Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853 OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netherfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G- H- EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE, AGENTS, Ha.ve Cottages to LET in various parts of the tc) irn, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of fcases. Also larger houses at higher rents. H. E. WILLIAMS. 10, CONYERS STREET, ESTATE AGBNT, a AS large and small Houses To Let in various parts of the city and ubuvbs. Souses bought and sold. Mortgages arranged, <fcc. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and ec- nomically managed. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insurances effected.(F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arranged. TELEPHONE No. 1779. i'Iiq Liverpool Land Company, Limited. TO BTJIIiDSKS, &c.—To be Sold, Freehold and 999 years' Leasehold LAN'S), in lots to suit purchasers,in Garston, Sirkdale, Walton, Bootle, and Seaforth. Liberal advances Will be made to Builders. Property letting well in all the lo,-&Ilties.-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0. & D. WILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works-TAYLOR STBEB i:, Office and 4.02 4-04- Scotland Rd. tfhow Booms H w *+ LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast ITOII Gates, and FAillngs, Hot w i Prppn Hf-nses and Sanitary Engineers; Williams ment Wading and Adjusting Sun Shade Jor Shops &< Bakers Oven Stocks, Confectioners Ovens, Chaffers, Boxtf, Fife Bars, &c.; all sizes of Gate Runners, &c., CYRN CYRN CYRN MAE BUNODION BENSON EVANS Yn rhoddi eamwytliad ar unwaith i GYRN poenus, ac yn eu Bymod yn hollol mewn ychvdig ddyddiau. Symuda hefyd DDEFAID ar y dwylaw a'r byaedd, tyn ymaith enyniad a ffwres o BUNIONS gan eu gwneud yn lach a diboen. Gwerthir rnewn potelau 7fc a Is. l?c. yr UD. Danfortwch am botel—mae n feddygin- taeth anffaeledig. GASTROOYNE bbnson E V A N S. Yr unig feddyginiaeth effeithiol i Ddiffyg Treuliad, Poenau ar ol Prydiau, Llosg-galon, Biliousness, &c. Derbyniwyd miloedd o gyiner- adwyon i'w effeithiolrwydd rhyfeddol. Mewn Poteli, Is. lie. a 2s. 6c.yr un. 2 T. BENSON EVANS, High Street, Dinbyoh. R. WHTTIi'JGTON, Tailor & Habit Maker (25 Years Practical Experience), 45, BVFOM STREET j LIVERPOOL. All Garments Cut and Made on the Premises, in well-ventilated Workrooms. Gymryl dewch at Gymro. cWMtn YSWifSlOL If PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSORFA DROS £o,ooo 000 AGENTS addas ychwanegol yn eisiau— ¥mofyner a J. W. JONKS, Prudential Offiice Ciernarfo Messrs GRIFFITHS &DAVIES, 398* SCOTLAND ROAD, Being the largest Drape" o m the North End of Liverpool, are now corK j/itrating all their attention to the following Depa; nments, viz. Dresses. Drapery. Fancier,. Haberdashery. Hosiery. Mantles. J Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. burs. —AND— Millinery. 