Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Eisteddfod Cadeiriol Clynoeiriog.

PWLPUDAU CYMREIG, Awst 9.…

-0-MANCEINION.

Eisteddfod Caer.

Cyfieithu Ewyllysiau Gymreig.,

Lleol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Lleol. CYCHWYNODD y Parch John Williams (Princes Road), ac amryw gyfeillion eraill ddydd Sadwrn i Switzer- land, lie y bwriadant dreulio tua phythefnos. PARHA y British Cycle Manufacturing Company," sydd yn cario eu masnach yn mlaen yn 45, Everton Road, i ddwyn allan y gwelliantau diweddaraf yn y peirianau gynyrchir ganddynt. Y JLae'r fasnach hefyd yn cynyddu cymaint fel y gorfodwyd y cwmni hwn i gael adeiladau ychwanegol er cyfarfod y gal- wadan, yr hyn sy'n ddigon o brawf eu bod yn enill cefnogaeth y cyhoedd. GORPHENAF 29, yn nghapel yr Annibynwyr, Woolton, unwyd Robert C. Blacklock mewn priodas a, Hannah Ann, unig ferch Mr a Mrs John a Hannah Griffith. Gweinyddwyd gan y Parch W. Redman, y gweinidog, ac yr oedd y gwasanaeth yn gorawl. Cyflwynwyd y briodferch gan ei thad. Y morwynion oeddynt Miss Dodd, a Miss Josephine Blacklock, gyda Mr W. L. Davies yn was. Aeth y par dedwydd i fwynhau eu mis mel i Yorkshire. Yr oedd y pwyddion yn lluosog a gwerthfawr. Bu'r ddau briodwyd yn aelodau ffyddlon yn yr eglwys am flynyddau, a Mr Blacklock yn ysgrifenydd a thrysorydd am dros ddeng mlynedd. DRWG genym gofnodi marwolaeth Mr Thomas Mill- ward, am tros ugain mlynedd yn ngwasanaeth Mri Morris & Jones, yr hyn gymerodd le Gorph. 30, yn ei gartref 4 Carrington Street, ac efe ond 43 oed. Yr oedd Mr Millward yn fab i Mr Thomas Millward, dinesydd parchus o Ddinbych, marwolaeth yr hwn a hysbyswyd genym ychydig fisoedd yn ol. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon o eglwys Seisnig Catharine Street. Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn yn mynwent Smithdown Road, pryd y gwein- yddwyd yn y ty gan y Parch J. Thomas, B.A. yn y capel gan y Parch R. G. Jones ac wrth y bedd gan y Parch O. Owens. PRIODAS EURAIDD MR A MRS OWEN JONES, EGRE- aroNT.—Dydd Iau, Gorph. 30ain, cyihaeddodd Mr a Mrs Owen Jones, Egremont, beth na chyrhaeddir ond yn anfynych, sef eu priodas euraidd (golden wedding). Dangosodd tn-irvw o gyfeillion eu teimladau caredig tuag atynt trwy lythvrau ac anrhegion. Yn y mhlith yr anrhegion, derbyniasant sdiver tray oddi- wrth rai o gyfeillion eglwys Liscard Road. Seacombe. Cyflwynwyd y tray iddynt gan rai o gyd-swyddogion Mr Jones yn yr eglwys, a thraddododd un ohonynt yr anerchiad canlynol" Yr ydym yma heno i wneud dyledswydd bleserus iawn. Gofynwyd i ni gan ych- ydig gyfeillion i gyflwyno i chwi eu llongyfarchiadau cywiraf ar yr achlysur hapus neillduol hwn vn eich bywyd. Yn wir, ychydig sy'n cyrhaedd y safle hono mewn bywyd priodasol y gallant edrych yn ol dros gyfnod o haner canrif. Beth yw'r blynyddau hyn wedi bod i chwi a'ch priod, chwi yn unig a wyr y mae'r rhai sydd wedi eich gwylio yn methu gweled dim ond daioni. Yr ydych yn gosod esiampl sefydlog i bobl ieuainc o'r hyn ddylai bywyd priodasol fod. Yr ydych wedi byw gyda delfryd uchel o'ch blaen, ac y mae genych y boddlonrwydd o wybod i cbwi ddyfcd yn agos ato. Bu Duw yn dda iawn wrthych rhodd- odd i chwi iechyd a hir ddyddian ar y dds-ear, ni fu angeu yn gwneud bylehau yn eich teulu tyfodd eich plant o febyd i fynn, ac y mae genych y pleser o weled plant eich plant. Gweddiwn am i chwi eich dau gael eich arbed am amryw flynyddoedd eto i ddyfod. Mae eich oedran yn teilyngu i chwi barch mae eich cymeriad yn hawlio i chwi fwy. Gweddiwn ar Dduw i fendithio eich cymeriad er budd y rhai sydd o'ch cvlch. Yn eich calonau mae teimladau nas gallwn ni wybod am danynt. Mae llawenydd a gofid eich bywydau yn fvvvaf hysbys i chwi eich hunain ond gweddiwn am i'r gobaith sydd wedi eich i cynal, y ffydd sydd wedi eich cynorthwyo, a'r haelioni sydd wedi helpu eraill, i aros gyda chwi. Bydded i ddy- muniad y Salmydd gael ei sylweddoli genych eich dau Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant."

CHESHIRE LINES.

Advertising

Family Notices