Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

--0--I Argyfwng y Clo yn Ngogledd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0-- Argyfwng y Clo yn Ngogledd Gymru. YN nglyn a'r argyfwng presenol, ysgifena gohebydd i ddweyd ei fod wedi gofyn barn amryw o wyr blaenllaw yn ystod yr wythnos ar v mater hwn, a'r teimlad cvffredinol yw y bydd i berchenogion y glofeydd dvnu yn ol eu cynygion. cvdsyaio a. gofvnion v glowyr, ac felly atal streic. V mae'r golled o 15,000,000p a achoswyd gan y streic fawr ddiweddaf yn cael ei deimlo o hyd ac ofna'r glo- berchenogion fyned trwy brofiad cyffelyb eto. Cred un o berchenogion glo mwvaf ardal Rhiwabon v deuir i gyt'mdeb cyn dydd Sadwrn nesaf. Fel prawf arall nad yw'r glo-berchenogion yn credu v bydd sbreic, gellir nodi na wneir un cais arbenig i co stackio glo ar enau'r pyllau. Ni weithir ond tri neu bedwar diwrnod yn yr wythnos yn y rhan fwyaf o lofeydd ardal Rhiwabon a Gwrecsam a phe disgwylid cload allan, buasai'r meistriaid yn sicr yn gweithio amser llawn ac yn parotoi at y gwaethaf. o: Yn y Wyddgrug ddydd Llun, cyhuddwyd dyn ieuanc o'r enw Edward Lloyd, glowr o Rhydv- mwyn, o deitbio ar y reilffordd heb docyn. Dirwy- wvd ef i 15s. Mewn gwledd roed i gigyddion yn Ngwreesam ddydd Llun, dywedodd amryw fod yn rhaid i'r ffermwyr, os am fagu anifeiliaid a ddygent elw, eu gwneud yn ol galwad y cyhoedd. Nid oedd fawr o alwad am anifeiliaid mawr tewion, ond yn hvtrach rai bychaln wedi eu bwydo'n briodol. Da fyddai porthi perchyll gyda ceirch Seisnig yn lie indrawn a bran, a rhai yn pwyso o wyth scor i ddeg scor deg pwys a werthent oreu.

CWRS Y BYD

----__----.......-_------Diffyg…

--0-Cymro'n ceisio lladd ei…

0-Ceisio Ifofruddio ei briod-

0 Mesur Rheoleiddiad Clofeydd.!

Y Cynadledd Wesleyaidd yn…

--0 Y diweddar Barch John…

-(0)-Prawf Jameson a'r Ddedfryd.

-0-Marchnadoedd.