Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Yr Eieieddfod Genedlaethol

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr Eieieddfod Genedlaethol YN LLANDUDNO. (Parhad.) [Gan ein GOHEBYDD ARBENIG ] DYDD MERCHER. Ail Gyfarfod y Cymmrodorion, GAN fod Dr John Rhys, yr hwn oedd i gymeryd y gadair, heb gyrhaedd, cymerwyd hi gan y Parch J. Fisher, Rhuthin. Darllenwyd prtpyr dyddorol gan Mr W. Edwards Tirebuck yn Saesneg ar Welsh Thought and Engl- ish Thinkers.' Cwynai nad oedd Cymru yn cael ei lie yn meddyliau a llenyddiaeth y byd am nad ys- grifenid y cynyrchion yn Saesneg, rn'r hyn a ys- grifenid yn Gymraeg ddim yn cael ei gyfieithu i'r Saesneg, tel y gailai poblogaeth eangach ei ddarllen a dod yn fwy cydnabyddus a, hwy. Beiai ein cyf- ieithwyr a'n hysgrifeawyr mewn b'1rdrloniaeth a rhyddiaeth, a chynygiodd amryw awgrymau i sylw'r cyfarfod, a diau y bydd ei ddarllea etc yn y Cymmrodor yn dwyn mwy o geinion i'r golwg. Caed trafodaeth ac ychydig feirniadaeth ar y pipyr gan Elfed, Owen Rhoscolwyn, Proff W. Lewis Jones, Parch Hartwell Jones, Mri W. Llew. elyn Williams a Marchant Williams. Yna caed papyr dyddorol gan Dr Kuno Meyer ar Y Tafodieithodd Cymreig.' Hoffai'r Dr weled pwyllgor yn cael ei sefydlu ar unwaith i gasglu a chadw tafodieithoedd Cymru cyn lddynt fyned ar ddifancoll. Cyfarfod difyr a bywiog iawn ydoedd hwn. Cymered pwyllgor gweithiol y gymdeithas y mat- erion i fynu a cheisier gweithio arnynt. Yr Orsedd. Yr oedd y tywydd mor anffafriol bore heddyw fel y bu raid myned heb y faner. Cychwynodd yr orvtndaith o Dy'r Eglwys, ac aethpwyd yn mlaen fel y diwrnod cynt. Yr oedd nifer yr edrychwyr gryn lawer yn liai heddyw, ac amryw feirdd yn absenol. Ar 01 galwad y corn gwlad,' esgynodd yr Arch- dderwydd y maen HOE;, a galwyd ar Dewi Ogwen i draddodi Gweddi'r Orsedd yna caed anerchiad hyawdl ar hynafiaeth ac urddas yr Ors-'dd gan yr Archdderwydd, yu cael ei ddilyn gydag arawd r.rall gan Glan Aeron. Caed anerchadau barddonol gat Dewi Ogwen, Cadfan, Gwili, lago Tegeingl, Gwynedd, Pedrog, Ceitho, Tegfelyn, Watcyn Wyn, Machno, ac Alltud Eifion (yr hwn fu'n traddodi anerchiad oddiar y maen nog yma 32 mlynedd yn ol). Canwyd ar y delyn gan Telynores Lleifiad, a chanwyd penillion gan Eos y Berth. Byr fu'r se emoni heddyw, a gorymdeithiwyd oddiyno i babell yr Eisteddfod. Llywydd yr Eisteddfod heddyw ydoedd larll Dinbych Cadfan a Chynonfardd yn arwain. Bu'n gwlawio ychydig yn ystod y nos, a pharhaodd yn bur niwlog yn y bore. Dechreuwyd y gweithrediadau tua 10 30 trwy ddetholiad gan y seindorf. Canwyd 0 na byddai'n haf o hyd gan Mr Hirwen Jones ac yna aed yn mlaen gyda'r dy- arnisdau canlynol:— Hir a thoddaid, Beddargraph Tudno,' 2p 2s, Brvnfab, Pontypridd. Beirniadaethau ar y celfau canlynol—gwau, i rai dan 16 oed, Ip Is, ni atebwyd i'r enw Lady's nightdress,' Ip 10s, Miss H. Brown, Llandudno; 4 Flannel petticoat (embroidered),' o wlanen Gym- reig, 2p 2s, Miss Beatrice Godley, Rhyl 'Set of baby linen,' 3p 3s, ni atebwyd i'r enw; Crys gwlanen, 10s 6c, Miss