Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853 OWEN ROBERT S\ ESTATE AGENT, 33, Netberfield Road South, Has large a.nd small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H- EDWARDS & Co.. 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the town, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. H. E. WILLIAMS. 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT. HAS large and small Houses To Let in various parts of the city and uburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, &e. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House anli Shop Property carefullyand ec- nomically maiwged. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insurances effected.(F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 777, EVERT ON HDAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arranged, TELEPHONE No. 1779. The Liverpool Land Company, Limited. TO BUILDERS, &c.—To be Sold, Freehold and 999 years' Leasehold LAND, in lots to suit purchasers,in Garston, Kirfcdale, Walton, Bootle, and Seaforth. liberal advances will be made to Builders, Property letting well in all the localities.—Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22> LORD STRb.ET. 0. & D. WILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makersj &c., MBJTAL AND HARDWARE MEROHANTS Works-TAYLOR. STREET, Office and Show Rooms 402 1404, Scotland Rd. Show Booms w LIVERPOOL. I Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, and RaiHngs; Hot Water Green Housos, and Sanitary Engineers! Patent "Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c.; Bakers Oven Stocks, Confectioners Ovens, Chaffers, Boxes, rite Bars, &c.; all sizes of Gate Runners, &c. CYRN I CYRN CYRN111 MAE BUNODION BENSON EVANS Yn rhoddi esmwythad ar unwaith i GYRN poenua, ac yn eu symud yn hollol raewn ychydig ddyddiau. Symuda hefyd DDE! AID ar y dwylaw a'r bysedd, tyn ymaith enyniad a gwres o BUNIONS gan eu gwneud yn lach a diboen. Gwerthir mewn potelau 7$o a Is. lfc. yr un. Danfonwch am botel—maen feddygln- iaeth|anffaeledig. GASTROCY NE BENSON EVANS, Yr unig feddyginiaeth effeithiol i Ddiffyg Treuliad, Poenau ar ol Prydiau, Llosg-galon, Biliousness, &c. Derbyniwyd miloedd o gymer- adwyon i'w effeithiolrwydd rhyfeddol. Mewn Poteli, Is. lie. a 2s. 6c. yr un. T. BENSON EVANS, High Street, Dinbych. R. WH'TTINGTON, Tailor & Habit Maker (25 Years Practical Experience), 45, BYR3M STREET I LIVERPOOL. All Garments Cut and Made on the i Premises, in well-ventilated Workrooms. ) Gymry! dewch at Gymro, j ——— CWMMI YSWIRIOL Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSOj&FA DROS,920,000 000 AGENTS addas ychwanegol*yn eisiau—Y mofyner a J. W. JONES, Prudential Offiice Caernarfo a a Messrs GRIFFITHS rfDAVIESi1 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. Mantles Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. Furs. —AND— Millinery. a all these Departments wil be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFST H5 & DAVIES, 398, Scotland Road. F X~~ A CURE FOf? BRoicisTli "T7" for the Young and Old, JSl. THINK of the thousands of Children who suffer every year with Bronchitis