelrock, gof, gan yr Arolygydd ee, am greulondeb at ge yl, eiddo Richard Jones, Pentre.—Dywedodd yr erlynydd iddo adael y ceffyl yn yr efai: i gael ei bedoli, a phan aeth i'w ymofyn cafodd fod ei dafod wedi ei thori, dim ond y gwreiddiau yn ei dal yn safn yr ani- Costa t>irwywyd shelrock i 10s, yn cynwys y
7Cymanfa Ddirwestol Cogledd…
7 Cymanfa Ddirwestol Cogledd Cymru. YN Llangollen y cynaliwyd y Gymanfa hon eleni ddydd Iau diweddaf. Daeth nifer lluosog o gyn- rychiolwyr yn nghyd, a chymerwyd y gadair gan Mr T. C. Lewis, Bangor. Yn nghyfarfod y bore trad4ododd y llywydd ei anerchiad. Sylwodd nad oedd y blaid ddirwestol wedi ei digaloni er iddynt gael eu gorchfygu yn yr etholiadau. Pe gwnaethai pob sir yn gyffelyb i Ogledd Cymru, credai y buasii Dewisiad Lleol wedi dyfod yn ddeddf erbyn hyn ac er fod y Senedd bresenol yn anffafriol i'r mesur teimlai yn sicr nad oedd gwir deimlad y wiad ar faterion dirwestol yn cael ei amlygu ynddi. Mab. wysiadwyd yr amrywiol adroddiadau, ac etholwyd Mr J. Herbert Lewis, A.S., yn llywydd y flwydd- yn ddyfodol. Ychwanegwyd y rhai canlynol at y pwyllgor gweithiol:—Parchn Ellis Jones, Bangor Hugh Hughes, Caernarfon; J. Williams, Peny- groes J. Williams, Dwyran E. Bithel, Coedllai Mri Edmund Griffith, Lerpwl, a Howel Jones, Talsarnau.—Dangosai'r cyftif arianol fod y Gym- deithas me dyled o 30p, a hysbyswyd fod Mr Herbert Roberts, A.S., wedi cyfranu 5p at dalu'r cyfryw. Mabwysiadwyd amryw gynygion, a chymerwyd rhan yn y drafodaeth arnynt gan y Parchn W. Foulkes, Llangollen; John Williams, Dolgellau Samuel Owen, Tanygrisiau a Capten G. B. Thomas, Caernarfon. Traddodwyd anerchiad maith gan Mr J. Herbert Roberts, A.S. Sylwodd fod yr awyrgylch wedi clirio ar ol mwg y frwydr ddiweddaf, ac mai budd- iol oedd iddynt gyfrif eu henill a'u colled fel plaid ddirwestol. Nid oedd dim yn hawlio dyddordeb dyfnach na diwygiadau dirwestol. Meddwdod oedd yn cymylu fwyaf ar ein bywyd csnedlaethol —dyma'r gelyn oedd i'w ofni fwyaf ac i ymladd fwyaf rhagddo; ac nid oedd bywyd gwleidyddol yn deilwng o unrhyw ymdrech ddifritol neu wir aberth os nad amcanai i hyrwyddo Iles a gwella sefyllfa'r wlad ei chodi o'i gwarthrudd, a'i ham- ddiffyn rhag y gelyn oedd yn niweidio mwy arni na rhyfel, pla, a newyn gyda'u gilydd. Wrth gyfeirio at Gymru, a'r honiad mai Mesur Dewisiad Lleol oedd gyfrifol am orchfygiad y Rhyddfryd- wyr, sylwodd mai rhif y pleidleisiau Rhyddfrydol yn yr etholiad diweddaf oedd 145,894, tra yn 1892 yr oedd yn 145,818 felly caed mwy o 75 pleidlais yn 1895 nag yn 1892. Ond cynyddodd y bleidlais Doriaidd 23,267. Dylid cofio fod pob ystryw wedi ei ddwyn i weithrediad er cyrhaedd y cynydd hwn ac nid wrth faint yr ystryw yr oedd pwyso barn gwlad ar faterion o ddiwygiad cymdeithasol. Dymunai apelio at yr eglwysi