L. Roberts, Llavwddyn Crys nos dyn, 10s 6c, Mis* Jones, Tanybwlch 'Servant's print dress,' i rai dan 22 oed, lp 10s, Miss Williams, Maentwrog Gwniadwaith plaen i enethod yn yr ysgolion e;fenol, Edith McLean, Porthmadog. Yn nesaf ca.ed detholiad ar y delyn gan Telyn- ores Lleifiad. Wedi hvny darllenwyd y beirniadaethau ar y celfau lynol-Olew ddarlun, 15p, Paul Knight, Llandudno Watercolour Drawing,' 25p, Carlton nrant, Rhydychain Ideal picture—Solitude,' lOp, ni atebwyd i'r enw. Cadwen o engIynion i'r Awrl .is,' 5p, Galileo (ui atebodd i'w enw). Dyfarniadau eto ar y celfau—' Drawings for de- coration of drawing room,' 7p 7s, annheilwng; Painted pinel,' 3p 3s, Edward Denman, Lerpwl Sign in black letters,' 2p 2s, Alfred Helstrip, Llandudno 'Grained panel,' lp la, Ho.veil (ni atebodd i'w enw) Collection of lead traps, bends and joints for plumbing," 2p 2s, J, F. Jones, Llan- dudno Plaster cornioe,' 3p 3s, D. Roberts, Col- wyn. Cystadleuaeth ddyddorol ar y soprano, Cenwch orfoledd i Jacob' (0. Alaw), 2p 2s, Miss E. Row- land, Haverfordwest. Cyflwynwyd y llywydd i'r cyfarfod gan Cynon- fardd, a chafodd dderbyniad cynes, Dywedai ei fod yn ei theimlo yn anrhydedd cael dod i lyw- yddu un o gyfurfodydd yr Eisteddfod Genedl- aethol. Wedi hyn caed cystadleuaeth y pedwarawd offerynol, Mozart in D Minor,' 5p 5s, Tranby Colwyn Bay Quartet Party (pedair o enethod), Miss Cheetham yn arwain. Cystadleuaeth ar y crwth, laf, 3p 3s, Benjamin George, Tredegar 2il, 2p 2s, Miss Mary Thomas, Treforris. Cystadleuaeth dauawd tenor a bass, For so hath the Lord (Mendelssohn), 3p 3s, Richard Thomas, the Lord (Mendelssohn), 3p 3s, Richard Thomas, Llanelli, a Llewellyn Bowen, Cilfrew, Cnstellnedd. i Darllenodd Cynonfardd feirniadaeth Mri Elias Jones, W. Evans, ac E. E. Bone ar y Llawlyfr ar Landudno fel cyrch!e iechyd,' lOp 10s. Daeth dau gyfansoddiad campus i law. Goreu, T. R. Ro- berts, Caernarfon. I)axilepodd Mr J. H. RoVierts ei feirniadaeth ef a Mri F. H. Cowen a D. Emlyn Evans ar y cyfan- soddiadau cerddorol—(a) Am y triawd goreu i ferched (s.s.c.), 6p 6s, David Parry, Llanrwst; (b) 4 Set of two duets,' (1) soprano and alto, (2) tenor a bass, 4p 4s, David Parry, Llanrwst (c) unawd ar y crwth, 4p 4s, W. Statham, Mus.Doc., Elles mere Port, sir Gaer. Wedi hyn galwyd ar y Seindyrf Cerddorfaol yn mlaen i gystadlu am y wobr o 35p. Yr oedd tair Seindorf wedi anfon eu henwau i mewn ond un yn unig ddaeth yn mlaen sef cerddorfa Pontypridd. Dywedai Mr Cowen eu bod yn wir deilwDg o'r wobr, a gresynai na buasai y ddwy arall wedi gwneud eu hym. idangosiad. Hysbyswyd mae y traethawd buddugol ar Ddylanwad y Cymry ar Fywyd, Crefyddol, Llen- yddol, a Gwleidyddol yr Ymerodraeth Brydeinig," ydoedd eiddo Cymru Fydd yr hwn oedd euido Dstvid R. Jones, Blaenau Ffestiniog. Cystadleuaeth y Corat6 Meibion. Am bum' munyd i ddau dechreuodd y bobloedd ddylifo i mewn i'r babell, i glywed prif gystadleu- aeth y cyfarfod, sef y corau meibion, am yr hon y cvnygiwyd dwy wobr anrhydeddus, sef, 42p., a chwpan arian i'r arweinydd