without receiving permanent relief. Notwithstanding many remedies given them. their systems are still weak, and every spell of Had weather brings anxiety the parents. In all damp climates such as this country is subject to, people are inclined to Colds, Coughs, and Affection of the Throat and Lungs. The climate taxes those who are strong, while the weak suffer. TUDOR WILLIAMS' BALSAM OF HONEY is made of Pure Welsh Honey and, the Finest Vegetable Preparations. In no utherforOl is to be found the perfect combination of this valuable Nutritive and Curative Remedy. J^ARGEST SALE OF ANY COUGH j^jEDICINE IN THE WORLD. QVEKWHELMING TESTIMONY. IT IS MORE THAN GOLD TO ME. My wife desires me to convey her best wishes for the success of your TUDOR WILLIAMS' BAL- SAM OF HONEY. It has been of great benefit to our little ones, who suffered from Bronchitis and Coughs during the last two most inclement winters. It gives them instant relief. Further, our medical attendant, Dr. Jones, quite concurs in the frequent use of the Balsam when occasions require.-Yoiirs faithfully, JOHN WALTER MORGAN, Brynheulog House, Hirwain. Sold by all Chemists and Stores in Is. ld., 2s. 9d., and 4s. 6d. bottles. Sample bottles sent (post paid) for Is. 3d., 3s., and 5s., from the Inventor— D ITUDOR "Williams MEDICAL HALL, ABERDARE. PAPAYANNI STEAMSHIP COMPANY, LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMERS Sail regularly to the LEVANT, BLACK SEA, EGVPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterranean Ports, taking the following two routes alternatelv (1) MALTA, SYR A.SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at several Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Spain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPKI BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally BE on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty weli' ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Moderate fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during ships'STAY at Ports. Tourists and pleasure-sekers taking a trip by this Line V. ill find it most enjoyable and interesting For further parties ars, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambors, Lirerpoo LLINELL Y WHITE ST Ah.. 311III& ROYAL MAIL STEAMERS. LERPWL I NEW YORK via QUEENSTCWN, BOB DYDD MERCHER:— GERMANIC Gorphenaf 22 *TEUTONIC Gorphenaf 29 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithvjyr A arwydda y cludir yn yr Ail Gaban ar y fordaith P: is y cludiad ydyw Z7 5s i £10 yn ol :yr Agerddlong, y Tymhor, a'r lie i deithwyr. Y mae y Llongau rhagorol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllun » threfniadau, ac yn ddigyflelyb mewn mordeithiau. Ni chelr gwell cyfleusdra i fordeithwyr. Am fanylion, ymofyner i. R. Owen, Ship & In surance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu & R. Roberts, Bethesda; Owen E. Parry, masnachydd llechi, Dolwyddelen; David Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; Jos. Francis, 5 Glanhwfa road, Llangefn: R. G oberts ,Rock Cottage, Craigiau Mawr Tan ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. J. Williams Shoe Warehouse, Llanrwst Matthew G oldie, 217, High Street, Bangor; R. C Evans, 1, Minafon. Dolgelly; neu ag ISMAY IMRIK &Co., 34, Leade nhal Street, Llundain, E.C., a Water Street, Lerpwl. CHAS. R. HALL, GENERAL LETTER] CUTTER J: ENGRAVER 53 PARADISE STREET, LIVERPOOL. ANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &C.
