Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853 OWEN ROBERTS. ESTATE AGENT, 33, Netberfield Road Souths Has large and small Dwelliag-houses to Let in various parts of the town. (F G- H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the iawn, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. H. E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT, HAS large andsmallHouses To Let in various parts of the city aad uburbs. Houses Bought and sold. Mortgages arranged, & (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and ec- onomically managed. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insurances effected.(F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 7/7, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arranged, TELEPHONE No. 1779. The Liverpool Land Company, Limited TO BUILDERS, To be Sold, Freehold and 91H years' Leasehold LAND, in lots to suit pui-eiiasers, in C-arston Kirkdale, Walton, Bootee, and Seaforth. Liberal advancei will be made to Builders. Property letting well in all th< to.;slll,ies.-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0. & I). ILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, fee., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Wovbs-TAYLOIi ST:R,EE'l', —402 & 404, Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ganges, Cast Iron Gates, and Railings Hot Water, Green Houses, and Sanitary Engineers; Williams Patent Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c.; Bakers OVtJD Stocks, Confectioners' Ovens, Chaffers, BoxeE, the Bars, &c.; all sizes of Gate Runners, &e. CYRN CY RN CYRN I I MAE BUNODION BENSON EVANS Yn rhoddi esmwythad ar unwaith i GYRN poenus, ac yn eu symud yn hollol mewn ychydig ddyddiau, Symuda hefyd DDEFAID ar y dwylaw a'r bysedd, tyn ymaith euyniad a gwres o BUNIONS gan eu gwneud yn iach a diboen. Gwerthir mewn potelau 7tc a 1s. lie. yr un. Danfonwch am botel-m,-ten feddygin- iaeth anffaeledig. GASTRTOCYNE BENSON EVANS. Yr unig feddyginiaeth effeitbiol i Ddiffyg Treuliad, Poenau ar ol Prydiau, Llosg-galon, Biliousness, &c. Derbyniwyd miloedd o gymer- adwyon i'w effeithiolrwydd rhyfeddol. Mewn Poteli, Is. lie. a 28. 6c. yr un. T. BENSON EVANS, High Street, Dinbyoh. R. WHITTINGTON, Tailor & Habit Maker (25 Years Practical Experience), 45, BYROM STREET LIVERPOOL. All Garments Cut and Made on the Premises, in well-ventilated Workrooms. Gymry! dewch at Gymro, CWMMI YSWIRIOL Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSORFA DROS £ 0,000 000 A GENTS addas ychwanegol yn eisiau— Ymofvner A a J. W. JONES, Prudential Offiice Caernarfo Messrs GRIFFITHS &DAVIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drape" 0 in the North End of Liverpool, are now conr filtrating all their attention to the following Depa- r;ments, viz.:— Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery, Mantles Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. Furs. —ANr>— Millinery. a all these Departments wil be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES, 398, Scotland Road. F XA CURE FOR BROMCHITIS ~VT for the Young; and Old, THINK of the thousands of Children who suffer every year with Bronchitis without receiving permanent relief. Notwithstanding