yn wobr gyntaf, a 10 gini i'r ail. Y darnau oedd y pwyllgor wedi ddewis i ddat- ganu oeddynt, (a) Y Dwynwen Dr J. Parry, (b), Drinking Song' Herman Goetz. Beirnia.id, Mri F. H. Cowen, Joseph Bennett, J. H. Roberts, a Dayid Jenkins. Yr oedd un-ar-ddeg o gorau wedi anfon eu henwau i mewn, ond wyth atebodd, a chanasant yn y diefn ganlynol:-Abertawe Glan. tawe; Anafon, ger Llanfairfechan Porth, Cwm Rhondda; Bangor Moelwyn, Ffestiniog Der- went (Cumberland) ac Abercarn. Yr oeddynt oil yn gorau rhagorol iawn, a mwyn- hawyd y gystadleuaeth ddyddorol yn ddirfawr gan y gynulleidfa. Pan wnaeth cor Derwent eu hymddangosiad galwodd Cadvan am dair banllef iddynt am ddyfod mor belled ffordd ac o estron wlad, a derbyniwyd ei gynygiad yn galonog gan y dyrfa. Ar ol i'r wyth cor ganu, a phob un dderbyn cymeradwyaeth gan eu pleidwyr, cynygiwyd diolchgarwch y cyfar- fod i Iarll Dinbych am lywyddu, mewn anerchiad ymfflamychawl gan Syr John Puleston, ond bu agos i'r gynulleidfa roddi taw arno. Eiliwyd gan Arglwydd Mostyn, a phasiwyd gyda chymer;id- wyaeth, a chydnabyddodd yntau hyny yn fyr. Yna traddodwyd beirniadaeth y Parch J. Owen, M. A., Criccieth Mr J. Jones, Llandudno a Mr I E. Jones Williar/is, Rhydlanfair, gan yr olaf, ar y traethawd goreu ar Y Dirwasgiad Amaethyddol yn Nghymru, ei achosion a'r moddion i gael ym- wa.-ecl ihono,' LIO 10s. Yr oedd saith wedi eu hanfon i mewn und y goreu oedd eiddo y Parch. W. Williams (Gwilym ap Gwilym Lleyn), Tryddyn Erbyn hyn yr oedd amynedd y dyrfa wedi dir- wyn i'r pen o eisiau clywed beirniadaeth ar y corau, a chedwid llawer o dwrw. Y beirniaid yn y gystadleuaeth hon ydoedd y Mri F. H. Cowen, Joseph Bennett, J. H. Roberts, a David Jenkins. Siaradodd Mr Jenkins yn Gym- raeg, a Mr Cowen yn Saesneg. Yn mhlith ei sylwadau dywedodd Mr Jen- kins fod- y gystadleuaeth hon wedi bod yn rhagorol ac yn galed iawn. Yr oeddynt wedi cael mwy o anhawsder i'w beirniadu na'r gystadleuaeth ddoe, eto yr oeddynt hwy yn unfryd unfarn yn y dyfarniad. Yr oedd yn dda ganddo glywed cystadleuaeth mor dda. Hefyd yr oedd yn dcIa ganddo weled fod y corau ar delerau mor gyfeillgar íÍ'u gilydd-yr oeddynt wedi dyfod ateu synwyrau, ac fe ddaw y Brass Bands hefyd yn y man (cym) Yr oedd rhai o'r corau hyn wedi myned i mewn i yspryd y darnau hyn yn well na'r Ileill, ond nid oedd yr un wedi myned i mewn i ysbryd y Drink- ing Song i'r graddau ag oeddynt wedi myned i'r llall. Yr oedd tri cor yn agos iawn i'w gilydd, dim ond un marc rhyngddynt, Mr Cowen a ddywedai ei fod eilio ac yn cydweled a phob gair a ddy wedai Mr Jenkins, er na ddeallai ei iaith, Dywedai eu bod wedi cael gwaith caled i feirniadu y corau hyn, ond yr oeddynt wedi bod yn fanwl a chydwybodol, fel ag yr oeddynt bob amser, ac yn fwy felly, ae yr oeddynt mewn safte anhawdd. Yr oedd rhai o'r corau wedi codi ych- ydig mewn ton, eraill wedi cyfiymu ychydig, yr hyn yn ddiau achoswyd gan ormod o frwdfrydedd. Yr oedd dau gor yn hollot gyfratal, ac ni allent wneud ond rhanu y wobr fla,enaf rhyngddynt, ac yr oedd cor