11 all these Departments wil be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES, 398, Scotland Road. F X*™" A CURE FOR BRONCHITIS "\7" for Young and Old. THINK of the thousands of Children who suffer every year with Bronchitis without receiving permanent relief. Notwithstanding many remedies given them, their systems are, still weak, and every spell of bad weather brings anxiety to the parents. In all damp climates such as this country is subject to, people are inclined to Colds, Coughs, and Affection of the Throat and Lungs. The climate taxes those who are strong, while the weak suffer. TUDOR WILLIAMS' BALSAM OF HONEY is made of Pure Welsh Honey and the Finest Vegetable Preparations. In no other form is to be found the perfect combination of this valuable Nutritive and Curative Remedy. JyYRGEST SALE OF ANY COUGH MEDICINE IN THE WORLD. QYE kWHELMIN G TESTIMONY. t F IT IS MORE THAN GOLD TO ME. My wife desires me to convey her best wishes for the success of your TUDOR WILLIAMS' BAL- SAM OF HONEY. It has been of great benefit to our little ones, who suffered from Bronchitis and. Coughs during the last two most inclement winters. It gives them instant relief." Further, our medical attendant, Dr. Jones, quite concurs in the frequent use of the Balsam when occasions require.-Yoiirs faithfully, JOHN WALTER MORGAN, Brynheulog House, Hirwain. Sold by all Chemists and Stores in Is. ltd., 2s. 9d., and 48. 6d. bottles. Sample bottles sent (post paid) for Is. 3d., 3s., and 5s., from the Inventor— D rpUD0R WILLIAMS MEDICAL HALL, ABERDARE. PAPAYANNI STEAMSHIP COMPANY LARGE AND POWERFUL BRITISH S Sail regularly to the LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterranean Ports, taking theifollowing two routes alternately (1) MALTA, SYS A,SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at sev,ral Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Srain (2) ALGIERS, MALTA. ALEXANDRIA, CYPRUS: BEYBOUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty well ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Gcod and liberal table. ModelMte fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during ships'sruy at Ports. Tourists and pleasure-sekers taking a trip by this Lias v ill tlnd it most enjoyable and interesting For further parties ars, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, life LLINELL Y WHITE STAte. ROYAL MAIL STEAMERS. LERPWL I NEW YORK via QUEENSTQWN, u< B DYDD MERC HER:— j *TEUTONIC Gorphonaf 29 BRITANNIC Awist 5 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeith wyr A arwydda y oiudir yn yr Ail Gaban ar y fordaiih pjis y cludiad ydyw &T 5s i zElO yn ol yr Agerddlong, y Tymhor, a'r lie i deithwyr. Y mae y Llongau rbagotol hyn i gyd o'r (losbarth nehaf, yn unffurf o ran cynllun s threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni chsSr gwell eyfieusdTa i iordeitiiwyr. t Am ianylion, ymofyner 4 R. Owen, Ship & In surance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu a. R. Roberts, Bethesdaj Owen HI. Parry, masnachydd Ilechi, Dolwyddelen; Davie? Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; Jos. Francis, 5 Glanhwfa road, Llangefn R. G oberts Rock Cottage, Craigiau Mawr Tan ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W Williams Shoe Warehouse, Hanrwst Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R, C Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu ISMAY IWRT? &Co., 34, Leade nhal Street, Llundain, E.C., a Water Street, LerpwI. -N CHAS. R. HALL, GENERAL LETTER) GUTTER & ENGRAVER 53 PARADISE STREET, LIVERPOOL. ANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &e.
CATRIN PRISIARD
