Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CWRS Y BYD .

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWRS Y BYD Eistedafod 1898. WEDr i Ffestiniog hel digon o ymddiried ynddi ei hun i ofyn yn bcndant am yr Eisteddfod, a'i chael, dyledswydd Cymry Lerpwl, ei gwrthym- geisydd am gyfarfod 1898, cystal a Chymry pob man arall, ydyw rhoddi pob help yn eu gallu i wnend v symudiad yn llwyddiant ysplenydd. Mae'r ffaith na fu'r Eisteddfod Genedlaethol erioed yn Meirion yn sicrhau i'r pwyllgor faes toreithiog i ddewis testynau ohono-Oantre'r Gwaelod. Harlech, Cynfal, Llynau y Morwyn- ion, Tegid, y Tri Graienyn, mynyddau'r Idris, yr Aran, Moelwyn, &c., dyffrynau Edeyrnion, Mawddach, Ardudwy, oil yn orlawn o gofion a thraddodiadau. Gobeithio nad ant dros derfyn eu sir i ymofyn yr un testyn. Yr wyf yn gwjbod y maddeuant i mi am ddweyd fod brass band ac offerynau gwyntog eraill yn burion i gychwyn Eisteddfod, ond I rhaid cael rhyw bethau mwy sylweddol i'w dwyn yn anrhydeddus i ben ei thaith. Yr oedd deiseb Lerpwl wedi ei harrwyddo gan Arglwydd Derby (Arglwydd-faer y ddinas), gan chwe' cyn-faer, a chan o gwbl 70 o henaduriaid ac aelodau y Cynghor Dinesig. Yr oedd bron bob Cymro o nod yn y dref befyd wedi ei har- wyddo—yn wyr lien a lleyg. Ni chafodd Cym- deithas yr Msteddfod erioed ddeiseb mwy urddasol a dylanwadol a chyflwvnwyd hi, a'r cais am yr Eisteddfod, gan dri Chymro mewn areithiau byrion, destlus, heb roddi yr un anair i'w gwrthymgeiswyr, ond yn dadleu eu hachos eu hunain yn unig mewn dull teg a boneddig- aidd. Felly hefyd y darfu Bryfdir ar du Ffes- tiniog. Gorsedd Llandudno. GODIDOG Chynaliwyd mohoni erioed mewn llanerch harddach. Y Fach, neu'r Happy Vallev-dyma'r lle i gynal "Gorsedd Beirdd Ynys Prydain mwy. Hafan glaswyrdd ydyw'r Fach, a'i wyneb tua'r dwyrain, ei odreu yn y mor, a'r creigiau fel enfys o gylch ei ben. Darn bychan o baradwys ydyw wedi ei osod ar lech- wedd Gogarth er mwyn i'r haul gael gwenu arno y peth cyntaf yn y bore. A phwy ydyw'r rhian acw sydd eleni yn mysg y Beirdd ? Dal, luniaidd, brydferth, a'i gwisg lwydlas,sidanaidd, wedi ei thaflu'n ddiofal dros ei hysgwyddau yn yr un arddull ag y gwelir cerf- luniau Groegaidd ? Bron na thybiech mai gwiddanes neu sibyl ydyw. Wel, mae hi. yn wyres i'r Prif-fardd Caledfryn, ac yn ferch i Ap Caledfryn, ac fel ei thaid yn awenydd, ac fel ei thad yn artist. Yr oedd Hwfa yn cael hwyl neillduol gyda'r gwaith o wneud beirdd a barddesau. Yr oedd y creigiau gerllaw yn diaspedain fel y gwaeddai "H wr-e" wrth roddi ysuoden ar fraich ambell un. Ac yr oedd Morien cyn llawened a'r gog yn cymeryd rhan yn yr hen ddefod dda. Eisteddfod y dyfodol. IhNFONWYD cylchlythyr gan un o Eisteddfod- Wyr Rhyl yn galw cyfarfod yn nghyd er mwyn gwneud cais o gael yr Eisteddfod yno yn y flwyddyn 2000. Yr wyf yn bwriadu myned i'r Stpddfod hono-os byw ac iach. Gwnaed camgymeriad cyffelyb gan un o weini- dogion poblogaidd Maldwyn. Yn ateb i'r cais iddo ddyfod i bregethu yn Ngbymanfa Lerpwl ychydigfiynyddau yn ol, atebodd fod pob Sul- gWyn yn llawn ganddo hyd y flwyddyn 2000 Mrs Stowe. BYDD yn syn gan lawer fu'n darllen Caban F'ewyrth Twm—naill ai gyda Fewyrth Robert, Modryb Elin a James Harris, ar aelwyd Hafod y Oeiliogwydd ddeugain mlynedd yn ol, neu y cyfieithiad rbagorol o Uncle Tom's Cabin a ym- ddangosodd tua'r un amser o waith Hugh 1:1 Williams, hen olygydd Cymro (Treffynon)- bydd yn syn, meddaf, ganddynt glywed mai dydd Mawrth diweddaf y bu farw Mrs Harriet Beecher Stowe, yr awdures dalentog. Bu y Uyfr hwnw yo un o'r offerynau mwyaf 11 efleithiol i ddryllio cadwynau'r caethwas. Yr oedd Mrs Stowe yn cbwaer i'r hybarch Henry Ward Beecher, yr hwn a glywais yn ymffrostio o'i Waed Cymreig—os nad wyf yn camgofio, dy- Wedai fod ei fam a'i n in yn Gymry. Bu Mrs Stowe farw yn Connecticut, yn 84 oed. Ym- ddangosodd o gwbl tua chwe cyfieithiad o'i Chaban yn Gymraeg, ond y goreu, ac yn wir, on o'r cyfieithiadan ystwythaf yn yr iaith ydyw'r un y cyfeiriwyd ato gan Hugh Williams.

Argyfwng y Fasnach Lo

Eisteddfod Genedlaethol Llandudno,

Advertising

[No title]

------------------------Ar…

0. Cynghrair Clowyr Cogledd…

[No title]

Eisteddfod Genedlaethol Llandudno,