Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
O'r Bermo.
O'r Bermo. N08 Lun. SOUTH BARMOUTH FYDD enw tref godir cyn hir mewn man He nad oes yn awr ond coed a thawelwch natur. Am y bau a'r Bermo presenol y bydd. Ryw fath o Fircinhed, ond fod y tren yn myn'd iddo dros y bone yn lie dan y dw'r. Nid dycbymyg bardd yw y dditias ddyf,-)dol yma, -mae dau dy wedi eu hadeiladu yno eisoes. Y 'STEDDFOD. Lluny Groglith y cynelir bon, ac mae'n dod yn fwy llwyddianus y naill flwyddyn ar ol y llall, fel y daw ei phwyllgorau a'i beirniaid yn fwy Ymneillduol. Daw yn fwy Oymreig hefyd, —dyma destyn ei pbrif draithawd, "Dylan wad Cymru ar y Cymry, eu cymeriad, eu hanes, a'u llenyddiaeth." GWEDDW. Mae dwy eglwys Ymneillduol wedi colli eu gweinidogion. Eglwys y Bedyddwyr yw un, sy'n hiraettiu am y Parch E. J. Roberts, dorwyd i lawr gan angau yn mlodau ei ddyddiau. Eg- lwys yr Annibynwyr vw'r llall, sy'n weddw am i eglwys Bethel dori'r degfed gorchymyn a "chweaych ei gwas," y bardd Rhys J. Huws, yn weinidog. Hyderir y llenwir eu lie gwoko, i fynu cyn hir. YMWELWYR. Mae pob ty yma'n llawn o bobl yn chwilio am iechyd, mwyniant a phleser. Ac yn ddiddadl, nid oes unlle gwell iddynt. Mae natur yma yn ei gogoniant, ac y mae llinell droiog glan y mor o'r Friog i Lanbedr yn frith o olygfeydd na fedd un wlad eu cyffelyb. RHYFEDDOD. Yn un o filoedd, safwu ar Barade Aberys- twyth yn disgwyl gwel'd y Tywysog yn myn'd heibio. Yn fy ymyl yr oedd hen amaethwr adawodd ei gynbauaf gwair er mwyn cael golwg ar y Prins ond swn siomiant oedd yn ei lais pan ddywedai wrth ei wel'd, "Ya tad, yn diw e'a debyg i ddin ONOMATO. o
Ar Finion y Ddyfrdwy.
Ar Finion y Ddyfrdwy. YN Y BALA. WEDI ymadawiad y myfyrwyr, tawel fel llyn yw bywyd tref y Bala. Wedi ymboeni uwchben ieithoedd pobl farw," a chrafn esgyrn Euclid ac Algebra am fisoedd, melus fydd y seibiant i'r becbgyn llwydwedd, a'r gwyr dysgedig sy'n athrawiaethu iddynt. Ar derfyn y tymhor, daeth un o fechgyn y dref, sef Mr D. S. Dakin, drwy'r arholiad yn anrhydeddus. Safai ar ben y rhestr, ac euillodd y brif wobr o 50p. Enill- odd swm cyffelyb y llynedd, a llawenycha'r Athenwyr am ei lwydd. Ceir cryn barotoi yn y dref hefyd at agor yr YSGOL GAXOLRADD I'R MERCHED, yr hyn gymer le fis Medi. Cyfrenir addysg am dymbor yn y Victoria Hall. Ddydd Gwener, dewiswyd Miss Bickley, o Ysgol Sirol Ffestin- iog, yn, brifathrawes. Cyn hir bydd merched Meirion mor enwog am eu dysg ag ydynt am eu glendicl.-Unwaith yn y flwyddyn y bydd CORWEN yn deffro o'i thawelwch breuddwydiol, a hyny ar y dydd Llan cyntaf yn Awst, pan y cynelir yr Eisteddfod flynyddol yno. Eleni y mae rhagolwg am wyl lwyddianus, oblegyd dywedai Rhuddfryn—tad yr Eisteddfod-wrthyf y dydd o'r blaen fod 13 yn ymgais am y gadair pump o gorau yn y brif gystadlenaetb tri yn yr ail a chwech o gorau meibion heblaw llu mawr o ymgeiswyr ar y testynau eraill. Daw pedwar o gorau o Lerpwl a Birkenhead, a disgwylir torf fawr i fwynhau arlwy llên, awen a chan. Bydd yr Ellmynwr Cymreig, Proff Kuno Meyer, yn ilywyddu un cwrdd, a Llifon fel arfer yn rhoi hoen a hwyl yn y galon.