arall o fewn marc iddynt, i'r hwn y dyfarnent yr ail wobr, sef cor Abertawe. Y ddau gor goreu oeddynt Moelwyn a Porth. Ychydig o dwrw wnawd ar ol hyn, ond daeth anhawsder yn nglyn a'r gwpan arian brydferth a gwerthfawi,-nis gellid rhanu hwnw. Deuwyd i'r penderfyniad rhwng y beirniaid a'r pwyllgor yn y man i'r ddau gor gystadlu drachefn yn nghyngherdd yr hwyr am y cwpan, a therfyn- wyd y cyfarfod. Rhyw dawel a dof fn y cyfarfod hwn, dim Ilawer o'r brwdfrydedd a geir yn gyffredin yn yr Eistedd- fodau, ond aeth pobpeth ynmJaen yn ddidwrw a boddhaol—gwell genym hwyrach fuasai gweled mwy o hwy! a bywyd ynddo. Erbyn y prydnawn yr oedd y rfwl a'r gwynt wedi cilio, a'r haul unwaith eto yn gwenu'n siriol. Yr Ail Gyngherdd. Llywyddwyd y cyngherdd hwn gan Syr John Puleston. Daeth gwell cynulliad yn nghyd heno na neith- iwr, ac yr oedd y brwdfrydedd wedi codi yn uchel -y gynulleidfa yn cydgaull emynau yn mhell cyn i'r cyngherdd ddechreu. Fel y dywedodd Cynon- fardd yn y prydna wn, cyngherdd yr ardd oedd yma neithiwr, ond 'cyngherdd cenedlaethol' heno. iiyma brif gyngherdd yr Eisteddfod, a'r prif ddarn ynddo ydyw cantawd genedlaethol wedi ei chyfan- soddi gau gerddor cenedlaethol—Dr Parry—a'r geiriau cenedlaethol iddi yn ffrwyth ysgrifell ac awen O. M. Edwards, M.A. Gyda llaw, dyma'r libretto y gwrthododd pwyllgor Llandudno gymeryd ei theitl Cymru Fu, Cymru Fydd,' a gorfu ei hail fedvddio yn Cambria.' Heno hefyd v cyflwynir y dysteb genedlaethol i Dr Joseph Parry. Hefyd dyna'r corau meibion yn myned i dynu'r dorch am yr ail waith. Mae pawb yn frwdfrydig heno. Ail dynu am y Dorch. Ar ol i'r gerddorfa chwareu overture ddestlus o waith Mr D. C. Williams, Merthyr, ac i gor yr Eisteddfod ganu y ballad gnrawl Ivry,' o waith Mr G. H. Pugh, Mus. Bac., hysbysodd Cynonfardd mai y peth nesa.f oedd y gystadleuaeth am y gwpan arian Ihwng eorau Moelwyn a Porth-y De a'r Gogledd, a dyma'r lIe yo ferw gwyllt, tra y clir- iwyd rhan o'r llwyfan i wneud lie i fechgyn Ffes- tiniog, v rhai a wnaethant eu hymddangosiad yn nghanol brwdfrydedd anarferol. Cafodd y ddau gor dderbyniad gwresog a chanasant 'Dwynwen' (Dr Parry). Mawr oedd y disgwyl am y dyfarniad yr hyn a roddwyd yn fuan gan Mr Cowen. Dv- wedi fod y gystadleuaeth hon eto wedi bod yn galed iawn, a bron mor anhawdd i wahaciaethu rhwng y ddau gor ag ydoedd y prydnawn ond yr oedd rhyw ychydig bach o wahaniaeth, a'r cor oedd wedi rhagori yr ychydig hwnw ydoedd cor Moel- wyn. Wedi cael dystawrwydd, dywedai, fel ag yr oedd wedi dweyd yn y prydnawn, ei bod yn resyn na fuasai rhyw gyfaill haelfrydig yn y cyfarfod yn dyfod yn mlaen i anrhegu arweinydd y cor arall hefyd a chwpan. Ar hyny, hysbyswyd fod Syr John Puleston gyda'i haelfrvdedd arferol yn barod i gyflwyno ewpari arian arall i arweinydd cor y Porth. Derbyniwyd y newydd gyda banllefau o gymeradwyaeth. Tysteb Dr. Parry. Yna aed yn mlaenfgyda seremoni ddyddorol arall, sef cyflwyno y Dysteb Genedlaethol i Dr. Parry. Wedi ychydig eiriau pwrpasol gan y llywydd, gal- wyd ar Mr. Anthony