CATRIN PRISIARD
CATRIN PRISIARD Gan Miss WINNIE PARRY. PEN. XXIII.- YMADAEL 0 TV FRY. YR oedd yr arwerthiant wedi ei drefnu i gymeiyd lie wythnos o flaen y Nadolig. Cawsent ganiatad i aros gymaint a hyny dros yr amser penodedig idd- ynt ymadael. Llwyddasai Catrin i gael bwthyn oedd yn sefyll yn unig ar odreu y pentref yn union wrth y gamfa arweiniai i'r llwybr dros y gors at Benygors. a boreu dydd yr arwerthia.nt, wedi iddi fyned trwy bob un o'r hen ystafelioedd a wylo ei ffarwel ynddynt, aeth hi a.'i thad yno. Yr oedd yn amIwg fod rhywun wedi bod yno o'u blaen, fodd bynag, ac wedi clu<?o bwrdd ac un neu ddwy o gadeiriau yno, a llosgai tan yn y grat. Yr oedd Martha wedi aros yn Ty Fry i wasanaethu ar y rhai ddeuai i brynu. Diwrnod rhvfedd oedd hwnw i Catrin. Eis- teddai ei thad yn llonydd wrth ochr y tan, yn syllu o hyd i'r un fan. Eisteddai Catrin yr ochr arall yn ceisio dyfalu beth oedd i ddod ohonynt yn y dyfodol. Gwyddai mai arni hi y syrthiai y baich —gwelai mor ddiolwg oedd ei thad i allu gwneud dim. Beth allai hi wneud ? Ni welai ond un cwrs o'i blaen. Yr oedd wedi treulio tair blymedd yn dysgu gwniad waith, a gwelai y byddai raid iddi droi yr addysg hwnw yn elw os oedd modd. Ond yr oedd un rhwystr mawr ar ei ffardd-nid oedd ganddi beiriant at ei gwaith, ac heb hwnw nid oedd ddichon iddi wneud llawer. Yn y prydnawn yr oedd rhywbeth yn tynu Catrin at y ffenestr. Ni allai beidio gwyiio, er fod hyny yn peri poen iddi—y pethau o'r hen ffermdy yn cael eu cludo hsibio. Gwelodd ddwy wraig yn cario llon'd basged o lestri rhyngddynt -yr hen lestri glas a gwyn oedd ar y dresar dderw yn y gegin fawr. Aeth bachgen heibio a hen gad- air freichiau ei thad ar ei ysgwydd. Gwelodd y troliau hefyd, ac yn un ohonynt y corcldwr, ac yna aeth rhai o'r anifeiliaid heibio-y fuwch wen fyddai yn arfer odro ei hun, a'r hen gaseg Bess, ddeuai at adwy y cae ond iddi chwibanu arni. Ni allodd wylio yn hir fodd bynag, gan y darfyddodd y diwr- nod byr ar unwaith, ac nid oedd ond goleuni y tan yn goleuo yno. Nid oedd yno ganwyll, ac yr oedd rhyw deimlad yn rbwystro i'r eneth fyned i geisio rhai i'r siop. Nid oedd yr un o'r ddau wedi profi tamaid ar hyd y dydd yn wir, ni fuasent yn gallu gwneud hyny pe buasai wrth law. Pan oedd y nos wedi llwyr ddisgyn, clywai Catrin guriad ar y drws, no agorwyd et oddiallan C'yh y gallai godi o'i heisteddle. Daeth Martha i mewn a llon'd ei breichiau o bethau o Ty Fry, a dilynwyd hi gan Robin yn cludo ychwaneg. Llanwai llygaid Catrin a dagrau pan welodd yr hwsmon yn gosod cadair siglo ei mam wrth ochr yr aelwyil dlodaidd, ac yna ei chadair bach fyddai yn eistedd arni wrth ochr ei mam pan yn blontyn bychan yn ceisio deall dirgelion gweu hosan. Daeth rhai o'r gweision eraiil a rhagor o ddodrefn nes oedd y bwthyn bron yn Ilawn. Gwnaeth Martha