many remedies given them. their systems are still weak, and every spell of bad weather 4 brings anxiety to the parents. Ia all damp j climates such as this country is subject to, people are inclined to Colds, Coughs, and Affection of the Throat and Lungs. The f climate taxes those who are strong, while the f weak suffer. a I TUDOR WILLIAMS' BALSAM OF HONEY is made of Pure Welsh Honey and the Finest Vegetable Preparations. In no other form is to be found the perfect combination of this valuable Nutritive and Curative Remedy. J^ARGEST SALE OF ANY COUGH j^jEDICINE IN THE WORLD. Q VEKWHELMING TESTIMONY. IT IS MORE THAN GOLD TO ME. My wife desires me to convey her best wishes for the success of your TUDOR WILLIAMS' BAL- SAM OF HONEY. It has been of great benefit to our little ones, who suffered from Bronchitis and Coughs during the last two most inclement winters. It gives them instant relief. Further, our medical attendant, Dr. Jones, quite concurs in the frequent use of the Balsam when occasions require.—Yours faithfully, JOHN WALTER MORGAN, Brynheulog House, Hirwain. Sold by all Chemists and Stores in Is. lid., 2 2a. 9d., and 4s. 6d. bottles. Sample bottles sent (post paid) for Is. 3d., 3s., and 5s., from the Inventor— jQ rjiUDOR "^ILLIAMS MEDICAL HALL, ABERDARE. PAPAY ANN I STEAMSHIP COMPANY, LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMERS Sail regularly to the LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterranean Ports, taking the following two routes alternately:— (1) MALTA, SYR A.SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at several forts on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Spain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPRUS BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty we]) ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiate fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during ships'stay at Ports. Tourists and pleasure-sekers taking a trip by this Lin« ill find it most enjoyable and interesting For further parties ars, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Lirerpoc safe LLINELL Y WHITE STAH. I ROYAL MAIL STEAMERS, LERPWL I NEW YORK via QUEENSTOWN, Bf ji DYDD MERCHER:— BRITANNIC Awst 5 *MAJESTIC Awst 12 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithwyr A arwydda y cludlr yn yr Ail Gaban ar y fordaith Pi is y cludiad ydyw 47 5s i £10 yn 01 :yr Agerddlong, y Tymhor, a'r lie i deithwyr. Y mae y Llongau rhagorol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllun a threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithian. Ni chefr gwell cyfleusdra i fordeithwvr. Am fanylion, ymofyner R. Owen, Ship & In surance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu & R. Roberts, Bethesda; Owen E Parry, masnachydd llechi, Dolwyddelen; David Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; Jos. Francis, 5 Glanhwfa road, Llangefn R. G oberts ,Rock Cottage, Crsigiau Mawr Ta n ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. Williams Shoe Warehouse, Llanrwst Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R. C Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu ISMAY IMRIIi &Co., 34, Leade nhal Street, Llundain, E.C., a Water Street, Lerpwl. OHAS. R. HALL, GENERAL LETTEB) CUTTEB & ENGRAVER 53 PARADISE STREET, LIVERPOOL. ANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &C.