YMWELWYR.
YMWELWYR. Ar finion y Ddyfrdwy, ceirllu mawr o ddy- eithriaid yn ymbleseru y dyddiau hyn. Ym- ddengys fod Llangollen yn myned yn fwy pobl- ogaidd bob blwyddyn, a gwneir hen dref Bran yn atdyniadol i dderbyn y llu ymwelwyr gan yr awdurdodau. Tipyn ar ol yw Corwen a'r Bala gyda hyn, a phe b'ai'r cynghoran plwyf yn credu mwy yn yr hen air, Os na fentrir tipyn, eniil- ir dim," buasai torfeydd mawrion yn sicr o ddod i dreulio seibiant yn y llenyrch Ilonydd a heirdd hyn. Is BERWYN.
GWYLIAU HAF.
-0- BwrierUr adeiladu gwaith dwfr newydd at dori syched Bangor. Nid yw cronfa bresenol y dref na'r tafarnau'n ddigen. Derbyniodd y Prifathraw J. A. Morris, Coleg y Bedyddwyr, Aberystwytb, y radd o D.D. o Brif- ysgol William Jewell, America. GWYLIAU HAF. "I LAN y mdr yr awn ar hynt, I gwrnni'r gwynt a'r tonau, Ac yno, yn ei ddyfroedd glan, Y dyddan nofiwn ninau." Ymwelir a glanau y mor ac a'r ffynonau gan 4iloedd o'n cenedl yn yatod misoedd yr haf. Mae llawer yn myned i geisio pleser a mwynhad yn ystod eu gwyl- iau, ond mae y mwyafrif mawr yn ceisio adfywiad ys- bryd ac adferiad iechyd a nerth, y rhai sydd wedi eu hanmharu gan lafur, gofalon, a phryder, neu gan ys- tormydd y gauaf a'r gwanwyn blaenorol. Nid oes amheuaeth nad un o'r moddion goreu i gyrhaedd yr amcan hwn yw newid awyr, a newid golygfeydd a chwmpeini, ymdrochi yn y m6r, ac yfed dyfroedd medygol y ffynonau, gan fod hyn yn effeithio yn llesiol ar y cyfansoddiad, Ond mown trefn 1 sicrhau y daioni^mwyaf a derbyn mwyaf o les, dylai yr ym- welwyr a'r lleoedd hyn wneud defnydd o Quinine Bitters Gwilym Evans—y moddion enwocaf i gyd- weithio a newid awyr er cynorthwyo natur i ymrydd- hnu oddiwrth nychdod, ac i nerthu y cylla, cryfhau y gewynau, a bwrw allan bob anmhuredd o'r cyfansodd- Pyblir y Ilea a geir o'r gwyliau as gwneir defn- y Pri°dol o'r Quinine Bitters pan yn newid awyr. Pris POteli, 2s 9c a 4s 6c yr un. Gan bob fferyllydd, neu trwyr post yn uniongyrchol oddiwrth y perchen- ogi°n—-Qmnine Bitters Manufacturing Co. Ltd. Xilanelly, South Wales.
