Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Burns - Bardd yr Alban.
Burns Bardd yr Alban. SANGODD cant o flwyddi ar ei fedd cenedlaeth a giliodd, un arall a ddaeth blodeuodd y gwanwyn a gwywodd y gauaf y grug ar Ucheldiroedd ei wlad enedigol bum ugain gwaith er pan aeth i'w hunell hir o hedd, eto byw yw enw a gwyrdd yw cofta Robert Burns-b,.rdi cene-llaethol yr Alban. Gylch ei gryd nid oedd moeth caregog fu llwybr. au ei febyd caledwyd ei ddwylaw ga.n gyrn yr aradr, a throiog a blin fu ei vrfa. Cymundeb Natur, breuddwydion bardd, a bendith Awen fu ei ddyddanwch Yn ei ddwylaw rhoed telyn, a'r nodau tyner a dynodd o'i thanau fythola ei fri, ac a roes achlysur i dorfeydd o bob rhan o'r byd ym- gynull i Dumfries ddydd Mawrth, yr 21ain eyfisol, einf..td dydd pan blwydd ei filrwolaeth-i roddi teyrnged i'w athrylith ar fin ei fedd. Yno ceid yr uchelwr c ieth a'r gwiadwr syml yn rhoddi parch i'w go If a, a chalon cenedl gyfan yn offrymu ei ben- dith ar daleut un o'i meib hoffusaf. Yr hyn yw Cairiog i Gyrnru osdd Burns i'r Al- ban. Plant Natur oedd y ddau eu cysegr saDct- eiddiolaf oedd y mynydd hwythau megys arch- offeiriaid aethant i'w gyfrinach. Yn eu caneuon mae mwynder awel y mynydd ar hirddydd haf, a pher ydynt fd blodau'r grug wisgaot y bryniau â phorphor. Nodau y galoD. a gatblent, a chalon gwlad gyffyrddwyd g»Bddynt ac am nas gal! ao- ngof fyned i'r galoa na chysgod bedd fyaed i'r enaid, eiddynt hwy yw anfarwoldeb. Nid anny- ddorol yn ddiau i genedl mor farrldonol a'r Cymry isrdd y d^yrngsd hjn a roddwn ninau i fardd yr Alban yn j byr grybwyllion hyn. Nis gallwq lai na mawrygu Burns amei fod mor debyg 1 un a hoffwn gymaint am mai mab y maes a'r mynydd, cen edlgarwr oryf, a gwladwr syml ydoedd, ac am fod yr Awen wedi ei eneinio fel ein Ceiriog ninau yn fardd Natur a bardd y galon. Wrth ddathlu pen blwydd ei farwolaeth, traddodwyd anerchiad mor tidarluuiadol, dyddorol, a dt, yn cyfaao edmygedd o'i athrylith, medr i iawn-fesur ei dalent, a thyn- frwch iaith a theimlad, fel mai gresyn fyddai i'n darllenwyr golli PoRTREiD ARGLWifDD RoSEBERY 0 BURNS. Dyma draethodd y gwladweiuydd am y bardd yn rsgwydd y miloedd oeddynt wedi ymgynull Yma heddyw yr ydym yn nghanol llenyrch mwy- af hoffi a chysegredig y tardd. Ar bob Haw ceir eyfanedd llawn adgofion am dano. Heb fod nepell y cyfansoddodd ei gan dyner "I Mary yn y Nef- oedd," ac ami fan arall enwogwyd gan ei awen. Yn nghanol y llenyrch dyddorol hyn, yr ydym heddyw yn anrhydeddu ei enw ac yn dyrchafu ei g ffa. Priodol yw i'r Alban roddi ei theyrnged iddo. Gwir fod dynobaeth dan ddyled iddo, ond ei wladwyr ei hun yn anad neb. Cysegrodd ei wlad a'i thifodiaith. Mynodd ddangos i'r byd fod gan yr AI.han hawi i genedlaetholdeb, Treiddiodd ei odlan tr.vy y "byd, ao ni