drpfn ar bethau yn fuan, ac yr oedd wedi berwi y tegell a gosod bwyd ar y bwrdd cyn i'r dynion orphen gosod dau wely yn y ddwy lofft fechan uwchben. Trwy holi daeth Catrin i ddeall mai Abednego oedd wedi prynu y rhan fwyaf o'r pethau. Cafodd nad oedd wedi annghofio ei basged fechan fyddai'n dal ei hedeuon a'i nodwyddau. Ni ddywedodd Martha ei bod hi ei hun wedi prynu i mewn y gweddill. ac mai ei harian hi oedd wedi llenwi cwpwrdd pared cegin y bwthyn bychan oedd eu cartref yn awr. Ni cliafodd Tv Fry amser i oeri cyn i denant newydd ddod i mewn, oherwydd cyn pen yr wyth- nos yr oedd tan yn cael ei gyneu yno, ac yr oedd llwyth o ddodrefn wedi dod ar hyd y ffordd dros 7 pora,ac wedi aros wrth yr hen ffermdy ac yr oedd William Jones, Penygors gynt, y tenant newydd. yn cyspu o dan y gronglwyd oedd wedi cysgodi rhai o'r enw Prisiart er's dwy ganrif. Yr oedd hyn yn chwerwder ychwanegol i John Prisiart, ond nid oedd Catrin mor anfoddlon wrth feddwl y byddai i Morris symud o amgylch yr hen d. Tybed y buasai yn cofio am dani yno weithiau— ond ceryddai ei hun am adael i'w meddwl grwydro ato, ac yntau yn meddwl am yr un hono y gwelodd ei Uun yn Mhenygors. Er syndod i lawer, arosodd Robin yn Nhy Fry o hyd fel yr hwsmon, ond yr oedd Martha wedi gwrthod aros yn ei lie er cael cynyg gan William Jones, oherwydd gwyddai yr olaf na chawsai neb i ofalu am y ty mor ddeheuig a Martha, ac yr oedd son am dani yn yr amgylchoedd fel 'llaethreg.' Arosai hi ddim, fodd bynag, ond aeth i fyw ar hyny oedd wedi gvnilo o'i chyflog ar hyd y blyn- yddoedd i'r ty bychan yr oedd wedi bwriadu myn'd iddo gyda Robin cyn i'r digwyddiad anffodus hwnw gymeryd lie oedd wedi eu gwahanu byth. Fel yr elai y dyddiau heibio yr oedd Catrin yn-ddi- baid yn ceisio ystyried pa fodd i gael lluniaeth iddi ei hun a'i thad. Gwelai fod yn rhaid iddi wneud rhywbeth a hyny yn fuan, neu byddai iddynt new- ynu. Yr oedd Martha wedi cynyg eu cynorthwyo a pbeth arian o'i hystor fechan, ond yr oedd ys- pryd annibvnol y teulu yn gryf yn Catrin -ac yn naca iddi gymeryd dim ond yr hyn oedd angen- rheidiol am ychydig amser. Gwnaeth yn hysbys yn y gymydogaeth ei bod yn barod i gymeryd gwaith gwnio i mewn, a chan fod yr unig wniadreg oedd yn byw vn Nglanygors wedi symud oddivno yn ddiweddar, ui fu yn hir cyn cael digon i'w wneud. Ond gan na,d oedd ganddi beiriant gwnio yr oedd yn gorfsd llafurio'n galed, heblaw fod yn rhaid iddi wrthod gwaith trwm, a hwnw oedd y mwyaf proffidiol. Meddyliodd unwaith am gym- eryd benthvg arian gan Martha i brynu un, ond wed'yn beth os na allai dalu iddi. Cafodd gyn- orthwy, fodd bynag, yn annisgwyliadwy ac yn ddirgel. Un noswaith yr oedd cynulliad pur luosog wedi dod yn nghyd i'r efail, a'r pwnc o dan sylw oedd teulu Ty Fry a'u hamgylchiadau. Dangosid cyd- ymdeimlad dwys 'r tad a'r ferch yn y trallod newydd oedd wedi dod i'w cwrdd, er fod beio ar John Prisiart, ond er ei geryddu, eto yr oedd pob un yn teimlo rhyw fath o ddiraddiad wrth feddwl fod yr hen deulu wedi gadael y lie yr oeddynt wedi trigianu ynddo cyhyd. 