I Newyddion Cymreig,
I Newyddion Cymreig, Clerc newydd Cynghor Tref Pwllheli yw Mr Evan R. Davies. Pregethai y Parchn Charles Spurgeon a Wm. Scott, Llundain, yn Llandudno ddydd Sul. Cwyna pysgotwyr fod amryw forloi yn y Gon- wy, ac mai eogiaid yw'r blasusfwyd o'r fath a garant. Cyhuddwyd bsichgen o'r enw John Williams gerbron ynadon Penarddlag ddydd Iau o ladd giar eiddo Mr Gladstone. Taflwyd yr achos allan. Nid yw Cynghor Dosbarth Ogwen yn ffafr gwa- hanu Arfon a Mon yn Undeb Bangor a Beaumaris, a gwneud dau undeb newydd ohonynt. Dywed Cynonfardd y deil Eisteddfod Llandudno gydmariiieth ffafriol ag Eisteddfod Ffair y Byd gynaliwyd yn Chicago. Fore Sadwrn, bu farw Mrs Edwards, priod y Parch John Edwards, gweinidog eglwys Bresbyter- aidd Seisnig Colwyn Bay. Hysbypir marwolaeth Mr Elijah Elias, fu un- waith yn rheolwr cyffredinol Keilffordd y Cam. brian. Ddydd Sadwrn, yn Ysbytty Caer, bu farw dyn o'r enw George Beckett, mewn canlyniad i syrthio o gwch yn Mostyn fore y dydd a nodwyd. Yn Llandaff, nos Wener, cafwyd dyn o'r enw Thomas Thomas yn gorwedd yn farw. Clywyd swn ergydion,a thybiri'r trancedig gael ei lofruddio. Y buddugol ar y rhianger dd yn Eisteddfod Llan- dudno, yr hwn ni atebodd i'wenw ar y pryd, yw y Parch Howell Roberts (Hywel Tudur), Clynog. Yr wythnos ddiweddaf bu Mr S. Smith yn an- erch ei etholwyr mewn amryw fanau yn sir Fflint. Beirniadai y Llywodraeth yn llym, gan ddweyd mai diffyg cyflavvni ydoedd ei nodwedd amlycaf. Yn y Sportsman Hotel, Caernarfon, rhoddwyd chwaiel lechi a fferm Tyddyn Agnes, Llaullyfui, yn cynwys 60 acr, ar werth. Prynwyd yr oil am 2,600p gan Major Turner, Caernarfon. Sonir yn Fiestiniog am adeiladu neuadd sef- ydlog tebyg i'r Pafilion yn Nghaernarfon fydd yn ddigon eang i gynal yr Eisteddfod Genedl- aethol a chyrddau mawrion eraill. Mae Mr Ernest Rhys, gol. y 'Camelot Series,' wedi cyhoeddi nofel. Cymro o'r De yw Mr Rhys, a rhoddir cymeradwyaeth uchel i'w ymgais gyntaf mewn chwedloniaeth gan newyddiaduron Lloegr. I Tales from the Welsh Hills yw enw llyfr new- ydd Mr W. E. Tirebuck, nofelydd sy'n byw yn Rhuddlan, ac yn cymeryd mawr ddyddordeb mewn bywyd Cymreig. Yn Qneensferry, ddydd Sadwrn, llwyddodd dau bysgotwr i ddal eog yn mesur 4 troed. 4 mod. o hyd, 2 droed 2 mod o amgylchedd, ac yn pwyso 49 pwys. Dyma'r eog mwyaf d laliwyd yn y Ddyfrdwy er's blynyddau. Cynaliwyd trengboliad ddydd Mercher yn Rhyl ar gorph John Hughes, hocer. Cafwyd ef wedi marw ar y ffordd fawr ger gwaith dwfr Penycefn- dy. Gohiriwyd yr ymchwiliad er mwyn cael tyst- iolaeth feddygo! ar achos y farwolaeth. Yn Mwrdd Gwarcheidwaid Caernarfon, ddydd Sadwrn, apeliodd y Parchn T. Johns, rheithor Llanrug, a H. Jones, rheithor Pentir, am 10s 6o yr un am weinyddu mewn angladd tlotyn. Pen- derfynwyd eu hysbysu nad oedd y. Bwrdd yn ar- fer rhoi cydnabyddiaeth am wasanaeth felly. Ysgrifena y Tad Ignatius yn awgrymu y dylid cynyg gwobrwyon yn Eisteddfod Casnewydd am y moddion goreu i wella pentrefi mwnawl a thai y mwnwyr yn Nghymru, y rhai, medd ef, 'sy'n waradwydd i'r Dywysogaeth,' ac argymhellai fod pob cyfarfod yn cael ei ddechreu trwy ganu emyn gynulleidfaol Gymreig. Wrth wneud ymchwiliad i elusen plwyf Caer- gwrle ddydd Iau, gwasgai Mr Cadwaladr Davies, y dirprwywr, ar y plwyfolion i gadw cofnodiad manwl o'r holl elusenau cyhoeddus. Bu esgeuluso gwneud hyn yn y gorphenol yn foddion'i golli ami elusen werthfawr, a gall yr un peth ddigwydd eto os na chymerir cwrs