CATRIN PRISIARDI
CATRIN PRISIARD Gan Miss WINNIE PARRY. PEN. XXVI.—SUDDO'N DDYFNACH. YR oedd wedi cymeryd mwy o amser nag arfer i Catrin ddod o Danyfoel, a'r cyfnos wedi ei dal yn mhell cyn iddi ddod i olwg y ty lie trigai yn awr. Prysurai ei chamrau gymaint allai wrth feddwl y byddai ei thad yn unig. a theimlai yn falch pan welorld oleu'r tan yn fflachio trwy'r ffcnestr fechan. Safoddamenyd cyn agor y drws,a daeth ochenaid o'i cha!on yn erbyn ei hewyllys wrth syllu ar yr oiyg- fa welai trwy'r gwydr. Gwelai y gegin fechan, eithaf cysurns, er nad oedd ond tlodaidd ei tbrefn- iad, eto yr oedd ol llaw ofalus merch ar bobpeth yn II rhoddi ychydig harddweh a chynesrwydd arni- nid dyma oedd yn galw am yr ochenaid ddofn. Wrth och- yr aelwyd eisteddai ei thad-ei ben llwydwyn wedi ei ostwng yn isel, a'i lygaid yn edrych i'r tan yn bruddaidd. Wrth ei draed gorweddai Prince,' ci qruffydd, yr hwn yr oedd Abecfnego wedi ei brynu yn erbyn pawb yn yr ar- werthiant, ac wedi dyfod ag ef i Catrin y diwrnod canlynol, ac yr oedd yr eneth vn gwerthfawrogi y creadur mud yn fwy na'r holl bethau ddygasai yr hen lane yno. Yr oedd fel yn awgrymu y deuai Gruffydd yn ol rhyw ddvdd. I Ni safodd Catrin yn hir yn syllu i fewn fel hyn. Nid oedd yr olwg yn newydd iddi. Dyma fel yr oedd Jobn Prisiart wedi treulio ei ddyddiau er ei ymadawiad o Ty Fry, Ni symudai o'r ty, ni ddywedaiairwrthnebos gallai beidio, ond eis- teddai ar yr aelwyd yn syllu i'r marwor coch, a'r ci rth ei draed. Codai Prince ei lygaid weithiau i edrych yn ymofyngar i wyneb y meistr oedd mor ddisylw ohono. Ambell dro collai ei amynedd a cherddai o amgylch y gadair gan guro ei gynffon fLwog yn erbyn gliniau y ffermwr, neu gwthiai ei drwyn gwlyb, du, i'w ddwylaw ond nid oedd yn cael yr hyn a ddymunai, a gorweddai yn ei hen le drachefn. Sibrydai y naill wrth y Hall yn y pentref fed golwg truenus ar wr Ty Fry gynt—od yn berygl f fod y digwyddiad wedi effeithio yn angeuol arno, ac na fyddai yn hir cyn y caffai yntau hefyd or- pbwysdra yn hen lead y teulu. Una cauai Uatrin ei llvgaid yn dyn yn erbyn hyn. Ni fynai weled yr olwg hurt oedd yn llygaid pruddaidd ei thad ar adeg u. Cysurai ei bun trwy ddweyd y byddai'n well fel y deu i'r dydd ya hwy, ac y dechreuai yntau godi allan ychydig. Os weithiau y deuai rhyw gvsgod o'i, gwirionedd iddi, gyrai ef yn mhell oddiwrthi. 01 na, fyddai'r Brenin Mawr ddim mor frwnt wrthi a hyny. Yr oedd yn ceisio dwe/d 1 Gwneler Dy ewyllys' wrth feddwl am Gruffydd, ac wrth feddwl am ei mham, ond wrth feddwl am gael ei gadael yn unig heb neb yn ymyl yn perthyn iddi. Of yr oedd yn ormod, a safai yn ol yn crynu wrth y meddwl. Y noson hon, fodd bynag, yr oedd rhyw gyfnew- idiad rhyfedd yn ei thad. Yr oedd ei ddwylaw yn llosgi, ei wyneb yn wridog, ac fel y troai ei lygaid arni pan y cyffyrddodd yn ei law, yr oedd- ynt yn disgleirio & goleu dyeithr, Gwnaeth y te yn bsrod, a cbeisiai siarad yn siriol, ond ni chym- erai John Prisiart fawr o sylw. Siaradai yn ddys- taw wrtbo ei bun yn awr ac eilwaith. Wrth weled ei holl geiaiadau i enyn ynddo rhyw radd o ddyddordeb