0 siarad am orphenol eu hanes, trodd yr ymddyddan ar ddyfodol y teulu. • Sut gneith y ddau fyw ys gwn i ? Mae nhw'n deyd na toes gynyn nhw ddim byd wedi adal.' Mi glywiB i fod Catrin am gymeryd gwaith gwnio, ond toes gyni hi ddim myshin, a fedar hi neud fawr heb hono. Mi fasa'n i gneud hi'n symol tasa gini hi un, gin bod Jane Evans wedi myn'd i ffwrdd.' Yr oedd dystawrwydd am rai munydau, ac yna rhoddodd Huw'r Go' besychiad neu ddau,—arwydd ei fod am ddweyd rhywbeth. 4 Be feddyliech chi tasa ni'n medru ceisio myahin iddi hi ? Fasa fo ddim llawer rhyngom ni i gyd.' la, ond wed'yn,' meddai Guto'r Gors, yr hwn fyddai bob amsar yn gweled yr ochr ymarferol parthed ei fod yn fab yr awen, 4 ond wedyn na hi byth i chymyd hi—mae nhw mor indipendant, wyddost.' I Oaddat ti'n meddwl mod i mor wirion a meddwl y basa hi ? Ond peri i'r dyn fyn'd a hi yno a pheidio deyd pwy sy wedi rhoi ordors am dani hi ydi'r ffordd.' Cyffredin iawn eu hamgylchiadau oedd pob un ddeuai i gwmni tan y go', ond ni ddywedodd un ohonynt air yn erbyn y cynllun yma, a rhoddodd pob un yn ol ei allu. Eto, pan gafvvyd y cyfan at eu gilydd, nid oedd yn ddigon, ac yr oeddynb mewn penbleth beth i'w wneud nes i Abednego- yr unig un ag ychydig arian dros ben ei angenion fynychai y lle-dalu y gweddill. Dewiswyd Huw y Go' i fyned i bwrcasu'r peir- iant gan ei fod yn duaU heirns a phethau felly,' er fod yn anhawdd gwybod beth oedd a wnelo'r ddealltwriaeth hono a. dewis peiriant gwnio. Brydnawn Sadwrn aeth Huw i Aberdoldy ar y neges hon, er mawr gywreinrwydd i'w wraig, yr hoa geisiai ganddo ddweyd beth oedd ei neges; ond yr oedd yn ddealledig yn mhlith cwmni'r efail nad oedd neb tuallan i'r cylch i gael gwybod dim am y peth rhag ofn i'r ffaith ddod i glustiau Catrin. Y boreu LSun canlynol safodd cerbyd y cwmni oedd yn gwerthu y peirianau hyn o flaen y bwthyn lie trigai Catrin a'i thad, ac er holl ddywediadaa Catrin na wyddai ddim am y peth, ac fod yn sicr ei fod ya camgymeryd, cludwyd y peiriant i'r gegin. 41 Miss Catrin Prisiart, gynt o ffarrn Ty Fry, y ceis i ordors i ddwad a fo, a chi ydi hono, 'dwi'n duall.' Gadawodd Catrin lonydd iddo am beth amser, yn tybied y deuent i'w nol drachefn wedi gwybod y camgymeriad a wnaettient ond aeth wythnosau heibio, ac yr oed i y peiriant yno o hyd. Yr oedd yr eneth yn cael ei themtio i ddyfod o hyd pan fyddai wedi blino ar bwytho'n ddibaid â'i llaw, ond gallodd wrthsetyll y demtasiwn tan un nos Sadwrn pan oedd ganddi rhyw waith neiilduol eisiau ei orphen, a chan ei bod yn gweled fod hyny yn an- nichonadwy heb gynorthvry, gwnaeth ddefnydd o'r peiriant oedd wrth ei hymyl, ac o hyny allari defn- yddiai hi beunydd, ond nid heb rhyw ychydig o anesmwythder, fel pe buasai yn ymwneud a phethau pobl eraill. (J barhau). -(J-
Gwreichsosi.
Gwreichsosi. IT I MARI, pwy roddodd y bara yn y pobty hedd- yw ?' ebe Cadwaladr wrth ei raig ar swper. 4 Pam yr ydech chi'n gofyn hynv?' atebai Mari, ya rhyfeddu at y gofyniad. 0, dim byd,' mwmiai yntau, 4 ond mod i wedi achub y mywyd trwy beidjo llyncu dwy bin yn y frechdan ddiweddaf.' 