CATRIN PRISIARD Gan Miss WINNIE PARRY. PEN. XXIV.-GOLEUNI. YR oedd llyfrgellydd y coleg yn mha un y bu Gruffydd yn efrydydd yn myned dros y liyfrau yn ol ei arferiad blynyddol. Gadawsai i'r gorchwyl hwn fyned yn mhellach na'r amser arferol i'w gyf- lawni. Wrth dynu rhes o lyfrau oddiar un o'r silffoedd, digwyddodd un obonynt syrthio i'r llawr, ac yn y codwm sgorodd yn llydan. Wrth ei godi canfu fod darn o bapur wedi syrthio ohono, ac er ei syndod cafodd mai arian-nodyn ydoedd. Yr oedd ya gwybod am yr helyut gymerodd le yn nghyleh yr arian-nodyn gollasai Matthews, ond nid oedd y pryd hyny yn alluog i roddi unrbyw dystiolaeth o blaid Gruffydd, oherwydd fod y ddau yn digwydd bod mewn ystafell o'r neillau a elwid y 'Reference Library' yn agor allan o'r ys- tafell gyfFredinol lie yr oedd ei ddesc ef. Pan wel- odd y nodyn yn awr, daeth yr amgylchiad hwnw i'w feddwl ar unwaith, ac nid oedd ganddo yr un amheuaeth mai hwn oedd y nodyn y tybiai Matthews ddarfod i Gruffydd ei gymeryd oddiar y bwrdd, yn lie ei fod ef ei hun wedi ei roddi rhwng y clawr a'r ddalen gyntaf o'r llyfr a ddarllenai ar y pryd a gosod hwnw ar y silff wedi darfod ag ef. Cododd y llyfrgellydd y gyfrol. o'r hon yr oedd y nodyn wedi aisgyn, a rhoddodd ef o'r neilldu. Yr un noswaith digwyddodd Matthews ddyfod i mewn i'r ddarllenfa, ac aeth y llyfrgellydd- Carter oedd ei enw-ato, a gofynodd iddo ddyfod i'r ystafell y crybwyilwyd am dani o'r blaen, a'r hon oedd yn awr yn wag o ddarllenwyr, ac yno fe adroddodd wrtho fel y daethai o hyd i'r arian- nodyn, yr hwn a roddodd ar ddiwedd yr hanes yn ei Jaw, yn nghyda'r llyfr yn mha un yr oedd wedi bod gyhyd o ameer. Adnabu Matthews y nodyn ar unwaith, a daeth gwrid i'w wyceb wrth feddwl am y cam oedd Gruffydd wedi ei gael ac wrth sylwi ar y marc post, gwelodd mor ddifeddwl y bu na fuasai yn nghyntaf wedi holi yn y llytbyrdy os oedd nodyn wedi cael ei newid yno yn dwyn y marc hwnw. Wrth edrych ar y llyfr hefyd saeth- odd i'w gof ei fod wedi ei blygu a'i ddodi rhwng cloriau llyfr, ac nid wedi ei adael ar y bWldd wrth ei ochr, fel y tybiasai iddo wneud. Y, oeddei Cidyleiswydd yii ewr yn eglur—hys- bysu un o'r athrawon er mwvn clirio cymeria.d Gruffydd yn gyhoeddus. Ond nid oedd hyn yn beth hawdd— cyfaddef ei fod wedi carngyrneryd, ac mai e: ddnaterwch ef ei hun oedd wedi achosi'r cyfan. Ceisiai berswadio ei hun nad oedd fawr o bwys yn awr-yr oedd y peth wedi digwvdd ers' cymaint o amser, Gruffydd wedi myned i ffwrdd, a pbawb wedi ei annghofio ef a'r amgylchiad. Ond ni pharhaodd y meddyliau hyn fwy nag eiliad. Teirnlai fod cyfiawnder yn gofyn iddo egluro y peth mor gyhoeddus ag oedd modd. vr oedd wedi annghofio presanoldeb Carter tra y rhedai y syniadau hyn trwy ei feridwl ocd daeth yn ym- wybodol ohono drwy iddo ddweyd. pan ddaeth i'r penderfyniad i fyned at un o'r athrawon, Mae yn dda genyf fod yr ordor wedi dyfod i'r golwg. Fedris i rioed gredu fod yr hogyn hwnw wedi ei gymeryd-yr oedd yn rhy wyueb-agored o lawer greiiyn nad ydyw yma i wyhod.' Yr oedd hyn yn derfynol-nid oedd yn ei allu i gadw y peth yn ddirgel beilach. Ond teg ydyw dweyd fod y rhan oreu o'i nntur wedi cael yr ortichafiaeth cyn iddo sylweddoli fod Carter yn barod i wneud yr oil yn gyhoeddus Aeth Matthews yn syth o'r llyfrgell i letty un o'r athrawon y buasai Gruffydd yn fwyaf neiilduol dan ei ddysgeidiaeth, a chan ddangos y nodyn iddo, adroddodd yr hanes i gyd wrtho. Yr oedd yr athraw yn cofio am yr