Howell, U S. Consul, yn Nghaerdydd i gyflivyj:io'r dysteb. Dullenodd Mr Howell anerchiad maith, yn rhoddi braslinelliad o hanes Dr Parry, a da oedd ganddo fod ei gyd- genedl wedi gwel'd yn dda ddangos eu parch i'r Doctor galluog ac yn gwerthfawrogi ei wasanaeth dirfawr i Gei-ddoriaeth Gymreig. Yr oedd v dysteb wedi cyrhaedd y swm o 58lp 2s. 6ch Dr Parry wrth gydnabod yn ddiolchgar y dysteb a'r teimlad- au da a ddangoswyd tuag ato, a ddywedodd y gallai siarad llawer am y gelfyddyd gerddorol yn Ngbymru, ond yr oedd doethinob yn sibrwd yn ei r glust am ddweyd ond ychydig. Felly diolchai iddynt oil am eu haelioni a'u dymuniadau da iddo. Ni siaradai mwy yn iaith Shakespeare, nac iaith Taliesin ond yn iaith Beethoyen, gan droi at y cor i fyned yn mlaen gyda Cambria.' Cyfanwaiih Newydd. Rhoddwyd perftbrmiad rhagorol o'r gwaith ardderehog hwn. Yr oedd y cor a'r gerddorfa yn gimpus, a'r umnvdwyr Miss Gertrude Hughes, Miss Hannah Jones, Mr Hirwen Jones, a Mr Ff; angcon I) vies yn rhagorol.. Gwnaeth Mr. Ffrangcon D .vies ei ran yn eithriadoi o ganmol- adwy. D I. campus yw, a dylai gael derbyniad cynes gan gerddorion a chorau Cymru. Cyng- herdd rhagorol oedd hwn, ond ei fod yn rhy faith. DYDD IAU. Yr Orsedd. Cychwynodd y beirdd o Dy'r Eglwys yn foreuach heddyw, ychydig wedi wyth, gan fod mwy o waith i'w gynawni. Daeth llu yn nghyd, er fod y gwlaw man yn araf ddisgyn ond fel y dywedodd Hwfa, nid oedd y cymylau ond yn ein heneinio ag eneiniad -ni ddywedai y gair arall, Yr oedd tyrfa luosog wedi ymgynull ar y Fach (Happy Valley) er yn fore. Esgynodd yr Arch- dderwydd y maen llog, a hysbysodd yr Orsedd yn agored. Chwythwyd y corn gwlad gan Mr Marks, Llandudno, ar y corn arian newydd gyflwynwyd yn anrheg i'r Orsedd gan rhyw gyfaill, a darllen wyd Gweddi'r Orsedd gan Esgob Bangor. An erchwyd gan Watcyn Wyn, Alltud Eifion, Bryf- dir, Pedrog, Trebor Aled, Gwili, Tryfan, Dewi Gian Ffrydlas, Gwynedd, a Dewi Ogwen. Canwyd ar y delyn gan Telynores Lleifiad yn swynol a melus, ac yna caed anerchiad gan y Parch Dr Herber Evans. Wedi hyny aed yn mlaen i urddo'r beirdd a'r cerddoricn oedd wedi pasio'r arholiad yn llwydd. ianus, ac o'r rhai y ceir rhestr yn ein rhifyn di- weddaf. Wedi myned trwy y seremoni ddyddorol hon, caed detholiad ar y delyn gan Telynores Arfon, yr hon oedd newydd ei hurddo, a chanwyd penillion gan ei thad. Doniol oedd anerchiad Herber Evans. Carai yr Eisteddfod a'r Orsedd, nid am eu bod yn hen-yr oedd Sitan yn hen, ond nid oedd yn ei garu-eithr am eu bod yn gwneud gwasanaeth anmhrisiadwy i lenyddiaeth, barddoniaeth, a cherdioriaeth Cym- ru. Galwai Carlyle y byd yu ferfa olwyn, a gwaith pob dyn oedd rhoi ei law ar y breichiau i'w gyru yn mlaen. Ond y drwg ydoedd fod ambell ddyn yn neidio i'r ferfa yn lie ei gwthio. Mae Cymru wedi deffro, ac nid a n 01 bellach, ac y mae eisiau i bawb heipu'r achos--y mae elfen bywyd ynddo. Gorymdeithiwyd yn ol ac ar eu hunion i'r babell. Y r oedd yn biesenol yn yr Orsedd Argl Mostyn, Syr Watcyn, a Syr J. Puleston. Dyma ddydd mawr y beirdd. Y