i ddeffro i'w dyled- swyddau. Ofnai eu bod yn rhodio gormod hyd lmau y Mor Coch, ac ofnent edrych hwnt iddo i Wlad yr Addewid. Pe gellid tynu'r lien ac am- lygu'r trueni achosid gan y fasnach feddwol, enynid penderfyniad di-ildio ynddynt i ymladd a'r gelyn hwn oedd yn peri cyflafan beunydd yn nghorlan Crist. Hyderai nad oedd y dydd yn mhell pan f ddai pob eglwys yn gymdeithas ddirwestol. Apeliai yn nesaf at wleidyddwyr. Erioed ni bu amser y dylanwadent gymaint ar feddwl y wlad. Gadawer i bob ymdrech wleidyddol fod wedi ei chysegru i amcanion uchel moesoldeb, a'r gwroldeb mwyaf a'r hyawdledd penaf gael ei gyflwyno i ryddhau y wlad o lyffetheiriau a gwaradwydd meddwdod. Apeliai at bob dyn a merch ieuanc, yn mrwdfrydedd eu hieuenctyd tirf, i gyflwyno eu galluoedd i'r ymgyrch ardderchog hon. Gellid dangos cymaint arwriaeth ar faes brwydr dirwest ag a ddangoswyd erioed wrth amddiffynfeydd Troy neu yn mrwydrau gwaedlyd Waterloo a Trafalgar. Apeliai yn olaf at Gymru. Enillodd le uchel- bydded iddi ei gadw. Daeth gwanwyn eto ar hanes ei bywyd cenedlaethol; gwelid ami hen bren yn dangos yni newydd, a blodau wedi hir wywo yn blaguro drachefn. Llawenhaent am hyn ond yn yr ymwybyddiaeth o'r gallu newydd a phoaibl- rwydd y dyfodol, hyderal y teimlent yn ddyfnach mai gwaradwydd oedd meddwdod, ac mai gelyn mwyaf y wlad oedd y ddiod. Pasiwyd penderfyniadau yn ffafr Mesur Dewisiad Lleol ac hefyd yn ifafr gwella Mesur Cau'r Taf- arnau ar y Sul yn Nghymru, a darllenwyd papyrau gan y Parch H. Cernyw Williams, Corwen, a Mr John Hughes, Lerpwl. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr Assembly Rooms. Caed cynulliad lluosog, anercniadau amserol, a chymanfa lwyddianus.
_A_v Gwreichion.
_A_- v Gwreichion. H FE ddaeth hen wraig i'r smoking compartment y nos o'r blaen pan oedd gwr ieuanc yn myned i oleu ei getyn, yr hwn a'i cyfarchai yn foneddigaidd —' Oes genych chi wrthwynebiad i ysmygu, mam V Na, dim—lie i smocio ydi hwn, ac i hyny y daethum i yma,' ebe'r hen wraig a chan dynu allan bwt o getyn clai duo yr un hyd a'r un led, fe'i taniodd, ac a ddechreuodd fygu nes codi cywilydd ar yr holl ysmygwyr. IT Yr oedd Meredith Jones er's talm yn arfer a cheinioca gryn lawer ar ddiwrnod marchnad wrth ddal pen ceffyl i hwn a'r llall. Rhyw lolyn di- niwed, heb fod yno i gyd, yr edrychid ar Meredith, ond yr oedd yno i gyd serch hyny. Gofynodd yr hen gybydd, Mr Parri'r Gelli, iddo ddal pen ei geffyl un farchnad, ac wedi gorphen ei fusnes aeth i ffwrdd heb roddi dim i Meredith; ond y farchnad ganlynol gofynodd iddo ddal pen ei geffyl eilwaith, pryd yr atebodd Meredith yn llym, I Na, mi alia i neud heb y job, thanci.' Sut mae hyny, Mere- dith ?' Wel, mae yr hyn roisoch chi i mi y tro o'r blaen wedi ngneud i yn independent, syr.' If 'Beth ydych