'Doedd y ddau ddim ar y telerau goreu, ac ofnai Oadwaladr fod ei briod yn ymgais am ei fywyd. IT Camgymeriad mawr ydyw i lafurwr briodi ua yn uweh na'i stad. Priododdjohn Rogers yn ddi- weddar weddw binclyd i deiliwr gwastad yn ei ddydd, yr hon oedd ganddi blentyn yn y fargen ac un boreu dywedai y wraig, I John, waeth. i chi heb gttd" swn a chlyl fod y plint yn gwisgo'n rhy dda.' Dyma chi, Sarah,' ebe John, yn sarug, os y gadodd eu tad gynysgaeth ar eu cyfer, pob- peth yn dda, ond mi ofala i na cha nhw ddim gneud ragman ohona i.' IT 4 Gwr ffeind oedd y ngwr cynta i, John,' ebai Sarah yn ffromllyd, 'a chymsai J lawer a deyd dim byd i frifo nheimlad i.' 'Ie, dyna hi-gresyn na chai y gwr cynta lonydd yn ei fedd, yn He bod y wraig yn lluchio'i esgyrn at yr ail o hyd ac mae yr edliwiadau yn gyffredin fel breuddwydion-i'w deongli i'r gwrthwyneb.' IF 4 Y mae'r Brifysgol Gymreig heibio i holl brif ysgolion y deyrnas yn urddas a gwaedoliaeth e changhellydd,' ebe'r Tyst; ac y mae hynyna yn dweyd rhywbeth, gobeithio, am ddyfodol Coleg Aberystwyth. IT 4 Cwestiwn difrifol Cymru y dyddiau hyn ydyw, Ai priodol galw y lyfarfod canu mawr gyn- aliwyd yn Llandudno yr wythnos o'r blaen yn Eisteddfod?' ebe John Jones ac ychwanegai yn alarus, 4 Nid Eisteddfod yn ol braint a defawd yr hen Gymry ydyw, ond rhyw godl o gymanfa ganu a thipyn o bobpeth.' Persain y delyn fel cyfeiliant i'r datgeinydd cywrain oedd nodwedd arbenig yr hen Eisteddfod, ond ow erbyn hyn y mae'r delyn bron wedi coll ei llais gan dinciadau anhymig y piano, clarionet trombon, ac felly yn y blaen. Nid Eisteddfod mo honi yn bendant, IF Y dosparth mwyaf anhydrin ar wyneb y ddaear ydyw y ffermwyr. Cymerer yr hen Wil- liam Parry fel engraipht. Bythefnoa yn ol grwg- nachai am wlaw-fod ei faip yn debyg o fethu ond y diwrnod o'r blaen, pan oedd ar ganol cario gwair,.dvwedai, mewn ysbryd drwg, 'Diaist i, weles i rioedshwn beth, dyma'r hen gebyst gwlaw yma'n dwad i ddyfetha'r cwbl Yn bocs y bo.' IF Galwodd estron mewn tafarndv yn Nyffryn Clwyd i ofyn am lasiad o gwrw iddo'i hun, a glas- ied arall mewn potel i'r arth oedd ganddo, eb efe, yr hon oedd wedi rhedeg oddiarno, a phan ei dal- iai y deuai a hi yno berfformio i wraig y ty ond wedi iddo fyned allan clodd y wraig y drws ac a waeddodd ar ei ol trwy y ffenestr, No, you wont come near here, you nor your bear.' II Rhedodd y si trwy y plwy fod arth wyllt yn y gvmydogaeth, a chloai pawb y drysau, wedi hel y plant i mewn, ac aeth y dynion allodd fagu digon o wroldeb allan i'w hela gyda gynau ergydiol, pig- ffyrch, pastynau, ac un gwrolyn gyda'i ffon glwb ac wedi ymchwil caled am y dydd, dychwelai yr helwyr i guro wrth eu drysau cloedig ac erfyn agoriad i mewn, heb weled na'r arth na'i pherchen tybiedig. Beth mor fach sy'n taflu cymydogaeth i fraw anaele IF Y mae gan y meddygon drwydded rywfodd i ladd pobl heb gael eu crogi am hyny,' meddai un y dydd o'r blaen, 4 oherwydd aeth y meddyg trwy rengoedd y lladdedigion ar faes y rhyfel gan orch- ymyn, Cleddwch yr 011,' ond pan ddaethant at un fe ddywedodd yn ei ing pan oedd y milwyr yn myn'd i'w luchio i ffos ddofn, Er mwyn yr anwyl, ffrindia, peidiwch am claddu i, oherwydd yr ydw i'n fyw pryd y dywedodd un o'r canibaliaid Prydeinig, Decin i dy fod ti'n gwbod yn well na'r doctor? I lawr & fo, lads.' lwy fagai blant ? CYFARWYDD.