ddau ddiwrnod blaenorol y cerddorion oedd uwchben y llu a'r beirdd naill du. Heddyw mae'r cerddorion o'r golwg, a'r beirdd, mawr a bach, wedi meddianu'r llwyfan Dacw hwy yn eu gwisgoedd urddasol, yn feirdd a barddesau, a golwg hardd arnynt. Ie, dyma ddydd rnawr y cadeirio wedi gwawrio ac y mae 16 o fodau pryderus yn rhywle yn y babell, ond rhid disgwyl yn mhellaeh'cyn cael gollyngdod o u pryder. Llenwir v gad air gan Syr Watcyn W. Wynn. o J Araf y daw'r bobl i'r babell tra'r agoriry cyfarfod gan y seindorf bres am 10 30, '= j j Y peth cyntaf ar ol y seindorf ydoedd anerch- laaau gan y beirdd am y tro cyntaf yn yr Eistedd- fod. A dyma hwy a chenllysg o euglynion-na, maent wedi pwdu neu wedi rhewi, oblegyd un bardd ddaeth yn mlaen i wneud ei lais yn glyw. adwy, sef yr hen awenydd Alltud Eifion. Yna canwyd gyda'r tanau gan Eos y Berth tra y chwareuwyd ar y delyn gan Ap Eos y Berth. Rhy fychan o le roddir i hyn yn ein Heistedd- fodau. J Wedi hyny caed beirniadaethau ar y aelfyd3yd fel y canlvn Model boat' heb fod dros ddwy droedfedd, 5p 5s, un ymgeisydd, sef John Evans, 14, Chiton Street, Llandudno Welsh home spun yarn,' 2p 2s, Thomas Williams, Factory, Trefriw Welsh home-spun tweed,' 3p 3s, 23 yn ymgeisio' Jacob Jones. Blaenau Ffestiniog; 'Gentlemen's rug of Welsh wool,' 2p 2s, Thomas Williams, Tref- riw Saith lath o wlanen Gymreig. 2p 2s Thomas Williams, Tr,efriw; 'Combed Welsh wool yn nghydag eglurhad heb fod dros 500 o eiriau 5p 5s haner y wobr i Thomas Williams, Trefriw; I Kiiicl,-Prbc)cker stockings with gloves to match, in Welsh yarn (i foneddwr). 2p 2s, Mrs Margaret Edwards, Brvnllifon, Blaenau Ffestiniog Wool- len shawl, Ip 10s, ail 15s, goreu, Mrs Williams, Trevor View, Bettwsycoed ni atebodd yr ail i'w henw Boys' ribbed stockings (agored i ferched D 12 oed), 1, 10s 6ch, Miss Williams, Bettwsy- coed, ni atebodd yr ail i'w henw I Lady's knitted petticoat, lp Is, yr Anrhyd Adela Douglas Pen- nant (chwaer Argl Psnrhyn). Caed cystadleuaeth ddyddorol yn nesaf, sef canu gyda r tanau yn ol arfer y Gogledd, 2p 2s, Eos y Berth yn beirniadu. Da.u gystadlodd, a dywedai y beirniad mai isel a gwael oedd y ddau, ond fel cefnogj.eth rhanai haner y wobr rhyngddynt. Rhoddodd. Mr Jones Parry wobr ychwanegol yn lie rhanu. Richard Roberts, Bethesda, a W. O. Joiie,, Blaenau Ffestiniog. "I Yn nesaf, caed can gan Mr Ffrangcon Davies, Bugail Aberdyfi,' a chanodd mor swynol fel y bu raid iddo ail ganu. Yma cafwyd anerchiad y llywydd o ^arit1°°' Y Bfenin Erl' (R. S. Hughes), 2p 2s, Arthur Davies, Cefn Mawr, Beirniadaeth Dr John Rhys, Mr O. M. Ed- wards, a'r Parch G. Hartwell Jones, ar y traith- awd, I Yr Iaith Gymraeg: ei disgyniad, ffynonell geinadaeth, ei thyfiant, a'i rhagolygon,' 50p. Wedi ir tn beirniad ddyfod yn mlaen, darllenwyd beirniadaeth ddoniol a digrif yn Saesneg gan Dr Rhys. Dywedai fod pump cyfansoddiad wedi dyfod i law, a rhai ohonynt yn salw iawn; yr oeddynt yn anhawdd, os nad yn anmhosibl, eu deall. Da oedd ganddynt weled cynifer wedi ym- geisio ar destyn mor