amgylchiad, a 3 addawodd wneud yr eglurhad angenrheidiol. Bore dranoeth, gerbron yr holl efrydwyr, tynwyd yr amheuaeth oedd yn nglyn a. chymeriad Gruffydd yn y modd mwy&f cyhoeddus. Yr of'dd llav^er o'r efrydwyr, oeddyDt fel Gruffydd a Morris yn en blwyddyn olaf, wedi myned oddiyno, ac yr oedd rhai newyddion wedi dyfod yno na wyddent ddim am y peth. Nid oedd yno neb fuasai yn gofalu am anfon y newydd i'r rhai oedd vn dwyn y cysy IItiad agosaf i'r peth, ac yn mhen amser maith, ac yn hollol ddamweiniol, y daeth i wybod- aeth Gruffydd &'i chwaer. PEN. XXV, --FFORDD Y BYD. YR oedd yn gyfnewidiad mawr i Catrin ddyfod lawr o fod yn ferch ffermdy mawr fel Ty Fry i fod yn wniadreg mewn pectref bychan, a theimlodd hyny yn bur fuan. Yr oedd bod wrth ei gwaith hwyr a boreu er mwyn enill digon o gynaliaeth iddi ei hun a'i thad. a cheisio cadw gwyneb sirio drwy y cyfan, yn beth caled a newydd i'r eneth Ond nid oedd hyn ddim i'w gydmaro a'r cyfnew idiad yn ymddygiad pob! tuag ati. Nid oed 1 Catrin yn teimlo yr un cyfnewidiad vnddi ei hun, ond daetb i weled a syndod poenus fod ei sefyllfa fydol yn dylaawadu ar deimladau eraill tuag ati- fod y rhai fyddai yn ei chroesawu yn gynes pan oedd vn byw yn Ty Fry yn myned heibio idrii ar y ffordd heb ddim ond ysgogiad oeraidd y pen. Daeth i ymwybyddiaeth byw o'r gwahaniaeth ynddi yn ngolwg y byd pan yn myned a gwn oedd yn wneud i un o ferched Tanyfoel-fferrn ychydig ffordd o Glanygors—i'w ffitio. Yr oedd dwy ferch Tany-foel wedi bod yn awyddus iawn am gym- deithas Catrin yn yr amser aethai heibio, ond yr oedd wedi sylwi fod eu hymddyddan a hi yn bur ajjfynych vn awr. Pan gurodd yn nrws y ty, ali gwaith wedi ei rwymo mewn llian o dan ei shol, daeth y ferch hynaf i agor y drws, ac arweiniodd yr eneth i'r passage, ac yna aeth i ddweyd wrth ei chwaer. Yr oedd wedi gadael y drws wahanai v darn'ffrynt o'r ty oddiwrth y gweddill yn agored, a cnlywai Catrin yn ymddyddan canlynol rhwng y ddwy chwaer :— I Mae Catrin Ty Fry wedi dwad a'r ffrog i'w ffitio-i ble'r ii i & hi ?' O, dos a hi i'r parlwr bach. Mae mam hefo Mrs Lloyd, Plasybryn, yn y llall, a mae Mrs Lloyd mor barticilar, wyddost-fydd hi ddim yn licio rhywun rhywun.' Cododd y gwrid i ruddiau llwydion Catrin, a brathodd ei gwefus i gadw i mewn y teimlad oedd bron a.'i gorchfygu, a chanlynodd yr eneth, yr hon ni wyddai ei bod wedi clywed geiriau ei chwaer, i'r parlwr bach, a daeth y chwaer arall, i'r hon yr oedd Catrin yn gwneud y gwn, i mewn i gael ei rhoddi am dani. Arosodd y chwaer hefyd vn yr ystafell, a thra yr oedd Catrin yn ffitio y dilledyn am y ffurf esgyrniog, siaradai y ddwy &'u gilydd I gan ddiystyru y wniadreg yn hollol, Gwrandawai Catrin ar eu hymddyddan heb yn ■ivybod iddi ei bun bron, a chyda chryn anhawsder I y cadwai ei bysedd rhag crywu pan y elywai yr ieuengaf yn dweyd wrth y 1L11, 'Roedd Mrs Lloyd yn dcyd fod Morris Jones, Ty Fry, wedi cael lie mewn rhyw hospital yn Manchester, a bod o'n dwad adra am bythefnos cyn mynd yno.' Sgwn i di o'n ealyn rhywun V Tydw i ddim yn credu i fed ) ne mi fasan wedi clywad rhwbath cyn hyn Yr oedd merch ieuenge r Tanyfoel a'i llygaid ar y meddyg ieuanc fel un fuas, j yn ddymuno ei weled yn dod i gyfeillach agosaoh S hi nag oedd yn awr. 4 Twn i ddim wir,' oedd yr ateb gan ei chwaer. yr hon a wyddai am ei gwendid, ac yn hoffi ei blino