bvdd i'r iaith y cyfan- süddodd efe ei ganeuon ynddi fa.rw byth. Eangaoh yw ei athrylith na gwlad a chenedlaeth, a man cyfavfod Mahometmiaid barddonol mewn math o Fecca ydyw ein cynnlliad heddyw ar fin ei f^dd. On 1 rhyfedd yw'r dathliad mewn am! wedd. Ym- ddeagys pawb yn llawen;ac eto dathlu tryohinebac nid eadwgwyl yr ydyrn—dathlu marwolaeth ac nid genedigeth-dathlu maehludiad haul ac nid ei god- iad. Ond v rme swyn cyfrin yn y dathliad fydd yu ysbrydoli cenedliethau a mwy priodol yw dathlu y diwedd na'r dechien, oblegyd y rnae rnynediad ysbrydoecld fel Burns ymaith yn gadael mwy o ol if-r y byd na'u dyfodiad. Can mlynedd i heddyw mewn tlodi, adfyd, a phoen., y cymerwyd ef ymaith. Mewn cymyl o dywyllwch y daeth angeu ato wedi ingoedd hir y dieth v diwedd. Hwyrach fod rhai allant ddarllen hanes ei fisoedd olaf heb w/lo maent yn fwy na mi. Nid oes dim mwy prudd mewn hanes. Y bardd dis- glaer, hoffder bob owmni, o'r uchelwr i'r tlottyn, yn eistedd mewn dyatawrwydd gan fyfyrio ar orphenol ei fywvd. Yn ei enaid yr oedd chwerw- der siom;ant. Ieuanc ydoedd yn ol cyfrif amser dyn. Ond ni wydd&i neb yn well nag ef fod ei leu. enctyd wedi cilio, ei yrfa ar ddarfod, a'i genadwri wedi ei thraebhM. Yn y lie yma ac ar y dydd hwn mae'r golytifeydd ddilynold ei farwolaeth yn cael eu delweddu ger ein meddwl—y ty galar, y dorf yn y fynwent, a'r llu wylofua. Yr ydym yo. teimIo ein hunain yn mhiith y dorf; yn plygu ein penan wrth i'r arch fyned heibio ac yn cydnabod drwy ein dagrau y dynged anocheladwy. Dos, dryimidd arch, ey ia'th lwyth o obeithion siomedig a'th gorph marw. Dos, g/da'th rwysgfawredd syml, dy blant amddifai i, a'th gyfeillion prudd. Dos, gyda, cho'yn angtu i fuddugoliaech y bedd. Dos, gyda'th farwol agadir/iraiv tragwyddol. Fel y rhai a gar y duwiau, ceid v gwir feirc.,Id yn iriarw yn giluarl-cyu i loywder y boreu gael ei golli a chyn i gysgodion trymaidd y nawn ymddangos. Cyfansoddodd Burns ei ddarnau goreu dan swyn ieuenctyd—n s gallai eu cynyrchu yn ddiweddarach. am fod Haw poen, a gofid, a gofal yn gorphwys yn rhy drwm arno. Ond er mai dathlu ei farwolaeth prudd wneir heddyw, dethlir hefyd gynhauaf cyfoetbog ei feddwl. Erbyn heddyw, mae ei ganeuon wedi dod vn arwyddeiiiau ei gonedl efe vw arwr a nawdd- sant y werin, a chydraddoldeb dyn sydd ar faner ei fywyd. Pa obaith bynag golec'dodd, pa freudd- v/yd bynag fu'n swyno'i fynwes, sicr yw eu )»od yn fyr o'r sylweddoliad welir heddyw. Safodd ei hun, tyfodd ei hen ac efe ei hun, ae nid dim arall, a anrhydeddir genym. Pan y bu Burns farw y dechreaodd fyw mewn gwirionedd. Gyda'i gorph aeth pobpeth anrnhur i'r bedd. Daeth ei ysbryd gwyn i'r golwg, ac ehedodd fry gan gymeryd ei le fel un o'r ser sefydlog yn y ffurfafen lie dis- gleiria anfarwolion.
--0-Dyffrp Clwyd.