chi'n feddwl ddydodd John Davies wrthyf y prydnawn o'r blaen pan ddydes i wrtho fod genyf eisio siarad gair hefo fo ?' ebe Mary. Wn i ddim, wir, be ddeydodd o ?' gofynai Sarah. Yr ydwyf yn glustiau i gyd,' ebe fe, yn wen o glust i glust, pryd y dywedodd Sarah, '0 !'r mul! pwy byth siaradai a'i port o ?' If Peth rhyfedd ydyw chwiw yr influenza. Caf- odd Cymro trylen dwtsh pur drwm ohono flwyddyn yn ol, ac wedi gwella galwyd arno ar fusnes i fyned i fynu i Lundain, a phan yno daliodd ar y oyfle i gymeryd Turkish bath i ysgwyd y chwiw ymaith o'i gyfahsoddiad, feddylsai ef, ond cyn i'r oruchwyl- iaeth hono fyned trosodd yr oedd inHuence yr in- fluenza yn gryfach nag erioed, ac wedi anmhar.u ei gof fel na wyddai y tu yma i lidiart y mynydd sut i gyfeirio yn ol i'w westty. If Wedi holi yr heddgeidwaid, y naill ar ol y llall, a throedio yn ol eu cyfarwyddyd, ni welai yn ei fyw y ffordd yn glir, ac o'r diwedd galwodd gab- man ato a gofynodd, I say, cabby, do you know the Grand Hotel?' Yes, sir,' ebe cabby. Piciodd yntau i mewn ac a orchymynodd, Drive me there, will you ?' Chwipiodd y gyrwr y ceffyl, ac mewn chwinciad stopiodd yn sydyn, ac ebe y cabman, There you are, sir Y drws nesa ydo&ld o'r man y tarawyd y fargen. Wrth gwrs, gorfu iddo dalu y I/- yn syth. Goeliweh chwi mai twrne poblog- aidd ydoedd 1 Ond ar yr influenza yr oedd y bai. If Yr oedd hen droseddwr o flaen y fainc y dydd o'r blaen am dori ty, a phan oedd y cyfreithiwr yn ei groesholi fe ofynodd, Yr oeddych ar y grisiau pan ddaliwyd chwi, onid oeddych V Oeddwn—ar y grisiau y gwelais i'r forwyn.' 'I b'le roedd y grisiai yn arwain ?' ebe'r eyfreithiwr yn drahaus, pryd yr atebodd y troseddwr, Y mae hyny yn dibynu, syr-weithiau maent yn arwain i fynu ac weithiau y maent yn arwain i lawr Edrychodd y croesholwr tua'r nenfwd yn hynod o wirion am beth amser. IT Yr oedd dau fachgen, Tom a Jack fel eu gelwid gan eu rhieni, yn myned i'r ysgol yr un bore, ac yn ystod y bore gofynodd yr ysgolfeistr i Tom, 'Beth yw eich enw?' 'Tom, syr,' ebe'r bychan yn siriol. Na ddywedwch fel yna,' ebe'r ltieistr, I Thomas ydyw eich enw yn briodol.' Ei frawd a ofynwyd iddo yntau, Beth ydyw eich enw chwi ?' 'Jack-ass, syr,' ebai yntau. If Ar ol un o'r damweiniau diweddar mewn badau ar y mor, fe ddywedai un, Fe gefais i waredigaeth ofnadwy, gyfeillion-fe foddodd triarddeg o'm ffrindie pan suddodd y bad.' Wel, sut na fuasech chwithau wedi suddo gyda hwynt ?' Yn ddigon hawdd,' ebe yntau, I aros gartref ddarfu i mi.' If Yn ol cyfraith filwrol Germani, y mae'n rhaid i bob milwr ysgrifenu llythyr at ei wraig uuwaith bob mis, a dywed un hen lane mai dyna sydd i gyfrif fod cynifer o Germaniaid yn gwybeta oddeu- tu y wlad yma er osgoi y ddyledswydd filwrol hono. CYFARWYDD.
-0-Rhyddfrydiaeth yn Meirion.
