Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

Priodasau. PRIODAS MISS MABY THOMAS A MR JOHN WILLIAMS DYfm Mercher, y 2-1ain cynfisol, yn nghapel M. C Carmel, Conwy, priodwyd Mr John Williams, unig. fab Mr John Williams, 10, Eversley Street, a Miss Mary (Pollie) Thomas, merch hynaf y diweddar Mr Robert Thomas, Bryntirion, Conwy, a 53, Mulgrave Street, Lerpwl. Gweinvddwvd ar yr achlysur gan y Parchn T. Gwynedd Roberts, Conwy W. O. J ones, B.A., Lerpwl, a R. Llngwy Owen, Ph.D. (Cofrestr ydd). Gwisgai'r briodasferch, yr hon a roddwyd ymaith gan Mr W. Pryce-Jones, wisg o "grey silk alpaca, trimixed with white satin, lace and passemen- terie, and a white hat with white plumes, pink roses, and chiffon," a chariai dusw o rosynau gwynion ao orchids, anrheg y priodfab. Y ddwy forwyn oedd- ynt Miss Katie Thomas (chwaer y briodasferch), a Miss A. E. Williams (chwaer y priodfab), a charient hwythau dusw o rosynau pine a gwyn a carnations, rhodd y priodfab. Gwisgai Miss Katie Thomas wisg o" grey alpaca trimmed with pink satin and cream lace, large picture hat trimmed with white satin, pink roses, and chiffon," a Miss Williams wisg o "pale blue crepon trimmed with cream lace, white picture bat with plumes, and chiffon." Y gwas oedd Mr Maurice Thomas, Rhyl. \Vedi'r seremoni aeth y cwmni prioc- asol i Bryntirion i fwynhau'r foreuwest ac yr oedd pentref bychan Gyffin wedi ei addurno yn chwaethus er dathlu'r amgylchiad. Yn ddilynol aeth y cwpl dedwydd i dreulio eu mis met i Bray, Iwerddon. Gwisg deithio y briodasferch oedd pale fawn and green cloth with pink blouse, and large brown hat trimmed with tulle, ivy, and roses." Yn mhlith y gwahoddedigion i'r foreuwest yr oedd Mr a Mrs Pryce-Jones, Miss Joyce Williams, Miss Annie Roberts, Parch W. O. Jones, &c. Yr oedd y pwydd- ion yn lluosog a gwerthfawr. Ddydd lau, rhoddodd Mrs Thomas, wiedd o de i holl blant ysgol Sul Gyffin yn nghyda holl hen bobl y pentref yn Bryntirion ac yn yr hwyr caed cwrdd adloniant i ddathlu'r am- gylchiad, pan gymerwyd rhan gan gyfeillion o Gonwv a Lerpwl. PRIODAS MISS M. E. JONES A MR T. TALIESIN REES. YN nghapel Parkfield, Birkenhead, ddydd Mercher, priodwyd Miss Mary Elizabeth Jones, ail ferch Mr Edward Jones. Albert House, a Mr T. Taliesin Rees ail fab Mr Griffith Rees, Hollybank Road. Teimlid dyddordeb mawr yn y briodas ddedwvdd, gan fod teuluoedd y ddeuddyn ieuane yn adnabyddus iawn mewn cvlchoedd Cymreig a Seisnig. Gweinyddwyd gan y Parchn T. Gray a W. M. Williams. Y gwas oedd Mr G. C. Rees (brawd y priodfab), gyda Miss Emmie Jones (chwaer y briodferch), a'r Misses My- fanwy a Gwladys Rees (chwiorvdd y priodfab) yn forwynion. Rhoed y foreuwest briodasol gan Mr a Mrs Edward Jones yn y Music Hall, Claughton Rd., pan yr oedd tua 100 yn bresenol. Yr oedd y pwydd- ion yn lluosog a gwerthfawr. Aeth y par dedwydd i dreulio en mis mel i'r Channel Islands yn nghanol llongyfarchiadau llu o gyfeillion. --0--

FFOLINEB MAWR.

Advertising

Yr Eieieddfod Genedlaethol