--0- Dyffrp Clwyd. HERWHELA. YN gvnar fore Sadwrn, fel yr oedd pedwar o hedd- geidwaid Dinbych ya sefyll ger Plas Chambers, daeth dau herwheliwr i'w cyf >rrod. Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid," a chymerodd un ohonynt y goes. Daliwyd ef fodd bynag. ac wedi gwneud ymchwiliad ar y ddau caed fod yn eu meddi»nt 21 o wniogod, rhwydi, maglau, &o. Mae telila Tom Bowdwr yn lied luosog yn y Dyffryn, a rhyw reddf yn eu natur at hela. UYNGHOR TREFOL. Bu doethion Dinbych yn eistedd mewn cynghor ddydd Mawrth, y Maer Mellayd yn y gadair. Aed trwy gryn lawer o waith a llawer mwy o s'arad. Darllenwyd adroidiad misol y swyddog meddygol yn dangos fod 12 wedi marw a 13 wedi eu geni; rboed y gwaith o baeitio neuadd v farohnad i Mr John Williams am Sip 18s; nodwyri pwyllgor i gyfarfod pobl Henllan er symud yn mlaen i gael neuidd yno; bu siarad maith ar drefniadau'r farohnad, a chwynid fod pibl yn cSudo ymenyn ao wyau i'r dref heb dalu toll y farchnad arnynt cried cvyo hwyl wrth drafod y cwestiwn p-i un ai ffordd breifat neu gyhoeddus oedd yr un yn Plas- newydd, ac yr oedd Capt WYHne Griffiths yn bur annibynol gyda'i bawl i'r ffordd hon dywedodd Mr Howell Gee y sylw gwreiddiol fod y fath ddrygsawr yn codi o ffos yn yr ardal "fel y gellid ei dori a chyllell." Mawr a ihyfedd yw doethineb Cynghor Dinbych. YR EGLWYS A PHLANT Y TLOTTY. Yn Mwrdd Gvvarcheidwaid Rhuthin ddydd Llun, darllenwyd adroddiad Cymdeithas Gyfeill- gar y Merf-fied. Pan wnaed ymchwiliad caed mai eiddo'r Eglwyswyr oedd y gymdeithas hon eu bod yn edrych am leoedd i enethod y tlotty, ac felly yn eu hudo i'r E-jlwys. Amlygodd amryw o'r gwarcheidwaid eu. heinfoddlonrwydd i'r gym- deithas hon roddi ei nawdd ar blant y tlotty yn gymaint a'i bod yn enwadol, a phasiwyd y pender- fyniad a ganlyn Fod y Bwrdd hwn yn an- nghymeradwyo i Gymdeithas Gyfeiligar y Merohed gymervd gofal o unrhyw blant am y rhai y mae'r gwarcheidwaid yn gyfrifol, yo neillduol plant An- nghydflurfwyr." OWN, CATHOD, A CHEILIOGOD. Yn Rhaith Dosbarth Abergele ddydd Linn, cwyuai Dr Wolstenholme fod cadw dofednod a chaa ceiliogod yn peri llawer o anhunedd yn y lie. Dywedodd un foneddiges ei bod wedi colli dau deulu oherwydd hyn. Ceid 1 awer gormod o gwn hefyd yn y lie ac am gathod, gwelodd lawer ohon- ynt heb gael angladd p*rchus nag hyd yn nod fymryn o bridd i guddio'u hysgerbydau. Rheol- wyd nad oedd y mater hwn yn dod o fewn cylch y Cynghor. TRI C.' OES. Nid oes dim newydd dan haul. Mae gan Mr Lewis Morgan, Llanfair, phesint yt-, ei feddiant a chanddi dri choes. Nid yw'r trydydd yn cael ei roddi ar waith ond ar achlysuron arbenig, fel coler fawr Tomos Bartley gynt. LLADRON ETO. Mae Rhuthin a'r ardal wedi ei heigio gan ladron. Fel y crybwyllwyd yr wythnos ddiwaddaf, torwyd i dafarn yn Park Place, a bu'r cnafon yn llwydd. ianus yno i gael rhwydiad pur dda. Os yr un un, neu os rhyw frawd o'r un syniadau am meum a tuum. a lleidr Park Place fu'n treio ei law ar lanau eraill ni fu mor llwyddianus. Ceisiwyd tori i dy Mr Griffiths, y relieving officer, Stryt Llanrhydd, sef tad Mrs Herkomer y Rhewl hefyd, amaethdy Rhydycilgwyn, ac ysgoldy Llanbedr. Deallwn fod Mr Thomas, dilledydd, wedi prynn'r ty lie cynelir Clwb Toriaid Rhuthin. Rhaid idd- ynt bellach, mae'n debyg, edrych am anedd new- ydd, ac un gyda sylfeini cadarnach nag sydd gan yr egwyddorion a gefnogant. CLYWEDOG.