yn yr hyn a ddywedai yn myn'd yn ofer, ac yntau yn parhau yn y dull rhyfedd vma, daeth rhyw ddychryn dros yr eneth wrth feddwl am y noswaith unig oedd o'i blaen Nid oedd yn gwybod am neb v gallai gael cynorthwy ganddo pe buasai angen. Gofidiai na fuasai bwtbyn bychan Martha yn agosach, ond ni allai adael ei thad i fyned i'w nol. Byddai beth bynag haner awr yn myn'd a dod. Tra v petrusai fel hyn, ac yr elai ei dychryn yn fwy. daeth curiad ar y drws, aeer ei mawr law. envcld safai Robin ar y gareg pan agorodd ef. 0 Robin mae'n dda gin i boch chi wedi dwad —mae rhwbath ar y nhad,' meddai wrth yr hws mon, gan ei arwain i mewn. Ceisiodd Robin dynu sylw ei hen feistr, ond ni Iwyddai mwy na Chatrin. Fasa. dda gin i tasach chi'n myn'd i nol Martha, Robin,' meddai vr eneth drachefn. Aeth Robin allan heb ddweyd yr un gair, ac aeth i dy cymydog, gan yr hwn yr oedd bachgen bychan arferai wneud rhyw oruchwylion ysgeifn ar fferm Ty Fry Danfonodd ef i geisio Martha ond gyda fod Robin wedi myned allan, cofiodd Catrin fod Martha wedi bod yno y diwrnod cynt yn dweyd ei bod yn myned i Treberw—tref oedd rhyw bum milldir ar hugain o Glanygors-i edrych am rhyw berthynas nad oedd wedi ei gweled er's rhai blyn- yddau. Mwy na thebyg ei bod wedi myned yno, ac nid oedd vn gwybod ei chyfeiriad na dim o hanes y perthynas yma. Daeth Robin yn ei ol yn fuan gyda'r newydd oedd yn ddisgwy!. Gyda chrvn drafferth cafodd Catrin gan ei thad fyned gyda Robin i fynu'r gris- iau i'w wely. Pan ddaeth yr hwsmon i lawr dra- chefn, aeth allan yn ddystaw heb ddweyd gair wrth Catrin, a chychwvnodd yn nghyfeiriad Aber- doldv. Ei neges oedd ceisio'r meddyg, gan nad oecld yn hoffi yr edrychiad oedd ar wyneb ei hen feistr. Ond erbyn cyrhaedd y dref Did oedd y meddyg i'w gael, a gorfu Robin droi yn ei ol gyda'r addawiad y caffai y meddyg ei ddilyn pan ddeuai vn ei ol o weinyddu ar rhyw wr claf allan o'r dref. Vr oedd wedi deg o'r gloch pan gyrhaeddodd Robin y bwthvn bychan drachefn. Gwelai oleu yn ffenestr y llofft, a gwyddai fod Catrin vn gwylio wrth ochr gwelv ei thad. Curodd yn ddystaw, a phan ddaeth Catrin i agor iddo, hysbysodd iddi yr hyn oedd wedi wneud, a dywedodd y buasai yn aros yno v noswaith hono. 1 0 1 Robin.' erfyniai yr eneth gan blygu ei dwy- law yn dvn, tydach chi ddim yn meddwl i fod o'n sal iawn ?—mae o wedi bod fel hyn o'r blaen un- waith.' Ni allai Robin oddef yr edrychiad calonrwygol yn llygaid tywylI Catrin, ac meddai yn frysiog, '0, nac ydi, ond hwyrach y byddai'n well i ni gael y doctor rhag ofn iddo droi yn rhwbath gwaeth.' Yr oedd rhyw gyfnewidiad wedi dyfod dros Robin er y noswaith y cydiodd meistres dyner Ty Fry yn ei law ar ei gwely angau ac y rhoddodd hi yn llaw Martha,. Yr oedd yr hen wAn ddirmygus nodweddiadol wedi diflanu yn llwyr oddiar y gwefusan teneuon, ac yr oedd y meddalwch oedd bob amser yn llvgaid Robin fel wedi ymdaenu dros ei wvneb rhychlvd. Yr oedd ami un yn synu ei fod yn aros yn Nhy Fry yn ngwasanaeth un oedd mor eiddigus i'r hen deulu y bu gymaint o flynydd. au yn gweini iddynt. A synai neb at hyn yn fwy na Martha. Ni fedrai hi oddef y meddwl o weled neb yn llywodraethu yn yr hen ffermdy wedi i'r rhai y buasai yn ffyddlon iddynt ar hyd y blyn- yddoedd fyned