Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Cwibnodion olDdyffryn Maelor.

Barddoniaeth.

0 Fanoeinion i Aberystwyth.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Fanoeinion i Aberystwyth. TAITH DDIFYRUS. MAE pob moddion sy'n byrhau gofod, medd un doethawr, yn estyn einioes ac o holl gwmniall reilffyrdd y wlad hon, nid oes yr un wedi gwneod mwy toag at hwyluso a chyflymu teithio a'r cwmnian a elwir v Cheshire Lines. Hwy oedd y cyntaf i redeg- cerbydau n'r trydydd dosbarth gyda phob tren, a sefydln trenau cyflym He nad oedd cyn byny ond araf wch cysglyd yn teyrnasu. Er prawf o hyn ni rnid i nfond nodi y daith oddiyma (Lerpwl) i Fanchester, fr hon gynt a gymerai o awr a haner i ddwy awr ond pan gysylltwyd y ddwyddinas gan y Cwmni hwn, fe wnaed y daith o dan dri chwarter awr,ac y mae'r cwmniau eraill wedi en hefelychu. Ac un o ragargoelion goreu masnach yn Ngogledd a Chanolbarth Cymru ydyw'rffaitb fod y°cwmniau hyn wedi dyfod i'w cyrhaedd ac yn bwriadu dyfod yn agosach eto. Trwy y llinell a agorwyd yn ddiweddar ganddynt o Wrecsam i Lerpwl ar draws Wirral, y maent wedi dwyn y ddwy ardal boblog hyny o fewn llai na thaith awr i'w gilydd, ac arbed y dreth drom ar amser yr oedd yn rhaid i bawb ei dwyn yn ngorsaf Caer ar lun rhutbro am eich bywyd i ddal tren neu ddisgwyl amser afresymol am dren i fyn'd yn mhellach. Ac mewn cyfeiriad arall, dyna'r ganghen newydd sydd yn rbedeg o Gaer i Wrecsam, achanghen arall oddiyno i Ellesmere yn cysylltu Manchester â Chanolbarth Cymru yn y ffordd rwyddaf a mwyaf dymunol, gan y gellwch fyned i gerbyd yn Manceinion a pheidio svmud ohono nes cyrhaedd pen y daitb yn Aber- ystwyth neu ryw dref arall ar y llinell. A cher bydau ysplenydd ydynt, glan, esmwyth. gyda llwybr ar y naill ochr iddynt y gall y teitbydd pm fo wedi blino yn eistedd gerdded ar hyd y tren. Y mae yn gadael Manchester am Aberystwyth bob dydd ddau dren a elwir Welsh Express, un am 11-30, yr hwn a gyrhaedda ben ei daith tna 4-30, a'r Hall deirawr diweddarach Un diwrnod yr wythnosddiweddaf, aetbom gyda'r blaenaf o'r ddau a cheisiwn ddweyd beth sydd yn ddy- ddorol i'n darllenwyr i'w gweled ar y dith. Gallwn ddweyd hyn ar y dechreu mai anfynych yn ein hoes y darfu i ni fwynhau cymaint ar daith ar ffordd haiarn—yr amrywiaetb diderfyn yn y golygfeydd, hwyrach, sy'n cyfrif llawer am hyn, a'r manau dyddorol i bob Cymro yr oeddym yn myned heibio iddynt yn eu bymyl.

MANCHESTER A'R CYFFINIAU.

Cohebiaethau.

Ysgol Canolradd Beaumaris.

Advertising

[No title]