eang, a dymunent ranu'r wobr rhwng y ddau oreu, sef y Parch Robert Williams, B.A., Porth, a'r Parch D. G. Williams, Ferndale. Vna galwyd ar Mr O. M. Edwards yn mlaen i roddi ei ddyfarniad ef a Proff J. E. Lloyd, Bangor, a Mr Harold Boulton, Llundain, ar y llawlyfr Saesneg cryno ar Hanes Cymru at wasanaeth ys- golion canolradd, 25p. Dywedai fod yn ddrwg ganddo mai tri yn unig oedd wedi ymgeisio, a'r tri hyny o deilyngdod pur isel; ac yr oedd yn ddrwg ganddo orfod abal y wobr, ond gobeithiai y cynygid y wobr eto, gan fod cymaint angen am lyfr o'r fath. Beirniadaeth ar y celfau fel y canlyn Design of an Eisteddfod medal,' lOp, annheilyngdod Set of drawings of an old building,' 5p 5s, ni atebwyd i'r enw Design of an elementary public school, suitable for 400 scholars, and cost not to exceed 121. per head,' lOp 10s, G. T. Roberts, Bangor Set of plans of a row of workmen's cot- tages,' 6p 6, Evan Roberts, Ba-igor Set of plans of farm buildings,' lOp, D. 0. Jones, Pentrefoelas. Dyri, yn Gymraeg a Saesneg, ar Ci Hugh Bur- ges (o Gymrur Plant), 5p, Bryfdir, Ffestiniog. Wedi hyn caed cystadleuaeth ar y delyn droed- awl, Morfa Rhuddlan,' 2p 2s, James Williams o'r Fenni, a rhoes Lady Mostyn wobr arall i Gwen M. Parry, Porthaethwy. Ellglyn i'r Drych,' lp Is, Ap Cledwen, Gwyth- erin. Unawd ar y clarionet, Impromptu 'Bon Voy- age,' 2p 2s a chas Iledr i gadw dau clarionet, gwerth 30s, E Parcel, Rhyl. Galwyd am anerchiad gan Dr Herber Evans, a derbyniwyd ef yn wresog. Cystadleuaeth unawd mezzo-soprano, To the lyre,' 2p 2s, Miss M. A. Morris, Tonyrefail, Mor- ganwg. Beirniadaethau y celfau-Olew ddarlun, 25p, E A. Krause; Black and white study from life IN(i rai dan 21 oed), 1, 5p, Tim Evans, Birkenhead; 2, Miss L. J. Jones, Treffynon 'Composition figure subject,' yn cynrychioli rhyw amgylchiad yn myw- yd y Tywysog Llewelyn, lOp, Jas. Staniforth, ar- lunydd y Western Mail, Caerdydd Water-colour painting,' 15p, Mr Clough, Glan Conwy. Yma anrhegwyd y gynulleidfa a chan gan Miss M. A. Morris, y fuddugol ar yr unawd soprano, a chafodd dderbyniad calonog. Cliriwyd y llwyfan erbyn hyn i'r Corau Merched. Cymerid cryn ddyddordeb yn y gystadleuaeth hon. Ond rhwystrwyd y corau i fyned yn mlaen gan fod y beirdd yn anfoddlawn eisiau myned yn mlaen gyda'r cadeirio a bu cryn gyffro yn mlith y dorf, rhai eisiau myned yn mlaen gyda'r rhaglen eraill eisiau'r corau. Yn wir yr oedd y ddau arweinydd yn methu cytunn. Ond, cyfarfod y beirdd oedd hi, a hwy a orfu. Felly ymgynuilodd yr hall feirdd i'r llwyfan, a'r Athraw J. Morris Jones fel aderyn du yn nghanol y beirdd yn eu gwisgoedd gorseddol. Yr oedd Syr Watkin yn absenol, a chollwyd peth amser i'w ddisgwyl i mewn ac yn y cyfwng yma cyflwynwyd tystysgrifau i'r beirdd a'r cerddorion oeddynt wedi eu hurddo yn yr Or sedd yn y boreu. Galwyd eu henwau yn mlaen gan Cadvan a chyf- lwynwyd y tystysgrifau gan Gwynedd. Erbyn hvn mae y brwdfrydedd yn uchel a'r cyfarfod yn fyw- iog. DACW y beirdd yn haner cylch ar y llwyfan, a Hwfa yn bloeadio am ddistawrwydd, Seinir y Corn Gwlad, a gelwir y beirniaid i'r ffrynt gan Eifionydd.