Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Cwibnodion olDdyffryn Maelor.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cwibnodion olDdyffryn Maelor. PWY bynag sydd eisiau treio ei lwc ar fgeffyl raaus, deued i Wrecsam. 'Cbewch chwi ddim ond gwyneb siriol gan y Maer a'rcynghor Trefol, ac y maa holl heolydd y dref at eich rhyddid chwi a'ch cyfeillion i gario yn mlaen y fasnach anrhededdus hon. Chwi, holl fetwyr, gamblwyr, hapchwareuwyr, twyllwyr a lladron, yn Nghymru, Lloegr a Llanrwst, deuwch i brif dref Maelor, a chewch nodded ein masnachwyr a'n dinasyddion penaf. Chwi tua Lerpwl yna, na chewch lonydd na rhyddid gan wyr y cotiau gleision, i wario eich enillion prin, er ceisio enill ffortun ar rasus ceffylau, os deuwcb yma cewch aden y Maer i lochesu dani. Mae Mr Thomas Jones druan yn mhell ar ol yr oes, pan yn son am foesoldeb y dref. Perthyn i'r hen bobl yr oedd petbau felly, ac nid cytnwys ydyw siarad fel yna wrth oes oleu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. Na choelia i fawr! Gwneud pres, a chael sport, ydyw hi rwan; ac nid gwrando ar hen wrachiaidd chwedlau. Ie, siwr nid ydyw y Maer wedidweyd nad oes dim drwg nac anfoesol mewn betio ar geffylau. Rwan, fechgyn, os am wneyd ffortun fach i ni ein hunain, cawn gamblo faint fyd fynwn ni yn Ngwrecsam, a chlecio bys ar yr heddgeidwad yn y fargen. Ond y drwg ydyw, y bydd yr ben Librals yns, yn ceisio eu goreu Iglas i droi y dynion mwyn, caredig a chall yma allan o'r cynghor yn mis T-ichwedd, a rhoi rhyw hen wrageddos yn eu lie i i ddyfetha'r hwyl i gyd. Ac mi fyddant yn sicr o lwyddo hefyd, meddant hwy, achos maent hwy yn credu y y gwnaiff y dirwestwyr, a'rglasdwyr. a'r gethwrs, a'r capelwrs, fotio yn erbyn ein rhyddid ni i fetio, ac yn wir mae arna inau ofn hyny hefyd. Yr oedd genyf fi lu mawr o wibnodion i'w hysgrifenu heio, ond rhaid i mi roi pen ami fan hyn, er mwyn dal y tren am Gorwen; yr wyf wedi bod allan drwy y dydd, fel mae'r amser wedi myn'd. Ond cewch hwy eto yr wythnos nesaf. !o:-

Barddoniaeth.

0 Fanoeinion i Aberystwyth.

MANCHESTER A'R CYFFINIAU.

Cohebiaethau.

Ysgol Canolradd Beaumaris.

Advertising

[No title]