--0---Colwyn Bay.
--0- Colwyn Bay. YCHYDIG 0 HANES Y LLE. DIAU y bydd gair am y lie hwn yn dderbyniol gan eich darllenwyr. Lie cydmarol newydd ydyw tua chwech mlynedd ar hugain yn ol, nid oedd yma ond rhyw haner dwsin o dai; tua deng mlynedd ar hugain yn ol, gwerthwyd etifeddiaeth Lady Erskine, Pwllyeroehan. Mae yr her, balas yn rhan o'r gwestty presenol fe werthwvd yr ystad i Syr John Pender, hyny yw, y rhaa fwyaf ohoni, a llawer eraill a brynodd ddarnau mwy a Ilai tuag ugain mlynedd yn ol gwerthodd Syr John Pender yr eiddo, a chwmni o Manchester a'i prynodd, ond yr oedd wedi gwerthu y gwestty a thua 14 o erwau i Mr John Porter—un o'r gwesttai mwyaf dewisol. Gwnaeth ychwanegiadau helaeth gwerth miloedd at, yr hen b",las; hefyd mae tua 21 o erwau yn pet thyn i'r gwestty erbyn hyn. Mae yma un o'r gwesttai mwyaf, sef y Colwyn Bay Hotel, heblaw yr un a nodwyd Yr oedd yr adeilad yn werth tua 26.000p. Mae yma dri gwestty arall yn werth o 6,00')p i 7,000p yr un. Ceir yma Eglwys, lie i 1,200 eistedd, yn nghyda ty ac ysgoldy, yr oil yn werth tua 12,OOOp, ac Eglwys genhadol heblaw hen Eglwys y Plwyf, sef Llandrillo. Mae yma. ddau gap el yn perthyn i bob un o'r pedwar enwad. Mae gan v Wesleyaid Seisnig eiddo gwerth tua 15,000p, a eholeg i ferched gwerth 10,000p, a choleg etc i fecbgyn, gan Mr Osborne, gwerth 12,000p gan y Methodistiaid Calfimidd g»pel helaeth ac ysgoldy, &e.. gweith yr boll eiddo, 3.500p eto capel Seis- nig, gwerth tua. 3.700p. Mae gan y Cyfundeb ddau gapel cenhadol arall rhyw lilidir i fynu tu tacha i'r coed, a'r 11all yn y Rtws, it bwriedir codi capel arall yn y pen dwyreiniol. Ceir gan yr Anni- bynwyr gapelau Cymraeg a Saesneg felly hefyd y Bedyddwvr. Mae y sefydli^d cenhadol, Congo Institute, gan v Parch William Hughes, yn un pwysig iawn, ac yn haeddu cefnogaeth. Dyna y prif adeiladau, yn westtai, ac eglwysi o bob math, a'r oil wedi eu codi mewn chwarter canrif, Ceir yma YsgoUon y Bwrdd o'r radd flaenaf, ac yr ydym wedi sicrhau ysgol uwchraddol. Yn ISTgholwyn hefyd, ceir cynydd mawr yn ddiweddar, a chapelau ac eglwys yn perthyn i bob enwad YJlo-rhfi hollo! newydd ac wedi eu helaethu. Rhifa'r boblogaeth tua 8.000 a thua 8000 o ymwelwyr yn ystod vr haf. I Gwerth trethol wedi codi o tua 12,000p i 42,000p, ac yn Colwyn tua 6,000p. Nid oes ond Gwrecsarn trwy holl sir Ddinbych yn fwy o werth tretho!. I Ceir yma tua 650 o dai a'r oil yn werth o tua 15p i fynu i 300p mewn ardreth, a'r adeiladau mawr tua 500p o ardreth yr un, yr oil yn rhydd. ddaliadol—nid oes prydles o gwbl ond am 999 mlynedd. Mae Colwyn Bay yn cael ei ystyried rnor dymherus a Deheudir Lloegr, yn neillduol felly at rai afieehydon, megys y fron, yr ysgyfaint, &c. Mae