—Cofiadur yr Orsedd,-sef Dyfed, Elfed,, Berw, Alafon, a'r Proff. J. M. Jones. Y Cadeirio. Darllenwyd beirniadaeth faith gan Dyfed. Dv- wedodd fod peth newydd dan haul v nefoedd wedr digwy-ld, sef fod y pump beirniaid yn hollol unol ac unfarn vn y dyfarniad, a hyny ar wahan i'w gilydd. Yr oedd 16 cyfansoddiad wedi eu hanfon i mewn, rhai sal, a rhai sal iawn rhai da, a rhai gwell. Yr oedd pwyllgor Llandudno wedi tori y rheol gyffredin trwy adael y testyn hwn yn agored i bryddest neu awdl, gyda'r bwriad yn ddiamheu o gael gwaith uwchraddol, ond eu barn hwy, y beirn- iaid, vdoedd, mae caingymeriad 'welli'y- cyfan oedd rhoddi i feirdd aflywodraethus y rhyddid gogon- eddus hwn. Mae yn y cyfansoddiadau lawer o synwyr a mwy o wallgofrwydd. Ond yr oedd un er nad yr hyn v dymunasent iddi fod, nac yn ber- ffaith mewn llawer ystyr, vn tra rhagori ar v pumtheg arall, a hono ydoedd eiddo Pryderus (2)., Dvna ddistawrwydd yn teyrnasu tra a galwai yr Archdderwydd am i Pryderus, godi ar ei draed. Sylldremai llygaid pawb i wahanol gvfeiriadau; ac erbyn edrych dacw Ben Davies (Coronfardd' Caernarfon ddwy flynedd vn ol). Ystalvfera. AR pi draed draw yn nghanol y babell, ac aeth Gwynedd a Watcvn Wvn i'w arwain i'r llwyfan vn nghanol bardlefau byddarol y dyrfa, yr hon oedd erbyn hyn yn aflvwodraethus. Tra yr arweinid v congcwerwr yu mlaen, chwareuai y seindorf bres, 'See the conquering hero comes.' Bn peth anhnv.sder cael trefn a digtawrwydd, ond wedi ei gael, d tdwein- iwyd y cledd uwchben y bardd, gan Hwfa, a gwasgai y dwsinau beirdd yn mlaen Ouael rhoi eu ]law rywsut ar y cledd. Gofynodd yr Arch- dderwydd A oes heddwch,' dair gwaith ar uchaf ei lais, ac wedi cael sicrwydd am herld wch gan daranau o atebion cadarnhaol bob tro, rhoddwyd v cleddyf yn y wa.in am flwyddyn eto, a chanwyd can y cadeirio, Hoff wlad fy ngen digaeth,' gan Mrs Gertrude Hughes, me«'n llais swynol ac ar- ddull rhagorol. (Gwel Eeirniadaeth y Gadair mewn colofn ara!) Yna galwyd ar y beirdd i ddangos eu teimladau da ting at v pencampwr, a daeth Machno, Gwilvm AUtwen, Mathafarn, Berw, Alltud Eifion, Bryfdir, Watcyn Wyn, Gwynedd, Trebor Aled, Pedrog, Dewi Ogwen, Ap Cledwen, Morfydd Ervri, ac eraill. Wedi i Hwfa Mon ayhoeddi y Parch Ben Davies, Ystalvfera, Deheudir, yn Fardd Cadeirio' Cymru am 1896, dygwyd y seremoni i ben mewn tair banllef o Hwr6 gan v dorf nes oedd y creig- iau yn diaspedain, a llais treiddgar Hwfa i'w glvwed yn uwch na'r oil. Dyma anerchiad Watcyn Wyn iddo:— UN a ddychwel fel yn fyw,—un o'r llu Hwnt i'r llen-pwy ydyw ? Cyhoeddir o'r fainc heddyw Wedi'r oll-y I Cend er yw *Mae y ffraeth Watcyn Wyn a'r Cadeirfardd yn gefnderoedd. Testyn y gystadleuaeth hon eleni ydoedd darn o farddoniaeth (heb fod dros ddwy fil o linellau) Ta hwnt i'r lien.' 40p a chadair dderw gerfiedig. Wedi cael trefn a dystawrwydd ar ol y seremoni ferwedig hon, pasiwyd diolchgarwch i'r llywydd ar gynvgiad Esgob Bangor, yn cael ei eilio gan Syr- John Puleston.