weithinu, ac aeth yn mlaen, 'Mae na lun rhyw hogan glws ofnatsan r y fan tell shimdda yn Ty Fry-wyt ti'n cofio, mi ddaru ni i welad o y tro dwaetha oedda ni yno.' Yr oedd Catrin wedi go phen erbyn hyn er ei mawr lawenydd, gan ei bod yn teimlo nas gallai ddal fawr ychwaneg; ond cyn y caffai dynu y gwn oddiam Miss Jones, yr oedd raid i'r chwaer gael ei hedrych yn ofalus rhag ofn nad oedd wedi gwneud ei gwaith yn iawn, a safai Catrin i edrych arni yn troi ei chwaer odd lamgylch ac yn chwiiio pob gwniad yn fanwl. Y-- oedd yn amlwg Dad oedd gan ferched Tanyfoel yr un gronyn o fonedd- igeiddrwydd yn per thy u iddyut. Tynodd Catrin anadliad llawn pan gafodd ei hun tuallan i'r ty ar ei ffordd gartref. Ond yr I oedd ei chalon yn llawn o fyfyrdodau chwerwon oeddyht wedi cael eu hail ddeffro gan eiriau v ddwy chwaer. Mor chwerw ydoedd meddwl fod y ddwy yma yn gwybod mwy o banes Morris nag a wyddai hi ac yna cofiodd am y darlun dra- chefn, a cheisiai droi llifeiriant ei meddwl i gyf- eiriad arall. Pa haw! oedd ganddi hi i fedIwl am na dymuno dim yn nglyn ag ef, a throdd ei gwyneb i edrych draw ar y mynyddoedd oeddynt yn sefyll mor ddigyftro a thawol yn yr unigedd mawr, a goleu diweddaf y dydd yn disgyn arnynt. Teimlai Catrin mor fychan wedi'r cyfau oedd pob dymun- iad lynai wrth y byd ac wrth amser, a meddienid hi gan rhyw hiraeth am gÓ\el ei llenwi a meddyliau uwch-am gael ymwared o'r dymuniadau am les a chysur tymhorol oedd yn llenwi ei chalon. Gwyddai fod arni eisiau rhyw un peth nad oedd yn ei meddiant-ni aUai ddweyd beth ydoedd, ond meddyliai am ei mam hob amser wrth feddwl am hyny. Yr oedd y peth hwnw ganddi hi. (J barh.au). 0-
Cyhuddiad o Ddynladdiad yn…
Cyhuddiad o Ddynladdiad yn Rhyl, DDYDD Mercher, yn RhyI. cynaliwyd trengholiad gohiriedig ar gorph John Hnghc4, pedlar, yr hwn a gaed yn farw ar ochr y ffordd ger y drsf y dydd Mercher blaenorol. Dangosai'r dystiolaeth feddygol mai achos y farwolaeth oedd niweidiau yn y pen, fel pe bai'r trancedig wedi disgyn ar rywbeth caled. Tystiodd amryw iddynt weled Hughes y noson cyn ei farwolaeth yn cael ei daro gan G. Brookes, Prince of Wales Hotel, iddo syrthio wysg ei gefn a tharo ei ben mor dost fel y gellid clywed y swn beilder o 30 Hath. Tystient hefyd fod y ddyrnod wedi ei rhoddi yn fwriadol, ac nid mewn hunan-amddiffyn- iad. O'r ochr arall, tystiodd Brookes ei fod yn cerdded ar yr heol, i'r trancedig geisio ei atal, ac iddo yntau ei wthio o'r ffordd. Cydnabyddodd i'r trancedig syrthio, ond achoswyd y swn gan fasged a gariai ar y pryd, ac nid g»n y gwrtbdaraw- iad rhwng ei ben a'r heol. Gohiriwyd y gwrandaw. iad hyd, dranoeth, ac wedi i'r trengholydd grynhoi y tystiolaethaii, dygodd y rheithwyr ddyfarniad i'r trancedig gwrdd S'i angau mewn canlyniad i ddyrnod dderbyniodd gan Brookes, a dychwelent reithfarn o ddynladdiad yn ei erbyn. Yna rhodd- odd y trengholydd wys allan i d,fal George Brookts ac yn ddiweddarach ar y dydd dygwyd Y CYHUDDEDIG GJERJ1R0N YR YNADON, y Dr Girdlestone yn y gadair. Y mdclangosai Mr C, W. Bell dros yr erlynydd, a Mr F. C. Gamlin dros y diffynydd. Wedi gwrando'r un tystion ag a fu gerbron y trengholydd, ac i'r Heddwas Adams brofi yn ffurfiol fod y wys i ddal y cyhuddedig wedi ei chario allan, anfonwyd ef i sefyll. ei b, awf yn y frawdlys. Caniatawyd meichiafon iddo. 0
Rhodd Cymru ir Dywysoges Mailt.