i wella pethau. Cynghor gwerth ei roi, a dylai pob plwyf weithredu arno. Yn nghyfarfod diweddaf Cynghor Dosbarth Gwledig Treffynon, cynygiodd Mr W. Thomas, Ysceifiog, fod cyflogau y rhai weithiant ar y ffyrdd yn cael eu gostwng o 16s i 15s. Ond gwrthodwyd hyn gan yr holl aelodau beblaw'r cynygydd. Am- lygodd y cynghor eu barn fod gan y cyhoedd hawl i dramwy trwy fuarth Mri Ferguson a Baird, Connah's Quay, a phenderfynwyd rhybuddio'r boneddwyr hyny i beidio atal neb rhagllaw. Gerbron Syr Horatio Lloyd, yn Llys Sirol Gwrecsam ddydd Ian, dygodd Robert Jones, pwyswr yn nglofa Brynmally, gynghaws yn hawlio 2p Is yn erbyn David a William Matthias ac E. Jones am bwysl) glo iddynt o Ebrill 28 i Mehefin 13. Hysbyswyd fod y diffynwyr gydag eraill wedi eu gwysio vn mis Mawrth o'r blaen gan Jones. Yr adeg hono dywedai'r Barnwr nad oedd y penodiad yn ffurfiol ond ar ol hyny cynaliwyd cyfarfod ac awdurdodwyd Jones i'r swydd. Yr amddiffyniad oedd fod y diffynwyr yn pwyso eu glo eu hunain, ac nad oedd arnynt angen pwyswr. Gohiriodd y Barnwr ei ddyfarniad. Mae Swyddfa Addysg wedi caniatau i Goleg y Brifysgol, Bangor, eangu adran y dydd hyffordd- iant, a gellir cyfrauu addysg i 50 o ddynion a 50 o ferched yn yr adraa hon yn awr. Yn ysgolion Blaenau Ffestiniog y bydd cyfran o'r myfyrwyr yn vmarfer eu hunain a'r gwaith o ddysgu. Mr H. W. C. Davies. B.A., Cymrawd o Goleg All Souls, Rhydychain, sydd wedi ei benodi yn ddarlithydd mewn hanes. Enillodd Mr Davies Ysgoiorjaeth Brackenbury mewn hanes yn Ngholeg Balliol yn 1891, graddiodd yn y dosbarth cyntaf gvdag an- rhyded d yu y clasuron yn 1893, a'r flwyddyn hon enillodd Ysgoloriaeth Jenkyns, heblaw eraill. Bro- dor o sir Fynwy yw. Cynaliwyd cyfarfod o Gydbwyllgor Heddiu Sir Ddinbych yn Ninbych ddydd Gwener, Capten Griffith-Boscawen yn y gadair. Dangosai adrodd- iad y Prifgwnstabl fod cynydd lied fawr wedi cymeryd He yn rhif y troseddau yn ystod y chwarter diweddaf.—Pender fynwy d rhoi blwydd- dal o 18p 15s i'r Ileddwas John Evana, Pentre- foelas 84p o rodd i weddw yr Heddwas John Wynne a 30p at brynu ceffyl i'r Arolygydd Jar- vis, Llanrwst. Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Llywodraeth Leol yn gofyn am fanylion yn nghylch v milwyr a alwyd yn ystod streic y glo cyn y gallent awdurdodi fod y swm o 16p i'w talu i'r swyddogion milwroL Bu Merched Ysgolion Ffestiniog yn ymweled fig amryw fanau o ddyddordeb hanesyddol yn ar- daloedd Conwy a Llandudno ddydd Sadwrn. Am ymosod ar wraig o'r enw Elizabeth Holland, dirwywyd John Evans, gof, Colwyn, i 40s a'r cost- au ddydd Sadwrn. Anfonwyd William Davies gan ynadon Gwrec- sam ddydd Llun i sefyll ei brawf yn y frawdlys ar y cyhuddiad o geisio cyflawni hunanladdiad. Gwnaeth gais o'r blaen dri mis yn ol. Nos Lun a dydd Mawrth cyn y diweddaf cynal- iodd eglwys Hermon, Blaenau, Tryddyn, ei chyfar- fod blynyddol, pryd y pregethwyd gan y Parchn W. Washington Jones, Bagillt, a Lewis Williams, Bontnewydd, Arfon-hen weinidog yr eglwys. Cwynir yn dost am fod plant plwyf Llanarmon- yn-Ial mor ddrwg am fyned i'r ysgcl ddyddiol, a sicrheir fod amryw blant yn y plwyf dros bump oed heb erioed fod awr yn yr ysgol ddyddiol. Rhaid i'r Parch Richard Owen, Mri Robert Parry, Robt. Jones, John Pickering, a T. D. Jones (Rhodwy), aelodau y Bwrdd Y sgol, chwareu o ddifrif' gyda rhai o'r plant esgeulus, a hyny heb golli amser. Y maent fel bwrdd wedi dangos gormod o diriondeb yn y gorphenol, -0-
Barddoniaeth.