-0- Rhyddfrydiaeth yn Meirion. CYNALIODD Rhyddfrydwyr Meirion eu cyfarfod blynyddol yn y Bala ddydd Iau, Dr Edward Jones, Dolge'iau, yn y gadair, yr hwn a draddododd anerchiad yn cyfeirio at yr etholiadau diweddaf, a'r mwyafrif boddhaol gafodd Mr T. E. Ellis yn y sir hono. Darllenwyd y cyfrif aria no I gan Mr John Parry, Bala, yn dangos fod y Gymdeithas yn talu ei ffordd. -Pen derf yriwyd peidio talu y tanysgrifiad o lOp mwyach i Gynghrair Rhyddfrydol Gogledd Cymru. — Penodwyd y swyddogion canlynol: Llywydd, Mr S. Pope, Q.C. is-lywyddion, Mr A. Osmond Williams, Dr E. Jones, Dr R. D. Evans, Dr Hughes, Mri E. Griffith, R. 0. Jones, W. Foulkes, J. Hughes Jones, Thomas Jones, E. P. Jones, Lewis Lewis, H. Haydn Jones, R. D. Roberts, Humphrey Davies, T. Edwards, trysor- ydd, Mr J. Parry, Bala ysgrifenydd, Mr Andreas Roberts archwiliwr, Mr J. Parry Jones cynrych- iolwyr ar y Cvnghrair Cenedlaethol, Mr S. Pope a Mr D. R. Roberts, Dolgellau. Penderfynwyd cynal y cyfarfod blynyddol nesaf yn Nolgellau.
-0 Marwolaeth Pabydd Cymreig.
-0 Marwolaeth Pabydd Cymreig. HYSBYSIR marwolaeth y Parch Monsignor William Williams, Caerdydd, yn ei 60fed mlwydd. Ganwyd ef yn Abergafenni, Rhagfyr 23, 1834, a derbyniodd ei addysg yn y Coleg Seisnig, Lisbon. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Rhagfyr, 1858, a ba am gyfnod y yn athraw yn y Ooleg lie derbyniodd ei addysg. Wedi llafurio am dymhor yn Trefforest, anfonwyd ef i Tredegar, lle'r arosodd am 16 mlynedd. Yn Ngorphenaf, 1883, cymerodd ofil eglwys Dewi Sant, Caerdydd ac yn ddiweddarach gwnaed ef yn ficer cyffredinol. Cafodd ei wneud yn Mai, 1887, yn Ystafellydd Anrhydeddus i'r Pab Leo XIII., am ei lafurus sel dros Babyddiaeth. Bu yn aelod o Fyrddau Ysgol Tredegar a Chaerdydd, Pwyllgor Addysg Gelfyddydol, ac yn llywodraethu Addysg Ganolradd yn Nghaerdydd. Ystyrid ef yn gerddor uwchraddol, ac yn ei gylch anwylid ac edmygid ef. Cymerodd ei angladd le ddydd Gwener.
[No title]
-0- < !Bydd llyfr emynau y Methodistiaid allan yn fuan. Cynwysa 900 o emynau, 65 o gorganau, 450 o donau, a 25 o anthemau. Golygir yr emyn- yddiaeth gan y Parch W. James, Abertawe, a'r gerddoriaeth gan Pencerdd Gwynedd. Dywedir fod 500p wedi eu talu i weddw Ieuan Gwyllt am yr hawl i arfer y tonau yn ei lyfr ef.
[No title]
Gymry,cef nog well Gvdwladwyr. Bwytewch FOOTBALL Oots Yr ansawdd goreu ar wyneb y ddaear. 0 dyfiant Prydeinig. Na chyinerwch eich perswadio brynu ansawdd gwael. diflas fel yr Americanuidd.
