Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Dyffryn Clwyd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dyffryn Clwyd. YN mhentref Llansannan mae stesion i fod Y fwyaf ardderchog a welsoch chi 'rioed, meddai rhyw brydydd pen rhaw er's llawer dydd, ac y mae gobaith yn awr weled cyflawni r broph- wydoliaeth. Pwy ddywed nad yw'r Cymro yn meddu ysbryd anturiaethus ? Caed prawf o hyn nos Lun yn ysgoldy Llansannan, pan ddaeth 11° ° drigolion gwlad Hiraethog yn nghyd i gwrdd cyhoeddus. Amcan y cwrdd oedd ceisio hyr- wvddo reilffordd ysgafn o'r pentref diarffordd hwn i Ddinbych a Bettws y-coed, ac os yw areithiau yn brawf o frwdfrydedd, nid yn fuan y rhoddir heibio y gobaith o weled y peiriant yn chwyrnellu dros grib y bryniau eylchynol, a phobl Llansannan yn gadael y drol a'r cerbyd yn y buarth, a r ceffyl yn yr ystabl,ac yn myn'd i'r farchnad yn y tren. Dyma'r cwmwd ag y bu hen wr yr Hafod er's llawer dydd yn arswydo gweled diwygiadau yn cael eu mab- wysiadu, ac yn arllwys melldithion ei enaid cyfiawn ar y drol wrth ganfod y car llusg yn cael ei adael o'r neilldu, a'r oruchwyliaeth newydd yn gwawrio. Cymerwyd y gadair gan Mr Ivan Roberts, Plas Isaf, a siaradwyd gan Mri. Wynne Edwards, Roberts, Fforddlas Bcaz Jones, T. Pierce, Hendre Aled; A. Lloyd Jones, a'r Parch R. Williams, Tanyfron. Pasiwyd penderfyniad un- frydol yn ffafr y reilffordd, nodwyd pwyligor i drefnu, a gwneir cais at gynghorau llan, plwyf, a sir i ddwyn y fendith oddiamgylch. Gyda llygad y breuddwydiwr y cymerir rhagolwg heddyw, a rhaid wrth ysbryd y prophwyd i ddisgwyl y cyfnewidiad mawr ond ni raid wrth grebwyll gref i ganfod y breuddwyd yn ffaith a'r gobaith yn sylwedd. AER COBD COCH. Ba tenantiaid Mr a Mrs Brodrick, Coed Coch, a Plas-yn-llan, Llangynhafal, yn ymweled a'r aer yr wythnos ddiweddaf ac arlwywyd gwledd iddynt. Yr oedd tua 350 yn bresenol, Mawr oedd y croesaw roed iddynt-, ac ni fuont hwythau yn ol o foli pobl y Plas, gan ddatgan y teimladau da fodolai rhyngddynt. Hir y ffyno y cyfryw deimladau. GWEINIDOG NEWYDD. Ddyddiau Llun a Mawrth, ordeiniwyd Mr. T. Eli Evans, o Goleg Annibynol Bangor, yn wein- idog eglwys Pwllglas a'r Graigfechan. Maes dvmunol i ddyn ieuanc gweithgar yw'r eglwysi hyn, acynoltystiolaeth llu a'i hedwyn un felly yw'r gweinidog newydd. Gweinyddwyd gan y Parchn. Dr Herber Evans, 0. Davies, Bethel; D. B. Richards, Crugybar Richards, Llanarmon Prit- chard. Gorwen; D. S. jones, Chwilog, ac eraill. Caed cyrddau da, a mawr fo llwydd Mr Evans yn Nyffryn Clwyd. RHAITH DOSBARTH RHUTIIYN. Cynaliwyd y cwrdd misol ddydd Llun. Mr Owen Williams, Glan Clwyd, yn llywyddu. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Fwrdd Llywodraeth Leol yn caniatau i'r dosbarth gael eu ranu yn ddau, ac fod swyddog i arolygu'r ffyrdd a gwylio iechyd y plwyfi yn cael ei benodi yn y ddau ranbarth. Nid oedd y raniatad" yn cael ei roddi ond am un flwyddyn yn ,ir.ig, fel math o arbrawf. Gyda golwg ar ddyfn- hiiu gwely'r Glwyd yn Llanrhaiadr, hysbyswyd fod y tirfeddianwyr yn barod i ddwyn y draijl. Pen- derfynwyd anfon at Mr W. G. Rigby, Llanychan, yr hwn a ymddiswyddodd beth amser yn ol am na ddeallai'r iaith Gymraeg, i'w hysbysu y cyhoeddid ei sedd yn wag os na fyddai'n bresenol yn y cwrdd nesaf. MANION Yn nghwrdd diweddaf, cynghor tref Rhuthyn, pasiwyd penderfyniad ar gynygiad Mr Byford, yn cael ei eilio gan Mr Rouw, a'i gefnogi gan Mr John Roberts, yn galw ar aeldoau seneddol a chynghor y sir i wneud yr oil yn eu gallu i hyrwyddo reil- A* ffordd ysgafn o Ruthyn i Gerygydruidion, Bettws- y-coed, a Pentrefoelas, ac un arall o Ruthyn trwy Llandegla i Wrecsam. —Yn Mwrdd Gwarcheidwaid Rhuthyn ddydd Llun, hysbvswyd fod Mr Stanley Weyman, Plas Llanrhydd, y nofelydd enwog, wedi gwahodd hen bob! y tlotty yno i de. Diolch- wvd iddo am ei wahoddiad caredig. (o)

Cohebiaeth.

250p o lawn i Cymro.

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.

Y diweddar Barch J. Jones,…

--0--Ysgoloriaethau Coleg…

Advertising

LIeol.

--0--Reilffordd Newydd i Aberystwyth.

-0--Marchnadoedd.

A gaed mewn llyfr emynau yn…

rPWLPUDAU CYMREIG, Gorphenaf…

Advertising

Family Notices