modd tyfu coed, a blodau, a llysiau ar lan y mor. Neillduolion y llanercb ydyw y coed sydd yn gefn i'r lle-tua 40 erw. Mae yma gyfuniad o Llandudno a Bettwsycoed—ymdrochle o'r radd flaenaf. Yr vdys wedi sicrhau y mor-rodfa ac yn gwario tua 12,000p ar yr esplanade. Mae v gwaith dwfr ar gael ei orphen, set' dwfr o Lvn Cowlyd, yr hyn sydd wedi costio yn barod tua 40,000p. Maint y llyn yw 235 o erwau o arwynebedd—a'r pibellau sN,I.n tynu ohono yn y dyfnder o wyth troedfedd. Mae ein ffyrdd yn dda ac mewn trefo, a milldiroedd lawer o Iwvbrau, lie ceir natur ar ei goreu mewn coed, a llysiau, a blodau. Gall pobl Lerpwl a Man- ceinion ddyfod yma mewn tua dwy awr ar y brif li-oell, a cheir cyfleusderau gyda'r reilffordd i bob cyfeiriad yn ddyddioL Nid oedd, ac nid oes waith yma, ond codi tai i dderbyn ymwelwyr. Mae yma le iach, sych, a chynes. Mae prif ddoctor- iaid y prif drefi a'r dinasoedd yn gwel'd ei werth. Canoerld o bobl wanllyd yma y gauaf diweddaf. Ceir yma fasnachdai o bob math, meddygon rha- gorol, ac yn un o'r lleoedd goreu vn ddiau yn Ngog. ledd Cymru i dreulio seibiant. Yr ydym tu hwnt i'n cymydogion o gryn lawer, am nad oes dim eto o hobl rough yn dod, trwy Bad oes cyfleusderau na man dafarnau iddynt lymeitian. GOMER.
! Barddoniaeth.
Barddoniaeth. UWCHBEN BEDD FY HEN FEISTR. (Y diweddar ABRAlf JONES-WILLIAMS, Ysw., yr hwn a gladdwyd yn Mynwent Sant Tudno.) I FYNWENT hen Sant Tudno Yr aethum ar fv hynt, A gwelais feddrod yno I un adwaenwn gynt; I mi fe ddaeth y marw I fywyd fel o'r blaen, Pan y darllenais enw F' hen feistr ar y maen. Rhyw babeU y cyfarfod Yw'r beddrorl er mor fud, Mae'r byw a'r marw'n dyfod I Mewn adgof yno'n nghyd Oai boreu helynt llencyn I minau'n fyw eu dwyn, I Tra safwn uwch y llecyn Lie hunai'm meistr mwyn. Daeth golygfeydd Gelliwig ] Yn egiur ger fy mron, Y palas hardd, y goedwig, j A'r gerddi blodau lion Y llyn, mewn coediog loches, Ac adar ar eu hynt, Ac adar ar eu hynt, Yn llithro byd ei fynwes Fel tawel awel wynt. Y Ilyn y Ilyn bydd anodd Annghofio'i wyneb crwn, A'r cwrwgl a'm bradychodd- Faddeua'i byth i hwn A mi'n ei rwyfo'n hyfryd, Troes danaf yn dra chwim, Ac fel pe'n dweyd yn wawdlyd, Cei wlyb a gwely am ddim." Gwyr rhywun am fy nhrallod, Pan aethum gyda dryll I ddial ar wningod Diniwed fin y gwyll; Y geinach a ddiangodd, A minau gafodd fraw, Tra dryll fy meistr holltodd Yn ddeuddarn yn fy llaw (Rhyw ddarlun ydoedd hyny O'm bywyd bron i gyd- Yn hela, ond yn methu Y nod o hyd, o hyd Y dryll yn cael y gwaethaf, Fy nerth yn myn'd i ffwrdd, Wna'i ergyd a ollyngaf Ond darfod gyda'r twrdd.) Bu llawer tro digrifol, A llawer bai, mi wn, I'm bywyd anmhrofiadol Fu'n toi y cyfnod hwn Fe haeddais ddiarddeliad, Feallai, lawer