Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CATRIN PRISIARD

jYn Nghwmni Natur a'i Phlant.

FFOLINEB MAWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFOLINEB MAWR. MAE dyoddef Doen yn amyneddgar yn arwydd sicr a diymwad 0 feddwl mawr ond gwna pob dyn syn- wyrol ymgais i gael ymwared o'i boen, neu ei leddfu os yn ddichonadwy, ac mae parhau i ddyoddef poen pan y gellir yn hawdd gael ymwared ohono trwy foddion syml ac effeithiol o fewn cyrhaedd i'r dyodd- efydd yn arwydd sicr o ffolineb mawr. Ffolineb i'r eithaf hefyd yw parhau i esgeuluso yr iechyd a'r modd i'w gadw a'i adfer pan mewn perygl o'i arolli. Ond mae llawer o bersonau a gyfrifir yn eu pwyll yn gwneud hyn. Maent yn wir wrthrychau o dosturi yn gystal a cherydd. Nid yw colli cysgu, diffyg ar- chwaeth at fwyd, diffyg treuliad. ac anhwylderau eraill a esgeulusir yn ami, ond arwyddion fod iechyd yn dirywio, ac afiechyd yn cymeryd meddiant o'r cyf- ansoddiad. Ynfydrwydd yw bod yn ddiystyr ohonynt, ac mae natur yn sicr o ddwyn cosbedigaeth am hyny. Medd- yginiaeth syml, effeithiol, a sicr at bob anhwwldeb sydd yn tarddu o annhrefn yn y cylla yw y meddyg- lyn rhagorol Quinine Bitters Gwilym Evans, gan ei fod bob amser yn llwyddo i wella a, ehryfhau y cylla a phuro y gwaed. Mae y Quinine Bitters y cyfryw o ran ei natur fel y gall y gwanaf ei gyfansoadiad ei gymeryd heb dderbyn niwed. Gall y plentyn neu y ddynes wanaidd ei ddefnyddio mor hvderus a diofn a'r dyn cryfaf. Gocheler pob efelychiad ohono. Gwerthir mewn poteli 28 9c a 4s 6c gan bob fferyll- ydd, neu anfonir ef am y prisiau uehod trwy y post. gan y perchenogion—Quinine Bitters Manufacturing Co., Ltd., Llanelly, South Wales.