Barddoniaeth. DEUAF AT Y GAMFA HONO. (Allan o Fugeilgerdcl.—Atebiad i gan tlaenorol). DK UAF at y gamfa hono Pe tywyllai ser y nen, A chymylau duach eto A ymdaenent uwch fy mhen Bydd yn rhaid cyn i ti fyned Im' gael golwg ar dy wedd, Syllu yn y llygad hwnw, Droes yn ofid ac yn hedd. Deuaf at y gamfa hono, Ni raid it betruso dim, Mynych. mynych yr af eto, Dyma'r unig lanerch im I gael myn'd i dori'r hiraeth, A chael tywallt dagrau pur, Ni fydd gan y byd ddirnadaeth Am yr achos o fy nghur. Deuaf at y gamfa hono, At 'run amser gyda'r nos, Mi gaf wel'd dy wyneb tirion, Yn ngoleuni'r lleuad dlos Tra mae cariad yn fy mynwes Megys anniffoddol fflam Dyfod wnaf trwy fyrdd o rwystrau Dof er gwaetha' nhad a m am. Deuaf at y gamfa hono, Mewn llawenydd a phruddhad, LIawen am dy weled eto, Prudd fod rhaid it' ado'th wlad Gormod fydd i mi ffarwelio, Ar ymrwygo mae fy mron, Yn dy freichiau, O dymunwn Farw wrth y gamfa hon. OXNIN. BLODYN AR FEDD DAVID ANEURIN EVANS, LERPWL. GYFAILL ieuanc, myn fy awen Roddi blodyn ar dy fedd, Blodyn hardda, gwyna'r gwanwyn, Gyda'i ddail yn wlyb eu gwedd Teg a phrydferth fu dy fywyd Dithau, fel y rhosyn gwyn, Tlws a gwylaidd fel y ldi Chwardd ar fynwes gloyw'r llyn. Mi dy welais di yn blentyn Nwyfus fel yr awel rydd, Hyd feillionog ddolydd Nantglyn Yno'n llamu fel yr hydd Gwyliais i dy yrfa ddisglaer, Hyd nes gwelaia er fy loes, Haul dy fywyd yn machludo Dan y gorwel yn y Groes. Glan a gwyn fel ewyn cenlli Fu dy fywyd ieuanc hardd, Gloyw megys gwlithyn gwanwyn, Tlws fel creadigaeth bardd Os caiff bywyd ieuanc duwiol Goron yn y nefoedd wen, Y mae coron hardda'r lesu Heddyw'n gorphwys ar dy ben. Diniweidrwydd y golomen A nodweddai'th fywyd cu, Caredigrwydd a ymdonai'n Hyfryd ar dy ddwyrudd di Twyll a rhagrith, brad a dichell, A ymwelwent dan dy drem, Fel y dail ar goed yr hydref Dan yr awel deneu, lem. Deddf dy Dduw oedd yn dy galon, Croes dy lesu oedd dy gan, Enfys o rasusau'r Ysbryd, Amgylc-hynai'th fywyd glan Yn mhob tywydd i Galfaria, Hedai'th enaid ieuanc byth, Fel yr bed aderyn wedi Tori ei galon at ei nyth. Pan oedd gwefus Angau'n sugno Dafnau ola'th fywyd cudd, Dwylaw estron gest i sychu Gwlith marwolaeth ar dy rudd Ond fe g'efaist Un all garu'n Filwaith gwell na thad na mam, Ac yn mreiehiaa dy Waredwr Rhodd dy enaid ieuanc lam. Gwneler, gwneler Dy ewyllys !"— Dyna'r hyfryd salm o hedd Yn mhangfeydd diweddaf bywyd, I dy enaid a fu'n wledd Ar yr emyn nefol yna Crogai'th enaid yn y glyn, Ac ar ei hadenydd euraidd, Gwyntiwyd di i'th hafddydd gwynl Yn y fynwent unig, unig, Draw o swn a dwndwr byd, Gorwedd mae Anenrin anwyi Heddyw yn ei farwol gryd Uwch ei ben y ohwery nablau Haf a gwanwyn salmau hedd, Wyla'r gauaf ei cherddoriaeth, Wyllt a dofn uwchben ei fedd. Cwsg, Aneurin, cwsg yn dawel, Cwsg yn mreichiau dwyfol hedd, Y mae enfys anfarwoldeb Heddyw'n gwenu uwch dy fedd Bywyd byr, di gwymp, di frychau, Fu dy fywyd yn y byd, Tragwyddoldeb di ofidiau Sy'n dy aros ar ei hyd. ELLBEYRN. Claddwyd ef yn mynwent y Groes, ger Dinbych.