pryd, Ond noddwr i amddifad Fu'm meistr er hyn i gyd. Fonedddwr patriarchaidd Oedd heinyf er yn hen, Hen oedd ei wallt arianaidd, Ond ieuanc oedd ei wen Edmygai dlysni tyner Mewn ieuanc rosyn gardd, A gwelai ef erwinder Y clogwyn hen yn hardd. Y mlawenhiii yn natur, Ac ni fu neb erioed Yn yfed mwy o gysur Drwy iedrn caru coed Anil giliai wrtho'i hunan, A phan y codid cri I holi am ei guddfan, Y goedwig fyddai hi. Foneddwr syml, dirodres, Ni eharai ddwndwr byd, Wladgarwr calon-gynes, A Chymro'n Gymro i gyd j" 'Roedd henafiaethau llwydion, Ei genedl iddo'n nef, Ac enwau ei henwogion, Fel duwiau ganddo ef. Ond, ond, daeth Amser afrad, I'w hynt ddidroi yn ol, I A hanes cyfnewidiad Sydd yn Gelliwig Hall; Dyeithrwch sydd yn aros Drwy'r He fel ysbryd syn, A phobpeth fel pe'n dangos I mi y ffordd i'r "glyn." Arfynwenfc hen Sant Tudno Fe dyr ystormydd fyrdd, A dai islaw i ruo A wna y cefnfor gwyrdd Ond yn ei feddrod huno Yn mynwes bedd o hyd, Ga'm meistr, nes i'w ddeffro Daw storom ola'r byd O'i ol mae'i briod hawddgar, Yn aros hyd yn hyn, A'i chalon frwd yn alar Y11 ei hunigrwydd syn O Arglwydd Dduw y weddw, Diddanydd pob rhyw drist, Rho iddi'r cysur hwnw Drysoraist yn dy Grist! PEDROG. 1..¡- Cynaliwyd cyfarfod o Gydbwyllgor Heddlu Ar- fon ddydd Iau, M? Jones Morris yn y gadair. Dar- llenwyd yr adroddiad chwarterol gan y Prifgwn- C' stabl Ruck. Sylwodd fod meddwdod wedi cyn- yddu, a'r achos am hyny, medd ef, yw ffyniant masnach, yr hyn a bar fori llawer llai o grwydriaid na'r amaer yma llynedd.
--- 0 --GWYLIAU HAF.
0 GWYLIAU HAF. I LAN y m6r yr awn ar hynt, I gwmni'r gwynt a'r tonau, Ac yno, yn ei ddyfroedd glan, Y dyddan nofiwn ninau." Ymwelir a glanau y môr ac a'r ffynonau gan filoedd o'n cenedl yn ystod misoedd yr haf. Mae llawer yn tnyned i geisio pleser a mwynhad yn ystod eu gwyl- iau, end mae y mwyafrif mawr yn ceisio adfywiad ys- bryd ac adferiad iechyd a nerth, y rhai sydd wedi eu hanmharu gan lafur, gofalon, a phryder, neu gan ys- tormydd y gauaf a'r gwanwyn blaenorol. Nid oes amheuaeth nad un o'r moddion goreu i gyrhaedd yr amean hwn yw newid awyr, a newid golygfeydd a chwmpeini, ymdrochi yn y mor, ac yfed dyfroedd meddygol y ffynonau, gan fod hyn yn effeitbio yn llesiol ar y cyfansoddiad, Ond mewn trefn 1 sicrhau y daioni mwyaf a derbyn rnwYLf o les, dylai yr ym- welwyr a'r lleoedd hyn wneud defnydd o Quinine Bitters Gwilym Evi,ns--v moddion enwocaf i gyd- weithio a newid awvr er cynorthwyo natur i ymrydd- hau oddiwrtti nychdod, ac i nerthu y cylla, cryfhau y gewynau, abwrw allan bob anmhuredd o'r cyfansodd- iad. Dvblir y lies a geir o'r gwyliau as gwneir defn- ydd priodol o'r Quinine Bitters pan yn newid awyr. Pris poteli, 2s 9c a 4s oc yr un. Gan bob fferyllydd, neu trwy'r post yn uniongyrchol oddiwrth y perchen- ogion-Quinine Bitters Manufacturing Co. Ltd. I Lianelly, South Wales.