Rhodd Cymru ir Dywysoges Mailt. MAE'R fodrwy briodasol o aur Cymru a gytiwynir i'r Dywysoges Maud a'r Tywysog Charles o Den- mark gan Gymdeithas yr Orsedd a'r Eisteddfod Genedlaethol, wedi ei gosod mewn blwch hardd o aur ac arian. Mae trlted y blwch wedi eu cerfio, ac ar ffurf colofnau Corinthaidd. Ar un tu oeir argraph yn nodi acblysur cyflwyniad y rhodd yn Gymraeg, ac ar y tu arall yr un geiriau yn Saesneg. Desgrifir y Dywysoges fel Wlallt "-yr enw roed. iddi yn Ngorsedd Caernarf HI yn 1884. Ar lafn o aur arall ceir arwyddlun Cymru a'r geiriau "Calon wrth gaion." Ar y cauad ceir priflythyrenaa enw y priodfab a'r briod«sferch, gyda choronau Den- marc a LIoegr uwch eu pen. Mewn man arall ceir arwyddluniauV Osedd, a'r geiriau "Dan nawdd Duw a'i dangnef." Addurnir y conglau gyda'r Ddraig Goch, a thorchau o ddail derw. Yn y canol ar satin gorphwysa'r fodrwy, a wnaed o aur gloddiwyd yn Nhrawsfynydd a cheir anerch- iad addurnedig ar ffurf llyfr wedi ei rwymo mewn morocco glas.
--0--GWYLIAU HAF.
--0-- GWYLIAU HAF. I LAN y mor yr awn ar hynt, I gwmni'r g-wynt a'r tonau, Ac yno, yn ei ddyfroedd glan, Y dyddan nofiwn ninau." Ymwelir glanau y mor ac a'r ffynonau gan filoedd o'n cenedl yn ystod misoedd yr haf. Mae Uawer yn myned i geisio pleser a mwynhad yn ystod eu gwyl- iau, ond mae y mwyafrif mawr yn ceisio adfywiad ys- bryd ac adferiad iechyd a nerth, y rhai sydd wedi en hanmharu gan lafur, gofalon, a phryder, neu gan ys- tormydd y gauaf a'r gwanwyn blaenorol. Nid oes amheuaeth nad un o'r moddion goreu i gyrhaedd yr amcan hwn yw newid awyr, a newid g-olygfeydd a chwmpeini, ymdrochi yn y mor, ac yfed dyfroedd meddygol y ffynonau, gan fod hyn yn effeithio yn llesiol ar y cyfansoddiad, Ond mewn trefn i sicrhau y daioni mwyaf a derbyn mwyaf o les, dylai yr ym- welwyr a'r lleoedd hyn wneud defnydd. o Quinine Bitters Gwilym Evans-y moddion enwocaf i gyd- weithio a newid awyr er cynorthwyo natur i ymrydd- hau oddiwrth nychdod, ac i nerthu y cylla, cryfhau y gewynau, a bwrw allan bob anmhuredd o'r cyfansodd- iad. Dyblir y lies a, geir o'r gwyliau as gwneir defn- ydd priodol o'r Quinine Bitters pan yn newid awyr. Pris poteli, 2s 9c a 4s 6c yr un. Gan bob fferyllydd, neu trwy'r post yn uniongyrchol oddiwrth y perchen- ogion-Quinine Bitters Manufacturing Co.. Ltd.. Llanelly, South Wales.