oddiyno. Yr oedd yn tybio hefyd fod gan Robin ddigon i allu byw yn gyfforddus nes y cawsai le ar rhyw fferm arall—oherwydd yr oedd Robin mor gynil fel na phrynai byth ond y dillad- au mwjaf angenrheidiol iddo. Ni Ribrydai ddim o'i myfyrdodau am hyn wrth neb, fodd bynag,- cymerai arni, fel arfer, fod yn hollol ddifater. Bychan wyddai hi beth oedd rheswm yr hwsmon dros aros yn ei hen le, ac hefyd paham y gwisgai ei ddillad nes byddent yn edeuon. Derbyniodd Catrin yn ddiolchgar ei. gynygiad i aros yn y ty y noswaith hono, ond ni adawodd iddo gymeryd ei lie wrth ochr gwely ei thad, yr hwn oedd erbyn hyn yn cysgu yn anesmwyth, eithr gwnaeth iddo fyned i'w wely i lofft y cefn. Trwy y nos gwyliai Catrin y ffurf ar y gwely, a gwrandawai ar y geiriau ddeuai o'i wefusau, a cheisiai lonyddu y dwylaw a symudent yn ddi- ba;d. Daeth y meddyg yno gyda'r dydd. Syllai Catrin yn ei wyneb yn bryderus, ond ni allai ddarilen dim na drwg na da yn ei wyneb unffurfiol. Ac yna daeth dyddiau gwylio eto i ran Catrin- gwylio wrth wely yr unlg un oedd ganddi bellach i ofalu am dano, ac yr oedd pob rhagolwg yn dweyd na fyddai John Prisiart ddim yn hir. Caledai ei chalon o'i mewn, a gwaeddai allan yn wrthryfelgar yn erbyn yr hyn ddeuai i'w rhan. Tywyll iawn yn wir oedd hi arni. Yr oedd yn gorfod gadael ei gwaith i weinyddu ar ei thad, er fod ami i gymydoges garedig yn dyfod i'w chynor- thwyo. Ni fynai Catrin fyncd am funyd bron o wyddfod ei thad. Gwyddai mai Abednego oedd yn anfon yr oil oedd yn angenrheidiol iddynt, ac yr oedd Robin yn ffyddloa i'w wyliadwriaeth nos- awl wrth y tan yn y gegin neu ynte yn y llofft yn ymyl. (I barhau).
Ar Finion y Ddyfrdwy.
Ar Finion y Ddyfrdwy. LLIFON. GWR hysbys i gylch eang yw Llifon efe yw gwein- idog eglwysi'r Bedyddwyr yn Llansantffraid a Glyndyfrdwy efe yw arweinydd ffraeth a medrus Eisteddfod flynyddol Corwen ac y mae yn frawd i'r bardd-bregethwr Alafon. Maes cyntaf ei weinidogaeth oedd yn yr ardal hon a gofid'i lu fydci deall ei fod yn rhoddi'r ddwy eglwys dan ei ofal i fynu. Deallwn ei fod wedi ymgymeryd ag arolygu Cenadaeth Gartrefol ei enwad yn Ngog- ledd Cymru, a bydd y cysylltiad agos sydd wedi ffynu rhyngddo a'r ardal hon er's chwe blynedd yn cael ei dori yn Awst. Deallwn fod yn mryd cyf- eillion roddi tysteb iddo ac os mai dangosiad o barch ac edmygedd yw tystebau, nid oes neb mwy ei haeddiilnt yn yr ardaloedd hyn. FFAIR. Lied ddifywyd oedd y gwerthiant yn ffair Cor- wen ddydd Mawrth. Nid oedd llawer o bobl yn bresenol chwaith. Yr oedd llawer mwy o berchyll na'r galwad, a gwerthent am o 7s i 12s y pen. Marwaidd oedd y galw am wartheg, gyda'r eithriad o rai cyfloion. Nid oed.i ond ychydig geffylau ar werth, a'r prisiau yn lied isel. YMCHWILIAD. Ddydd'Mercher, bu swyddog o Fwrdd Lly-woJr aeth Leol yn cynal ymchwiliad yn Nghorwen i gais Oynghor Dosbarth Edeyrnion am fenthyg 2,000p er gwella carthffosydd yr ardal. Gwrth- wynebid y cais gan y Parch Ifan T. Davies, Mr John Hughes, &c., ar y tir na ddylai tref fechan fel Corwen gael ei gorfodi i fyned i gost fawr tra y gadewid i Langollen a Chaer arilwys eu carthftos- ydd i'r Ddyfrdwy. Gofynid am i'r peth gael ei ohirio am ddwy flynedd. Addawodd y swyddog roddi ystyriaeth i'r dadleuon o bobtu. IS-BERWYN.