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. Do, mi fu y Rhosiaid, Coedpoethiaid, Adwy- iaid, Brymboaid,Cetnwyr, a Llangollenwyr yn y Palas Grisial, Llundain, yn canu Salm Bywyd a'r hen alawon yn gwneud i'r grisial ddiaspedain ac i lewyrchu yn ddisgleiriach nag erioed o'r blaen yn enyn edmygedd y'miloedd gwrandawyr Llundeinig, ac yn swyno clustiau penaethiaid y solffa yn gweled mil-myrdd rhy- feddodau yr anialwch hwnw a elwir Llundain a dychwelasant i Ddyffryn Maelor baradwysaidd yn iach ac ysgafn eu hysbrydoedd, os yn flinedig eu traed, yn Gymru glan gloyw, ac beb i sawyr Dicshondafyddiaeth gyffwrdd arnynt. Campus, I y fechgyn-yr ydym yn falchach ohonoch heddyw nag erioed. Maent i gyd yn dweyd iddynt gael hwyl an- ngh yffredln, rhoddi boddlonrwydd cyffredinol i'r beirniaid clustdeneu oedd yn gwrando, ac enyn brwdfrydedd Cymreig yn mynwes llu Cymry Llundain nes yr ymunasant oil i ganu enxynau anwylgu eu henwlad gyda rhyw wefr annesgrifiadwy ar derfyn y cyngherdd. cl -1 Pa genedl arall all gasglu yn nghyd ddwy fil o lowyr, chwarelwyr, a llafurwyr, yn nghyda merched gweini, i wneud y fath arddangosiad cerddorol nes synu prif ddinas y byd ? Ond testyn siarad diddiwedd y Rhosiaid yma ydyw ein Hosborn ni a'r Senedd-dai. Mae hyn wedi en gwneud yn hunanol i'w ryfeddu. A phaham llai 1 Omd ydynt wedi enytt oiddig- edd cantorion mawr Llundain ? Da genyf weled fod bechgyn y Capel Mawr yma wedi derbyn fy awgrym, a bod Mills yn casglu cor mawr yn nghyd i ddysgu'r "Messiah erbyn bydd yr organ yn barod. Yr wyf yn sicr ddigon y ceir perfformiad gwerth dod o Lerpwl yma i'w glywed, achos y mae Mills wrth y llyw, a dyna ddigon. Helo beth ydyw hyn? A roswch i mi gael fy spectol. Ie'n wir hefvd-" Rhaolen Tes- tynau Eisteddfod Gwyr Ieuaino Gwrecsarn." Mae golwg dda arni hefyd, oddifewn ac oddi- allan. Gadewch weled. 0, ie yr un rhai wrth y llyw eto—R. Bryan yn gadeirydd Dan yn cario'r god a Llew yn llawio'r cwilsyn tra y ceir rhestr fawr o fechgyn glewion gyda hwy. Dyma restr o'r beirniaid hefyd hufen ein gwlad, a datgeiniaid diguro. 'Does yma ddim siawns i'r un cor mawr, ond darnau a gwobrau campus i'r corau meibion a'r corau bychain. Digon o unawdau, deuawdau, triawdau, a phedwarawdau, offerynau llinynol a phres. Ar y cyfan, ceir detholiad da iawn. Mae yma befyd dafell i'r beirdd, dramawyr, llenorion, chwedleuwyr, a chyfieithwyr gwaith i fwnwyr, cerfwyr, ac arlunwyr—tipyn o bob peth. Cymraeg, fel arfer, ydyw ei hiaitb. ail i ddim o Saesneg, ond mwy o Ffrancaeg. Dyma beth newydd, onide ? Ffrancaeg mewn Eisteddfod Gymraeg Edrych yn 6d mae peth fel hyn i mi, ond hwyrach mai amaf fi mae'r bai. Betb bynag am hyny, mentraf brophwydo llwyddiant i'r Eisteddfod. YN' EISIAU, capel Cyrnraeg Cymreig yn Ngwrecsam 'Rwy'n deall fod y rhai sydd yn arddel yr hen enw yn myned yn gyflym i dir y Philistiaid, a rhai o'r bechgvn, dan arweiniad Dan Thomas, wedi cyhoeddi rbyfel yn eu her- byn, ac wedi cych wyn yr ymosodiad. Da, mechgyn anwyl i. Hai ati o ddifrif, ac na rodder y cleddyf yn y wain nes cael buddugol- iaeth lwyr. Os ua cheir y capelau i ddiwygio mewn peth fel hyn, 'does dim i wneud ond codi capel arall a sefydlu Eglwys Gymraeg Gymreig. A dyna beth fuasai yn iawn hefyd, a dyma'r adeg i symud yn mlaen. Mae y dirwestwyr yma yn decbreu deffro ac ysgwyd ati o ddifrif y dyddiau hyn. Nid yn unig cynaliant gyfarfodydd brwdfrydig yn y gwabanol gapelau ac ysgoldai, ond maent wedi decbreu troi allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, ac i ganol cynnlliadau pobloedd. Yn Nghoedpoeth, wythnos i nos Wener, caed cyfarfod tan gamp vn yr awyr agored, tan lyw- yddiaeth y pybyr Wm. Edwards, ac yr oedd y Parch E. A"wyl mewn hwyl ragorol yno. Bu yno gann ac adrodd hefyd nes swvno canoedd, a gobeithio fod rhyw bentewyn wedi ei o-ipio. Nid disylw ddylem fod ychwaith o'r gwasan- aeth gwerthfawr roddwvd ar vr amcvlchiarl ushod, a throion eraill hefyd, gan y Seindorf ChwibanogI a Drum, trwy orymdeithio oddiam- gylch a thynn tyrfa yn nghyd. Mae'r seindorf ienanc newydd yn dyfod yn mlaen yn ysblen- ydd. Bu agos iawn i Syr Watcyn evfarfod dam- wain ddifrifol y dydd o'r blaen. Fel y dychwel- ai adref wedi bod yn saetbu grouse, rhedodd y ceffyl ac aeth yn aflywodraethus, a 'doedd gan yr Yswain ddim i'w wneud ond taliu y ffrwyn ar ei war a gadael iddo. Ond fel bu waethaf, yr oedd y llidiart haiarn yn nghauad, a chan fod y cetfyl wedi gwvHtio rhedodd trwyddi gan dori y barau heiyrn praff a thaflo y barwnig o'r cerbyd. Modd bynag, bron yn wyrthiol, diangodd heb niwed, ond anafwyd y march yn dost, a dryll- iwyd v cerbyd yn yfflon. Cyn avnted ag y dychwelwyd o'r Palas Gris- ial, heb gael amser i gymeryd eu gwynt, dech- reuodd y Cefnwvr arni yn ddiymdroi i bnrotoi erbyn 'Steddfod Corwen, ac y maent yn gwneud camrau breision iawn gyda'r darnau. Ond rhaid i G. W. edrych ati-bydrl cewri yn ei etbyn, ac nid tan chwareu eu gorchfygir. Nos Sadwrn. SAMWEL JONES. --0-- Rhenid v gwobrwyon yn Ysgol Ganolradd Beau. maris ddydd Gwener gan Lady Magdalene Rul- keley. Rhoddodd Syr R. Williams Bulkeley deyrnged uchel i lafur a llwydd y prifathraw, Mr R. Madog Jones. Mr R. Edwards yw cadeirvdd a'r Parch J. Rd. wards yw is-gade;rydd Bwrdd Ysgol newydd Col- wyn Bay.