Advertising
W O. JONES Twenty years foreman with Messrs. D. Roberts, Son & Co.), BUILDER & CONTRACTOR, 39, Village Street (late Everton Village), LIVERPOOL. Gwneir pob math o waith at Gapelau, Tai Anedd, &c., yn cynwys Drysau, Ffenestri, a Fframiau. Cedwir pob math o Goed a defnyddiau eraill at adeiladwaith mewn stoc. Ymgymerir ag unrhyw adgyweiriad neu gyfnewidiadau, Danfonir prisiau ar ymholiad. EDMUND GRIFFITH, COAL MERCHANT, 75, GROVE STREET. SPECIALITY Best Cobbles, 16/6 per ton; Second Best Coal, 17/6 per ton Very Best Coal 18/6 per ton. Discount' 1/- per ton for Cash within the month. CHAS. R. HALL, GENERAL LETTER CUTTE-B.,L, ENGRAVER 53, PARADISE STREET, i LIVERPOOL. ANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRI\SS PLATES, &C. CYFRES YHOEINION. Y MAE Rhifyn xxi. o'r Gyfres werthfawr hon yn y wasg a bydd yn cynwys AWDLAU^GOREU'R IAITH, SG £ Elusengarwch," Dewi Wyn. Dinystr Jerusalem," Eben Fardd. Rothsay Castle," Caledfryn. "Gwledd Belshassar," Glan Gcirionydd. Y Greadigaeth," Emrys. Hiraeth Cymro am ei w]ad," Cawrdaf. Y Chwe' Awdl am Swllt. Dilynir hwn gan eraill-llyfr bob dentis. Eltenau Athropeih Foesol," (Yr unig lyfr yn ein hiaith ar y gangen hon o ;h wybodaeth). Pris is. Trwy y Post, is ic mewn llian, i/6 Mae pawb sydd i ryw fesur yn hoff o olrhaiu Gwirioneddau Ysgrythyrol yn rhwym o deimlo dyddordeb mewn Athroniaeth Foesol. Danfoner at yr Awdwr, Rev. JOHN JONES, Tuebrook, LIVERPOOL AT Gymdeitqasau Darllen Gartref A Chymdeithasau Llenyddol. "There are no more vigorous compositions in the whole field of Welsh Literature than Goronwy's Letters. The epistles con- tain a faithful transcript of Goronwy's life, his difficulties, his feelings, his passionate love of country, his enthusiasm for the Welsh language and literature. The Letters are couched in perfect idiomatic Welsh. Western Mail, Mehefin 21, 1895. Pris Swllt. Trwy y Post, Is. Ie. Llytqyrau Goroqwy Owen"; Tan olygiaeth Proff. J. MORRIS JONES, M.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. LERPWL Cyhoeddir gan I. FOULKES, 18, Brunswick Street Dim ond ychydig gopiau yn weddill. Gwaith Barddonol Eben Fardd, Am 78. 6ch. Trwy y Pest, fc's. YR ydym wedi prynu yr holl Stoc o Waith y 1 Prif-fardd Enwog o Glynog, ac er mwyn clirio, gwerthir hwy wedi eu rhwymo yn hardd mewn llian am 7s. 6ch. yr un—tua haner eu pris ar y cyntaf. ISAAC FOULKES, 18, Brunswick Street, Lerpwl PRIS SWLLT, Trwy Post ar dderbyniad Is. lc. 2 "CAMADAU ELFED." Ail Argraphiad yn awr yn barod. ALLAN O'R WASG, PRIS SWLLT, Trwy y Post, Is. lie. TRI CHRYFION BYD," "PLESER A GOFID," CYBYDD-DOD ac OFEREDD: Tair Antarliwt o waith TWM qjt NANT. I FOULKES, 18, Brunswick St,, LIVERPOOL COLEG Y GOGLEDD, BANGOR^" (UN C'R COLEGAU YN Y BRIFYSGOL GYMKEIO) Prifathraw: H. R. REICHEL, M.A., Gydag 11 o Broffeswyr, 3 o Ddarlithwyr, a 14 o Athrawon eraill. DECHREUA y Tymhor nesaf Hydref 8, ] K!ir> Parotoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymr ac eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol v Mhri fysgolion Edinburgh a Glasgow, ac arholiada eraill, Rhoir addysg arbenig mewu Amaethyddiaet ac Electrical Engineering. Mae yn y Co leg Adra Normalaidd. Cynygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrvwio mewn gwerth 0 £40 i 910 y flwyddyn, i'r rhai fyddo'n ymaelodi yn y Coleg gyda dechreu y Tymhor nesaf. Bydd haner yr Ysgoloriaethau yn gyfyngedig i Gyrn- ry. Decqreua yr arholiad am danynt Medi 17. Ceir pob manylion gan JOHN EDWARD LLOYD, M.A., Ysgrifenydd aChofrestrydd. CWMNI YSWIRI0L Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSORFA DROS £ 20,000,000. AGENTS addas ychwanegol yn eisiau —Ymofyne a J. W. JONES, Pauden Office. Caeonrnatiala-f Important Announcement. Q-WALIA =OUSE, 8 & 9, Upper Wo'mrn Place. Londorj, W C. CHANGE of PROPRIETORSHIP The above well-known Private Hotel is now under the immediate Superintendenco of the new Pro- prietress, MRS. JONES, who hopes by persona attention to the Comforts of Visitors, again to make GWALIA HOUSE s "A HOME FROM HOME.' Telegraphic Address-" Gwynva, London."