-0--Cynghor Sir Fon.
-0-- Cynghor Sir Fon. MEWN cyfarfod o Gynghor Sir Fon, gynaliwyd yn Llangefni ddydd Gwener, Mr W. R. Jones yn y gadair, galwyd sylw at y cynydd mewn yfed ar y Sul yn Nghymru, a phriodolid hyny i'r ffaith fod cynifer o glybiau wedi eu sefydlu. Penderfynwyd gofyn i'r Ddirprwyaeth Freninol ar Drwyddedau geisio ffurfio rhyw gynllun ymarferol i reoleiddio'r cyfryw glybiau. Darllenwyd llythyr oddiwrth yr Ysgrifenydd Cartrefol yn gw-thod gohirio yn mhellach y gwaith o eangu Gwallgofdy Dinbych. Mabwysiadwyd treth sirol o 4c y bunt, a phender- fynwyd cyfranu 30p at addysg mewn llaethydd- iaeth 50p at wneud arbrofion ar dir dwy ysgol. oriaeth o lOp yr un a 50p at ddarlithiau mewn gwahanol ardaloedd yn y sir. o: Nos Fercher, bu'r Tad Lucas yn traddodi an- erchiad yn Fflint mewn atebiad i araith ddiweddar Mr S. Smith, A.S., ar Babvddiaeth. Wedi adol- ygu sylwadau-Mr Smith, dywedodd wrth derfynu ei fod yn sicr mai dyn rhadlon, da, ydoedd mewn bywyd preifat, fod ei haelioni yn hawlio iddo barch gan bawb, nad oedd ganddo ddim i'w ddweyd yn erbyn ei wleidyddiaeth ond am ei dduwinydd- iaeth, cymeradwyai yn gryf iddo gadw hwnw at y bwrdd te. FFOLINEB MAWR. MAE dyodd-f poen yn amyneddgar yn arwydd sicr a diymwad o feddwl mawr; ond gwna pob dyn syn- wyrol ymgais i gael ymwared o'i boen, neu ei leddfu os yn ddichonadwv, ac mae parhau i ddyoddef poen pan y gellir yn hawdd gael ymwared ohono trwy foddion syml ac effeithiol o fewn cyrhaedd i'r dyodd- efydd yn arwydd sicr o ffolineb mawr. Ffolineb i'r eithaf hefyd yw parhau i esgeuluso yr iechyd a'r modd i'w gadw a'i adfer pan mewn perygl o'i golli. Ond mae llawer o bersonau a gyfrifir yn eu pwyll yn gwneud hyn. Maent yn wir wrtbrychau o dosturi yn gystal a cherydd. Nid yw colli cysgu, diffyg ar- chwaeth at fwyd, diffyg treuliad. ac anhwylderau. eraill a esgeulusir yn ami, ond arwyddion fod iechyd yn dirywio, ac afiechyd yn cymeryd meddiant o'r cyf- ansoddiad. Ynfydrwydd yw bod yn ddiystyr obonynt, ac mae natur yn sicr o ddwyn cosbedigaeth am hyny. Medd- yginiaeth syml, effeithiol, a sicr at bob anhwyldeb sydd yn tarddu o annhrefn yn y cylla yw y meddyg- lyn rhagorol Quinine Bitters Gwilym Evans, gan ei fod bob amser yn llwyddo i wella a chryfhau y cylla a. phuro y gwaed. Mae y Quinine Bitters y cyfryw o ran ei natur fel y gall y_ gwanaf ei gyfansoddiad ei gymeryd heb dderbyn niwed. Gall y plentyn neu y ddynes wanaidd ei ddefnyddio mor hyderus a diofn a'r dyn cryfaf. Gocheler pob efelychiad ohono. Gwerthir mewn poteli 2s 9c a 4s 6c gan bob fferyll- ydd, neu anfonir ef am y prisiau uehod trwy y post gan y perchenogion—Quinine Bitters Manufacturing Co., Ltd., Llanelly, South Wales.