Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Y Ddraenog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Ddraenog. MEWN colofn arall, cyfeiria awdwr y llith ar Natur a'i Phlant at anerchiad Miss Cobbe ar ran y creadur difalch ac ysgymunedig hwn. Yr oedd gan ein hynafiaid ryw ragfarn anes- boniadwy yn ei erbyn, a chyhuddid ef o drosedd- au nad oedd modd i'r creadur gwirion eu cyf- lawni. Gelwid dynion anhydrin a blinion yn ddraenogod o ddynion, dysgid own mileinig i'w ladd, a gwelais yn ddiweddar mewn ben lyfr eu bod yn talu dwy geiniog yr un am ei ddyfetha mor ddiweddar a dau can' mlynedd yn ol. Hwyracb nad yw i fynu a'r caritor uchel a roddir iddo gan Miss Cobbe, megys lladd nadroedd a llygod ond y mae'a gwbl sicr na fedr ef ddim sugno gwarbheg, nad yw yn arfer brathu byd yn nod pan ymosodir arno, ac nad yw ei frath yn wenwynig. Ei gastell ydyw ei groen pigog a all saethu rhyw fath o drydan i'w bigau sydd yn rhedeg fel ergyd gwefr trwy holl gorph y sawl a bigir. Rai blynydaau yn ol, cefais ddraenog o Gymru i ddal y chwilod duon oedd yn beigio cegin fy mhreswyl. Ni ddeuai'r creadur bychan yswil byth bron i'r amlwg, llechai mewn congl anhysbys nes bydd- ai'r ystafell yn gwbl wag. Erbyn y bore, yr oedd y Uefrith adewsid iddo mewn cwpan ar yr aelwyd wedi diflanu, a dyna'r unig dystiolaeth oedd genym am fisoedd ei fod yn fyw. Mae lie i gaaglu fod ymrysonfa wedi cymeryd lie rbyngddo a'r gath ar ffiniau y llefrith, ac iddi gael ei thrydanu gan ei bigau, yr byn a barai iddi ffoi rhagddo o byny allan fel pe buasai'r gwr drwg ei hun. Mi a glywais un gwr doeth yn dweyd y gall cath ddal llawer profedigaeth yn ddigryn, ond y mae hithau'n tynu'r llinell hefo pigau draenog. Mae'n werth cadw'r rhywogaeth hwn o fochyn yn fyw, pe ond i roi ofn a dycbryn ar gathau. Pa fodd bynag, yr ysbryd drwg, a dim arall, sy'n rhoi yn ngbalonau creuloniaid anwar i ladd creadur idor ddiniwed ag yw'r ddraenog.

Y Gwres a Gweision Reilttyrdd.

Lleol.

Amaethyddol,

---0--Marchnadoedd.

[No title]

--_----------_-------------_.-----------Undeb…

Bywyd Adar Gwylltion-