Advertising
Adclysgol. HIGH-CLASS SCHOOL FOR GIRLS, BRENTWOOD, MORLEY ROAD, SOUTHPORT Princip1ils: Miss BRIGGS and Miss HOLT B.A., London Assisted by Miss MORGAN,"Cambridge Higher Local Certificate and a Certificated and competent staff of English and Foreign Mistresses. Brentwood is situated near to Hesketh Park and the sea, and is highly recommended by the Rev. R. H. Morgan, M.A., Bangor, and Rev. E. J. Evans, Walton. BEAUMARIS GRAMMAR & COUNTY SCHOOL HEAD-MASTER l: MADOC JONES, M.A., Downing College, Cambridge, ASSISTED BY QUALIFIED MASTERS. BOARDERS are received at the School House Terms Moderate. Superior ^accornmoda ti on healthy and pleasant situation. Apply; HEAD-MASTER. COUNTY SCHOOL, BARMOUTH. (A DUAL SCHOOL FOR BOYS & GIRLS). HEAD-MASTER EDMUHD D. JONES, M.A. ASSISTANT MASTER J. M. EDWARDS (Jesus College, Oxfor,i). HEAD-MISTRESS Miss E. J. OWENS, B.A. Boys received as Boarders by the Head- master, and Girls by the Head-mistress. Prospectus, &c., on application from J. LLOYD, Clerk. ARGRAPHIAD KEWYDIX TRISXIOHA: OR SONGS IN THE NIGHT, by the REV. JOHN HUGHES, M.A. JAMES NISBET k C London, a Swyddfa'r Cymro, a'r Llyfrwerthwyjr. PRIS 3!6. DA R GAA-FTIJDJJI) H-YJVOD. DILLADAU Archebion. DEFNYDDIAU NEW V DDION Diweddaraf. Gwneir TROWSUAU i Archebion am 12/6. DIGURO am y pris. Digon o FRETHYNAU i ddewis. GAN JOHN HUGHES, 42, OXTON ROAD, Eirkenhead; pESWcH pESWCH 1 pESWCH L pESWCH pESWCH pESWCH OESWCH i Y Feddygilliaet4 Fair Gymreig H u G n i ) A V I E S S a COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE coaoa MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COU <R MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE: COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE COUGH MIXTURE THE GREAT WELSH REMEDY. In 13M and 2s 9d Bottles. Sold everywhere. No more Sleepless nights. No more Distressing Coughs No more Diiliculty in Breath* [ing. DAVIES'S COUGH MIXTURE. Gives In.mediate Relief. Cures C oughs and Colds. Cures Bronchitis. Cures Whooping Cough. Cures Asthma. Cures Influenza. Mr H. A. Evans, Post Offico, Trelech, says':—Many in this part say that they have never used any thing equal to Davies's Cough Mixture for Cough and Bronchitis. Rev E. W. Davies, Pentre, says he has derived benefit as a public speaker, and that it is the popular cure for Influenza. D. Jenkins, Esq., Mus. Bac., recommends to Singers, Dr Rains, M.D., Manches- ter, says :—" Extremelr ser- viceable, giving great relief aDd comfort" Sweet as Honey. Warms the Chest. Soothes the Throat. Relieves the Phlegm. Clears the Voice. One dose will relieve. 1 One bottle will cure. JZJj" See that the Trade Alarit is on theWraDDer—Peswoh -1 Proprietor:— HUGH DAVIES, Chemist. BIACHYNLLETfl.